Yn yr adran hon, gallwch ddarganfod mwy am ein partneriaid cenedlaethol a’r gwaith y maent yn ei wneud.
Nod y Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (BSA) yw sicrhau bod y sector campau dŵr yn fwy amrywiol. Trwy gyfrwng gweithgarwch ymgynghori, cymorth, ymchwil ac addysg, eu nod yw helpu pobl o dreftadaeth Affricanaidd, Garibïaidd ac Asiaidd i:
Maent yn cynorthwyo partneriaid trwy:
Gallwch gael gwybod mwy am BSA ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at contactus@thebsa.co.uk.
Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru (BGC Cymru) yn cynnwys clybiau ieuenctid ar hyd a lled y wlad. Maent yn cynnig y cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn amrediad o weithgareddau, gan gynnwys chwaraeon. Eu nod yw helpu pobl ifanc:
Maent yn gweithio gyda sefydliadau partner er mwyn cynnig:
Gallwch gael gwybod mwy am BGC Cymru ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at office@bgc.wales.
Mae ColegauCymru yn cynrychioli ac yn hyrwyddo’r sector addysg bellach (AB) yng Nghymru. Nod eu ‘cymorth actif’ ar gyfer colegau yw gwella lles dysgwyr, yn ogystal â chryfhau’r sector AB ehangach. Eu nod yw:
Maent yn gweithio gyda rhwydweithiau sector a grwpiau proffesiynol er mwyn:
Gallwch gael gwybod mwy am ColegauCymru ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at hello@collegeswales.ac.uk.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru (DSW) yn elusen sy’n helpu pobl anabl i gael budd o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan sicrhau bod pobl anabl yr un mor debygol o fwynhau gweithgarwch corfforol ag y mae pobl nad ydynt yn anabl. Eu nod yw:
Maent yn gweithio gyda chlybiau, cyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau eraill o’r sector cyhoeddus er mwyn:
Gallwch gael gwybod mwy am DSW ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at office@disabilitysportwales.com.
Mae Girlguiding Cymru yn darparu gwasanaethau ieuenctid mewn cymunedau ar draws Cymru, gan helpu merched 4 i 25 oed i feithrin eu sgiliau a’u lles. Eu nod yw helpu merched a menywod ifanc:
Maent yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff llywodraethu cenedlaethol er mwyn:
Gallwch gael gwybod mwy am GirlguidingCymru ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at waleshq@girlguidingcymru.org.uk.
Mae’r Sefydliad Sgiliau Arwain yn darparu cymwysterau a gwobrau arwain i filoedd o bobl ifanc yng Nghymru bob blwyddyn. Eu nod yw:
Maent yn cydweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a chyrff llywodraethu cenedlaethol er mwyn:
Gallwch gael gwybod mwy am y Sefydliad Sgiliau Arwain ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at contact@sportsleaders.org.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio ar draws Cymru i gynorthwyo pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored fel gweithgarwch gydol oes. Eu nod yw:
Maent yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol i:
Gallwch gael gwybod mwy am y Bartneriaeth Awyr Agored ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at info@outdoorpartnership.co.uk.
Sported yw’r rhwydwaith mwyaf o grwpiau chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad yng Nghymru, sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Mae’n cynorthwyo pobl leol sy’n rhedeg grwpiau ac yn creu newid cymdeithasol parhaus yn eu cymunedau. Eu nod yw:
Maent yn awyddus i gydweithio gyda sefydliadau a chyrff llywodraethu cenedlaethol er mwyn:
Gallwch gael gwybod mwy am Sported ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at info@sported.org.uk.
Mae StreetGames yn defnyddio chwaraeon i newid bywydau pobl ifanc mewn cymunedau incwm isel ac nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol. Eu nod yw:
Maent yn gweithio gyda phartneriaid cymunedol:
Gallwch gael gwybod mwy am StreetGames ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at info@streetgames.org.
Mae UDOIT! yn defnyddio dawnsio stryd i ysbrydoli ac ymgysylltu â phobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig neu lai actif. Mae’n eu helpu i feithrin hyder a chysylltu â’u cymunedau. Eu nod yw:
Maent yn gweithio gyda sefydliadau ac awdurdodau lleol:
Gallwch gael gwybod mwy am UDOIT! ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at info@udoitdance.co.uk.
Yr Urdd yw’r mudiad ieuenctid Cymraeg mwyaf. Maent yn darparu profiadau chwaraeon, celfyddydol a phreswyl i bobl ifanc. Eu nod yw:
Maent yn gweithio gyda chlybiau a sefydliadau:
Gallwch gael gwybod mwy am yr Urdd ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at chwaraeon@urdd.org.
Mae Sport Diversity Cymru yn dwyn cymunedau ar draws Cymru ynghyd i drawsnewid chwaraeon, gan gryfhau cymunedau ethnig amrywiol trwy gyfrwng chwaraeon er mwyn cael dyfodol mwy cynhwysol. Eu nod yw:
Maent yn cefnogi cyrff llywodraethu cenedlaethol, clybiau a phartneriaethau chwaraeon trwy rannu sut i:
Gallwch gael gwybod mwy am Sport Diversity Cymru ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt at Rajma Begum, at rbegum@wcva.cymru.
Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) yw’r corff aelodaeth annibynnol ar gyfer y sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru. Eu nod yw:
Maent yn cynorthwyo partneriaid trwy:
Gallwch gael gwybod mwy am WSA ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost at Andrew Howard, at andrew.howard@wsa.wales.
Mae’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid yn elusen sy’n cynorthwyo addysgwyr a phobl ifanc ar draws Cymru, gan ddefnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i wella lles, hyder a sgiliau arwain. Eu nod yw:
Maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu cenedlaethol a grwpiau addysg i:
Gallwch gael gwybod mwy am yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at info@youthsporttrust.org.