Un o'r rhwystrau mwyaf cyffredin - ac yn aml cychwynnol – a grybwyllwyd gan y cyfranogwyr oedd rhwystr oedd yn ymwneud â heriau logistaidd. Roedd yr heriau hyn hefyd i'w gweld yn haws eu mynegi gan y rhai a gyfwelwyd. Gall yr is-themâu o dan y faner hon ymddangos yn elfennol ond gallant fod yn ddwys o ran eu heffaith ar barhau a datblygu ar hyd llwybr chwaraeon cydnabyddedig.
Trafnidiaeth
Boed hynny’n organig neu pan ofynnwyd iddynt adlewyrchu’n benodol ar rwystrau i barhau o fewn a gwneud cynnydd ar hyd llwybr chwaraeon cydnabyddedig, nododd y cyfranogwyr yr heriau sy’n ymwneud â theithio a thrafnidiaeth i chwaraeon (hyfforddiant a lleoliadau cystadlu). Er bod rhai cyfranogwyr wedi cyfeirio at daith gerdded fer a hwylus i'w cyfleuster chwaraeon, mynegodd llawer eu rhwystredigaeth ynghylch y pellteroedd a'r amser sydd ei angen ar gyfer teithio, gan nodi teithiau car 2 awr a theithiau cerdded 1.5 awr. Eglurodd cyfranogwyr eraill sut roedd annigonolrwydd bysiau a chyfleusterau mwy lleol yn golygu bod angen iddynt deithio i gyfleoedd ymhellach i ffwrdd. Mynegodd llawer o gyfranogwyr eu diolch bod eu hamgylchiadau’n galluogi cludiant hawdd iddynt i'w digwyddiadau ac oddi yno, gan amlaf drwy lifft gan rieni, neu gan rieni eraill yn yr un clwb. Fodd bynnag, esboniodd rhai nad oeddent hwy neu eraill mor ffodus.
“Well, my parents can’t take me home after school. So, my friend drops me off but sometimes she can’t do it or something, then I can’t go, I just have to get the bus home, straight after school because I can’t get a lift” – FSM2, North Wales
Roedd y rôl y mae rhieni’n ei chwarae wrth gludo cyfranogwyr i ac o chwaraeon, a’r effaith mae hynny’n ei chael arnynt, yn amlwg ymhlith y rhai a gyfwelwyd, ac roeddent yn deall bod rhaid i rieni deithio’n bell ac aberthu a chyfaddawdu ar eu hymrwymiadau eu hunain er mwyn hwyluso eu cyfranogiad mewn chwaraeon.
“Well the times that my dad’s picked me up…it’s just inconvenient for him…Because he does like a lot of online work and then, when he has to pick me up, he has to like stop doing his work… and then it like takes a long time and he has to like drive far as well and usually when he has to pick me up from school, after I do [sport], it takes like half an hour to get home because of traffic” – FSM2, Gwent
Ymhellach, mae’n ymddangos bod y cyfranogwyr yn ymwybodol iawn o amser cyfyngedig eu rhieni a’u lles eu hunain, gan gynnwys eu hangen am gydbwyso blaenoriaethau a diddordebau brodyr a chwiorydd sy’n ymddangos yn cystadlu, gan arwain yn aml at un o’r brodyr a chwiorydd yn colli cyfleoedd chwaraeon. Mae canlyniadau heriau o'r fath yn aml yn arwain cyfranogwyr at chwilio am ddulliau eraill o deithio, a dywedir bod rhai ohonynt yn anymarferol neu'n gostus. Er enghraifft, mae ardaloedd gwledig yn golygu bod cael lifft yn anodd ac mae cludiant mewn tacsi yn afrealistig hefyd.
“I live quite far out the way. So, no one comes past, to pick me up…And even then, you’re looking at like, if I wanted to get a taxi, you’re looking at like fifty pound…So it’s just, it’s not worth it” – FSM1, South-West
Edrychodd eraill ar y defnydd o fysiau ar gyfer cludiant i ac o ddigwyddiadau chwaraeon, fodd bynnag, dywedwyd bod rhai rhieni'n anghyfforddus gyda dull o'r fath o deithio oherwydd eu glendid a'u diogelwch. Mae hyn yn arbennig o wir o ddeall bod y siwrnai ar droed i'r safle bws ac oddi yno yn beryglus.
“My parents don’t like using buses…I could go on the bus but then you’ve had to like get to town, to get on the bus, to go to [sport], then go back to town, then walk back home and then it’d be dark by then and obviously it’s like a bit dangerous, when its dark” – FSM2, Gwent
Dywedwyd bod y pellter sydd angen ei deithio ar gyfer chwaraeon, a’r heriau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth, yn effeithio’n negyddol ar y cyfranogwyr mewn sawl ffordd, gan gynnwys creu heriau i’r cynnydd hyfyw o fewn camp, i ganolbwyntio’n ormodol ar logisteg teithio yn hytrach na’r perfformiad a mwynhad o'r gamp ei hun.
“I love playing [sport]…But it just means that, instead of focusing on playing [sport], I’m stressing about how I’m going to get there, how I’m going to get back…it doesn’t stop my love for [sport], but it’s just an extra thing to think about, when maybe it’s not where I should be focusing on” – FSM1, South-West
Mewn gwirionedd, roedd llawer o gyfranogwyr yn ymwybodol o'r cyfleoedd a oedd ar gael iddynt o fewn llwybr chwaraeon cydnabyddedig, fodd bynnag, roeddent yn teimlo nad oeddent yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny oherwydd y pellteroedd yr oedd raid iddynt eu teithio.
“I think it’s surprising how far away the talent hub is. I know most things are like near [city] but still, I was just kind of thinking, that would be a long drive”, FSM1, South-West
Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn, roedd rhai yn teimlo bod angen symud tŷ i fod yn agosach at y cyfle, er bod llawer yn cydnabod nad oedd hwn yn ddewis realistig.
Ariannol
Dangosodd y cyfranogwyr ymwybyddiaeth o'r ymrwymiadau ariannol angenrheidiol ar gyfer cyfranogiad a datblygiad o fewn llwybr chwaraeon, a beichiau a goblygiadau'r ymrwymiadau hynny. Trafodwyd yn aml y gost o brynu a newid cit, cost gwersylloedd a digwyddiadau, a’r ffioedd cyffredinol sy'n gysylltiedig â bod yn aelod o glwb neu gorff cydnabyddedig.
Tynnodd rhai sylw at y baich ariannol a roddwyd ar eu teulu, gyda’r trafodaethau’n mynd y tu hwnt i’r ‘gallu’ i dalu’r hyn sy’n angenrheidiol, ond yr egwyddor o ran ai dyna’r peth priodol i’w ariannu.
“[It’s] not that we can’t pay for it, because my parents have money, they’ve got really good jobs, I’ve got money myself from people, but like I’m currently, we’re in like three grand debt [with National Governing Body] at the moment…my mum’s like, well actually this isn’t realistic because my sister’s also in the pathway, so it is twice as much and for everything, two lots of kit…So it’s not that we couldn’t pay but my mum was like, well no, I’m, I’m literally not handing them over this sum of money” – FSM1, South-West
Mae’r drafodaeth hon ynghylch ariannu chwaraeon yn amlwg yn pwyso ar feddyliau’r cyfranogwyr a’u teuluoedd, nid yn unig wrth benderfynu a ydynt am ddal ati a gwneud cynnydd mewn camp, ond hyd yn oed a ddylid ymuno â’r gamp honno a gwneud ymrwymiad iddi yn y lle cyntaf. Yn aml, roedd yn ymddangos bod canfyddiadau ynghylch y gost o ymuno â chlwb neu gyfle yn yr ardal.
“If you’re actually joining a club, outside, you have to make the commitment and buy all the equipment and stuff like that, which I think is the biggest thing, because the club is probably really expensive, isn’t it, let alone everything else” – FSM4, Central South
Yn yr un modd, roedd canfyddiad hefyd y byddai angen ymrwymiadau ariannol sylweddol ar ben uchaf y llwybr chwaraeon cydnabyddedig, ac na fyddai cefnogaeth ariannol ar gael nes cyrraedd y lefelau hyn. Cydnabu’r cyfranogwyr hefyd, yn absenoldeb y cyllid hwnnw, na fyddai lefelau uchel o berfformiad [hyfforddiant a chystadleuaeth] yn gynaliadwy.
Yn anffodus, mae rhai cyfranogwyr yn adrodd am effaith pryderon ariannol o’r fath fel elfen “off-putting” wrth ystyried manteisio ar gyfle ar y llwybr chwaraeon, neu waeth, rhoi’r gorau i’r gamp yn gyfan gwbl.
Datrysiadau a Nodwyd gan y Cyfranogwyr i ‘Heriau Logistaidd’
Er nad oeddent yn bethau y gallai'r cyfranogwyr eu datrys i raddau helaeth, cyfeiriwyd at nifer o ddatrysiadau posibl a allai helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau a brofwyd. Yn gyntaf, gan ei fod yn ymwneud â heriau logistaidd trafnidiaeth, cyfeiriodd y cyfranogwyr at fanteision rhieni ffrindiau yn helpu gyda’r cludiant i ac o chwaraeon, ac awgrymwyd bod ysgolion a chlybiau’n cydweithio ar gynllun rhannu lifft. Byddai cynllun o’r fath yn helpu’n rhannol i liniaru’r rhwystr y mae llawer yn ei wynebu, pan na all eu rhieni chwarae rhan reolaidd mewn cludiant i ac o’r cyfle.
Soniodd y cyfranogwyr hefyd am yr angen i chwaraeon ac ysgolion wella eu system drafnidiaeth ac awgrymwyd eu bod yn gweithio gyda’i gilydd i greu cysylltiadau trafnidiaeth effeithlon i gael gwared ar y baich ar rieni a’r cyfranogwyr eu hunain. Soniodd y cyfranogwyr hefyd am yr angen am dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd trafnidiaeth sydd ar gael.
Soniodd nifer o’r cyfranogwyr hefyd am yr angen am ryw fath o gefnogaeth ariannol gan glybiau / chwaraeon. Er na fyddent hwy eu hunain yn ‘disgwyl’ cefnogaeth ariannol, yn enwedig pan maent yn is i lawr y llwybr, awgrymodd llawer y byddai cefnogaeth o’r fath yn helpu gyda pharhau o fewn y llwybr a chynnydd ar ei hyd, yn enwedig mewn ardaloedd ac ar gyfer unigolion â mwy o angen.
Yn olaf, nododd y cyfranogwyr bod angen rhannu gwybodaeth ariannol gyfredol a rheolaidd gyda hwy a'u rhieni. Yn benodol, byddai manylion clir ac ymlaen llaw am y costau ariannol dan sylw – yn aml i ddileu canfyddiadau di-sail – a manylion am y ffynonellau o gefnogaeth sydd ar gael yn cynorthwyo gyda chyfranogiad a chynnydd ar hyd y llwybr. Hefyd, byddai'r wybodaeth a ddarperir yn helpu i ddileu’r canfyddiadau di-sail bod rhai chwaraeon yn gymharol ddrytach / rhatach nag eraill.