Darllenwch yr amodau canlynol yn ofalus cyn cwblhau eich archeb.
1.1 Bydd y diffiniadau a’r rheolau dehongli a ganlyn yn berthnasol yn yr amodau hyn:
Ystyr “llety” yw llety preswyl yn y Ganolfan.
Ystyr “Ffurflen Gais” yw’r ffurflen gais i’w chyflwyno gan y Cwsmer i Chwaraeon Cymru fel cynnig i brynu’r Gwasanaethau.
Ystyr “Archeb Barhaus” yw archeb sy’n digwydd dro ar ôl tro, boed yn wythnosol / misol neu fel arall, sy’n parhau’n awtomatig oni bai fod Chwaraeon Cymru neu’r Cwsmer yn ei therfynu.
Ystyr “Archeb” yw unrhyw Archeb Barhaus neu Archeb Sengl.
Ystyr “Canolfan” yw Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW.
Ystyr “Amodau” yw’r telerau a’r amodau archebu hyn.
Ystyr “Dyddiad Dechrau” yw'r dyddiad pryd bydd y Gwasanaethau'n dechrau cael eu darparu i Chi.
Ystyr “Contract” yw’r contract rhwng Chwaraeon Cymru a’r Cwsmer ar gyfer darparu Gwasanaethau yn unol â’r Amodau hyn.
Ystyr “Cwsmer” yw unrhyw CRhC neu gorff nad yw’n CRhC sy’n gosod archeb neu’n prynu neu’n cael Gwasanaeth gan Chwaraeon Cymru, gan gynnwys rhiant neu warcheidwad cyfreithiol unrhyw blentyn o dan 18 oed y darperir Gwasanaeth iddo.
Ystyr “Offer” yw'r eitemau o offer a restrir ar y Ffurflen Gais neu a nodir wrth wneud Archeb ar lafar, pob newid, dirprwy neu adnewyddu ar offer o'r fath a'r holl ategolion, llawlyfrau a chyfarwyddiadau cysylltiedig a ddarperir ar eu cyfer.
Ystyr “cyfleuster” yw unrhyw gyfleuster sydd ar gael i'w logi yn y Ganolfan, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon (boed yn yr awyr agored neu dan do (gan gynnwys ystafelloedd newid)) ac ystafelloedd cynadledda.
Ystyr “Corff Rheoli Cenedlaethol” yw unrhyw sefydliad sy’n llywodraethu ac yn gweinyddu camp ar sail genedlaethol yng Nghymru (“CRhC”).
Ystyr “Corff Rheoli Heb Fod Yn Genedlaethol” yw unrhyw unigolyn (gan gynnwys unrhyw Aelod, cwmni, busnes neu endid cyfreithiol arall), clwb chwaraeon, ysgol a / neu goleg nad yw’n CRhC (“Dim CRhC”).
Ystyr “Gwasanaethau” yw llogi neu ddefnyddio unrhyw Gyfleuster, Llety, Offer a / neu ddarparu gwasanaethau arlwyo yn unol â Chontract.
Ystyr “Archeb Sengl” yw unrhyw archeb nad yw'n digwydd dro ar ôl tro.
Ystyr “Chwaraeon Cymru” yw Cyngor Chwaraeon Cymru, cwmni a grëwyd gan Siarter Frenhinol, sy'n masnachu fel Chwaraeon Cymru.
1.2 Pan mae’r Amodau’n cyfeirio at “Rydym, Ni neu Ein”, bydd hyn yn golygu Chwaraeon Cymru (ynghyd â’i gyflogeion, ei asiantau a’i gontractwyr). Pan mae’r Amodau’n cyfeirio at “Rydych, Chi neu Eich”, bydd hyn yn golygu’r Cwsmer (ynghyd â phob aelod o’ch grŵp).
1.3 Er hwylustod yn unig y mae'r penawdau yn yr Amodau hyn ac ni fyddant yn effeithio ar eu cymhwysedd.
1.4 Mae cyfeiriad at gyfraith yn gyfeiriad at fel y mae mewn grym ar y pryd, gan ystyried unrhyw ddiwygiad, estyniad, defnydd neu ailddeddfiad ac mae’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth sydd mewn grym ar y pryd oddi tani.
1.5 Mae unrhyw gyfeiriad at “ysgrifennu” neu “ysgrifenedig” yn cynnwys e-bost.
2.1 Yr Amodau hyn yw’r unig amodau y mae Chwaraeon Cymru yn barod i ymdrin â’r Cwsmer yn seiliedig arnynt. Bydd yr Amodau’n cael eu hymgorffori yn y Contract gan eithrio’n llwyr yr holl delerau ac amodau eraill (gan gynnwys unrhyw delerau neu amodau y mae’r Cwsmer yn honni eu bod yn berthnasol o dan unrhyw archeb brynu, cadarnhad o archeb, manyleb neu ddogfen arall).
2.2 Bydd yr Amodau hyn yn drech nag unrhyw delerau anghyson a gymeradwyir ar, a gyflwynir gyda, a gynhwysir mewn neu y cyfeirir atynt mewn unrhyw archeb brynu, cadarnhad o archeb, manyleb neu unrhyw ddogfen neu ohebiaeth arall a dderbynnir gan y Cwsmer neu a awgrymir gan gyfraith, arferiad masnach, arfer neu ddull delio.
3.1. Ar ôl derbyn ymholiad gennych Chi am logi unrhyw Lety a / neu Gyfleuster, gan gynnwys unrhyw Offer, byddwn naill ai’n:-
3.1.1 anfon Ffurflen Gais atoch chi; neu
3.1.2 mewn perthynas ag Archebion Sengl ar gyfer Cyfleusterau neu Lety yn unig (gan gynnwys unrhyw Offer), yn cymryd manylion yr Archeb Sengl honno wyneb yn wyneb neu ar lafar dros y ffôn.
3.2 Bydd cyflwyno’r Ffurflen Gais wedi’i chwblhau gan y Cwsmer i Chwaraeon Cymru neu ddarparu ei fanylion ar gyfer Archeb Sengl yn unol â chymal 3.1.2 yn gyfystyr â chynnig gan y Cwsmer i brynu’r Gwasanaethau a nodir yn yr Amodau hyn. Ni fydd Chwaraeon Cymru yn derbyn unrhyw gynnig a wneir gan y Cwsmer ac eithrio:
3.2.1 drwy gydnabyddiaeth archeb ysgrifenedig a gyhoeddir gan Chwaraeon Cymru; neu
3.2.2 (os yw’n gynharach) drwy Chwaraeon Cymru yn dechrau darparu’r Gwasanaethau,
pryd bydd Contract yn cael ei sefydlu.
3.3 Rhaid i Gwsmer nodi'n fanwl gywir y dyddiadau a'r amseroedd y mae angen Gwasanaethau penodol ar eu cyfer.
3.4 Bydd unrhyw Wasanaethau sydd eu hangen sydd y tu allan i gwmpas Contract Cwsmer yn amodol ar argaeledd a gallant gynnwys ffi ychwanegol.
4.1 O ran unrhyw Archeb am Lety bydd y canlynol yn berthnasol:-
4.1.1 Disgwylir i gwsmeriaid gadw eu hystafelloedd yn lân a thaclus a chynorthwyo gyda mân ddyletswyddau domestig (fel gwneud eu gwelyau eu hunain).
4.1.2 Bydd y Cwsmer yn sicrhau bod yr holl ystafelloedd yn wag erbyn 10:00am ar fore olaf yr arhosiad.
5.1 Gall ffioedd a godir gan Chwaraeon Cymru am Wasanaethau fod wedi’u heithrio rhag TAW neu’n ddarostyngedig i TAW ar y gyfradd berthnasol, fel y cadarnheir gan Chwaraeon Cymru.
5.2 Y cardiau credyd a debyd a dderbynnir yw: Visa, Delta, MasterCard, Amex, Delta, Maestro, Electron.
5.3 Gall CRhC y neilltuwyd cyllid cymorth grant iddynt ofyn am i ffioedd a godir gan Chwaraeon Cymru am Wasanaethau gael eu talu gan ddefnyddio’r cronfeydd hyn. Os yw CRhC wedi gofyn am hyn, bydd Chwaraeon Cymru yn tynnu’r ffioedd o’r balans sydd ar gael o grant y CRhC. Os nad oes digon o arian, bydd y CRhC yn talu’r balans sy’n weddill saith (7) diwrnod o leiaf cyn y Dyddiad Dechrau.
5.4 Ar gyfer Archebion Parhaus, bydd y Cwsmer yn talu pob anfoneb a gyflwynir gan Chwaraeon Cymru saith (7) diwrnod o leiaf cyn Dyddiad Dechrau’r Archeb.
5.5 Ar gyfer Archebion Sengl (ac eithrio Llety yr ymdrinnir ag ef o dan gymal 5.6):
5.5.1 a wneir wyneb yn wyneb neu ar lafar dros y ffôn, bydd y Cwsmer yn talu'r ffi lawn am y Gwasanaethau pan wneir yr Archeb Sengl gyda Chwaraeon Cymru; neu
5.5.2 a wneir drwy gyflwyno a derbyn Ffurflen Gais, bydd y Cwsmer yn talu'r anfoneb a gyflwynir gan Chwaraeon Cymru saith (7) diwrnod o leiaf cyn y Dyddiad Dechrau.
5.6 Pan mae Archeb yn cynnwys Llety, bydd y Cwsmer yn talu pump ar hugain y cant (25%) o’r ffi lawn am y Llety i Chwaraeon Cymru wrth wneud yr Archeb ar lafar neu, lle defnyddir Ffurflen Gais, pan gyflwynir y Ffurflen Gais (a fydd yn cael ei fforffedu yn unol â chymal 7.3 os bydd y Cwsmer yn canslo). Bydd y Cwsmer yn talu'r balans sy'n weddill saith (7) diwrnod o leiaf cyn y Dyddiad Dechrau.
6.1 Gall y Cwsmer wneud cais ysgrifenedig i newid Archeb. Mater i Chwaraeon Cymru yn unig fydd penderfynu a fydd newid o’r fath yn cael ei dderbyn, a gall unrhyw newidiadau fod yn destun taliadau ychwanegol.
6.2 Os bydd y Cwsmer yn gofyn am ostyngiad i’r Gwasanaethau o dan Archeb (boed yn ymwneud â hyd neu Gyfleusterau gofynnol) neu ganslo Archeb o fewn wyth (8) wythnos i’r Dyddiad Dechrau, ymdrinnir â chais o’r fath yn unol â chymal 7 (Canslo).
6.3 Rhaid i Chwaraeon Cymru gytuno'n ysgrifenedig i unrhyw amrywiadau i nifer y mynychwyr o dan Archeb (yn unol â’i ddisgresiwn llwyr) a gall olygu costau ychwanegol.
7.1 Rhaid i bob achos o ganslo Archeb a wneir gan y Cwsmer fod yn ysgrifenedig a rhaid i Chwaraeon Cymru ei gydnabod.
7.2 Os bydd y Cwsmer yn canslo, bydd ffi ganslo yn ddyledus i Chwaraeon Cymru os na all Chwaraeon Cymru ailwerthu’r Gwasanaethau , fel y nodir isod:
7.2.1 pedair (4) wythnos o rybudd neu fwy cyn y Dyddiad Dechrau: dim tâl;
7.2.2 llai na phedair (4) wythnos o rybudd cyn y Dyddiad Dechrau:
Wyth deg y cant 80% o'r ffi am archebu cyfleuster / ystafell gyfarfod;
Dau ddeg pump y cant 25% o'r ffi am archebu llety.
7.2.3 cedwir cant y cant (100%) o’r ffi am y Gwasanaethau sydd heb eu gwerthu os yw’r Cwsmer yn canslo ar y Dyddiad Dechrau neu os nad yw’n mynychu’r Archeb heb roi rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw i Chwaraeon Cymru (fel sy’n ofynnol o dan Gymal 7.1).
8.1 Bydd Chwaraeon Cymru yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y Gwasanaethau’n cael eu darparu. Fodd bynnag, mae Chwaraeon Cymru yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw Wasanaethau heb rybudd ymlaen llaw ac ar unrhyw adeg pan mae Chwaraeon Cymru wedi’i atal rhag darparu’r Gwasanaethau oherwydd Amgylchiadau y Tu Hwnt i’n Rheolaeth (fel y disgrifir yng Nghymal 21) neu pan fyddwn yn credu ar sail resymol bod unrhyw ganslo yn angenrheidiol oherwydd amodau anaddas.
8.2 Mae Chwaraeon Cymru yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw Archeb heb rybudd ymlaen llaw ac ar unrhyw adeg pan na dderbynnir taliad llawn saith (7) diwrnod o leiaf cyn y Dyddiad Dechrau. Os bydd Chwaraeon Cymru yn canslo’r Archeb, bydd yn ofynnol i’r Cwsmer dalu’r holl symiau sy’n ddyledus i Chwaraeon Cymru ar unwaith.
8.3 Pan fydd Chwaraeon Cymru yn canslo’r Gwasanaethau cyn y Dyddiad Dechrau yn unol â chymal 8.1, cynigir yr opsiynau canlynol i chi:
8.3.1 ad-daliad llawn o unrhyw ffi a dalwyd; neu
8.3.2 archeb arall ar yr un dyddiad neu gyfres wahanol o ddyddiadau, yn amodol ar argaeledd.
8.4 Pan fydd Chwaraeon Cymru yn canslo’r Gwasanaeth ar ôl iddo ddechrau, cynigir yr opsiynau canlynol i chi:
8.4.1 ad-daliad rhannol i'w gyfrif a'i dalu ar sail pro-rata; neu
8.4.2 balans yr Archeb i'w ddarparu yn ddiweddarach, yn amodol ar argaeledd.
Bydd Chwaraeon Cymru yn gofyn i chi gadarnhau’r opsiwn rydych wedi ei ddewis ac efallai y bydd angen hyn yn ysgrifenedig. Bydd Chwaraeon Cymru yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod pob ad-daliad yn cael ei dalu o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn hysbysiad o’r fath gan y Cwsmer.
Tynnir sylw'r cwsmer yn benodol at ddarpariaethau'r amod hwn.
9.1 Rhaid i’r Cwsmer gydymffurfio â’r holl bolisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch, ac unrhyw gyfarwyddiadau eraill a roddir gan Chwaraeon Cymru a’i staff awdurdodedig priodol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â thân a gadael yr adeilad.
9.2 Mae’r Cwsmer yn gyfrifol am sicrhau ei fod ef ac unrhyw aelod arall o grŵp y Cwsmer (gan gynnwys gwylwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr) yn ymgyfarwyddo â rheoliadau tân Chwaraeon Cymru a lleoliad yr allanfa agosaf ac y byddant yn gadael yr adeilad ar unwaith mewn argyfwng. Mewn argyfwng, bydd larwm tân yn canu, a bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud. Mae canu'r larwm yn barhaus yn dangos bod angen gadael yr adeilad ar unwaith. Mae'r man ymgynnull o flaen yr adeilad lle bydd swyddog ar ddyletswydd i gael gwybod am unrhyw bersonél nad oes posib dod o hyd iddynt.
9.3 Mae capasiti uchafswm pob Cyfleuster wedi'i nodi'n glir yn y Ganolfan. Bydd y Cwsmer yn sicrhau na fydd mwy na’r capasiti mewn unrhyw Gyfleuster o dan unrhyw amgylchiadau.
9.4 Bydd y Cwsmer yn sicrhau bod yr holl offer y mae'r Cwsmer yn berchen arno neu'n ei ddarparu yn addas i'r diben, yn ddiogel, yn cydymffurfio â'r holl safonau perthnasol ac yn cael ei ddefnyddio mewn modd priodol.
9.5 Bydd y Cwsmer yn sicrhau bod unrhyw weithgareddau ar gyfer Plant / Oedolion Bregus yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Plant 1989 a 2004 a / neu Ddeddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006 ac mai dim ond unigolion addas a phriodol sydd wedi pasio archwiliadau priodol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a / neu archwiliadau recriwtio diogel sy’n cael mynediad at y plant / oedolion bregus. Lle bo hynny’n berthnasol, bydd y Cwsmer yn rhoi copi o’i Bolisi Diogelu i Chwaraeon Cymru ar gais.
9.6 Mewn ymateb i Covid-19, mae Chwaraeon Cymru wedi cyflwyno polisïau a mesurau gwarchodol ychwanegol y mae’n rhaid i’r Cwsmer gydymffurfio â hwy bob amser. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y canlynol:
9.6.1 dylid dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol lle bo angen. Mae hyn yn golygu cadw pellter o 2 fetr rhwng pobl (lle bo hynny’n bosibl);
9.6.2 gwisgo gorchudd wyneb bob amser (ac eithrio wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff neu pan mae eithriad) y tu mewn i unrhyw un o Gyfleusterau Chwaraeon Cymru ac ardaloedd cymunedol y Llety;
9.6.3 cadw at y systemau unffordd; a
9.6.4 golchi dwylo / defnyddio diheintydd dwylo yn rheolaidd.
Mae Chwaraeon Cymru yn cadw’r hawl i ddiwygio’r polisïau a’r gweithdrefnau hyn.
9.7 Mae Chwaraeon Cymru yn cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer yr unigolion sy’n defnyddio Cyfleuster yn unol â chanllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru o bryd i’w gilydd.
10.1 Rhaid i gwsmeriaid fod yn iach yn gyffredinol a rhaid iddynt fodloni eu hunain bod y gweithgaredd o fewn eu gallu.
Mae’r Cwsmer yn cydnabod bod elfen o risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 yn gysylltiedig ag unrhyw fath o gyfranogiad mewn gweithgaredd sy’n cynnwys unigolion eraill sy’n gweithio’n gymharol agos. Er y byddwn yn cadw’n gaeth at y protocolau iechyd a diogelwch ac yn dilyn holl argymhellion unrhyw asesiad risg i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19, mae'r Cwsmer yn cydnabod bod posibilrwydd o hyd y gall ddod i gysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol â COVID-19 ac mae'r Cwsmer yn cytuno'n rhydd ac yn fodlon i ddarparu'r Gwasanaethau yn y wybodaeth hon.
12.1 Bydd y Cwsmer yn sicrhau unrhyw geisiadau am y canlynol:-
12.1.1 bod estyniadau bar yn cael eu darparu i Chwaraeon Cymru chwe (6) i naw (9) wythnos cyn y Dyddiad Dechrau; a
12.1.2 bod y gofynion arlwyo’n cael eu darparu i Chwaraeon Cymru bedwar deg wyth (48) awr o leiaf cyn y Dyddiad Dechrau (cofiwch fod archebion isafswm yn berthnasol).
Dylid hysbysu Chwaraeon Cymru am unrhyw ofynion mynediad neu ddeiet arbennig sydd gan y Cwsmer wrth archebu. Bydd Chwaraeon Cymru yn gwneud pob ymdrech resymol i fodloni’r gofynion hyn.
Os yw’r Cwsmer yn dymuno mynegi canmoliaeth, codi pryder, neu wneud cwyn, dylai siarad â staff Chwaraeon Cymru sydd ar ddyletswydd ar y pryd. Mae ffurflenni sylwadau cwsmeriaid ar gael yn y dderbynfa. Fel arall, e-bostiwch gyfeiriad e-bost Chwaraeon Cymru: nationalcentre@sport.wales.
15.1 Mae’n ofynnol i’r Cwsmer ac unrhyw aelod arall o grŵp y Cwsmer (gan gynnwys gwylwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr) ystyried pobl eraill. Os yw’r Cwsmer neu unrhyw aelod o grŵp y Cwsmer, ym marn resymol Chwaraeon Cymru, yn ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi neu’n debygol o achosi perygl, gofid neu drallod i unrhyw drydydd parti neu ddifrod i eiddo neu darfu neu ymddwyn mewn unrhyw ffordd afreolus neu wrthgymdeithasol arall (“Ymddygiad Afreolus”), mae gan Chwaraeon Cymru hawl, heb rybudd ysgrifenedig ymlaen llaw, i derfynu defnydd y Cwsmer o’r Gwasanaethau. Bydd yn ofynnol i bobl o’r fath adael eiddo Chwaraeon Cymru yn brydlon ac ni fydd unrhyw ad-daliadau’n cael eu gwneud ac ni fydd Chwaraeon Cymru yn talu unrhyw dreuliau na chostau sy’n codi i’r Cwsmer o ganlyniad i’r terfynu.
15.2 Mae Chwaraeon Cymru yn gweithredu polisi dim goddefgarwch tuag at ddefnyddio sylweddau anghyfreithlon a elwir yn “gyffuriau penfeddwol cyfreithlon” neu fod â hwy yn eich meddiant. Mae defnydd o unrhyw un ohonynt gan Gwsmer, neu fod â hwy yn ei feddiant, yn cael ei ystyried yn Ymddygiad Afreolus o dan yr amod hwn, sef amod 15.
15.3 Bydd y Cwsmer yn atebol am unrhyw ddifrod neu golled a ddioddefir gan Chwaraeon Cymru o ganlyniad i Ymddygiad Afreolus y Cwsmer.
Tynnir sylw'r cwsmer yn benodol at ddarpariaethau'r amod hwn.
16.1 Mae’r amod hwn, sef Amod 16, yn nodi holl atebolrwydd ariannol Chwaraeon Cymru (gan gynnwys unrhyw atebolrwydd am weithredoedd neu hepgoriadau ei gyflogeion, ei asiantau a’i is-gontractwyr) i’r Cwsmer a / neu ei westai, ei gyflogeion, ei asiantau neu eraill, mewn perthynas â’r canlynol:
16.1.1 unrhyw achos o dorri'r Contract;
16.1.2 unrhyw ddefnydd a wneir gan y Cwsmer o'r Gwasanaethau;
16.1.3 unrhyw sylw, datganiad neu weithred neu hepgoriad camweddus (gan gynnwys esgeulustod) sy'n codi o dan neu mewn cysylltiad â'r Contract.
16.2 Mae'r holl warantau, yr amodau a’r telerau eraill a awgrymir gan statud neu gyfraith gwlad, i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, wedi'u heithrio o'r Contract.
16.3 Nid oes unrhyw beth yn yr Amodau hyn yn cyfyngu ar atebolrwydd Chwaraeon Cymru nac yn ei eithrio:
16.3.1 am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod gan Chwaraeon Cymru; neu
16.3.2 am unrhyw ddifrod neu atebolrwydd a achosir gan y Cwsmer o ganlyniad i dwyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus gan Chwaraeon Cymru.
16.4 Yn ddarostyngedig i amodau 16.3:
16.4.1 Ni fydd Chwaraeon Cymru yn atebol i'r Cwsmer (gan gynnwys ei westeion, ei gyflogeion, ei asiantau neu eraill) boed mewn camwedd (gan gynnwys am esgeulustod neu dorri dyletswydd statudol), contract, camgynrychiolaeth neu fel arall am: golli elw; colli busnes; disbyddu ewyllys da a / neu golledion tebyg; colli cynilion a ragwelwyd; colli nwyddau; colli contract; colli defnydd; colli llygredd data neu wybodaeth; neu unrhyw golled economaidd arbennig, anuniongyrchol, canlyniadol neu bur, costau, iawndal, taliadau neu dreuliau; a
16.4.2 bydd cyfanswm atebolrwydd Chwaraeon Cymru mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod neu dorri dyletswydd statudol), camgynrychiolaeth, adferiad neu fel arall yn codi mewn cysylltiad â pherfformiad neu berfformiad arfaethedig y Contract yn cael ei gyfyngu i'r pris a dalwyd gan y Cwsmer am y Gwasanaethau.
16.5 Mae eiddo personol sy'n perthyn i'r Cwsmer a / neu unrhyw aelod o'i grŵp (gan gynnwys gwylwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr) bob amser yn gyfrifoldeb y perchennog yn unig. Ni fydd Chwaraeon Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu ddifrod a achosir i eiddo personol y Cwsmer a / neu unrhyw aelod o’i grŵp, oni bai ac i’r graddau bod unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i esgeulustod Chwaraeon Cymru neu ei gynrychiolwyr.
16.6 Cynghorir y Cwsmer i yswirio rhag anafiadau neu golledion a geir wrth ddefnyddio'r Cyfleusterau yng Ngerddi Sophia a threfnu yswiriant meddygol addas.
16.7 Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd Chwaraeon Cymru yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan y Cwsmer neu unrhyw berson arall os ac i’r graddau y mae’n codi o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu weithred anghyfiawn ar ran y Cwsmer.
16.8 Bydd y Cwsmer yn indemnio ac yn cadw Chwaraeon Cymru wedi’i indemnio’n llawn rhag unrhyw atebolrwydd uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colled, iawndal, anaf, costau a threuliau a ddyfernir yn erbyn Chwaraeon Cymru neu a achosir ganddo o ganlyniad i unrhyw achos o dorri’r amodau hyn.
Bydd yr hawlfraint a’r holl hawliau eiddo deallusol eraill yn y cynhyrchion a’r gwasanaethau a ddangosir yn llyfrynnau’r Ganolfan, y wefan a deunyddiau eraill yn aros yn eiddo i Chwaraeon Cymru bob amser.
18.1 Gall ffotograffau neu glipiau fideo o Gwsmeriaid a dynnir gan neu ar ran Chwaraeon Cymru ymddangos yn Ein llyfrynnau a’n deunyddiau marchnata neu ar gyfryngau cymdeithasol. Os nad yw Cwsmer yn dymuno cael tynnu ei lun neu ei ffilmio neu os nad yw'n dymuno i ffotograffau neu glipiau fideo ohono gael eu defnyddio at y dibenion uchod, codwch y mater hwn gyda Chwaraeon Cymru cyn y Dyddiad Dechrau.
18.2 Ni fydd y Cwsmer yn rhoi unrhyw hawl i unrhyw drydydd parti ddarlledu (radio, teledu neu ryngrwyd) na ffilmio / ffotograffiaeth heb ganiatâd ysgrifenedig Chwaraeon Cymru ymlaen llaw. Os caiff hyn ei awdurdodi, mae Chwaraeon Cymru yn cadw’r hawl i gymryd rhan mewn trafodaethau, i fod yn rhan o unrhyw gytundeb o’r fath, ac i rannu unrhyw incwm a chyhoeddusrwydd er budd Chwaraeon Cymru.
Rhaid i’r Cwsmer sicrhau awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Chwaraeon Cymru ar gyfer unrhyw weithgaredd masnachol arfaethedig yn y Ganolfan, e.e. gwerthu nwyddau chwaraeon neu ar gyfer unrhyw drefniadau noddi sy'n ymwneud â chynhyrchion neu wasanaethau sydd ar gael yn y Ganolfan. Ni ddylai gweithgareddau masnachol wrthdaro ag unrhyw wasanaethau a ddarperir gan Chwaraeon Cymru e.e. arlwyo a gwerthu.
Dim ond fel y nodir yn ein polisi preifatrwydd fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Ni fydd Chwaraeon Cymru yn atebol i’r Cwsmer o dan y Contract os caiff ei atal neu ei ohirio rhag cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Contract neu rhag cynnal ei fusnes yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan unrhyw weithredoedd, digwyddiadau, hepgoriadau neu ddamweiniau y tu hwnt i’w reolaeth resymol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gweithred gan Dduw, rhyfel, goresgyniad, gwrthryfel, terfysg, cynnwrf sifil, anhrefn, difrod maleisus, tân, llifogydd, epidemig, cyfyngiad cwarantin (er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfnodau clo / cyfyngiadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i Covid-19), streiciau, cloi allan neu anghydfodau diwydiannol eraill (boed yn ymwneud â gweithlu Chwaraeon Cymru neu unrhyw barti arall), methiant gwasanaeth cyfleustodau neu rwydwaith trafnidiaeth, cydymffurfiaeth ag unrhyw gyfraith neu orchymyn llywodraethol, rheol, rheoliad neu gyfarwyddyd, damwain, peiriannau neu offer yn torri, tywydd anarferol o ddifrifol neu darfu ar gyflenwadau ynni neu ddiffyg ar ran cyflenwyr neu is-gontractwyr.
Ni fydd gan berson nad yw’n rhan o’r cytundeb hwn (ac eithrio (lle bo hynny’n berthnasol) unrhyw olynwyr ac aseiniadau a ganiateir) unrhyw hawliau oddi tano neu mewn cysylltiad ag ef yn rhinwedd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.
Mae Chwaraeon Cymru yn cadw’r hawl i hepgor unrhyw un neu bob un o’r Amodau.
24.1 Bydd y Contract, ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio ohono neu mewn cysylltiad ag ef neu ei destun, yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr fel mae’n berthnasol yng Nghymru.
24.2 Mae’r Cwsmer yn cytuno’n ddiwrthdro yr ymdrinnir ag unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n codi o’r Contract neu ei destun, neu mewn cysylltiad â hwy, dan awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.