Skip to main content

Nod

Gweledigaeth i bawb: Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon drwy gydol eu hoes.
Cenhadaeth i bawb: Cyfleu manteision chwaraeon i bawb.

Beth mae chwaraeon yn ei olygu i chi

P’un ai a ydych chi’n cymryd rhan, yn cefnogi, yn cyflawni neu'n llwyddo, dyma beth mae chwaraeon yn ei olygu i chi. Yn eich geiriau chi.

Gyda'n gilydd

“Dwi wir yn mwynhau dod i’r clwb a gwneud llawer o ffrindiau newydd, mae wedi rhoi teimlad o berthyn gwirioneddol i mi.”

Diogel

“Yn bennaf oll, mae’n golygu gwneud yn siŵr bod pawb sy'n cymryd rhan yn ddiogel, yn gorfforol ac yn seicolegol.  Mae pob hyfforddwr yn dilyn hyfforddiant, ac fe fyddwn ni’n cefnogi ein gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y lleoliad yma yn rhywle lle mae pawb yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus.”

Arwain gan anghenion

“Mae ein ffordd o weithio’n canolbwyntio ar y plentyn i raddau helaeth – rydyn ni’n gwrando ar y disgyblion, ac rydyn ni’n ymateb i’r hyn maen nhw ei eisiau a’i angen. Maen nhw wir yn llywio’r sesiynau a’n cynlluniau ni.”

Twf

“Maen nhw’n cyfarfod ffrindiau tebyg iddyn nhw eu hunain ac yn dechrau datblygu eu sgiliau a meddwl alla i wneud hyn, mae gen i rywbeth i’w ddangos, dyma’r sgiliau sydd gen i.”

Cynaliadwy

“Rydyn ni’n gwneud newidiadau o gwmpas y clwb er mwyn defnyddio ynni'n well, gwneud ein rhan i’r amgylchedd ac arbed arian, sy'n golygu ein bod ni’n gallu ei fuddsoddi yn rhywle arall – mae'n helpu i ddiogelu ein dyfodol ychydig bach mwy.”

Cynhwysol

“Unrhyw un sy’n dod drwy’r drws - anabl, ddim yn anabl, hen, ifanc. Croesawu pawb, a chynnwys pawb. Rydyn ni’n cynnal sesiwn, a fyddai’r plant sy’n dod yma ddim yn cael cyfle i fod yn rhan o wers brif ffrwd fel arfer. Mae’n cael ei deilwra i’w hanghenion nhw a wir yn helpu pobl i fynd allan a bod yn actif.”

Mwynhad

“Disgyblion nad ydyn ni erioed wedi eu gweld o’r blaen - wnaethon ni erioed feddwl y bydden ni’n eu gweld nhw ar ôl ysgol - maen nhw'n dod aton ni’n hapus, ac maen nhw'n gadael yn hapusach hyd yn oed.”

Pawb

“Gall pobl sydd ddim yn siarad Saesneg ddod yma a mwynhau’r chwaraeon. Mae gennym hyfforddwyr sy'n siarad mwy nag un iaith er mwyn i ni allu darparu ar gyfer y gwahanol gymunedau lleol.”

Manteision chwaraeon

Cenedl gydag iechyd meddwl da

Llai o risg o ddementia ac iselder clinigol a llai o ddefnydd o wasanaethau iechyd meddwl – dim ond rhai o’r manteision y mae chwaraeon yn eu cynnig i les meddyliol y genedl yw’r rhain.

Cenedl o gymunedau

Mae chwaraeon yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Mae arolygon yn dangos nad yw’r rheini sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn teimlo mor unig, tra mae gwirfoddoli mewn chwaraeon yn gwella lles unigolyn yn ogystal â’i gydlyniant cymdeithasol.

Cenedl sy'n gorfforol iachach

Drwy chwaraeon, gallwn sicrhau bod pobl yn byw bywyd hirach, iachach a hapusach. Mae atal iechyd gwael drwy chwaraeon yn cynhyrchu gwerth cymdeithasol o £621m mewn canlyniadau iechyd bob blwyddyn.

Mae’r adroddiad a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad – yn dangos manteision chwaraeon i iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac effaith gwirfoddoli a chyfraniad chwaraeon at gyfalaf cymdeithasol.

Diwylliant bywiog

Mae diwylliant chwaraeon Cymru yn hanfodol i’n henw da rhyngwladol. Mae astudiaethau wedi dangos bod Cymru yn cael ei chydnabod am ei dylanwad ym myd chwaraeon uwchlaw dangosyddion allweddol eraill.

Mae Baromedr Cymell Tawel y Cyngor Prydeinig yn dangos dylanwad chwaraeon ar enw da Cymru ar lefel ryngwladol.

Economi sy'n tyfu

Mae chwaraeon yn creu gwerth ychwanegol gros, gwariant sylweddol gan ddefnyddwyr a gwaith i Gymru. Ar ben hynny, mae’r rhain i gyd yn feysydd lle mae chwaraeon yn dod yn fwy pwysig.

Amlygir cyfraniad chwaraeon at economi Cymru mewn adroddiad ar werth economaidd a gyhoeddwyd gan Chwaraeon Cymru ar y cyd â phob Cyngor Chwaraeon arall yn y DU, UK Sport a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Poblogaeth sy'n rhoi pwyslais ar sgiliau

Mae chwaraeon yn helpu i ddatblygu’r sgiliau arwain, datrys problemau, cyfathrebu a meddwl yn feirniadol sy’n angenrheidiol ar gyfer economi fodern.  Gweithgareddau sy'n rhoi mwynhad yw’r ffordd orau o ddysgu sgiliau trosglwyddadwy.

Mae angen i ni gyfleu’r manteision i bawb

Anghydbwysedd rhwng y rhywiau

Mae llai o fenywod a merched yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd cau’r bwlch rhwng y rhywiau a mynd i’r afael â’r diffyg hyder sy’n dal i fodoli ymhlith cyfranogwyr benywaidd yn helpu i sicrhau budd i bawb.

Y bwlch economaidd-gymdeithasol

Mae tystiolaeth yn dangos fod unigolion o gefndiroedd tlotach yn gwneud llai o funudau o addysg gorfforol o fewn y cwricwlwm a llai o sesiynau y tu allan i'r ysgol, er eu bod yn gwerthfawrogi mwy ar y manteision iechyd.

Y rhaniad ethnig

Rydyn ni wedi gweld cynnydd da wrth geisio cau'r bwlch o ran ethnigrwydd, ond mae tystiolaeth yn dal i ddangos nad yw unigolion o rai grwpiau ethnig lleiafrifol yn cymryd rhan mewn chwaraeon mor aml.

Cylch bywyd

O'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd; o addysg i'r gweithle; cychwyn teulu a mynd yn hŷn. Mae angen i arlwy chwaraeon fynd i’r afael â’r adegau pan fydd pobl yn rhoi’r gorau i gymryd rhan mewn gweithgareddau am wahanol resymau.

Dim digon o weithgarwch corfforol

Mae 1 ym mhob 4 plentyn 4-5 oed yn ordew. Mae’r ganran yn 61% ymhlith oedolion. Mae angen i ni gael y genedl i symud a mwynhau chwaraeon.

Mae ystadegau BMI ar gael gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23 yn cynnwys mwy o wybodaeth am bob un o’r pwyntiau uchod.

Yr anghydraddoldeb anabledd

Mae arolygon yn dweud wrthym ni fod pobl ifanc sydd ag anabledd yn llai tebygol o fwynhau chwaraeon na'u cyfoedion, yn yr ysgol ac yn y gymuned. Mae mwy nag 1 o bob 3 ysgol yng Nghymru yn dweud nad oes ganddyn nhw'r offer sydd ei angen arnyn nhw i addasu sesiynau'n briodol.

Mae angen i'r sector fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y person o weithredu ac sy'n blaenoriaethu mwynhad a hygyrchedd i bawb sydd ag anableddau neu anawsterau dysgu.

Ein nod

Bod yn sefydliad arloesol sy’n ei gwneud yn bosibl i chwaraeon ffynnu yng Nghymru – pryd bynnag, ble bynnag, sut bynnag – a hynny am oes.

Rhagoriaeth mewn chwaraeon

Byddwn yn clywed yn aml iawn am achosion lle mae chwaraeon wedi gwella lles, hunanhyder a chymhelliant pobl; bod chwaraeon wedi rhoi'r sgiliau i bobl gyrraedd eu potensial a chyflawni eu nodau; bod chwaraeon wedi dod â chymunedau at ei gilydd a’i fod wedi hyrwyddo Cymru i’r byd drwy ragoriaeth ar y llwyfan byd-eang.

Effaith gadarnhaol

Mae digon o dystiolaeth i gadarnhau’r effaith gadarnhaol y mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn ei chael ar ein bywydau – boed hynny drwy gymryd rhan, cefnogi, cyflawni neu lwyddo – ac mae yna bobl ysbrydoledig yn gweithio’n ddiflino ledled Cymru i greu cenedl actif. Dyna pam ein bod ni’n angerddol am ein gwaith ac am y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Esblygu o hyd

Mae’r byd yn esblygu’n gyson, ac er mwyn i chwaraeon barhau i fod yn berthnasol i bobl yng Nghymru mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn dal i fyny â’r newidiadau ac yn addasu ein ffordd o weithio. Allwn ni ddim parhau i wneud yr un pethau a disgwyl i bobl barhau i werthfawrogi chwaraeon. Mae angen i ni arloesi a bod yn feiddgar. Mae angen i ni chwalu’r rhwystrau gwirioneddol a’r rhai ymddangosiadol, fel bod chwaraeon a byw bywyd actif yn ddewis hwylus i bawb. Mae angen i ni herio ein hunain i feddwl yn wahanol ac ymddwyn yn wahanol.

Credu mewn newid

Mae Chwaraeon Cymru yn credu mewn newid. Rydyn ni’n credu yn ein partneriaid ac yng ngrym chwaraeon – ac rydyn ni’n barod i roi gwybod i bawb am hynny. Byddwn yn cysoni ein diwylliant, yn atgyfnerthu ein credoau ac yn ysgogi ein hased mwyaf: Pobl.

Ein ffordd o weithio

Cyfleoedd amrywiol

Wyddon ni ddim bob amser beth yw rhesymau pobl dros fod yn actif a chymryd rhan mewn chwaraeon – maent mor amrywiol a chymhleth â bywydau pobl. Dydyn nhw ddim yn aros yr un fath chwaith; maen nhw’n newid dros amser.  Mae angen i ni allu cynnig cyfleoedd amrywiol iawn os ydym am roi cyfle i chwaraeon yng Nghymru ffynnu.

Mae hyn yn golygu symud i ffwrdd o feddwl y gallwn fod yn sicr am y dyfodol, gan gymryd ein bod yn gwybod sut i ysgogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a mesur llwyddiant ar sail niferoedd yn unig.

Cael effaith

Yn hytrach, mae angen i ni gasglu tystiolaeth i wella’r hyn rydyn ni’n ei wneud drwy’r amser, a dangos yr effaith rydyn ni'n ei chael. Er bod patrymau penodol y gallwn edrych arnynt a’u gwerthuso i lywio ein gwaith, mae angen i ni dderbyn nad yw’n bosibl i ni fod yn hollol gywir bob tro.

Wrth gydnabod hyn, bydd angen i ni weithio mewn ffordd wahanol iawn. Bydd angen i ni gymryd amser i gynnwys, deall a rhannu syniadau er mwyn i ni allu datblygu cyfleoedd ystwyth ac ymatebol sy'n hwylus ac yn berthnasol i bawb.

Rydyn ni’n esblygu

Mae ein hagwedd at y ffordd rydyn ni’n gweithio, y ffordd rydyn ni’n siarad a'r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu yn esblygu. Mae angen i ni ddod yn gyfforddus ag ansicrwydd, a gallu gweithio gyda bwriad clir yn hytrach na chyfarwyddiadau pendant, ac mae angen i ni gael ein harwain gan yr egwyddorion canlynol:

Mae rhesymau pobl dros fod yn actif a chymhellion dros gymryd rhan mewn chwaraeon yn amrywiol iawn. Dydy hi byth yn hollol bosibl rhagweld beth ydyn nhw ac maen nhw’n debygol o newid dros amser.

Rhaid i ni roi pobl wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, gan arwain at gyfleoedd amrywiol a hyblyg i fod yn actif a chymryd rhan mewn chwaraeon – a symud oddi wrth raglenni ‘un peth yn addas i bawb’.

Mae angen i'r cyfleoedd sydd ar gael newid dros amser, gan addasu i'r adborth gan y rhai a hoffai fod yn rhan ohonynt, yn ogystal â'r rhai sy’n cymryd rhan yn barod.

Ein haddewid

Byddwn yn mynd ati i wneud y pethau hyn:

  • Dysgu gyda'n gilydd - Archwilio, profi ac adolygu’n gyson.
  • Cyflawni gyda'n gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
  • Dathlu gyda’n gilydd - Cydnabod ein llwyddiant ar y cyd drwy bartneriaid effeithiol.

Drwy wneud y canlynol:

  • Gweithredu gydag uniondeb - Deall a pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Ychwanegu gwerth - Sicrhau’r cyfuniad gorau posibl o gymorth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau cyffredin.
  • Annog arloesedd - Croesawu syniadau a dulliau newydd a chefnogi uchelgais a meddwl ffres. Peidio â bod ofn teimlo'n anghyfforddus.

Cysylltu – Gweithio mewn partneriaeth

Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’n llawn y rhwydwaith cryf a bywiog o bobl a phartneriaid ledled Cymru sydd eisoes yn creu dulliau arloesol o gyflwyno chwaraeon.

Dysgu gyda'n gilydd

Mae gennym gyfle cyffrous nawr i fwrw ymlaen â’r partneriaethau hyn a’u gwella, gan ddysgu gyda'n gilydd a chanolbwyntio ein hymdrechion ar y cyd i gael yr effaith fwyaf bosibl.

Partneriaethau sy'n esblygu

Er mwyn galluogi chwaraeon i ffynnu a chreu cenedl wirioneddol actif, bydd ein hagwedd at ddatblygu partneriaethau’n esblygu fel ein bod ni, gyda'n gilydd, yn gallu ymateb i anghenion a chymhellion pobl a chymunedau, sy'n newid o hyd.

Cyfleoedd i gydweithio

Byddwn yn gwahodd sgyrsiau ac yn cefnogi cyfleoedd gwirioneddol i gydweithio. Byddwn yn gweithio i gysylltu a chefnogi rhwydwaith llawer ehangach a mwy amrywiol o sefydliadau, fel y gallwn gyda'n gilydd alluogi pawb i fwynhau'r holl fanteision cadarnhaol a ddaw yn sgil chwaraeon. Pryd bynnag. Sut bynnag. Am oes.

Pwrpas cyffredin

Y sbardun allweddol i’n gwaith gyda phob partner fydd datblygu pwrpas cyffredin y mae pawb yn cytuno arno sy’n cyd-fynd â’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon. Mae ein dull gweithredu’n amlinellu'r hyn y gall pob partner ei ddisgwyl wrth weithio gyda ni.  Rydyn ni’n cydnabod y bydd pob partner yn gwneud ei gyfraniad unigryw ei hun ac y bydd ganddynt wahanol anghenion. Byddwn ninnau’n cytuno ar becyn cymorth pwrpasol i ddiwallu’r anghenion hynny.

Fframwaith buddsoddi Chwaraeon Cymru

Er mwyn i chwaraeon ffynnu, bydd angen i ni fuddsoddi adnoddau mewn ffordd wahanol.

Byddwn yn cysoni ein hadnoddau cyfunol ac yn dod o hyd i gyfleoedd i gryfhau partneriaethau. Byddwn yn cydweithio i ddatblygu model adnoddau hyblyg. Bydd hyn yn ein galluogi i ddiwallu anghenion gwahanol y partneriaid yn well ac ymateb yn gyflym i heriau newydd.

Byddwn yn defnyddio ein holl adnoddau – buddsoddiad, gwasanaethau a phobl – yn feddylgar, yn gyfrifol a gyda’r budd mwyaf mewn golwg. Yr egwyddorion canlynol fydd yn ein tywys:

  1. Atal
    Cymell gweithredu cadarnhaol i hybu gweithgareddau corfforol rheolaidd i bawb, gan flaenoriaethu grwpiau sy’n cymryd llai o ran na’r cyfartaledd ar hyn o bryd, a chyfrannu at genedl iach, actif, mwy cyfartal a llwyddiannus.
  2. Y tymor hir
    Rhoi anogaeth i feddwl am y dyfodol, arloesi a rheoli risg. Cydbwyso anghenion tymor byr a thymor hir.
  3. Integredig
    Partneriaid yn rhoi tystiolaeth o effaith a manteision ehangach chwaraeon.
  4. Cydweithio
    Annog gweithio mewn partneriaeth a darparu adnoddau ar y cyd.
  5. Cynnwys
    Cynnwys amrywiaeth o bobl wrth gynllunio a datblygu gwaith.

Bwriad strategol a chanlyniadau

Gan groesawu'r egwyddor o integreiddio, rydyn ni wedi datblygu chwe datganiad o fwriad strategol gyda chanlyniadau clir. Mae’r canlyniadau sefydliadol hyn, sy’n gweithredu fel ein hamcanion lles, yn dangos beth allwch chi ddisgwyl ei weld o ganlyniad i’n gwaith ar y cyd.

1. Pwyslais ar y person

Anghenion a chymhellion yr unigolyn fydd yn arwain y ddarpariaeth, boed yr unigolyn hwnnw ond megis dechrau neu'n anelu i ddatblygu ei hun neu gael rhagoriaeth ar lwyfan y byd.

2. Rhoi cychwyn gwych i bob person ifanc

Mae gan bob person ifanc y sgiliau, yr hyder a’r cymhelliant i’w galluogi i fwynhau a symud ymlaen drwy chwaraeon; gan roi’r sylfaen iddynt fyw bywyd actif, iach a chyfoethog.

3. Sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon

Mae chwaraeon yn gynhwysol ac yn cynnig profiad gwych i bawb.

4. Dod â phobl at ei gilydd ar gyfer y tymor hir

Mae yna sector chwaraeon cydweithredol, cynaliadwy, amgylcheddol gyfrifol a llwyddiannus, a arweinir gan weledigaeth a dysgu cyfunol.

5. Dangos manteision chwaraeon

Mae effaith chwaraeon yn cael ei ddangos, ac mae cyrhaeddiad chwaraeon yn cael ei ddeall yn llawn, ei arddangos a’i ddathlu ledled Cymru.

6. Bod yn sefydliad sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr

Mae Chwaraeon Cymru yn sefydliad uchel ei barch sy’n gwneud ei orau glas i orgyflawni drwy ddarparu gwasanaeth rhagorol drwy staff gwerthfawr.