Ym mis Chwefror 2023, comisiynodd Cyngor Chwaraeon Cymru (sy’n cael ei adnabod oddi wrth ei enw masnach Chwaraeon Cymru) Brifysgol Sheffield Hallam (SHU), mewn partneriaeth â Phrifysgol Loughborough, i gynnal astudiaeth Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) o chwaraeon yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn adeiladu ar astudiaeth SROI flaenorol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru (2016/17). Mae wedi’i ganoli yn y cyd-destun polisi yng Nghymru, gan ystyried y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru ar lefel gymunedol ac elitaidd. Mae’n cael ei ariannu gan gyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru ac o incwm a gynhyrchir o’i weithgareddau ei hun. Dyma brif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion chwaraeon ac mae’n gyfrifol am ddosbarthu arian Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru.
Nod yr astudiaeth SROI yw mesur a rhoi gwerth i effeithiau cymdeithasol chwaraeon yng Nghymru. Ei diben yw galluogi Chwaraeon Cymru i ddangos tystiolaeth o gyfraniad chwaraeon i randdeiliaid a chefnogi sgyrsiau traws-lywodraethol am fuddsoddi yn y sector. O'r herwydd, dim ond canlyniadau cymdeithasol y gellir dangos tystiolaeth gadarn ar eu cyfer y mae'r astudiaeth yn eu cynnwys, er mwyn sicrhau lefel uchel o drylwyredd.
Mae Chwaraeon Cymru yn un o 44 o sefydliadau sector cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru, sef deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi meddwl yn gynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd eu gwaith, er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, weithio tuag at saith nod llesiant, sef:
Mae’r Weledigaeth ar gyfer Cymru yn egluro sut gall chwaraeon helpu i gyfrannu at y nodau llesiant a thrawsnewid Cymru yn ‘Genedl Actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes’. At hynny, mae Strategaeth Chwaraeon Cymru, Galluogi Chwaraeon yng Nghymru i Ffynnu, yn amlinellu sut caiff y Weledigaeth ei chyflawni. Yn y ddwy ddogfen, amlinellir manteision posibl bod yn actif, gyda’r olaf yn defnyddio’r dystiolaeth o’r SROI cyntaf ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Bydd yr astudiaeth hon yn darparu tystiolaeth wedi'i diweddaru i gefnogi'r dogfennau polisi hyn. Yn benodol, bydd yr SROI yn darparu tystiolaeth i helpu i ddangos y gwerth sy’n cael ei greu drwy chwaraeon mewn perthynas â 'Cymru iachach', 'Cymru o gymunedau cydlynus', a 'Chymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu'.
Er bod yr ymchwil hwn yn adeiladu ar yr SROI blaenorol o chwaraeon yng Nghymru o 2016/17, ac yn defnyddio fframwaith SROI yn yr un modd, mae’n cynnwys canlyniadau cymdeithasol gwahanol, trothwyon cyfranogiad gwahanol ac, mewn rhai achosion, gwahanol dechnegau prisio. O'r herwydd, ni ddylid cymharu canlyniadau'r astudiaeth hon yn uniongyrchol â'r SROI blaenorol.
At ddibenion yr astudiaeth, arweiniwyd y tîm ymchwil gan y diffiniad o chwaraeon a ddarparwyd yn Siarter Chwaraeon Cyngor Ewrop (1992), sy’n diffinio chwaraeon yn ei ystyr ehangaf i gynnwys: “...pob math o weithgarwch corfforol sydd, drwy gyfranogiad achlysurol neu drefnus, yn ceisio mynegi neu wella ffitrwydd corfforol a lles meddyliol, ffurfio perthnasoedd cymdeithasol neu sicrhau canlyniadau mewn cystadlaethau ar bob lefel.”
Mae'r astudiaeth yn cynnwys yr holl chwaraeon ffurfiol ac anffurfiol, a gweithgareddau corfforol a ystyrir yn hamdden actif, fel gweithgareddau ffitrwydd, dawns a cherdded er diben hamdden. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys gweithgareddau yn y cartref nad ydynt wedi'u gwreiddio mewn chwaraeon ac ymarfer corff ffurfiol neu'n gysylltiedig â hwy, fel garddio. At ddibenion yr astudiaeth hon, rydym hefyd yn eithrio teithio llesol.
Mae'r adroddiad wedi'i strwythuro fel a ganlyn: mae pennod 2 yn amlinellu'r dull ymchwil; mae pennod 3 yn crynhoi'r cyfweliadau â rhanddeiliaid a'r dystiolaeth, archwiliad o astudiaethau SROI blaenorol a'r Map Effaith; mae pennod 4 yn cyflwyno'r prisio o ganlyniad; mae pennod 5 yn crynhoi'r SROI a'r dadansoddiad sensitifrwydd; ac mae pennod 6 yn cyflwyno'r casgliadau a'r argymhellion ar gyfer ymchwil pellach.
Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) i fesur effaith gymdeithasol chwaraeon a hamdden actif yng Nghymru yn 2021/22.
Mae SROI yn fframwaith ar gyfer deall a mesur y gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol nad yw'n ymwneud â'r farchnad a grëir gan weithgaredd, sefydliad neu ymyriad. Mae'n cael ei ddefnyddio fwyfwy ar draws y sector chwaraeon, yn enwedig gan asiantaethau cyhoeddus ac elusennau, i fesur gwerth cymdeithasol ac i eiriol dros fuddsoddiad.
Mae SROI yn mesur gwerth y canlyniadau a gynhyrchir drwy gyfranogiad chwaraeon a gwirfoddoli a chostau net, neu fewnbynnau, darparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu. Mae'r dadansoddiad SROI yn mynegi gwerth ariannol canlyniadau mewn perthynas â'r mewnbynnau. Er enghraifft, am bob £1 o fuddsoddiad yng Nghymru, cynhyrchir gwerth o £y. Mae’r astudiaeth yn eithrio gwylio digwyddiadau chwaraeon yn benodol gan fod hyn y tu allan i gylch gorchwyl Chwaraeon Cymru.
Mae'r SROI yn gwerthuso, sy'n golygu ei fod yn mesur gweithgarwch sydd eisoes wedi digwydd. Casglwyd data ar gyfer y dadansoddiad drwy gymysgedd o ddulliau, gan gynnwys cyfweliadau â rhanddeiliaid, dadansoddiad o astudiaethau SROI blaenorol ar lefel poblogaeth, a chasglu data eilaidd. Mae'r ffigur isod yn amlinellu chwe cham y dadansoddiad SROI.
Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar werth chwaraeon i oedolion 16 oed a hŷn.
Ffigur 2.1. Camau SROI
Ar ôl sefydlu cwmpas yr astudiaeth, cam cyntaf SROI yw nodi rhanddeiliaid. Mae Social Value International yn diffinio rhanddeiliaid fel ‘pobl neu sefydliadau sy’n profi newid o ganlyniad i’ch gweithgarwch chi neu’r rhai sy’n effeithio ar y gweithgarwch sy’n cael ei ddadansoddi. Gallant fod yn unigolion, yn grwpiau o unigolion ac yn sefydliadau’. Mae Tabl 3.1 yn nodi'r prif grwpiau o randdeiliaid ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.
| Sector cyhoeddus | Sector preifat | Trydydd sector | Aelwydydd |
Chwaraeon Cymru Llywodraeth Cymru Awdurdodau Lleol UK Sport Iechyd Cyhoeddus Cymru Ysgolion Sefydliadau Addysg Uwch
| Darparwyr ffitrwydd ac ymarfer masnachol Cyflogwyr gyda chyfleusterau chwaraeon, ymarfer a gweithgarwch corfforol | Clybiau chwaraeon gwirfoddol Ymddiriedolaethau Chwaraeon a Hamdden Cyrff Rheoli Cenedlaethol Elusennau sy'n darparu gweithgareddau chwaraeon Chwaraeon ar gyfer sefydliadau datblygu | Cyfranogwyr chwaraeon Gwirfoddolwyr chwaraeon |
Roedd rhanddeiliaid yn ymwneud â'r SROI mewn sawl ffordd. Fe wnaethant helpu i ddiffinio cwmpas yr astudiaeth a nodi'r mewnbynnau a'r canlyniadau i'w mesur. Bu'r wybodaeth a ddarparwyd ganddynt o gymorth i ddatblygu'r Map Effaith, a gyflwynir yn y bennod nesaf. Fe wnaethant hefyd gyfrannu at wirio'r broses ymchwil a'r canfyddiadau.
Gan ymgynghori â Chwaraeon Cymru, nododd y tîm ymchwil restr o randdeiliaid allweddol i ymgynghori â hwy. Cafodd y sefydliadau canlynol eu cyfweld gan y tîm ymchwil:
Roedd pob cyfweliad yn gofyn cwestiynau am y canfyddiadau o effeithiau cymryd rhan a gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan gynnwys newidiadau cadarnhaol a newidiadau negyddol neu anfwriadol. Gofynnwyd hefyd i'r rhai a gyfwelwyd raddio pwysigrwydd y canlyniadau hyn i'r SROI.
Iechyd corfforol a meddyliol
Y fantais fawr a nodwyd yn y cyfweliadau oedd canlyniadau iechyd cadarnhaol cyfranogiad chwaraeon a gweithgarlwch corfforol, gan gynnwys atal salwch a thrin salwch, yn arbennig trin, rheoli neu ohirio symptomau cyflyrau iechyd penodol. Roedd y cyflyrau iechyd penodol a grybwyllwyd yn cynnwys diabetes, gordewdra a chlefydau cronig, ac roedd y cyflyrau iechyd meddwl yn cynnwys straen, gorbryder ac iselder. Soniwyd hefyd am oedi gyda symptomau heneiddio a chynnal iechyd da mewn pobl hŷn. Roedd iechyd corfforol a meddyliol yn cael eu hystyried yn gyffredinol fel canlyniadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol a oedd wedi'u cofnodi’n dda a bod tystiolaeth dda ohonynt.
Cydlyniant cymdeithasol
Yn ail, nodwyd manteision cymdeithasol chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel canlyniad pwysig. Roedd hyn yn cynnwys drwy gyfranogiad a gwirfoddoli yn galluogi pobl i gwrdd ag eraill, teimlo ymdeimlad o berthyn gyda grŵp, a datblygu teimladau o gymuned. Amlygodd y cyfweliadau y gallai’r teimladau hyn o berthyn a chydlyniant gael eu datblygu drwy fod yn rhan o dîm, yn ogystal â thrwy gymryd rhan gyda ffrindiau a / neu deulu, gan gryfhau cysylltiadau teuluol os ydynt yn cymryd rhan gyda’i gilydd. Roedd datblygu teimladau o gymuned fel rhan o glwb neu dîm lleol hefyd yn datblygu teimladau o ymddiriedaeth a balchder yn y gymuned leol ac wedi effeithio ar deimladau o gyfrifoldeb tuag at yr ardal leol – gyda photensial i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol fel lleihau sbwriel a graffiti yn yr ardal leol.
Lles
Amlygodd y cyfweliadau hefyd ganlyniadau lles goddrychol fel budd pwysig o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Roedd hyn yn gysylltiedig â’r canlyniadau cymdeithasol, gan fod datblygu teimladau o berthyn a chymuned yn cyfrannu at deimladau cadarnhaol amdanoch chi’ch hun, teimlo’n hapusach, datblygu hyder, gwell sgiliau cymdeithasol, hunan-barch, hunaneffeithiolrwydd, hunan-gred, teimlo’n werthfawr, a theimlo eich bod yn cael gofal (er enghraifft gan arweinwyr chwaraeon, hyfforddwyr, cyd-chwaraewyr).
Canlyniadau eraill
Amlygwyd canlyniadau pellach hefyd, gan gynnwys sgiliau gwell fel sgiliau arwain a chyfathrebu, y potensial ar gyfer cyrhaeddiad addysgol uwch a gwell cynhyrchiant yn y gwaith neu mewn swyddogaethau gwirfoddoli, ac o ganlyniad gallai hyn arwain at effeithiau ariannol cadarnhaol ar weithleoedd. Hefyd, gostyngiad mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy gael pobl ifanc oddi ar y strydoedd a rhoi pwrpas iddynt. Fodd bynnag, disgrifiwyd y canlyniadau hyn fel rhai anecdotaidd ac felly gallant fod yn anodd eu priodoli i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn unig.
Canlyniadau negyddol ac anfwriadol
Roedd un cyfwelai na ddisgrifiodd unrhyw ganlyniadau negyddol o ganlyniad i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Disgrifiodd eraill, fodd bynnag, rai canlyniadau negyddol posibl. Yr un a grybwyllwyd amlaf o blith y rhain oedd y potensial ar gyfer rhai effeithiau negyddol ar iechyd meddwl neu les unigolion, oherwydd pwysau i berfformio neu lwyddo, gan achosi gorbryder a straen, ac ofn methiant a realiti methiant yn effeithio’n negyddol ar hyder a hunan-barch. effeithiolrwydd. Soniwyd hefyd am wynebu rhywiaeth a hiliaeth mewn chwaraeon fel ffactorau negyddol a allai effeithio ar deimladau o les. Gallai’r pwysau ar unigolion a’u teuluoedd am arian i fforddio’r gost o gymryd rhan mewn chwaraeon, yn ogystal â’r pwysau ar amser, effeithio ar les hefyd. Disgrifiwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd fel canlyniad negyddol posibl, a chyfeiriwyd at hyn yn benodol mewn perthynas â hwliganiaeth pêl-droed. Yn olaf, tynnwyd sylw at y risg o anaf.
Yn ystod y cyfweliadau, gofynnwyd i’r rhanddeiliaid ddarparu enghreifftiau o unrhyw dystiolaeth berthnasol yn dangos gwerth chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n benodol i Gymru. Roedd y deunydd a ddarparwyd yn cynnwys gwerthusiad ansoddol o’r rhaglen ‘Step into sport’ (Brier et al., 2023), ymyriad seiliedig ar chwaraeon ar gyfer pobl ifanc ‘mewn perygl’, a ganfu fod effeithiau cadarnhaol ar gyfranogwyr, a oedd yn elwa’n seicolegol (er enghraifft, mwy cadarnhaol: hunan-gysyniad; hunan-barch, rheoli dicter; iechyd meddwl a lles); yn gorfforol (fel dysgu sgiliau corfforol newydd; ymddygiad cwsg a maeth gwell; mwy o ffitrwydd corfforol); ac yn gymdeithasol (er enghraifft, perthnasoedd a chysylltiadau cymdeithasol newydd; datblygu modelau rôl); ac yn olaf roedd y cyfranogwyr yn fwy uchelgeisiol ynghylch rhagolygon ar gyfer y dyfodol o ran parhad mewn chwaraeon a chynyddu cymhelliant ar gyfer cyfleoedd yn y gweithle. Yn yr un modd, canfu gwerthusiad o ymyriad yn seiliedig ar rygbi (Brier a Mellick et al., 2023) yr un canlyniadau seicolegol, corfforol, cymdeithasol a dyheadol ar gyfer pobl ifanc a datgelodd dadansoddiad meintiol ymhellach ar draws tri mesur seicometrig (WEMWBS, PHQ-9, GAD-7) bod cyfranogwyr yn profi cynnydd mewn lles y meddwl, gostyngiad mewn symptomau iselder a gostyngiad mewn symptomau gorbryder.
Amlygwyd canfyddiadau o fanteision cymryd rhan mewn pêl-droed gan ymchwil a gynhaliwyd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru (The Nielson Company, 2022) a ofynnodd i rieni beth oedd manteision pêl-droed i’w plentyn. Dangosodd y canfyddiadau fod rhieni’n credu bod pêl-droed yn gwella iechyd a lles cyffredinol (71%), yn darparu sgiliau cymdeithasol (64%), ac yn gwella sgiliau meddwl (hunanreolaeth, canolbwyntio, disgyblaeth, gwneud penderfyniadau ac arweinyddiaeth). Dylid nodi bod hyn yn seiliedig yn unig ar ganfyddiadau 138 o rieni plant rhwng 6 ac 17 oed sy'n chwarae pêl-droed.
Mae’r Strategaeth y Bartneriaeth Awyr Agored (2021-2031) yn cyflwyno gweledigaeth o ‘wella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored’. Mae hyn yn cynnwys gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl, a’r elw economaidd (gan gynnwys cyflogaeth) drwy weithgarwch awyr agored fel cyfranogiad ar lawr gwlad mewn gweithgareddau fel cerdded, beicio a chwaraeon antur. Fel sefydliad, mae gan y Bartneriaeth Awyr Agored feysydd gwaith allweddol sy’n arwain i gyd at eu gweledigaeth gyffredinol. Mae ymchwil i werthuso’r cynlluniau gwaith hyn yn cynnwys amcangyfrif o SROI y rhaglen Agor Drysau i’r Awyr Agored (ODO) yng Ngogledd Cymru (Makanjuola et al., 2023). Mae'r ODO yn ymyriad cerdded a dringo 12 wythnos sydd wedi'i anelu at unigolion segur sy'n profi lles meddyliol isel. Cynhaliwyd SROI y rhaglen ODO yng Ngogledd Cymru yn 2022 gan yr Hwb Gwerth Cymdeithasol yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor. Dangosodd y canlyniadau, yn astudiaeth Gogledd Cymru, am bob £1 a fuddsoddwyd mewn rhaglenni ODO, y cynhyrchwyd £4.90 i £5.36 o werth cymdeithasol ar gyfer rhanddeiliaid. Yn ogystal, dynododd y cyfweliadau well lles meddyliol, mwy o weithgarwch corfforol, mwy o ymddiriedaeth gymdeithasol a gwell iechyd yn gyffredinol.
Edrychodd gwerthusiad dilynol (Gwerth Cymdeithasol Cymru, 2023) ar y gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu drwy ddatblygu’r rhaglenni amrywiol yng Nghanolbarth a De Cymru, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o ymyrraeth yr ODO yng Ngogledd Cymru a defnyddio fframwaith presgripsiynau cymdeithasol. Archwiliodd yr astudiaeth hon yr effeithiau ar gyfranogwyr a gwirfoddolwyr a chanfuwyd bod gwerth cymdeithasol yn cael ei greu drwy weithgareddau’r prosiect, gyda chanlyniad SROI bod £7.12 o werth yn cael ei greu am bob £1 a fuddsoddir. Roedd gwirfoddolwyr yn teimlo'n fwy hyderus yn arwain a chefnogi grwpiau ac roedd cael mynediad i hyfforddiant yn helpu llawer i deimlo'n fwy cadarnhaol tuag at yrfa yn y diwydiant. Drwy'r prosiectau amrywiol, roedd unigolion wedi profi newidiadau cadarnhaol yn eu lles meddyliol a chorfforol. Ar gyfer y prosiectau presgripsiynau cymdeithasol, roedd llawer yn teimlo’n llai ynysig o fewn eu cymunedau ac yn teimlo’n fwy cadarnhaol am reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain.
Y prif adroddiad sy’n mesur gwerth chwaraeon yng Nghymru oedd yr astudiaeth SROI flaenorol aeth ati i fesur gwerth y sector chwaraeon yn 2016/17. Aeth ati i fesur sawl maes canlyniad gan gynnwys iechyd, lles goddrychol, cyfalaf cymdeithasol, troseddu, addysg a llafur gwirfoddolwyr. Datgelodd fod £3.43bn o werth cymdeithasol wedi’i gynhyrchu o £1.19bn o fewnbynnau, gan roi gwerth SROI o 2.88. Mae hyn yn golygu, am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru (ariannol ac fel arall), bod gwerth £2.88 o effaith gymdeithasol wedi’i greu ar gyfer unigolion a chymdeithas yn 2016/17. Cynhyrchwyd y swm mwyaf o werth cymdeithasol (61%) drwy les goddrychol (£2.08bn). Crëwyd gwerth cymdeithasol sylweddol hefyd gan gyfalaf cymdeithasol (£651m; 19%), iechyd (£295m; 8.6%) a llafur gwirfoddol (£312m; 9%) (Chwaraeon Cymru, 2018).
Mae'r Map Gwerth yn ganolog i ddadansoddiad SROI. Fe'i gelwir hefyd yn 'theori o newid' neu'n fodel rhesymeg a dyma'r fframwaith a ddefnyddir i adeiladu'r model SROI. Cyfunodd y tîm ymchwil yr ymgysylltu â rhanddeiliaid a drafodwyd yn y bennod flaenorol gyda thystiolaeth a ddarparwyd gan randdeiliaid i gynhyrchu map o’r mewnbynnau, yr allbynnau a’r canlyniadau sy’n deillio o ymgysylltu â chwaraeon yng Nghymru. Mae Ffigur 4.1 yn crynhoi Map Gwerth Cymru.
Mae'r Map Gwerth a gyflwynir yn Ffigur 4.1 yn grynodeb cynhwysol o'r holl ganlyniadau a nodwyd gan y rhanddeiliaid, ymchwil trydydd parti a llenyddiaeth lwyd gyhoeddedig, gan gynnwys yr astudiaeth SROI flaenorol ar gyfer Cymru. Mae ansawdd y dystiolaeth ar gyfer y gwahanol ganlyniadau a meysydd yn amrywio'n sylweddol. Gan fod cynulleidfa arfaethedig yr astudiaeth hon yn cynnwys Llywodraeth Cymru, roedd angen lefel uchel o drylwyredd. Felly, cyfyngwyd cwmpas yr astudiaeth SROI i gynnwys dim ond y canlyniadau hynny y gellid cyflwyno tystiolaeth gadarn ohonynt. Mae hyn yn gyson ag arfer y rhan fwyaf o astudiaethau SROI eraill ar lefel poblogaeth.
Fel cyfanswm, rhoddwyd gwerth ariannol i 15 o ganlyniadau yn y SROI ar draws pedwar maes, gan gynnwys deg canlyniad iechyd, dau ganlyniad yn ymwneud â lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol ac un canlyniad yn ymwneud â’r buddion nad ydynt yn ymwneud â’r farchnad a sicrhawyd gan sefydliadau sy’n defnyddio gwirfoddolwyr chwaraeon. Cyflwynir y canlyniadau a gynhwysir yn SROI Cymru yn Nhabl 4.1.
| Parth | Canlyniad | Grŵp poblogaeth |
| Iechyd | Llai o risg o CHD | Pob cyfranogwr 16 + |
| Llai o risg o strôc | Pob cyfranogwr 16 + | |
| Llai o risg o ddiabetes Math 2 | Pob cyfranogwr 16 + | |
| Llai o risg o ganser y fron | Cyfranogwyr benywaidd 16 + | |
| Llai o risg o ganser y colon | Pob cyfranogwr 16 + | |
| Llai o risg o dorri asgwrn y glun | Pob cyfranogwr 65 + | |
| Llai o risg o boen cefn | Pob cyfranogwr 16 + | |
| Llai o risg o iselder | Pob cyfranogwr 16 + | |
| Llai o risg o ddementia | Pob cyfranogwr 16 + | |
| Risg gynyddol o anaf | Pob cyfranogwr 16 + | |
| Lles Goddrychol | Gwell boddhad gyda bywyd | Pob cyfranogwr 16 + |
| Gwell boddhad gyda bywyd | Gwirfoddolwyr mewn clybiau chwaraeon (16+) | |
| Cyfalaf Cymdeithasol | Gwell cyfalaf cymdeithasol (rhwydweithiau cymunedol, cysylltiadau ac ymddiriedaeth) | Pob cyfranogwr 16 + |
| Gwell cyfalaf cymdeithasol (rhwydweithiau cymunedol, cysylltiadau ac ymddiriedaeth) | Gwirfoddolwyr mewn clybiau chwaraeon (16+) | |
| Arall | Manteision i sefydliadau chwaraeon sy'n defnyddio gwirfoddolwyr | Pob gwirfoddolwr (16+) |
| Cam 1 | Cam 2 | Cam 3 | |
| Rhanddeiliaid | Mewnbynnau | Allbynnau | Canlyniadau |
| Pwy a faint? | Beth maent yn ei fuddsoddi? | Crynodeb o weithgareddau | Pa newidiadau? |
Sector cyhoeddus
Sector preifat
Trydydd sector
Aelwydydd
| Ariannol
Anariannol
| Cyfranogiad chwaraeon
Gwirfoddoli mewn chwaraeon
| Iechyd
Lles goddrychol
Cyfalaf cymdeithasol
Troseddu
Addysg
Arall Manteision i sefydliadau chwaraeon sy'n defnyddio gwirfoddolwyr
|
Mewnbynnau yw'r pethau hynny y mae rhanddeiliaid yn eu cyfrannu er mwyn gwneud gweithgareddau'n bosibl. Mae mewnbynnau yn ariannol (arian) ac anariannol (amser). Mae Tabl 5.1 yn crynhoi'r mewnbynnau ar gyfer Cymru. Er bod y mewnbynnau yn gymharol syml i’w nodi, cymerwyd gofal i sicrhau nad oedd unrhyw gyfrif dwbl rhwng sefydliadau, er enghraifft Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru. Nid yw nifer o randdeiliaid a nodir yn Ffigur 4.1 wedi’u cynnwys yn Nhabl 5.1 oherwydd bod eu mewnbynnau wedi’u nodi mewn man arall. Er enghraifft, nid yw'r sector masnachol wedi'i gynnwys gan fod yr holl fewnbynnau a ddarperir gan y sector hwn yn cael eu cyfrif mewn gwariant defnyddwyr ar chwaraeon. Cyfanswm y mewnbynnau ar gyfer chwaraeon yng Nghymru oedd tua £1.35bn. Yn ogystal â gwariant gan aelwydydd a’r sector cyhoeddus, mae’r ffigur cyfanredol hwn yn cynnwys gwerth yr amser a gyfrannwyd gan wirfoddolwyr i gefnogi cyfranogiad mewn chwaraeon a hamdden actif yng Nghymru.
| Rhanddeiliad | £(m) |
Aelwydydd Taliadau / ffioedd gweithgarwch Costau offer Dillad ac esgidiau chwaraeon Costau teithio a chostau eraill | 751.21 207.11 217.68 222.71 103.71 |
Sector Gwirfoddol Amser | 429.51 |
Sector Cyhoeddus Chwaraeon Cymru Awdurdodau Lleol | 166.33 31.54 134.79 |
| Cyfanswm | 1,347.05 |
Mae allbynnau yn grynodeb meintiol o weithgaredd. Mae dau fath o allbwn i Gymru, sef cyfranogiad chwaraeon a gwirfoddoli mewn chwaraeon. Daeth y rhain o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae Tabl 5.2 yn dangos yr ystadegau cyfranogiad ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ogystal â nifer yr achosion o wirfoddoli mewn chwaraeon yng Nghymru ymhlith oedolion 16+ oed. Defnyddiwyd yr ystadegau hyn wrth roi pris ar ganlyniadau iechyd, lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol.
| Camp | % | Gweithgaredd Corfforol | % | |
|---|---|---|---|---|
| Llai nag unwaith yr wythnos | 50 | <30 munud yr wythnos (Segur) | 30 | |
| Unwaith neu ddwywaith yr wythnos | 18 | 30 i 149 munud yr wythnos (Cymharol actif) | 14 | |
| Teirgwaith yr wythnos neu fwy | 32 | 150+ munud yr wythnos (Actif) | 56 | |
| Gwirfoddoli (Cyffredinol) | 10 | |||
| Gwirfoddoli (Clwb) | 7 |
Er mwyn sicrhau bod yr amcangyfrifon sy’n deillio o ddefnyddio ein dull yn gadarn ac yn amddiffynadwy, dim ond y cyflyrau iechyd hynny y mae tystiolaeth empirig gref ar eu cyfer sy’n dangos y cysylltiad rhwng chwaraeon / gweithgarwch corfforol a gwell iechyd corfforol a meddyliol a gafodd eu cynnwys yn yr astudiaeth.
Mae Tabl 5.3 yn cyflwyno’r cyflyrau iechyd yr ystyriwyd eu gwerth a’r gostyngiadau cyfatebol yn y risg o afiechyd ymhlith oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol ar ddwysedd cymedrol am 150+ munud (neu 75+ munud o weithgarwch egnïol) yr wythnos. Mae’r gostyngiadau risg yn cael eu harwain gan Ganllawiau Gweithgarwch Corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU a’r dystiolaeth epidemiolegol ategol gysylltiedig.
Mae Tabl 5.3 hefyd yn cyflwyno amcangyfrif o leihau risg ar gyfer pobl sy'n cymryd rhan am rhwng 30 a 149 munud yr wythnos. Deilliodd y rhagdybiaethau ar gyfer y lleihad mewn risg o gymryd rhan am 30 i 149 munud yr wythnos gan dybio perthynas ymateb dos llinol rhwng lefel gweithgarwch a llai o risg a rhagdybio bod y grŵp hwn yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol am gyfartaledd o 60 munud yr wythnos. Mae’r rhagdybiaeth yn seiliedig ar gonsensws arbenigwyr sy’n gweithio yn y byd academaidd a pholisi, a chanllawiau’r Prif Swyddogion Meddygol y gallai niferoedd is o’r fath (llai na 150 munud yr wythnos), dwyseddau is ac amledd is o weithgarwch corfforol arwain hefyd at fanteision iechyd. Mae'r rhagdybiaeth hon yn debygol o danamcangyfrif yn hytrach na goramcangyfrif gwerth y buddion, sy'n golygu y bydd y gwerthoedd a geir yn geidwadol ac yn amddiffynadwy (sy'n egwyddor allweddol o SROI).
| Cyflwr iechyd | Poblogaeth | Lleihau risg (150+ munud yr wythnos) | Lleihau risg (30 i 149 munud yr wythnos) |
|---|---|---|---|
| CHD | Pob oedolyn 16+ | 35% | 14% |
| Strôc | Pob oedolyn 16+ | 35% | 14% |
| Diabetes Math 2 | Pob oedolyn 16+ | 40% | 16% |
| Canser y fron | Oedolion benywaidd 16+ | 20% | 8% |
| Canser y colon | Pob oedolyn 16+ | 20% | 8% |
| Torri asgwrn y glun | Oedolion hŷn 65+ | 52% | 21% |
| Poen cefn | Pob oedolyn 16+ | 25% | 10% |
| Iselder | Pob oedolyn 16+ | 30% | 12% |
| Dementia | Pob oedolyn 16+ | 30% | 12% |
Er mwyn cael amcangyfrif o’r buddion iechyd y gellir eu priodoli i chwaraeon a hamdden actif, fe wnaethom gyfrif i ddechrau werth cronnus y buddion hyn ar gyfer pob math o weithgarwch corfforol ymhlith oedolion a oedd yn ‘actif’ (150+ munud yr wythnos) ac yn ‘gymharol actif’ (30 i 149 munud yr wythnos). Wedyn fe wnaethom amcangyfrif pa gyfran o’r rhai a oedd yn cyrraedd y trothwyon gweithgarwch corfforol ‘actif’ a ‘chymharol actif’ oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon (o leiaf unwaith yr wythnos). Roedd hyn yn 65% a 45% yn y drefn honno. Lluoswyd y gymhareb â gwerth iechyd cyffredinol gweithgarwch corfforol i gyfrif cyfraniad chwaraeon at fuddion iechyd. Mewn geiriau eraill, ar gyfer pob cyflwr iechyd mae'r gwerth a amcangyfrifir ar gyfer chwaraeon yn is-set o'r gwerth cyffredinol ar gyfer gweithgarwch corfforol.
Mae Tabl 5.4 yn cyflwyno nifer yr achosion o salwch a ataliwyd drwy bobl yng Nghymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Cafodd mwy na 113,000 o achosion o salwch eu hatal yn 2021/22. Cyfrifwyd achosion o salwch a ataliwyd drwy chwaraeon gan ddefnyddio’r gostyngiadau risg, data amlygrwydd a chyfraddau cyfranogiad ar gyfer cyfranogwyr ‘actif’ a ‘chymharol’ actif.
| Canlyniadau iechyd | 150+ munud yr wythnos | 30 i 149 munud yr wythnos | Cyfanswm |
| CHD | 16,686 | 1,493 | 18,179 |
| Strôc | 10,352 | 926 | 11,278 |
| Diabetes Math 2 | 33,488 | 3,118 | 36,606 |
| Canser y fron | 201 | 19 | 220 |
| Canser y colon | 134 | 11 | 144 |
| Torri asgwrn y glun | 822 | 91 | 912 |
| Poen cefn | 24,947 | 2,069 | 27,016 |
| Iselder | 2,807 | 242 | 3,049 |
| Dementia | 14,814 | 1,275 | 16,089 |
| Cyfanswm | 104,250 | 9,243 | 113,493 |
Wedyn lluoswyd nifer yr achosion â chostau gofal iechyd uniongyrchol ac anuniongyrchol (Tabl 5.5). Mae’r gost flynyddol y person yn amrywio rhwng pob cyflwr iechyd. Ar gyfer rhai cyflyrau iechyd (e.e., poen cefn) mae’r costau’n ymwneud â gofal iechyd yn unig, ond ar gyfer eraill (e.e. CHD) maent hefyd yn cwmpasu costau ehangach gan gynnwys gofal anffurfiol. Roedd argaeledd data cost ar gyfer trin cyflyrau iechyd yn amrywio. Ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau, data o Gymru a ddefnyddiwyd, ond ar gyfer unrhyw gyflyrau na ellid cael costau ar eu cyfer, benthycwyd data costau'r DU neu Loegr. Addaswyd y costau yn ôl chwyddiant i'r flwyddyn astudio.
| Canlyniadau iechyd | Costau gofal iechyd (£) | Costau anuniongyrchol (£) | Cyfanswm (£) |
| CHD | 1,042 | 3,314 | 4,356 |
| Strôc | 2,548 | 16,763 | 19,311 |
| Diabetes Math 2 | 745 | n.a. | 745 |
| Canser y fron | 20,606 | 36,159 | 56,764 |
| Canser y colon | 20,606 | 36,159 | 56,764 |
| Torri asgwrn y glun | 19,690 | 14,258 | 33,948 |
| Poen cefn | 265 | n.a. | 265 |
| Dementia | 13,948 | 81,487 | 95,435 |
| Iselder | 76 | 258 | 334 |
Cyflwynir yr arbedion cost cyffredinol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn Nhabl 5.6. Cyfanswm yr arbedion cost yw £679m ar gyfer y naw cyflwr a gyflwynwyd, gydag 80% yn dod gan bobl sy'n bodloni canllawiau'r Prif Swyddogion Meddygol o 150+ munud yr wythnos. O blith y rhain, mae 22% (£151m) yn arbedion costau gofal iechyd uniongyrchol, ac mae 78% (£528m) yn gysylltiedig â chostau iechyd anuniongyrchol eraill.
Y tu hwnt i’r naw cyflwr iechyd a nodwyd rydym hefyd wedi gosod gwerth tybiannol ar anafiadau chwaraeon gan ddefnyddio data procsi o Loegr, sy’n seiliedig ar nifer y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys a gofnodwyd fel anafiadau chwaraeon a data costau cysylltiedig. Amlygir cost anafiadau chwaraeon mewn coch. Yr arbedion cost iechyd net o gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru yw £621m.
| Canlyniadau iechyd | 150+ munud yr wythnos (£m) | 30 i 149 munud yr wythnos (£m) | Cyfanswm (£m) |
| CHD | 72.68 | 6.50 | 79.18 |
| Strôc | 199.90 | 17.88 | 217.78 |
| Diabetes Math 2 | 24.95 | 2.32 | 27.27 |
| Canser y fron | 11.43 | 1.06 | 12.49 |
| Canser y colon | 7.59 | 0.61 | 8.20 |
| Torri asgwrn y glun | 27.89 | 3.08 | 30.97 |
| Poen cefn | 6.60 | 0.55 | 7.15 |
| Dementia | 267.89 | 23.06 | 290.95 |
| Iselder | 4.95 | 0.43 | 5.38 |
| Is-gyfanswm | 623.88 | 55.50 | 679.37 |
| Anafiadau | -46.55 | -11.64 | -58.18 |
| Cyfanswm | £577.33 | £43.86 | £621.19 |
Defnyddiodd y tîm ymchwil y Dull Prisio Lles (WVA) i ganfod gwerthoedd ariannol ar gyfer lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol¹, yn deillio o gyfranogiad a gwirfoddoli mewn chwaraeon yng Nghymru. Defnyddiodd yr SROI blaenorol ar gyfer Cymru (2016/17) brocsis lles goddrychol (SWB) ar gyfer cyfranogiad yn deillio o ddefnyddio data o arolwg Understanding Society, sy’n sampl fawr, hydredol a chynrychioliadol o boblogaeth y DU. Er ei bod yn gwbl briodol defnyddio data’r DU yn absenoldeb data o Gymru, mae’r procsis hyn wedi dyddio bellach, ac o ystyried bod SWB yn gyfran sylweddol o’r gwerth cymdeithasol cyffredinol a gynhyrchwyd gan chwaraeon yng Nghymru yn flaenorol, cynhaliwyd prisiad llesiant yn benodol ar gyfer Cymru gennym.
Mae'r WVA yn cyfrif swm yr incwm sydd ei angen i sicrhau canlyniad fel lles goddrychol (neu gyfalaf cymdeithasol), hyd at y lefel y byddai fel arfer pe bai cyfranogiad (neu wirfoddoli) yn cael ei eithrio. Dewiswyd y dull hwn gan ei fod yn cael ei ddefnyddio’n eang a’i dderbyn fel mesur dilys ar gyfer rhoi gwerth i ganlyniadau nad ydynt yn ymwneud â’r farchnad ar gyfer cyfranogiad a gwirfoddoli yn y sector chwaraeon.
Cymhwysodd ein hastudiaeth y WVA gan ddefnyddio data o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Dewiswyd y set ddata ar gyfer 2019-20 gan mai hon oedd yr un ddiweddaraf a oedd yn cynnwys newidynnau ar wirfoddoli mewn chwaraeon ac incwm. Mae Tabl 5.7 yn cyflwyno gwerthoedd WVA ar gyfer lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol sy'n deillio o gyfranogiad ar wahanol amleddau a gwirfoddoli drwy glwb. Mae gwerth gwirfoddoli mewn chwaraeon yn seiliedig ar y newidyn: ‘gwirfoddoli drwy glwb chwaraeon’ gan nad oedd gwirfoddoli chwaraeon cyffredinol dros 12 mis wedi arwain at ganlyniad ystadegol arwyddocaol.
| Canlyniadau iechyd | Lles goddrychol (£) | Cyfalaf cymdeithasol (£) |
| Cyfranogiad chwaraeon 3+ yr wythnos v llai na 3 gwaith yr wythnos | 1,541 | 1,732 |
| Cyfranogiad chwaraeon unwaith neu ddwywaith yr wythnos v llai nag unwaith yr wythnos | 1,017 | 1,270 |
| Gwirfoddoli mewn chwaraeon drwy glwb (12 mis diwethaf) | 1,719 | 4,661 |
Chwyddwyd y gwerthoedd yn Nhabl 5.7 i'r flwyddyn astudio a'u lluosi â'r nifer cyfatebol o gyfranogwyr 16+ oed a’r gwirfoddolwyr mewn clybiau chwaraeon. Mae Tabl 5.8 yn dangos y gwerth yr amcangyfrifwyd y mae cyfranogwyr yn ei gael o les goddrychol uwch fel £1.74bn, a gwerth y gwirfoddolwyr oedd £316m. Fel cyfanswm, roedd cyfraniad chwaraeon at les goddrychol yng Nghymru yn £2.06bn. Yn yr un modd, gwerth y cyfalaf cymdeithasol uwch a grëwyd o gyfranogiad oedd £2.02bn ac o wirfoddoli, £856m. Roedd cyfraniad cyffredinol chwaraeon at well cyfalaf cymdeithasol yng Nghymru yn £2.87bn.
| Lles Goddrychol (£m) | Cyfalaf Cymdeithasol (£m) | |
| Cyfranogiad | 1,741.08 | 2,015.67 |
| Gwirfoddoli | 315.82 | £856.34 |
| Cyfanswm | 2,056.90 | £2,872.01 |
Yn ogystal â’r buddion lles unigol a chyfalaf cymdeithasol y mae gwirfoddolwyr yn eu cael o chwaraeon, maent yn darparu gwerth nad yw’n werth y farchnad i sefydliadau sy’n eu defnyddio. Rydym yn defnyddio cost cyfnewid gwirfoddolwyr fel procsi i gynrychioli'r gwerth hwn. Rydym yn amcangyfrif hyn gan ddefnyddio gwerth cyfatebol y farchnad lafur o amser gwirfoddolwyr, a gyfrifir gan ddefnyddio oriau gwirfoddoli cyfartalog, wedi'i luosi gydag enillion cyfartalog yr awr yng Nghymru. Amcangyfrifir bod gwerth hyn yn £430m.
¹Diffinnir cyfalaf cymdeithasol fel cysylltiadau cymunedol, rhwydweithiau ac ymddiriedaeth
Cam olaf dadansoddiad SROI yw cyfrif y gymhareb SROI. Mae Tabl 6.1 yn crynhoi'r cyfrif. Mae cyfanswm y mewnbynnau yn £1.35bn, gydag aelwydydd yn cyfrannu dros 55% o hynny. Cyfanswm gwerth yr holl ganlyniadau yw £5.98bn. Mae’r cyfraniad mwyaf yn cael ei gynhyrchu gan gyfalaf cymdeithasol (48%), wedi’i ddilyn gan les goddrychol (34%) ac iechyd (10.4%). Y gwerth cymdeithasol net (y gwahaniaeth rhwng gwerth y canlyniadau a'r mewnbynnau) yw £4.63bn, sy'n rhoi cymhareb SROI o 4.44. Mae hyn yn golygu, am bob £1 a fuddsoddwyd mewn chwaraeon yng Nghymru yn 2021/22, bod gwerth £4.44 o effeithiau cymdeithasol wedi cael eu cynhyrchu.
| Canlyniadau cymdeithasol | Cyffredinol £m | % |
| Mewnbynnau | 1,347.05 | 100.0 |
| … Aelwydydd | 751.21 | 55.8 |
| … Sector gwirfoddol | 429.51 | 31.9 |
| … Sector cyhoeddus | 166.33 | 12.3 |
| Canlyniadau | 5,979.61 | 100.0 |
| … Iechyd | 621.19 | 10.4 |
| … Lles goddrychol | 2,056.90 | 34.4 |
| … Cyfalaf Cymdeithasol | 2,872.01 | 48.0 |
| … Cynhyrchiant Gwirfoddolwyr | 429.51 | 7.2 |
| Gwerth cymdeithasol net | 4,632.56 | |
| Cymhareb SROI | 4.44 |
Mae Tabl 6.2 yn cyflwyno gwerth cymdeithasol cyffredinol chwaraeon yng Nghymru yn ôl rhywedd. Roedd dynion yn cyfrif am £3.48bn (58%) a merched yn cyfrif am £2.50bn (42%) o'r gwerth cymdeithasol cyffredinol. Esbonnir hyn yn bennaf gan gyfran uwch o ddynion yn cymryd rhan ac yn gwirfoddoli mewn chwaraeon na merched.
| Canlyniadau cymdeithasol | Dynion £m | Merched £m | Cyffredinol £m |
|---|---|---|---|
| Iechyd | 318.69 | 302.50 | 621.19 |
| Atal afiechyd | 349.94 | 329.43 | 679.31 |
| Anafiadau cynyddol | -31.25 | -26.93 | -58.18 |
| Lles goddrychol | 1,165.85 | 891.05 | 2,056.90 |
| Cyfranogwyr | 935.08 | 806.00 | 1,741.08 |
| Gwirfoddolwyr | 230.77 | 85.05 | 315.82 |
| Cyfalaf Cymdeithasol | 1,708.28 | 1,163.72 | 2,872.01 |
| Cyfranogwyr | 1,082.55 | 933.12 | 2,015.67 |
| Gwirfoddolwyr | 625.73 | 230.61 | 856.34 |
| Cynhyrchiant Gwirfoddolwyr | 291.14 | 138.37 | 429.51 |
| Cyfanswm | 3,483.97 | 2,495.64 | 5,979.61 |
| % | 58% | 42% | 100% |
Mae Tabl 6.3 yn cyflwyno gwerth cymdeithasol cyffredinol chwaraeon yng Nghymru yn ôl oedran. Gwerth y cyfranogwyr 16 i 64 oed oedd £4.66bn, sy’n cyfrif am 78% o’r gwerth, sy’n adlewyrchu’r ffaith bod mwyafrif y cyfranogwyr a’r gwirfoddolwyr yng Nghymru o dan 65 oed. Gwerth y cyfranogwyr dros 65 oed oedd £1.32 bn.
| Canlyniadau cymdeithasol | 16-64 (£m) | 65+ (£m) | Cyffredinol (£m) |
| Iechyd | 70.22 | 550.97 | 621.19 |
| Atal afiechyd | 120.16 | 559.21 | 679.31 |
| Anafiadau cynyddol | -49.94 | -8.24 | -58.18 |
| Lles goddrychol | 1,761.91 | 294.99 | 2,056.90 |
| Cyfranogwyr | 1,494.50 | 246.58 | 1,741.08 |
| Gwirfoddolwyr | 267.41 | 48.41 | 315.82 |
| Cyfalaf Cymdeithasol | 2,455.27 | 416.73 | 2,872.01 |
| Cyfranogwyr | 1,730.20 | 285.47 | 2,015.67 |
| Gwirfoddolwyr | 725.08 | 131.26 | 856.34 |
| Cynhyrchiant Gwirfoddolwyr | 369.21 | 60.30 | 429.51 |
| Cyfanswm | 4,656.61 | 1,323.00 | 5,979.61 |
| % | 78% | 22% | 100% |
Fel rheol mewn SROI byddai prisiad canlyniadau yn cael ei addasu ar gyfer hyd (pa mor hir y mae canlyniad yn para) a lleihad (dirywiad canlyniad dros amser). Fodd bynnag, fel gydag astudiaethau lefel poblogaeth blaenorol, mae’r SROI o chwaraeon yng Nghymru yn gipolwg o un flwyddyn, felly nid oes angen addasu ar gyfer y ffactorau hyn. Mae addasiadau eraill fel pwysau marw (beth fyddai wedi digwydd beth bynnag) ymhlyg yn achos diffyg cyfranogiad, a rhoddwyd cyfrif am briodoli eisoes oherwydd bod llawer o’r astudiaethau empirig y mae’r amcangyfrifon ariannol yn seiliedig arnynt o natur aml-amrywedd, ac maent eisoes wedi ymgorffori ystyriaeth o ffactorau cyfrannol tebygol eraill. Gan fod yr astudiaeth yn ystyried pob gweithgaredd chwaraeon, nid yw dadleoli (faint o'r canlyniad sydd wedi dadleoli canlyniadau eraill) yn berthnasol, er y gall chwaraeon ddisodli gweithgareddau hamdden eraill, nad yw wedi'i ystyried.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys dadansoddiad sensitifrwydd o'r prisiad canlyniadau cymdeithasol. Mae’r tîm ymchwil yn hyderus ynghylch y data iechyd, ac felly fe wnaethom brofi sensitifrwydd y rhagdybiaethau budd yn y model SROI mewn dwy ffordd arall. Yn y senario gyntaf (UCHEL), defnyddiwyd dull amgen o roi gwerth i les goddrychol a chyfalaf cymdeithasol. Yn hytrach na defnyddio’r procsi ariannol ar gyfer chwaraeon yn unig, defnyddiwyd y gwerth ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol gennym, ac addaswyd y gyfradd cyfranogiad yn seiliedig ar gyfran chwaraeon o weithgarwch corfforol cyffredinol, yn yr un ffordd ag y gwnaethom ar gyfer iechyd. Arweiniodd hyn at werth cymdeithasol uwch (£6.45bn), a SROI o 4.79. Yn yr ail senario (ISEL), fe wnaethom dybio bod yr holl wirfoddolwyr mewn clybiau chwaraeon hefyd yn gyfranogwyr, a bod y bobl hynny sy'n cymryd rhan ac yn gwirfoddoli yn elwa o’r lles goddrychol neu'r gwerth cyfalaf cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'u gwirfoddoli yn unig, yn hytrach na'r ddau. Roedd y senario yma’n gostwng y gwerth cymdeithasol (£5.44bn) a'r SROI i 4.04. Yn y ddau achos nid yw'r gymhareb SROI yn amrywio'n sylweddol, gan gynhyrchu ystod o 4.04-4.79, sy'n rhoi mwy o hygrededd i ganfyddiadau'r ymchwil.
Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod chwaraeon yng Nghymru yn creu gwerth sylweddol i gymdeithas ar draws sawl nod llesiant gan gynnwys Cymru iachach, Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae’r SROI hefyd yn dangos bod y gwerth a gynhyrchir gan chwaraeon yng Nghymru yn fwy na chost darparu’r cyfleoedd hynny o gryn dipyn, gan awgrymu bod buddsoddi yn y sector nid yn unig yn cyfrannu at les unigolion a chymdeithas, ond ei fod hefyd yn dda i’r economi.
Roedd cwmpas yr astudiaeth SROI yn fwriadol gulach na’r SROI blaenorol ar gyfer Cymru, drwy gynnwys dim ond y canlyniadau hynny y gellid dangos tystiolaeth gadarn ohonynt, er mwyn cynnal lefel uchel o drylwyredd. O’r herwydd, rydym wedi eithrio rhai canlyniadau a gynhwyswyd yn yr astudiaeth flaenorol nad oes digon o dystiolaeth empirig ar eu cyfer, fel cyrhaeddiad addysgol ac atal troseddu. Felly, mae’r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn eto’n debygol o fod yn asesiad ceidwadol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.
Mae'r tîm ymchwil yn awgrymu nifer o argymhellion lefel uchel, yn seiliedig ar ganfyddiadau'r astudiaeth. Yn gyntaf, rydym yn argymell bod Chwaraeon Cymru yn defnyddio canfyddiadau’r astudiaeth hon i hysbysu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y sector, o lawr gwlad hyd at Lywodraeth Cymru. Yn ail, rydym yn argymell bod yr astudiaeth hon yn cael ei defnyddio fel llinell sylfaen lefel uchel ar gyfer mesur cynnydd yn y sector a’i bod yn cael ei hailadrodd o bryd i’w gilydd, tua bob 3 i 5 mlynedd, yn dibynnu ar argaeledd tystiolaeth a data newydd ar gyfer Cymru. Yn drydydd, rydym yn argymell defnyddio'r astudiaeth hon fel sail i feysydd ymchwil blaenoriaeth yn y dyfodol. Un gwelliant sylweddol yn yr astudiaeth hon o gymharu â’r fersiwn blaenorol yw ei bod yn defnyddio data o Gymru i sicrhau’r prisiadau ar gyfer lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’r hepgoriadau a’r cyfyngiadau nodedig yn yr astudiaeth hon sy'n teilyngu ymchwiliad yn y dyfodol yn cynnwys y canlyniadau mesur a phrisio ar gyfer pobl ifanc ac ymchwiliad llawnach i effeithiau negyddol cyfranogiad.
Brier, H., Mellick, M., Edwards, S., a Wasley, D. (2023). School of Hard Knocks Comic Relief Adult Course Evaluation. Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Brier, H., Thomas, O., a Mellick, M. (2023). ‘Step-into-Sport’: A Qualitative Evaluation of Participant and Stakeholder Perceptions. Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Cyngor Ewrop (2021). Siarter Chwaraeon Ewrop. Ar gael ar-lein: https://search.coe.int/cm/Pages/result_details.aspx?ObjectID=09000016804c9dbb
Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2019). Canllawiau Gweithgarwch Corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU. [ar-lein]. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/832868/uk-chief-medical-officers-physical-activity-guidelines.pdf
Makanjuola, A., Lynch, M., Hartfiel, N., Cuthbert, A., ac Edwards, R T. (2023). Prevention of Poor Physical and Mental Health through the Green Social Prescribing Opening Doors to the Outdoors Programme: A Social Return on Investment Analysis. International Journal of Environmental Research and Public Health. 20 (12): 6111. Ar gael yn: https://doi.org/10.3390/ijerph20126111
Prifysgol Sheffield Hallam (2018). Measuring the social and economic value of sport in Wales: Social Return on Investment of sport in Wales 2016/17. Adroddiad heb ei gyhoeddi a gyflwynwyd i Chwaraeon Cymru.
Social Value International (2019). Standard on applying Principle 1: Involve stakeholders. Ar gael ar-lein: https://www.socialvalueint.org/principle-1-involve-stakeholders
Gwerth Cymdeithasol Cymru. (2023). Effaith Gymdeithasol Agor Drysau i'r Awyr Agored. Prosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant. Y Bartneriaeth Awyr Agored.
Chwaraeon Cymru (2023a). Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon. Ar gael ar-lein: https://www.sport.wales/our-vision-for-sport/
Chwaraeon Cymru (2023b). Chwaraeon Cymru: Galluogi Chwaraeon yng Nghymru i Ffynnu. Ar gael ar-lein: https://www.sport.wales/sport-wales-strategy/
The Nielson Company. (2022). Football Association of Wales UEFA National Association Research.
Y Bartneriaeth Awyr Agored. (2021). Strategaeth y Bartneriaeth Awyr Agored (2021-2031): Gwella Bywydau Pobl drwy Weithgarwch Awyr Agored. Ar gael ar-lein: https://outdoorpartnership.co.uk/our-strategy
Llywodraeth Cymru (2021) Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Canllaw Hanfodion. Ar gael ar-lein: https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2021-10/well-being-future-generations-wales-act-2015-the-essentials-2021.pdf
Nid yw hi fyth yn hawdd gwneud y penderfyniadau cywir er mwyn helpu chwaraeon i ffynnu yng Nghymru.