Skip to main content

Swyddi Gwag

Chwaraeon Cymru  

Gweler y swyddi gwag diweddaraf yn Chwaraeon Cymru ar ein gwefan swyddi penodedig. 

Swyddi gwag ym maes chwaraeon Cymru 

Rydym yn hysbysebu swyddi gwag sydd ar gael gyda’n partneriaid ar draws y sector. 

Gweithio i Chwaraeon Cymru

Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion amrywiol. Rydym yn gefnogwyr brwd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig amrediad o ddulliau gwaith hyblyg. Mae’r buddion yn cynnwys: 

  • 33 diwrnod o wyliau blynyddol  
  • y dewis i brynu 5 diwrnod ychwanegol y flwyddyn 
  • cyfleoedd gwaith hyblyg, gan gynnwys oriau gwaith hyblyg (pan fo hynny’n berthnasol) 
  • cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Scottish Widows 
  • cyfleoedd dysgu a datblygu cynhwysfawr 
  • defnydd o gampfa ar y safle yn y Ganolfan Genedlaethol yng Nghaerdydd 
  • rhaglen cymorth i gyflogeion sy’n cynnig gwasanaeth cwnsela 
  • aelodaeth Clwb Chwaraeon a Hamdden y Gwasanaeth Sifil 
  • cynllun beicio i'r gwaith 
  • maes parcio a sied feiciau am ddim 
Hyfforddiant a datblygu

Credwn mewn dysgu a gwelliant parhaus. Pan fyddwch yn ymuno â ni, byddwch yn cael rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra a hyfforddiant hanfodol er mwyn i chi gychwyn arni. Byddwch hefyd yn cael mynediad i: 

  • hyfforddiant sy’n benodol i'ch swydd 
  • gweithdai amser cinio 
  • hyfforddi a mentora 
  • uwchsgilio yn y Gymraeg 
  • cyfleoedd astudio hirdymor 
Graddfeydd cyflog
Gradd Lefel Cyflog  
Gradd 1 
Gradd 2 
£                        25,977.00  
Gradd 3 £                        27,276.00  
Gradd 4 £                        28,958.00 
£                        30,406.38  
Gradd 5 £                        31,926.70  
£                        33,523.03  
£                        35,199.19  
Gradd 6 £                        37,129.00  
£                        38,437.51  
£                        39,975.01  
Gradd 7 £                        41,574.01  
£                        43,029.10  
£                        44,535.11  
Gradd 8 £                        47,698.00  
£                        47,937.61  
£                        49,615.42  
Gradd 9 £                        51,600.04  
£                        53,406.04  
£                        55,275.24  
Gradd 10 £                        61,127.00  
£                        63,842.91  
£                        67,035.05  
Gradd 11 £                        70,386.80  
£                        73,906.15  
Gradd 12 £                        81,296.77  
£                        85,361.60  
Gradd 13 £                        89,629.68  
£                        94,111.17  
Gradd 14 £                      123,228.53 
Llawlyfr staff

Gallwch ddarllen ein llawlyfr staff llawn, sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am: 

  • strwythur tâl  
  • pensiynau  
  • absenoldeb rhiant  
  • cydbwysedd bywyd a gwaith  

Gwybodaeth recriwtio

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Er mwyn galluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu, rhaid i'n gweithlu gynrychioli’r boblogaeth ehangach. Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a denu talent amrywiol. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, pobl LHDTC+ a phobl anabl. Rydym yn defnyddio arferion recriwtio cynhwysol gan gynnwys creu rhestrau byr dall o ymgeiswyr. 

Rydym yn cydnabod y gallai’r ‘bwlch hyder’ effeithio ar amrywiaeth yr ymgeiswyr y byddwn yn clywed ganddynt. Mae ymchwil yn dynodi bod dynion yn aml yn ymgeisio am swyddi lle y maent yn bodloni 60% o’r meini prawf a restrwyd yn unig. Mae menywod yn tueddu i ymgeisio pan fyddant yn bodloni’r holl feini prawf a nodwyd. Canfuwyd canlyniadau tebyg mewn astudiaethau sy’n ymwneud â grwpiau eraill ar y cyrion. 

Os ydych chi’n credu y byddech chi’n addas iawn ar gyfer un o’n rolau, hyd yn oed os nad ydych chi’n bodloni pob pwynt yn y disgrifiad swydd, dylech ymgeisio. 

Addasiadau

Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn dymuno eich cynorthwyo gydag addasiadau trwy ein proses recriwtio er mwyn sicrhau eich bod yn gallu bod ar eich gorau. Gallai hyn gynnwys: 

  • addasiadau hygyrchedd  
  • unigolyn i'ch cynorthwyo mewn cyfweliad  
  • technoleg gynorthwyol  
  • amser ychwanegol i gwblhau tasgau neu asesiadau ysgrifenedig  

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth, a hoffem i chi allu perfformio ar eich gorau. Os bydd angen unrhyw addasiadau arnoch, anfonwch e-bost at y cyswllt a nodir yn yr hysbyseb swydd, a fydd yn gallu eich cynghori. 

Defnyddio deallusrwydd artiffisial

Gall offerynnau deallusrwydd artiffisial (AI) fel Chat GPT, Copilot a Gemini fod o gymorth yn ystod camau amrywiol wrth ymgeisio am swydd. Gallech ddefnyddio AI fel offeryn er mwyn ymchwilio i Chwaraeon Cymru a’r swydd yr ydych chi’n ymgeisio amdani. Gallech ei ddefnyddio hefyd i roi trefn ar eich meddyliau, mireinio eich gwaith ysgrifenedig neu eich helpu i baratoi am gyfweliad. 

Fodd bynnag, rydym yn dymuno dod i'ch adnabod chi fel unigolyn, felly dylech sicrhau bod unrhyw gynnwys y byddwch yn ei greu gyda chymorth AI yn eich adlewyrchu chi yn gywir. Ni ddylech ddefnyddio offerynnau AI i: 

  • orliwio cymwysterau  
  • camddehongli eich profiadau  
  • copïo a gludo ymatebion generig heb eu golygu  

Efallai y byddwn yn defnyddio AI i gael syniadau ar gyfer hysbysebion swydd, disgrifiadau swydd, asesiadau a chwestiynau cyfweliad, ond ni fyddwn fyth yn defnyddio offerynnau AI i wneud penderfyniadau dethol neu gyflogi. 

Eich data

Yn ystod eich cais, rydym yn deall y byddwn yn gofyn i chi rannu gwybodaeth bersonol a sensitif. Rydym wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd. Byddwn yn dal ac yn prosesu’r holl wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu yn ystod y broses gofrestru ac ymgeisio yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. 

Gallwch ddarganfod mwy am y ffordd yr ydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn ein polisi preifatrwydd.