Skip to main content

Rydym yn dymuno helpu ein partneriaid i ffynnu, gan alluogi cyfleoedd i bawb fanteisio ar chwaraeon mewn ffordd ddiogel a chynhwysol. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am lywodraethu, anfonwch e-bost at ein tîm, at governance@sport.wales

Dolenni defnyddiol  

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI)

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn rhan bwysig o lywodraethu. Dylech ei ymwreiddio yn eich sefydliad. Rydym wedi gweithio gyda chynghorau chwaraeon eraill y DU i ddatblygu fframwaith ‘Symud at Gynhwysiant’ er mwyn helpu. 

Mae’r fframwaith yn darparu adnoddau a chymorth ar gyfer ein holl bartneriaid, gan ein helpu i symud tuag at sector mwy amrywiol, mwy cynhwysol a mwy cyfrifol. 

Darganfod mwy am y fframwaith ar wefan Symud at Gynhwysiant

Cynnwys pobl trawsryweddol mewn chwaraeon domestig

Rydym wedi gweithio gyda chynghorau chwaraeon y DU i baratoi canllawiau am gynnwys pobl trawsryweddol mewn chwaraeon domestig. Rydym yn dymuno helpu chwaraeon i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut i fod mor gynhwysol ag y bo modd. 

Nod y canllaw yw cynorthwyo partneriaid a chyrff llywodraethu cenedlaethol i ddiffinio’r dewisiadau gorau ar gyfer eu gweithgarwch, gan annog ffyrdd o greu cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael i bawb. 

Darllenwch ganllaw ar gyfer cynnwys pobl trawsryweddol mewn chwaraeon domestig(PDF, 506 KB, 15 tudalen) cynghorau chwaraeon y DU. 

Academi Llywodraethu Chwaraeon

Mae gennym bartneriaeth gyda’r Academi Llywodraethu Chwaraeon (SGA). Maent yn helpu sefydliadau chwaraeon i ddatblygu trefniadau llywodraethu da ac yn darparu: 

  • adnoddau am ddim sy’n cynorthwyo pob maes o ran gweithgarwch llywodraethu 
  • rhwydwaith gweithredol o bobl sy’n wynebu heriau llywodraethu tebyg 
  • cyrsiau hyfforddiant ymarferol er mwyn datblygu capasiti yn eich sefydliad 

Darganfod mwy am SGA ar eu gwefan neu anfonwch e-bost atynt, at info@sportsgovernanceacademy.org.uk