Skip to main content

Cyfleusterau cyhoeddus

Prif Arena

Mae’r Brif Arena wrth galon y Ganolfan, sef un o’r mannau dan do mwyaf a mwyaf hyblyg yng Nghymru. Mae’n cynnig:

  • lle ar gyfer pêl-fasged, pêl-rwyd, badminton a gymnasteg yn bennaf
  • seddau ar gyfer hyd at 800 o wylwyr
  • safle llawr sydd yr un maint â 10 cwrt badminton
  • capasiti ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol mawr a gwersylloedd perfformio
  • marciau cwrt o safon ryngwladol ar gyfer pêl-rwyd a phêl-fasged

Neuadd Jubilee 

Mae hwn yn gyfleuster 5 cwrt addasadwy a ddefnyddir ar gyfer:

  • pêl-fasged, pêl-rwyd neu fadminton
  • hyfforddi carfannau cenedlaethol 
  • datblygu athletwyr 
  • sesiynau technegol 

Canolfan Jwdo 

Dyma gartref Jwdo yng Nghymru ac mae’n cynnwys dau safle reslo a jwdo maint llawn. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer gwaith paratoi a datblygiad technegol. Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer cystadlaethau, gyda seddau ar gyfer gwylwyr.

Stiwdio ffitrwydd 

Cynlluniwyd hon i gynorthwyo ystod eang o weithgareddau chwaraeon dan do ac ymarfer grŵp. Mae modd addasu’r stiwdio ar gyfer gweithgareddau anffurfiol ac sy’n seiliedig ar berfformiad.

Mae’r stiwdio yn cynnig lle ar gyfer hyd at 26 o bobl mewn dosbarth ffitrwydd. Mae’n addas ar gyfer hyfforddiant grŵp, sesiynau symud a rhaglenni dan arweiniad hyfforddwr.

Yn ogystal, defnyddir y safle ar gyfer chwaraeon gan gynnwys tennis bwrdd, cendo, cwng-ffw a boccia.

Arwynebau y tu allan

Mae gennym arwynebau neilltuol y tu allan hefyd, gan gynnwys:

  • maes hoci dyfrsail o safon rhyngwladol, a ddefnyddir gan garfannau cenedlaethol yn rheolaidd
  • maes glaswellt naturiol o’r radd flaenaf, ar gyfer rygbi neu bêl-droed

Archebu 

I archebu unrhyw rai o’r cyfleusterau hyn, cysylltwch â ni trwy:

Rydym yn croesawu cyswllt yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd dewis y Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi.

Cyfleusterau ar gyfer cyrff llywodraethu cenedlaethol

Ardal Berfformio Elît 

Rydym wedi cynllunio’r ardal hon yn benodol i ddiwallu anghenion athletwyr perfformiad uchel. Mae’r safle arbenigol hwn yn cynnwys offer uwch, fel melin draed wrth-ddisgyrchiant.

Fe’i cefnogir gan staff Athrofa Chwaraeon Cymru, gan gynnwys seicolegwyr, ffisiotherapyddion ac arbenigwyr perfformio. Maent yn gweithio ar y safle er mwyn helpu athletwyr i baratoi ac i adfer yn well. 

Canolfannau cenedlaethol 

Mae gan sawl corff llywodraethu cenedlaethol gyfleusterau yn y Ganolfan Genedlaethol. Mae gan Focsio Cymru amgylchedd hyfforddi gyda chyfarpar llawn, ac mae gan Gymnasteg Cymru safle pwrpasol ar gyfer hyfforddi.