Mae gwrando ar straeon cyfranogwyr ifanc ar lawr gwlad ar draws daearyddiaeth, chwaraeon, a lefelau amddifadedd yng Nghymru wedi tynnu sylw at sawl rhwystr posibl a all atal cynnydd i gymryd rhan mewn llwybrau chwaraeon cydnabyddedig. Er bod yr ymchwil a gyflwynir uchod yn trefnu rhwystrau posibl yn bum thema eang, mae'n bwysig cydnabod nad yw'r uchod yn rhestr gyflawn o'r holl rwystrau a'r unig rwystrau y gall pobl ifanc eu hwynebu. Yn hytrach, yr hyn y dylid ei bwysleisio yw:
- Pwysigrwydd gwrando ar y straeon a adroddir gan bobl ifanc – rydym yn aml yn ‘meddwl’ ein bod yn deall yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, fodd bynnag, dim ond pan fyddant yn cael eu mynegi a’u hesbonio gan y rhai sydd â phrofiad byw y byddwn yn dechrau gwerthfawrogi cymhlethdod ac effaith yr heriau hynny ar fywydau’r rhai sy’n eu profi. Felly, er mwyn deall y camau sydd eu hangen i wella llwybrau chwaraeon cydnabyddedig, ac i sicrhau system chwaraeon gynhwysol, mae gwrando ar leisiau'r rhai sydd â phrofiad byw, a'u gwyntyllu, yn allweddol.
- Mae’r rhwystrau sy'n atal cynnydd i lwybr chwaraeon cydnabyddedig yn amrywiol – mae’r rhwystrau a gyflwynir uchod yn amrywio o logistaidd, i brofiadol, i ganfyddiadol, i’r adnoddau seicolegol sydd ar gael. O ganlyniad, mae’n bwysig mynd y tu hwnt i’r heriau ymddangosiadol syml ac amlwg yr ydym yn 'meddwl' mae pobl ifanc yn dod ar eu traws a dechrau gwerthfawrogi’n ehangach y rhesymau posibl a allai atal eu cyfranogiad a’u cynnydd.
- Mae’r rhwystrau sy'n atal cynnydd i lwybr chwaraeon cydnabyddedig yn gymhleth – er ein bod yn deall rhai o'r rhwystrau a gyflwynir uchod, mae eu tarddiad a sut maent yn effeithio ar y cyfranogwr yn aml yn gymhleth. Er enghraifft, nid yw gwybod o ble y tarddodd canfyddiad penodol o’r llwybr, a sut mae hynny’n effeithio ar ymddygiadau ac agweddau pobl ifanc, yn syml nac yn llinellol. Ar ben hynny, mae deall sut mae bywyd athletwr mewn camp benodol yn rhyngweithio â'i fywyd fel cyfranogwr mewn camp arall, fel myfyriwr, fel ffrind, fel plentyn, ac fel brawd neu chwaer yn gymhleth ac yn unigryw. Felly, mae gwerthfawrogi’r ffaith bod yr heriau i gynnydd mewn chwaraeon yn amlochrog ac yn rhyngweithio â’i gilydd mewn ffyrdd cymhleth yn gam cyntaf angenrheidiol i ddeall sut i ymyrryd yn briodol.
Gyda hyn mewn golwg, mae rhestr o ystyriaethau y dylai cyrff rheoli cenedlaethol, y rhai sy’n gweithredu o fewn llwybrau chwaraeon, a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau eraill eu cofio, a’u harchwilio ymhellach, wrth adlewyrchu ar eu llwybrau chwaraeon cydnabyddedig eu hunain.