Cenedl actif lle mae pawb yn gallu mwynhau chwaraeon gydol eu hoes.
Y weledigaeth yw creu cenedl actif. Rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli cynifer o bobl â phosib i fod yn actif drwy chwaraeon.
Mae’n weledigaeth i bawb. O’r bobl sydd ddim yn ystyried eu hunain yn hoff o chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau, a hynny ym mhob cymuned yng Nghymru.
Does gan y weledigaeth ddim dyddiad dod i ben. Mae’n ymateb i anghenion pobl ar wahanol adegau yn eu bywyd.
Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu amrywiaeth eang o brofiadau cadarnhaol er mwyn i bawb allu mwynhau chwaraeon.
Bydd gwneud hyn yn datgloi buddion chwaraeon i bawb.
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg.
Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid.
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle caiff dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol eu deall.
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Drwy weithredu yn y ffordd iawn heddiw, fory ac yn y dyfodol, gallwn wella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol Cymru.
Ystyried yr effaith ar yr holl nodau llesiant gyda’i gilydd ac ar gyrff eraill.
Cydweithio â phartneriaid eraill i gyflawni amcanion.
Cynnwys pobl sydd â diddordeb a holi eu barn.
Mae mwy nag un ffordd o fod yn rhan o’r Weledigaeth.
Bod yn gyfranogwr - Unrhyw un sy’n cymryd rhan ar unrhyw lefel.
Bod yn gefnogwr neu’n rhiant - Unrhyw un sy’n helpu drwy fod yno, yn rhoi eu hamser, eu hegni a’u hymdrech.
Bod yn wirfoddolwr neu’n hyfforddwr - Unrhyw un sy’n helpu drwy greu cyfleoedd i bobl eraill.
Bod y gorau gallwch chi fod - Unrhyw un sy’n llwyddo’n bersonol.
Bydd cyflawni hyn yn golygu ein bod yn gallu gwneud y canlynol…
Byddwn yn gweithio yn y ffordd orau bosib i wneud y canlynol…
Rydyn ni am i bawb yng Nghymru gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.
Mae gweithgarwch corfforol yn cynnwys ystod eang o weithgarwch wedi’i gynllunio a gweithgarwch arferol. Mae enghreifftiau isod.
Mae’r Weledigaeth yn cydnabod y cyfraniad mae gweithgarwch arferol yn ei wneud o ran helpu pobl yng Nghymru i fod yn actif yn eu bywyd o ddydd i ddydd, ond mae’n canolbwyntio ar weithgarwch wedi’i gynllunio. Drwy’r gweithgarwch hwn gallwn ni wreiddio buddion chwaraeon ym mywydau pobl.
Mae’r Weledigaeth hon ar gyfer Chwaraeon yn perthyn i bawb yng Nghymru ac mae angen cefnogaeth pawb yng Nghymru arni i lwyddo – gan gynnwys pobl sy’n cymryd rhan uniongyrchol mewn chwaraeon a phobl eraill sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, addysg, adnoddau naturiol a datblygu economaidd.
Os ydych chi’n gwneud gwaith yn y gymuned, yn magu teulu neu’n rhedeg busnes – gallwn ni gyd rannu’r weledigaeth hon a chwarae ein rhan.
Drwy ddod ynghyd, bydd pobl o bob oed ac o bob cymuned yn gallu datgloi buddion chwaraeon i bawb.