Mae'r adroddiad hwn yn darparu'r canfyddiadau allweddol a nodwyd o'r 16 erthygl a gynhwyswyd. Nodwyd wyth thema graidd. Er mwyn helpu i fframio’r canfyddiadau a’u rhyngweithio, cafodd y themâu eu cysyniadoli’n fodel cymdeithasol-ecolegol penodol i adolygiad. Dangosir hyn yn Ffigur 4; disgrifir pob lefel a'r themâu cysylltiedig yn unigol.
Canlyniadau
Ffigur 4. Model cymdeithasol-ecolegol o ffactorau sy'n dylanwadu ar rieni wrth gael eu plant cyn oedran ysgol i ymgysylltu â chyfleoedd cymunedol ar gyfer gweithgarwch corfforol
Unigolyn: Credoau a Gwybodaeth (a Ffiniau Rhiant)
Mae credoau rhieni am y gwerth maent yn ei roi i weithgarwch corfforol, y manteision ehangach y credant y gallai eu cynnig, a’r wybodaeth flaenorol (neu ddiffyg hynny) sydd ganddynt am weithgarwch corfforol wrth wraidd eu prosesau gwneud penderfyniadau.
Teimlwyd bod gweithgarwch corfforol strwythuredig yn gwneud y canlynol:
- Rhoi sylw i gyfleoedd ac amgylcheddau dysgu ysgogol
- Meithrin ystod eang o nodweddion datblygiad plant cadarnhaol ac iach drwy fod yn ddull o ddatblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol a gwaith tîm; sicrhau cwmnïaeth; a meithrin hyder
- Helpu plant i ddysgu sgil bywyd diogelwch personol hanfodol (y gallu i nofio)
- Cynorthwyo plant i gael addysg plentyndod cynnar a fydd, yn y tymor hir, yn fanteisiol
Teimlwyd bod cyfarwyddyd proffesiynol yn gwneud y canlynol:
- Caniatáu i rieni ddangos ‘rhianta da’ drwy gydymffurfio â normau cymdeithasol
- Annog tadau i ymgysylltu ag ymyriad chwarae actif drwy ddim ond gwybod y byddai gweithiwr proffesiynol yn bresennol
- Sicrhau’r ymddygiad gorau gan blentyn a'i allu dysgu / nofio dilynol drwy dalu am gyfarwyddyd medrus a mynediad at fodel rôl priodol. Roedd cred bod hyfforddiant unigol o gymharu â dull grŵp yn arwain at fwy fyth o fanteision
- Darparu ffordd i rieni liniaru eu pryderon eu hunain ynghylch ofn boddi a diogelwch mewn dŵr
Ar lefel sylfaenol, roedd peidio â bod â’r sgiliau i ddysgu eu plentyn i nofio eu hunain yn annog rhieni i dalu am wersi nofio preifat. Fodd bynnag, hyd yn oed pan oedd rhieni’n cydnabod ac yn deall y gall datblygu sgiliau cynnar agor mwy o gyfleoedd hamdden yn ddiweddarach mewn bywyd a chynnig manteision iechyd a ffitrwydd yn y tymor byr, gall ffactorau eraill wrthbwyso hyn yn hawdd.
Er enghraifft, i dadau, gall diffyg ymwybyddiaeth gyffredinol o’r sesiynau sydd ar gael, gan gynnwys nad yw grwpiau i blant bach, er gwaethaf y cymarebau presenoldeb, ar gyfer mamau yn unig, fod yn rhwystr i bresenoldeb. Er nad yw’n ganfyddiad mawr (oherwydd astudiaethau cyfyngedig efallai), mae hefyd yn bwysig nodi bod tadau sy’n mynychu sesiynau chwarae actif yn y gymuned wedi tynnu sylw at ffactorau’n ymwneud â ffiniau rhieni, sef nodweddion iechyd a phersonoliaeth (swildod, diogi) fel rhwystrau posibl i'w hymgysylltu.
Rhyngbersonol: Manteision Cymdeithasol, Rhwydweithiau Cymdeithasol, a Deinameg Teuluol
Yr hyn sy’n sbarduno rhieni, yn enwedig mamau, sy’n mynychu gweithgareddau yn y gymuned, fel cylchoedd chwarae a pharciau, yw’r manteision cymdeithasol a’r cyfleoedd maent yn eu darparu.
Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn darparu llwyfan ar gyfer cefnogaeth a dylanwad cyfoedion, a gall deinameg y teulu ysgogi cyfranogiad. Fodd bynnag, gall y ddau hefyd achosi heriau a all gael effaith negyddol ar ymgysylltiad plant cyn oedran ysgol â’r gymuned o gyfleoedd gweithgarwch corfforol.
Hwyluswyr rhyngbersonol
- Cylchoedd chwarae: darparu ymdeimlad o undod, lle gall brawdgarwch ffynnu, arferion magu plant yn cael eu rhannu mewn man diogel, a sylwi ar ryngweithio rhwng rhieni a phlant eraill fel sail i’ch arferion magu plant eich hun yn y dyfodol.
- Cyfleoedd cymdeithasol: annog rhieni i fynychu parciau a chylchoedd chwarae
- Rhwydweithiau cymdeithasol: hwyluso’r defnydd o barciau a chyfleoedd gweithgarwch corfforol eraill drwy rannu gwybodaeth ac adnoddau, er enghraifft, mynychu grwpiau neu rannu cludiant.
- Cyfoedion: dylanwadu’n gadarnhaol ar gyfranogiad ar y sail bod ‘pawb arall yn gwneud hynny’.
- Mamau: er eu bod yn dirprwyo’r gwaith o addysgu chwaraeon newydd yn rheolaidd i dadau neu weithwyr proffesiynol, yn aml nhw yw’r ‘ceidwad’ i ymgysylltu. Mae mamau’n gweld eu hunain fel y rhai sy’n sbarduno ymrwymiadau newydd ac yn cael eu gweld gan dadau fel y ‘trefnydd’ a’r rheswm dros eu presenoldeb a’u cydgyfranogiad mewn gweithgareddau.
Rhwystrau rhyngbersonol
- Dulliau magu plant: dulliau ac agweddau cyferbyniol, yn enwedig tuag at ddewis gweithgaredd amser hamdden (caffi o gymharu â pharc).
- Plant o wahanol oedran: roedd rhieni yn gyffredinol, a thadau yn benodol, yn amlygu'r anawsterau sy'n codi o gael plant o wahanol oedrannau. Yn benodol, mae ymrwymiadau cystadleuol plant a chael plant y tu allan i ystod oedran y dosbarth targed yn gwneud ymgysylltu yn her.
Cymuned: Ffactorau Sefydliadol a Fforddiadwyedd
Efallai y bydd angen cydnabod gofynion unigryw plant cyn oedran ysgol a'u rhieni ar lefel sefydliadol pan fydd gweithgarwch corfforol yn cael ei dargedu.
Mae fforddiadwyedd cyfleoedd yn y gymuned yn rhwystr mawr i weithgarwch corfforol plant cyn oedran ysgol.
Ysbrydolwyd rhieni i fynychu cyfleoedd wedi'u targedu at grŵp oedran a oedd fel a ganlyn:
- Yn briodol yn ddatblygiadol
- Yn seiliedig ar egwyddorion dysgu drwy chwarae
- Yn darparu profiad gwahanol
Ystyriwyd bod diffyg gweithgareddau a oruchwylir yn broffesiynol ar gyfer y grŵp oedran hwn ac amseriad cyfleoedd yn y gymuned yn rhwystrau allweddol. Gallai trefnu mwy o weithgareddau ar benwythnosau gynyddu’r ymgysylltu; roedd gwrthdaro ymrwymiad ac amserlen yn rhwystrau a nodwyd gan famau a thadau. Ar gyfer cyfleoedd yn targedu tadau, sesiynau dydd Sadwrn arweiniodd at y lefelau presenoldeb mwyaf. Gellid hefyd hwyluso neu gyfyngu ar ymgysylltiad y rhieni, yn rhannol, gan strategaethau hysbysebu (edrychwch ar Ffigur 5).
Ffigur 5. Effaith strategaethau hysbysebu ar weithgarwch corfforol plant cyn oedran ysgol
Roedd cost uchel cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus neu weithgareddau strwythuredig yn cyfyngu ar yr ymgysylltu. I deuluoedd mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, roedd cost, er enghraifft, nofio cyffredinol, heb sôn am wersi nofio, yn eu hatal rhag cymryd rhan. Er eu bod eisiau cofrestru eu plentyn/plant, i rai mamau a thadau, nid oedd yn weithgaredd y gallent ei fforddio’n rhwydd. I’r rheini â chyllid cyfyngedig, roedd diffyg incwm gwario yn rhwystr sylweddol i weithgarwch corfforol plant cyn oedran ysgol, ond i rieni dosbarth canol, nid oedd gallu fforddio cost ychwanegol gwersi nofio preifat yn ffactor yr oeddent yn pryderu yn ei gylch.
- Roedd darparu gweithgareddau rhad ac am ddimyn cael ei ystyried yn ddull a fyddai'n cymell cyfranogiad, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol.
- Cafodd gwella mynediad at adnoddau sydd eisoes ar gael yn y gymuned(cyfleusterau ysgol), a mwy o gefnogaeth gan gynghorau cymunedeu cynnig fel ffyrdd o wella cyfleoedd gweithgarwch corfforol i deuluoedd ifanc.
- Gallai unigolion sy’n cofleidio neu ddarparwyr lleol sy’n hwyluso cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n benodol i ardal leolddarparu ateb ymarferol.
Amgylchedd Adeiledig a Ffisegol: Seilwaith
Mae mynediad digonol i barciau, mannau agored a chyfleusterau cyffredinol, eu hansawdd, a pha mor hawdd yw teithio iddynt, yn hwyluswyr chwarae a gweithgarwch corfforol pwysig i blant cyn oedran ysgol.
Nodwyd diffyg cyfleusterau ag adnoddau da a pharciau ag offer priodol i oedran, darpariaethau pob tywydd, a mannau gwyrdd digonol fel rhwystrau. Yn ogystal â diffyg mynediad i gyfleusterau awyr agored, amlygwyd hefyd argaeledd cyfleusterau dan do, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig. Hoffai rhieni gael gwell mynediad i ganolfannau, rhaglenni a gwasanaethau dan do.
Mae rhieni eisiau:
- Mynediad lleol i barciau, mannau agored, a mannau gwyrdd
- Cyfleusterau ag adnoddau da
- Offer, cyfleusterau a digwyddiadau sy'n briodol i oedran
- Cyfleusterau ac offer o ansawdd da
- Darpariaethau pob tywydd
- Mannau diogel
- Digwyddiadau lleol
Hyd yn oed pan nad yw mynediad yn broblem, mae ansawdd a diogelwch y cyfleusterau sydd ar gael yn broblem yn aml. Mae cyflwr sy'n gwaethygu, lle nad yw offer wedi torri a'i symud wedi’i newid, peryglon diogelwch (gwydr ac offer wedi torri), presenoldeb cŵn mewn parciau, a materion diogelwch sy'n gysylltiedig â thraffig a lleoliadau i gyd yn atal rhieni rhag mynd â'u plant cyn oedran ysgol.
Mae materion ynghylch pellter a chludiant yn gysylltiedig. Boed mewn ardaloedd gwledig neu drefol, roedd y pellter y mae’n rhaid i rieni ei deithio i fynychu parciau, mannau gwyrdd, a chyfleusterau a chyfleoedd eraill sy’n annog chwarae a gweithgarwch corfforol yn effeithio’n sylweddol ar ba mor aml roeddent yn mynd â’u plentyn. Mewn ardaloedd ffermdir mwy gwledig, maestrefi allanol, a chymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, roedd presenoldeb yn aml yn dibynnu ar fynediad at gludiant. Gallai hyn fod yn gyhoeddus neu'n breifat ac mae'n ymwneud â chost tanwydd neu docynnau teithio, ac weithiau amseroedd teithio gormodol ac anhylaw.