Dull
O ystyried natur benodol y cwestiwn (cwestiynau) ymchwil, a’r dyhead i ymchwilio i ddealltwriaeth ddyfnach o’r rhwystrau sy’n atal y pontio o gyfranogiad ar lawr gwlad i gyfranogiad llwybr, ffafriwyd dull ansoddol o weithredu. Ynghyd â grwpiau ffocws, defnyddiwyd dulliau creadigol o hwyluso sgyrsiau. I ddechrau, aethpwyd ati i fapio siwrneiau presennol yr athletwyr drwy’r gamp i greu darlun ar y cyd o siwrnai arferol, gan gynnwys y mathau o gefnogaeth sydd eu hangen.
Gan ddefnyddio’r platfform hwn, cafodd y grwpiau ffocws eu llywio wedyn gan ganllaw cyfweld lled-strwythuredig i ddeall y mathau o rwystrau y mae cyfranogwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac yr oeddent yn debygol o’u hwynebu wrth iddynt symud drwy’r llwybr, a fyddai’n atal eu cynnydd.
Yn olaf, gwahoddwyd y cyfranogwyr i rannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r llwybr chwaraeon yn eu hardal ddaearyddol, cyn dangos cynrychiolaeth weledol o’r llwybr hwnnw i chwilio am anghysondebau a bylchau yn eu gwybodaeth. Daeth y grwpiau ffocws i ben gyda'r cyfranogwyr yn tynnu sylw at y rhwystrau a’r cyfleoedd o fewn y llwybrau eu hunain, fel yr oeddent yn eu deall.
Roedd y grwpiau ffocws yn cynnwys rhwng pedwar ac wyth o gyfranogwyr. Roedd pob grŵp ffocws yn canolbwyntio ar gyfranogiad a rhwystrau penodol i un gamp, ac yn cynnwys cyfranogwyr yn y gamp honno yn unig. Roedd trafodaethau'r grwpiau ffocws yn para rhwng 40 a 60 munud fel rheol, yn seiliedig ar yr amser gwersi oedd ar gael.
Samplu
Dechreuodd y dull samplu a ddefnyddiwyd ar gyfer y prosiect hwn yn gyntaf gydag Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022. O ystyried bod yr astudiaeth yn ceisio deall y rhwystrau a oedd yn atal cynnydd o chwaraeon ar lawr gwlad i lwybr chwaraeon cydnabyddedig, roedd angen y dull samplu i chwilio am a recriwtio cyfranogwyr allgyrsiol a chlwb cymunedol.
Gan ddefnyddio canlyniadau Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, cafodd chwaraeon eu dad-ddethol i ddechrau rhag cael eu hystyried os nad oeddent yn cynnwys o leiaf bum ysgol gydag o leiaf 15 o gyfranogwyr ar lawr gwlad (naill ai allgyrsiol neu glwb cymunedol). Nesaf, cafodd chwaraeon eu dad-ddethol rhag cael eu hystyried os nad oedd ganddynt ddosbarthiad digonol o ysgolion yn bodloni’r meini prawf uchod ar draws ardaloedd y partneriaethau chwaraeon rhanbarthol (mewn o leiaf dri rhanbarth). Roedd chwaraeon wedyn yn cael eu dad-ddethol rhag cael eu hystyried os nad oedd yr ysgolion a oedd yn bodloni’r meini prawf uchod yn cynnig dosbarthiad digonol o amddifadedd a’r iaith a siaredir. Yn olaf, dewiswyd chwaraeon o’r gronfa oedd yn weddill i sicrhau amrywiaeth o chwaraeon a llwybrau, ac i sicrhau y byddai’r canfyddiadau’n ‘drosglwyddadwy’.
Dewiswyd cyfanswm o chwech o gampau. Dewiswyd un gamp o bob un o’r categorïau chwaraeon eang canlynol, gan sicrhau amrywiaeth o ran llwybr a phrofiad:
- Gweithgareddau Anturus
- Chwaraeon Brwydro
- Gweithgareddau Ffitrwydd
- Gemau a Chwaraeon
- Chwaraeon Tîm
- Chwaraeon Raced
Ar ôl dewis y chwaraeon, cafodd ysgolion eu recriwtio wedyn, gan sicrhau amrywiaeth a dosbarthiad o ran daearyddiaeth, amddifadedd, a'r iaith a siaredir. Roedd ysgolion yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer recriwtio os oedd mwy na dwy gamp o fewn yr ysgol honno gyda digon o gyfranogiad ar lawr gwlad.
Dewiswyd a derbyniwyd mwy na 125 o gyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd ar lawr gwlad, ar draws wyth ysgol, pum rhanbarth, tri chwartel Prydau Ysgol Am Ddim [PYADd], a chwe champ i gymryd rhan yn yr ymchwil.
Tabl 1. Nifer yr ysgolion a'r grwpiau ffocws yn ôl partneriaeth chwaraeon rhanbarthol, chwartel prydau ysgol am ddim, yr iaith a siaredir, a'r gamp.
Gogledd Cymru | Canolbarth Cymru | De Orllewin Cymru | Canolbarth y De | Gwent | ||||||||
Nifer yr Ysgolion | 1 | 2 | 2 | 2 | 1 | |||||||
Prydau Ysgol Am Ddim 1 | Prydau Ysgol Am Ddim 2 | Prydau Ysgol Am Ddim 4 | ||||||||||
4 | 2 | 2 | ||||||||||
Ysgol Cyfrwng Saesneg | Ysgol Cyfrwng Cymraeg | |||||||||||
7 | 1 | |||||||||||
Nifer y Grwpiau Ffocws | Chwaraeon Tîm | Gweithgareddau Ffitrwydd
| Gemau a Chwaraeon
| Chwaraeon Raced
| Chwaraeon Brwydro
| Gweithgareddau Anturus | ||||||
6 | 5 | 5 | 4 | 4 | 1 |
Caniatâd / Moeseg
Cyn dechrau ar yr ymchwil, cyflwynodd y tîm ymchwil ffurflen asesu effaith diogelu data ymlaen llaw i Arweinydd Diogelwch Gwybodaeth Chwaraeon Cymru. Yn dilyn hynny, adolygwyd a chymeradwywyd y ffurflen asesu gan yr Arweinydd Diogelwch Gwybodaeth, a dechreuodd y gwaith ar y prosiect.
Gofynnodd a sicrhaodd y tîm ymchwil ganiatâd yr ysgol cyn i unrhyw grŵp ffocws ddechrau. Cynigiodd y cyfwelydd hefyd gyfle i'r rhai oedd yn cael eu cyfweld roi’r gorau i gymryd rhan yn yr ymchwil ar unrhyw adeg, ac ymhellach, dywedodd yn glir y byddai'r grwpiau ffocws yn cael eu recordio a’u defnyddio at ddiben yr ymchwil.
Roedd data, gan gynnwys recordiadau a thrawsgrifiadau'r cyfweliadau, yn cael eu gweld a'u defnyddio gan y tîm ymchwil yn unig, ac yn cael eu storio ar gyfrifiaduron wedi'u diogelu gan gyfrinair. Ni chafodd y recordiadau a’r trawsgrifiadau eu rhannu ag unrhyw un arall o fewn na’r tu allan i Chwaraeon Cymru ac ni fyddant yn cael eu rhannu, ac mae’r dyfyniadau yn yr adroddiad canlynol wedi’u gwneud yn ddienw er mwyn diogelu'r cyfranwyr a rhag dangos pwy ydynt.