Y telerau a’r amodau hyn yw'r unig amodau y mae Cyngor Chwaraeon Cymru (CChC) yn fodlon ymdrin â'r gwerthwr oddi tanynt a byddant yn llywodraethu'r Contract gan eithrio’r holl delerau neu’r amodau eraill yn gyfan gwbl.
Ni fydd unrhyw amrywiad i’r Archeb neu’r telerau a’r amodau hyn yn cael unrhyw effaith oni bai y cytunir arno’n benodol yn ysgrifenedig a’i lofnodi gan gynrychiolydd awdurdodedig CChC.
Bydd maint, ansawdd a disgrifiad o'r Nwyddau, yn ddarostyngedig i'r hyn a ddarperir yn yr Amodau hyn, fel y nodir yn yr Archeb a / neu mewn unrhyw fanyleb berthnasol a gyflenwir neu a gynghorir gan CChC i'r gwerthwr.
Bydd y nwyddau / gwasanaethau yn cael eu dosbarthu ar y dyddiad neu o fewn y cyfnod a nodir yn yr Archeb, neu os na nodir cyfnod o’r fath, o fewn 28 diwrnod i’r Archeb.
Bydd y risg yn y Nwyddau yn cael ei throsglwyddo i CChC wrth eu dosbarthu i CChC yn unol â'r Contract.
Bydd perchnogaeth y Nwyddau yn cael ei throsglwyddo i CChC ar ôl eu dosbarthu.
Y pris sy'n daladwy am y nwyddau neu'r gwasanaeth fydd yr hyn a nodir ar yr archeb ac a bennir ar gyfer hyd y contract. Rhaid cytuno ar unrhyw amrywiad ar y pris a nodir ar yr archeb gyda Chyngor Chwaraeon Cymru cyn cyflenwi.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn defnyddio'r system BACS i dalu i’w holl gredydwyr. Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw oedi cyn talu, mae'n ofynnol i gyflenwyr gynnwys eu manylion banc gyda'r anfoneb gyntaf maent yn ei chyflwyno.
Os yw'r nwyddau neu'r gwasanaethau sy’n cael eu dosbarthu i Gyngor Chwaraeon Cymru yn fwy na'r symiau a archebwyd ni fydd y Cyngor yn rhwym i dalu am unrhyw elfennau ychwanegol.
Bydd gan CChC yr hawl i ganslo unrhyw Archeb yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy roi rhybudd i'r Gwerthwr ar unrhyw adeg cyn dosbarthu’r Nwyddau ac, os felly, unig atebolrwydd CChC fydd talu i'r Gwerthwr unrhyw iawndal teg a rhesymol am y gwaith sy'n mynd rhagddo ar adeg y canslo ond ni fydd iawndal o'r fath yn cynnwys colli elw a ragwelir neu unrhyw golled o ganlyniad.
Dylai cyflenwyr sy'n cael unrhyw broblem gysylltu â'r Adran Gyllid ar y rhif ffôn a ddangosir ar flaen yr archeb. Mae copi o delerau ac amodau caffael safonol y Cyngor ar gael gan yr Adran Gyllid ar gais.