Mae manteision bod yn gorfforol actif wedi'u hen sefydlu. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, argymhellir bod plant 1 i 5 oed yn actif am o leiaf 180 munud bob dydd, a bod plant o dan 1 oed yn treulio o leiaf 30 munud bob dydd ar eu bol.
Fel y dangosir yn graffeg gwybodaeth o ganllawiau diweddaraf Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig ar gyfer gweithgarwch corfforol yn 2019 – mae gan weithgarwch corfforol fanteision niferus i blant cyn oedran ysgol, y gellir eu cyflawni drwy amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd gwahanol. Yn bwysig, gellir ymgorffori’r gweithgareddau hyn ym mywydau bob dydd plant i’w helpu i gyrraedd y targedau ar gyfer yr iechyd gorau posib. Er eglurder, mae Bocs 1 yn amlinellu diffiniadau allweddol o weithgarwch corfforol, ymddygiad eisteddog a thermau eraill a ddefnyddir drwy gydol yr adroddiad hwn.
Ar gyfer plant cyn oedran ysgol, mae peidio â bod yn ddigon actif yn gysylltiedig ag iechyd gwael (e.e. datblygiad cyflyrau iechyd hirdymor neu ordewdra; 2, 3) a gall gael goblygiadau datblygiadol negyddol yn feddyliol ac yn gorfforol (e.e. lles emosiynol, datblygiad deallusol, dysgu sgiliau symud sylfaenol; 4-6). Mae adolygiadau o astudiaethau blaenorol wedi nodi bod arferion a barn rhieni, i ryw raddau, yn ddylanwadau allweddol ar ymddygiadau iechyd plant (7, 8). Dangoswyd bod cynnwys plant cyn oedran ysgol mewn cyfleoedd yn y gymuned i fod yn actif yn gorfforol yn cael effaith gadarnhaol ar eu gweithgarwch corfforol a’u hymddygiad eisteddog (9, 10).
Yng Nghymru, mae cyfraddau cyfranogiad plant ifanc mewn chwaraeon cymunedol a’u lefelau gweithgarwch corfforol yn peri pryder. Ar gyfer plant 0 i 5 oed, mae ymgysylltu â chyfleoedd yn y gymuned i fod yn actif yn gorfforol yn aml yn cael ei ysgogi gan yr oedolion sy’n gyfrifol am ofal y plentyn. Mae mynd i’r afael â’r lefelau uchel o anweithgarwch corfforol ac ymddygiad eisteddog a welwyd yn ystod plentyndod cynnar yn gofyn am ddealltwriaeth fanwl o’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar fabwysiadu ymddygiadau o’r fath.
Diffiniadau Allweddol
Gweithgarwch corfforol
Unrhyw symudiad a gynhyrchir gan y cyhyrau ysgerbydol sy'n gofyn am ddefnyddio egni (mwy na gorffwys). Mae ganddo lawer o ddibenion a gall ddigwydd mewn sawl ffordd. I blant cyn oedran ysgol, gallai hyn olygu unrhyw beth o chwarae actif i redeg neu gropian.
Ymddygiad eisteddog
Gwneud ychydig iawn o symudiadau wrth orwedd neu eistedd yn ystod oriau effro a defnyddio dim llawer mwy o egni na'r hyn a ddefnyddir wrth orffwys. I blentyn cyn oedran ysgol, gallai hyn olygu eistedd yn gwylio'r teledu neu fod mewn cadair wthio.
Cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn y gymuned
Unrhyw weithgarwch cyhoeddus, preifat neu drydydd sector a ddarperir naill ai am ddim neu am gost a fynychir yn bwrpasol ac sy’n digwydd o amgylchedd y cartref. Er enghraifft, gallai hyn fod yn fynd i'r parc, grŵp chwarae neu wersi nofio.
Grŵp Sefydliadau
Yn 2021, sefydlodd Chwaraeon Cymru Grŵp Ffocws Sefydliadau Cenedlaethol sy’n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid sy’n ymwneud â hybu gweithgarwch corfforol ledled Cymru.
O fewn maes gwaith y ‘Sefydliadau’ mae Chwaraeon Cymru yn ceisio sicrhau bod gan bob person ifanc y sgiliau, yr hyder a’r cymhelliant i’w galluogi i fwynhau a gwneud cynnydd drwy chwaraeon, rhoi cychwyn gwych iddynt, a bod yn iach ac yn actif am oes. Cydnabyddir, yng Nghymru, mai Chwarae Cymru yw’r elusen annibynnol genedlaethol ar gyfer chwarae plant. Ceisiodd y gwaith hwn ystyried pob agwedd ar weithgarwch corfforol a chwaraeon cymunedol, sy’n cwmpasu chwarae, ac sydd felly’n cofnodi ehangder y dystiolaeth sydd ar gael ac nad yw wedi’i chyfyngu i’r sefydliadau unigol sydd â chylch gwaith penodol yng Nghymru.
Chwaraeon Gogledd Cymru
Mae Chwaraeon Gogledd Cymru yn Bartneriaeth Chwaraeon a sefydlwyd yn 2021, sy’n cynnwys 18 o sefydliadau (e.e. awdurdodau lleol, prifysgolion, byrddau iechyd, addysg, a sefydliadau tai) sy’n ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd allweddol a’r heriau gweithgarwch corfforol a nodwyd yng Ngogledd Cymru.
Ar gyfer Chwaraeon Gogledd Cymru, mae deall yr wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn gwneud y canlynol:
- Herio’n llwyddiannus ganfyddiadau’r bobl sydd â’r dylanwad mwyaf yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn
- Ysbrydoli a hwyluso ymgysylltu â’r cyfleoedd cymunedol presennol
- Creu opsiynau amgen a sbardunir gan farn y cyhoedd, sy'n diwallu anghenion penodol cymunedau lleol
Cytunwyd ar y prosiect fel ‘Adolygiad Systematig o Ddulliau Cymysg i Adnabod Hwyluswyr a Rhwystrau i Rieni / Gofalwyr wrth Gynnwys Plant Cyn Oedran Ysgol mewn Cyfleoedd Cymunedol i fod yn Gorfforol Actif’. Mae Bocs 4 yn amlinellu’r cwestiynau ymchwil oedd yn sail i’r adolygiad hwn.
Y cwestiynau ymchwil a archwiliwyd yn yr adolygiad hwn:
- Beth yw'r rhwystrau a'r hwyluswyr i rieni / gofalwyr sy'n byw mewn gwledydd datblygedig o ran cael plant cyn oedran ysgol (0 i 5 oed) i ymgysylltu â chyfleoedd cymunedol ar gyfer gweithgarwch corfforol?
- Pa rwystrau a hwyluswyr y gallai trefnwyr fynd i'r afael â hwy wrth gynllunio camau gweithredu yn y dyfodol i gynyddu’r ymgysylltu a’r cyfranogiad?
- Ydi’r ffactorau gwahanol yn effeithio ar blant o fewn cyd-destunau gwahanol (e.e. byw mewn ardaloedd gwledig o gymharu ag ardaloedd trefol)?
Rhoi Canfyddiadau’r Adolygiad yn eu Cyd-destun
Cydnabyddir yn eang bod ymddygiad gweithgarwch corfforol yn gymhleth ac y gall sawl ffactor gwahanol, ond rhyngberthynol, ddylanwadu arno. Felly, er mwyn helpu i roi’r wybodaeth a gafwyd drwy’r gwaith hwn yn ei chyd-destun, ceisiodd yr adolygiad hefyd edrych ar y canfyddiadau gan ddefnyddio dull cymdeithasol-ecolegol. Fel y cyflwynir yn Ffigur 2, mae'r math hwn o ddull yn archwilio'r rhyngweithio rhwng y person a’i amgylcheddau cymdeithasol a ffisegol.