Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch helpu chi i fanteisio ar bob cyfle i fwynhau'r offer a'r cyfleusterau rydyn ni'n eu cynnig. Gyda hyn mewn golwg, rydyn ni wedi ystyried yn ofalus yr hyn y gallwn ni ei ddisgwyl yn rhesymol gan ein gilydd.
Ein hymrwymiad ni i chi
- Byddwn yn parchu eich dewis personol ac yn caniatáu i chi wneud eich penderfyniadau eich hun ynghylch pa ymarfer corff y gallwch chi ei wneud. Er hynny, rydym yn gofyn i chi beidio ag ymarfer y tu hwnt i'r hyn rydych chi’n ei ystyried sydd o fewn eich galluoedd eich hun.
- Byddwn yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod ein hoffer a'n cyfleusterau yn lân ac yn ddiogel i chi eu defnyddio a'u mwynhau at y pwrpas arferol maen nhw wedi’u bwriadu ar ei gyfer. Cofiwch nad ydym yn gallu glanhau nac archwilio offer a chyfleusterau ar ôl pob defnydd.
- Os byddwch yn dweud wrthym fod gennych anabledd sy'n eich rhoi dan anfantais sylweddol o ran cael mynediad at ein hoffer a'n cyfleusterau, byddwn yn ystyried pa addasiadau, os o gwbl, sy’n rhesymol i ni eu gwneud.
Eich ymrwymiad chi i ni
- Peidiwch ag ymarfer y tu hwnt i'ch galluoedd eich hun. Os ydych chi'n gwybod neu'n poeni bod gennych chi gyflwr meddygol a allai amharu ar eich gallu i ymarfer yn ddiogel, dylech ofyn am gyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol perthnasol cyn defnyddio ein hoffer a'n cyfleusterau, a chadw at y cyngor hwnnw.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o unrhyw reolau a chyfarwyddiadau, gan gynnwys arwyddion rhybuddio, a chadw atyn nhw. Mae ymarfer corff yn cynnwys risgiau. Pan ydych chi'n gwneud ymarfer corff, chi sy'n gyfrifol am y risgiau cysylltiedig. Ni ddylech gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau os oes rhywun wedi dweud nad ydynt yn addas i chi.
- Rhowch wybod i ni ar unwaith os yw ein hoffer neu gyfleusterau yn beryglus i'w defnyddio neu os ydych chi'n teimlo'n sâl wrth ddefnyddio ein hoffer neu gyfleusterau. Nid yw ein haelodau o staff yn feddygon cymwys, ond bydd unigolyn sydd wedi'i hyfforddi mewn cymorth cyntaf ar gael. 4. Os oes gennych chi anabledd, dilynwch y cyfarwyddiadau sydd wedi’u darparu i sicrhau eich bod yn gallu ymarfer yn ddiogel.