Skip to main content

Law yn llaw â'n partneriaid sy’n gyrff llywodraethu cenedlaethol, partneriaid cenedlaethol a phartneriaethau chwaraeon rhanbarthol, rydym hefyd yn buddsoddi mewn partneriaid eraill yn y sector. Mae’r sefydliadau hyn yn gweithio ledled Cymru a’r DU, gan gyfrannu at system chwaraeon sy’n ffynnu. 

Yn yr adran hon, gallwch ddarganfod mwy am ein partneriaid sector a’r gwaith a wnânt. 

CIMSPA

CIMSPA yw’r Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol. Nhw yw’r corff datblygu proffesiynol ar gyfer y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y DU. Eu nod yw: 

  • siapio sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol cydnabyddedig a chynhwysol, a gaiff ei werthfawrogi 
  • cynorthwyo a datblygu unigolion proffesiynol ym myd chwaraeon 
  • amlygu effaith y gweithlu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar y DU 

Darganfod mwy am CIMSPA ar eu gwefan neu anfonwch e-bost atynt, at info@cimspa.co.uk.  

Gemau’r Gymanwlad Cymru

Gemau’r Gymanwlad Cymru (CGW) yw’r corff arweiniol dros chwaraeon y Gymanwlad yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am ddethol, paratoi ac arwain Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Eu nod yw: 

  • darparu'r tîm gorau y mae modd ei baratoi 
  • creu amgylchedd ysbrydoledig a chynnig arweinyddiaeth gadarn 
  • uno'r Gymanwlad trwy gyfrwng chwaraeon 

Darganfod mwy am CGW ar eu gwefan neu anfonwch e-bost at Eleonora Caksa, at eleonora.caksa@teamwales.cymru

SportsAid Cymru Wales

Mae SportsAid Cymru Wales yn darparu cyllid, anogaeth a chydnabyddiaeth i athletwyr ifanc o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a chwaraeon yng Nghymru. Eu nod yw: 

  • lleddfu'r rhwystrau ariannol ar gyfer pobl ifanc talentog ym maes chwaraeon 
  • annog perfformiad ac ymrwymiad 
  • helpu i droi athletwyr heddiw yn bencampwyr yfory 

Darganfod mwy am SportsAid Cymru Wales ar eu gwefan neu anfonwch e-bost atynt, at sportsaidwales@googlemail.com 

Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru

Mae Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS) yn cydweithio gyda phartneriaid academaidd ac yn y diwydiant. Mae eu hymchwil yn archwilio iechyd a lles, datblygiad ac amgylcheddau athletwyr. Eu nod yw: 

  • defnyddio gwyddoniaeth yn well ym maes chwaraeon yng Nghymru 
  • datblygu gwyddor chwaraeon yng Nghymru a hyfforddi gwyddonwyr chwaraeon y dyfodol 
  • cynyddu'r cydweithio rhwng chwaraeon, y byd academaidd a byd busnes yng Nghymru 

Darganfod mwy am WIPS ar eu gwefan neu anfonwch e-bost atynt, at wips@swansea.ac.uk

Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru

Mae Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) yn cydweithio gydag academyddion, llunwyr polisi, y cyhoedd ac eraill, gan ymchwilio i iechyd a lles cenedlaethol. Eu nod yw: 

  • cyfuno gwahanol feysydd ymchwil er mwyn creu dirnadaeth ystyrlon 
  • trosi gwaith ymchwil at ddefnydd ymarferol 
  • gwella iechyd a lles y boblogaeth 

Darganfod mwy am WIPAHS ar eu gwefan neu anfonwch e-bost atynt, at wipahs@swansea.ac.uk