Skip to main content

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon (SIRC) ym Mhrifysgol Sheffield Hallam.

Nod rhan gyntaf yr ymchwil oedd mesur effaith gymdeithasol chwaraeon yng Nghymru yn ystod 2016/17 gan ddefnyddio fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI).

Mae SROI yn fframwaith ar gyfer deall a mesur gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol heb fod yn rhan o’r farchnad sy’n cael ei greu gan weithgaredd, sefydliad neu ymyriad.  Ein hymchwil oedd y tro cyntaf i fframwaith SROI gael ei ddefnyddio i fesur cyfraniad cymdeithasol ehangach chwaraeon yng Nghymru.   

SROI

Mae model SROI Cymru yn amcangyfrif gwerth y canlyniadau canlynol:

  • Iechyd (llai o risg o glefyd coronaidd ar y galon a strôc; canser y fron; canser y coluddyn; diabetes Math 2; dementia; iselder clinigol a gwella iechyd i gyfranogwyr)
  • Lles goddrychol (gwella lles goddrychol i gyfranogwyr a gwirfoddolwyr)
  • Cyfalaf cymdeithasol (gwella cyfalaf cymdeithasol i gymunedau)
  • Addysg (gwell cyflawniad addysgol a gwell cyfalaf dynol)
  • Manteision heb fod yn rhan o’r farchnad sy’n cael eu sicrhau gan sefydliadau chwaraeon sy’n defnyddio gwirfoddolwyr

Gwerth Economaidd

Ail ran y gwaith ymchwil oedd deall pwysigrwydd economaidd chwaraeon.

Prif Ganfyddiadau: 

Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad mewn Chwaraeon Social Return on Investment in Sport

  • Am bob £1 sy’n cael ei buddsoddi mewn chwaraeon yn y wlad, ceir elw o £2.88, yn ôl yr adroddiad
  • Cynhyrchwyd £3,428m o fudd i gymunedau Cymru o gymryd rhan a gwirfoddoli mewn chwaraeon yn 2016/17
  • Mae dadansoddiad o’r ffigur cyffredinol yn dangos bod gwerth cymdeithasol cyfalaf cymdeithasol gwell yn £651.47m; mae gwell addysg yn £91.15m; a llai o droseddu yn £2.17m. Gwerth cymdeithasol gwell iechyd yw £295.17m.
  • Mae lles goddrychol yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu yng Nghymru (60.6%).

Gwerth Economaidd

  • Tyfodd y diwydiant chwaraeon yng Nghymru 10% i £1,142m yn 2016/17. Canfuwyd bod y sector chwaraeon yn perfformio’n well na’r diwydiannau fferyllol, teithio, llety a thecstilau yng Nghymru.
  • Cyfrannodd yr economi chwaraeon £1,182min o Wariant Defnyddwyr ar Chwaraeon a chynhyrchodd 29,700 o swyddi cysylltiedig â chwaraeon yn yr un flwyddyn.

Dyma sut mae rhai o ddigwyddiadau a sefydliadau chwaraeon mwyaf Cymru wedi cyfrannu at ein heconomi:

  • Yn 2016, dangosodd adroddiad yn edrych ar effaith economaidd Stadiwm y Principality bod ei werth i economi Cymru yn amcangyfrif o £32.3m mewn gweithgarwch/allbwn Cymreig ychwanegol, gyda £11.0m o hwn yn werth ychwanegol gros. Cefnogodd calendr digwyddiadau’r Stadiwm bron i 400 o swyddi cyfwerth â llawn amser, ar safle’r stadiwm ac mewn mannau eraill yng Nghymru drwy ei gadwyn gyflenwi.
  • Daeth 300,000 o bobl i Ganol Dinas Caerdydd o ganlyniad uniongyrchol i Rowndiau Terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017. O blith y rhain, ymwelodd 95,000 o’r tu allan i Gymru, 66,000 yn Stadiwm y Principality ar gyfer Rownd Derfynol y dynion a 29,000 ychwanegol a ddaeth i’r Ŵyl Bêl Droed ym Mae Caerdydd, a Rownd Derfynol y Merched neu Gaerdydd ar Ddiwrnod y Gêm. Amcangyfrifir bod y gwylwyr wedi gwario cyfanswm o £26,474,000.

Ymchwil

Nid yw hi fyth yn hawdd gwneud y penderfyniadau cywir er mwyn helpu chwaraeon i ffynnu yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth