Trafodwyd yn aml yr angen ymddangosiadol am “strong mindset” i barhau ar y llwybr chwaraeon cydnabyddedig. Roedd y meddylfryd hwnnw'n ymdrin yn bennaf â [diffyg] gallu'r cyfranogwyr i ddelio â rhai pwysau a phrofiadau wrth iddynt lywio'r llwybr.
Ffrwyno Cymhelliant ac Ymrwymiad
Yn sail i'r gallu i ymdopi â heriau chwaraeon amrywiol oedd y syniad nad oedd cymhelliant ac ymrwymiad i'r gamp yn agored i drafodaeth os oedd cyfranogwyr am aros o fewn llwybr a gwneud cynnydd ar ei hyd. A dweud y gwir, roedd y cyfranogwyr yn aml yn cyfeirio at eu hangen i ailymrwymo'n ymwybodol pan oeddent yn dod ar draws diddordebau a chyfleoedd eraill y tu hwnt i'r gamp.
“I mean with certain things, you kind of just have to like miss it because of training or because we have competitions as well, there could be a competition on the same time as a friend’s birthday party and you’d have to make the decision on, if you’re going to do [sport] or if you’re going to commit to going somewhere else” – FSM1, Central South
Roedd yr angen hwn am ymrwymiad a chymhelliant yn amlycach fyth ar “bad days” pan nad oedd y cyfranogwyr yn y lle iawn yn gorfforol neu'n feddyliol i gymryd rhan. Unwaith eto roedd amrywiadau mewn perfformiad yn gorfodi'r cyfranogwyr i ailystyried weithiau ac, mewn achosion eraill, ailymrwymo i'r gamp.
“Because there’s like some trainings, if you have like a bad training, you kind of like wonder if you still want to do it but then like, if you have a good training the next day, it’s like, oh I know why I’m doing it and stuff” – FSM1, Central South
Roedd diffyg cymhelliant ac ymrwymiad cadarn i'r gamp yn arwain yn aml at gyfranogwyr a'u cyfoedion a'u brodyr a’u chwiorydd yn rhoi’r gorau i’r llwybr a'r gamp yn gyfan gwbl.
Delio â Phwysau
Mae presenoldeb o fewn llwybr chwaraeon cydnabyddedig, a chynnydd ar ei hyd, yn arwain at deimladau o bwysau yn ôl pob tebyg. Roedd yr atgasedd tuag at y teimlad o bwysau yn amlwg yn aml, gan gynnwys hoffi i chwaraeon a chyfranogiad mewn chwaraeon beidio â chynnwys teimladau o'r fath yn ddelfrydol.
“Because what’s the point in not competing? Because like you train for a reason…but I just feel like, when you don’t like the pressure, and the nerves and like all of that, it’s just like, competing’s just really difficult” – FSM1, South-West
Cyfeiriwyd yn aml at ganlyniad pwysau fel dirywiad mewn perfformiad athletaidd. Mewn rhai achosion, mae teimladau o gael eich llethu gan bwysau yn arwain at ddirywiad mewn cyfranogiad o fewn y gamp, neu hyd yn oed roi’r gorau i’r gamp yn gyfan gwbl.
“He’s [brother] started [participating in sport] quite a bit less…I think it was because he had a lot of pressure on him, and he didn’t really enjoy that” – FSM1, Central South
Cyfeiriwyd at sawl ffynhonnell o bwysau drwy gydol y cyfweliadau. Yn aml, gellid olrhain ffynhonnell y pwysau hwnnw i unigolyn neu gasgliad o unigolion yr oedd eu presenoldeb i'w weld yn cynyddu'r pwysau a deimlwyd gan gyfranogwyr. Er enghraifft, nododd un cyfranogwr y pwysau a deimlwyd o fod yn “watched”mewn treialon, a nododd rhai hyd yn oed “embarrassment” ymddangosiadol pe baent yn methu cael eu dewis. Nododd cyfranogwr arall bod ymwybyddiaeth o sgowt yn ychwanegu at bwysau’r sefyllfa roedd ynddi.
“Basically, just a man that came along to watch and see who excelled in the sport…I think, I’m not sure if anyone actually got spoken to in the end but definitely put a lot of pressure on the situation and I reckon I could have performed better but obviously chances like that are very hard to come by and I’m not sure if I’m going to get another one again” – FSM1, South-West
Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod ffynhonnell y pwysau hefyd yn aml yn deillio o'r cyfranogwyr eu hunain. Nododd rhai sut maent wedi bod yn dyst i athletwyr o'u blaenau ar y llwybr yn “put too much pressure on themselves to go far”. Mae'n ymddangos bod y teimladau o bwysau hefyd yn cronni ac yn cynyddu dros amser, gyda rhai'n nodi eu bod wedi gweld athletwyr yn rhoi'r gorau iddi yn flaenorol gan ei fod “eventually gets too much for them”, tra bo eraill yn nodi bod y pwysau'n cynyddu wrth i gystadlaethau agosáu neu'r posibilrwydd o beidio â chyrraedd targedau a pherfformio'n dda yn croesi meddyliau’r cyfranogwyr.
“The pressure does start to build a little bit more…because like they’ve set expectations for us and they’ve actually told us, like what they want to see but if you don’t feel like you’re going to make that level, you think, what’s the point…it gets like really frustrating after a while because if you’re like stuck getting bad, like worse times than your best times, it’s quite annoying” – FSM2, Gwent
Delio â Pherfformiad Gwael
Dywedwyd hefyd bod gallu’r cyfranogwyr i ymdrin â pherfformiad llwyddiannus ac aflwyddiannus yn effeithio ar gynnydd ar hyd y llwybr chwaraeon. Soniodd y cyfranogwyr am yr angen am lywio uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eu perfformiad chwaraeon yn emosiynol, weithiau o fewn cyfnod bach o amser.
“I like competing because I’m quite competitive…obviously every now and again, you have a bad day, so if you don’t get the times you wanted, or, beat the people you wanted to beat, you could be in a bad mood but then you have more races the next day or that same day…So, it’s just, a lot of ups and downs in the, in that space of two, two or three days” – FSM1, Central South
Soniodd y cyfranogwyr am berfformiadau hyfforddi gwael, a’r digalondid roeddent yn ei deimlo wrth ganfod nad oeddent yn gwella’n ddigonol. Roedd teimladau o’r fath o ddigalondid yn aml yn gwneud i’r cyfranogwyr ac eraill yr oeddent wedi’u gweld roi’r gorau i’r gamp yn y pen draw, tra bo eraill hyd yn oed yn nodi nad oeddent am ymuno â chlwb newydd ar hyd y llwybr oherwydd teimladau o “not being good enough”.
Yn y cyfamser, soniodd eraill am berfformiadau gwael mewn sefyllfaoedd cystadleuol, a'r digalondid a'r siom a ddaeth yn sgil hynny. Nododd rhai eu bod wedi'u siomi wrth fethu cyrraedd y podiwm neu gael gorau personol, gan arwain weithiau at y dyhead i roi'r gorau i'r gamp. Yn y cyfamser, soniodd eraill am golli hyder wrth golli, hyd yn oed pan oedd y perfformiad yn dda.
“Yeah, when you lose like, it’s like a sort of like self-esteem and like self-confidence. Being like pushed down because you’re like, oh yeah, I tried my best in that but I still didn’t win…Even though I tried my best” – FSM2, Gwent
Wrth wraidd y teimladau hyn o siom ac anobaith wrth golli neu berfformio'n wael oedd y cymharu cyson ag eraill yn y gamp / clwb yr oedd y cyfranogwyr yn dueddol o'i wneud. Roedd y tueddiad i gymharu eich hun ag eraill yn amlwg hyd yn oed pan oedd y cyfranogwyr yn cydnabod ei fod yn ymarfer di-werth.
“Because the work you put in, the physical working, I’m not saying the easy part, but, in my opinion, it’s harder to, to keep a strong like mindset…just because you see someone that’s better than you or just because they’re faster than you or because they can go further than you, that shouldn’t like put you down because you don’t know what they’ve done. So, potentially that could bring someone down to not like want to carry on forward” – FSM4, Central South
Roedd y demtasiwn i gymharu ag eraill yn bresennol mewn sesiynau hyfforddi a chystadlaethau, a gyda’r rhai roeddent yn eu hadnabod yn dda a'r rhai nad oeddent yn eu hadnabod mor dda. Roedd y gymhariaeth barhaus ag eraill yn aml yn arwain cyfranogwyr at gasglu mai eraill yn y pen draw – eu corff, eu gallu, eu perfformiad – fyddai’r rhwystr i'w cynnydd ar hyd y llwybr chwaraeon.
Delio â Gofynion Corfforol
Cyfeiriwyd yn aml at natur heriol yn gorfforol chwaraeon, neu ofynion corfforol ymwneud yn ddwys â llwybr chwaraeon. Siaradodd rhai am oblygiadau corfforol cymryd rhan mewn sawl camp, a chyfeiriodd eraill at “exhaustion” cymryd rhan mewn chwaraeon, yr angen am deithio a chadw cydbwysedd gyda gwaith ysgol.
“When we come home, at like nine o’clock, and homework’s due tomorrow and we haven’t done it, just because of [sport]…because we’re all tired when we get in and like [sport]’s exhausting” – FSM1, Mid Wales
Gellir dweud hefyd bod y blinder corfforol a meddyliol a brofir gan gyfranogwyr yn cynyddu'n raddol, naill ai o ganlyniad i newid sylweddol mewn gofynion hyfforddi, neu'n fwyaf cyffredin, wrth i'r wythnos fynd rhagddi.
“It’s quite difficult to maintain the training you’re at, at like the start of the week, towards the end of the week because you’re really tired…Physically and mentally” – FSM1, Central South
Fodd bynnag, y rhwystr mwyaf cyffredin mae’n ymddangos i barhau a gwneud cynnydd ar hyd y llwybr chwaraeon – o fewn gofynion corfforol – yw cael anaf ac ymdopi ag ef. Wedi dweud hynny, mae'n ymddangos bod yr effaith a gaiff ar gyfranogwyr yn cynnwys sawl ffurf. Er enghraifft, soniodd un cyfranogwr am sut roedd ofni anaf wedi gwneud iddo roi’r gorau i un gamp er mwyn ei warchod ar gyfer camp arall.
“I’ve been asked to stop playing [sport] a few times because of injury and stuff…I haven’t but they would recommend it…when I get into Welsh team, they do recommend me stopping playing [sport]…But I don’t know, I don’t know if I’ll do it or not” – FSM2, Gwent
Mae eraill yn pwysleisio pa mor anodd yw hyfforddi a chystadlu ar ôl dychwelyd o anaf, gan nodi pa mor anodd yw adennill lefelau perfformiad, ac felly mae’n anodd gwneud cynnydd ar hyd y llwybr. Yn anffodus, gall hyn arwain at gyfranogwyr yn dewis rhoi'r gorau i'r gamp yn gyfan gwbl.
“And it ended up just, I had to change all my techniques, I had to, it was so much work and then I finally finished it, like my shoulder’s okay, now, but to get back into it, and to get to the level that I back, was, it would take me a, even more months, I just, it just, it just doesn’t seem like I was improving. So, I just gave it up” – FSM1, South-West
Er hynny, mae eraill yn mynegi effaith fwy uniongyrchol anafiadau, gan esbonio mai'r anaf ei hun wnaeth atal eu cyfranogiad yn y dyfodol a'u cynnydd ar hyd y llwybr chwaraeon. Yn olaf, mynegodd eraill berthynas gymhlethach rhwng anaf a chynnydd, gan egluro sut roedd anaf blaenorol wedi effeithio’n seicolegol ar eu gallu i hyfforddi.
“I’ve got a knee problem, so I struggle to [participate] sometimes, and if I get a mental block then I can’t [participate], and then I just give up, I just sit down…like I can’t get over my feet and then I’ll fall over…So, I’m just not doing it, I sit on the floor, I sit down, I just have a strop” – FSM2, Gwent
Datrysiadau a Nodwyd gan y Cyfranogwyr i ‘Absenoldeb Sgiliau Ymdopi’
Cyfeiriodd y cyfranogwyr at lawer o dactegau a allai eu helpu naill ai i oresgyn absenoldeb sgiliau ymdopi angenrheidiol, neu hyd yn oed eu datblygu. Soniwyd yn aml am y rôl y gallai eraill yn eu rhwydwaith cefnogi ei chwarae wrth ailfframio eu profiadau niweidiol yn gyfleoedd dysgu cadarnhaol, neu ysgogi eu cymhelliant a’u hymrwymiad i chwaraeon drwy atgyfnerthu cadarnhaol. Soniodd eraill am yr angen i’r rhwydwaith cefnogi ddal ati i fod yn “positive at all times”, a soniodd eraill eto am yr angen i hyfforddwyr ddarparu anogaeth emosiynol, yn enwedig yn ystod y dyddiau gwael a pherfformiadau gwael.
Soniodd y cyfranogwyr hefyd am sut gallent hwy eu hunain ailfframio’r profiadau a gânt mewn chwaraeon i’w helpu i ymdopi â’r heriau maent yn eu hwynebu. Er enghraifft, soniodd rhai am ddal ati i edrych ar y darlun mawr, dim ots sut maent wedi perfformio a'u hwyliau ar unrhyw ddiwrnod penodol. Soniodd eraill am sicrhau ffocws clir ar welliant personol ym mhob sefyllfa, yn hytrach na ffocws ar ganlyniadau cystadleuol neu gymariaethau ag eraill.
Yn olaf, soniodd y cyfranogwyr am yr angen am “celebrate good performances” a mwynhau’r eiliadau cadarnhaol o fewn y gamp / llwybr. Dywedwyd y byddai dathliadau o’r fath yn galluogi iddynt ymdopi’n well a sicrhau persbectif yn ystod cyfnodau anoddach eu siwrnai chwaraeon.