Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Y Weledigaeth yw’r llwyfan ar gyfer ymgysylltu traws-sector mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mae’n ceisio trawsnewid Cymru yn genedl actif, lle gall pawb fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol am oes.
Cafodd y weledigaeth ei llunio ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid ac mae’n cynrychioli llais pobl Cymru. Bydd ymdrech gydweithredol i weithio tuag at y Weledigaeth yn cyflawni’r canlynol:
Mae’r Adroddiad Cyflwr y Genedl yn edrych ar ganfyddiadau’r adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021-2022.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC) yn arolwg o sampl ar hap o aelwydydd o oedolion(16 oed a hŷn) o bob rhan o Gymru. Gweithredir yr arolwg hwn gan Lywodraeth Cymru ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Cyn 2016, roedd Chwaraeon Cymru yn cynnal arolwg annibynnol o’r enw ‘Yr Arolwg Oedolion Actif’. Ers hynny, mae arolygon cyrff cyhoeddus ar raddfa fawr wedi’u dwyn ynghyd i wella effeithlonrwydd wrth gasglu data ledled Cymru, gan ffurfio Arolwg Cenedlaethol Cymru fel y mae heddiw. O ganlyniad, mae cwestiynau arolwg Chwaraeon Cymru wedi’u hymgorffori bellach yn ACC, ac maent yn cael eu galw yn adran ‘Chwaraeon a Ffordd o Fyw Actif’ yr arolwg.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg parhaus, gyda data’n cael eu casglu’n barhaus drwy gydol y flwyddyn er mwyn osgoi rhagfarn dymhorol o fewn y canlyniadau.
Bob Gwanwyn, mae cylch newydd yn dechrau, a dadansoddir data o'r 12 mis blaenorol i gynhyrchu crynodeb blynyddol o ymddygiad ymhlith oedolion yng Nghymru. Wedyn caiff y data eu pwysoli i gynrychioli nodweddion y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru, sef tua 2.5 miliwn o oedolion. Cyhoeddir y prif ganlyniadau gan Lywodraeth Cymru yn ystod misoedd yr haf.
Mae’r prif ganfyddiadau a gwybodaeth gefndir ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Arolwg Cenedlaethol Cymru | LLYW.CYMRU.
Oherwydd y gwahaniaethau yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd, ni ddylid cymharu canlyniadau adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22 yn uniongyrchol â chanlyniadau blaenorol Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Addaswyd cylch arolygu 2020-21 ar gyfer ei ddefnyddio oherwydd pandemig COVID-19 ac, felly, ni ellid cynnwys yr adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif gan fod y cwestiynau gwreiddiol wedi'u cynllunio i'w gofyn wyneb yn wyneb drwy ddefnyddio cardiau arddangos. Yn ystod y cyfnod hwn, cwblhawyd gwaith ar addasu a threialu’r cwestiynau gwreiddiol, yn barod i’w cynnwys yn arolwg 2021-22.
Ar gyfer yr Adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif, roedd y newidiadau yn cynnwys y canlynol:
Mae’r newidiadau hyn wedi arwain at doriad yn y data tueddiadau rhwng 2019-20 a 2021-22. Yn eu tro, dylai’r cymariaethau dros amser fod yn gyfyngedig, a dylid eu trin yn ddoeth.
Fodd bynnag, er bod y newidiadau methodolegol diweddar yn effeithio ar gymariaethau â data blaenorol, ystyrir bod y fethodoleg newydd yn rhoi adlewyrchiad cywir o gyfranogiad a galw mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru.
Dylid nodi y bydd adegau drwy gydol yr adroddiad lle gall cyfansymiau’r tablau amrywio er gwaethaf adrodd ar yr un pwnc. Gall hyn ddigwydd pan fydd ymatebion sy’n cael eu dosbarthu fel data coll, er enghraifft, ymateb ‘ddim yn gwybod’. Enghraifft arall o ble gallai hyn ddigwydd yw pan ofynnir cwestiwn penodol i is-sampl cynrychioliadol o'r arolwg.
Mae’r canrannau wedi'u talgrynnu i'r ganran agosaf, a phoblogaeth y mil agosaf. Mae'r gwahaniaethau rhwng pwyntiau data a'u grwpiau poblogaeth cysylltiedig wedi cael eu hamlygu drwy gydol yr adroddiad. Mae'r gwahaniaethau hyn yn ystadegol arwyddocaol, oni nodir yn wahanol.
Y weledigaeth yw creu cenedl actif gyda chymaint o bobl â phosibl wedi’u hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad cyffredinol ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru.
Mae'r ffigurau hyn yn ein galluogi i edrych ar y cynnydd tuag at y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.
Ar draws y 2.5 miliwn o oedolion yng Nghymru, cymerodd 1,405,000 ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, sef 56% o’r holl edolion.
Mae’r adroddiad hwn yn categoreiddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ‘Weithgareddau Ffitrwydd’, ‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’. Ymhlith yr oedolion, cymerodd 51% (1,295,000 o bobl) ran mewn o leiaf un ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, cymerodd 14% (343,000 o bobl) ran mewn o leiaf un ‘Chwaraeon a Gemau’, a chymerodd 6% (145,000 o bobl) ran mewn o leiaf un ‘Gweithgaredd Awyr Agored' yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
Cymerodd 34% o oedolion ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystod y pedair wythnos flaenorol (Dangosydd Cenedlaethau’r Dyfodol Rhif 38). I’r gwrthwyneb, cymerodd 50% o oedolion ran mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol lai nag unwaith yr wythnos, neu ddim o gwbl, yn ystod y pedair wythnos flaenorol (Graff 1).
Graff 1: Amledd Cenedlaethol Cyfranogiad Oedolion yn yr holl Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol.
Disgrifiad amgen: Graff gyda phedwar bar fertigol. Y bar uchaf ar 50 y cant, yn dynodi amledd cyfranogiad o lai nag unwaith yr wythnos. Y tri bar arall ar 8%, 9% a 34%, yn cynrychioli 1 waith yr wythnos, 2 waith yr wythnos, a thair gwaith neu fwy yr wythnos yn y drefn honno.
Graff 2: Amledd Cyfranogiad Oedolion yn ôl Math o Weithgaredd.
Disgrifiad amgen: Mae'r graff wedi'i rannu'n bedwar categori amledd cyfranogiad: llai nag unwaith yr wythnos, unwaith yr wythnos, dwywaith yr wythnos, a thair gwaith neu fwy yr wythnos. Mae pob categori’n cymharu Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored. Gweithgareddau Ffitrwydd sy'n dangos y cyfranogiad mwyaf rheolaidd, gyda 59% yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos. Mewn cyferbyniad, mae'r cyfranogiad uchaf ar gyfer Chwaraeon a Gemau (35%) a Gweithgareddau Awyr Agored (61%) yn digwydd lai nag unwaith.
Yr oedolion a gymerodd ran mewn ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’ oedd fwyaf tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd deirgwaith neu fwy yr wythnos, gydag oedolion a gymerodd ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ neu ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgarwch lai nag unwaith yr wythnos, gan ddangos bod Gweithgareddau Ffitrwydd yn fwy tebygol o gael eu cyflawni sawl gwaith yr wythnos, ond nid felly’r gweithgareddau eraill
Mae Graff 2 yn dangos amledd cyfranogiad yr oedolion mewn pob math o weithgareddau yn eang.
Mae'r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn gweld eu hunain fel rhai medrus mewn chwaraeon i'r rhai sy'n ennill medalau.
Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl daearyddiaeth a grwpiau demograffig yng Nghymru. Mae’r ffigurau hyn yn helpu i edrych ar y tebygrwydd neu’r gwahaniaethau rhwng y grwpiau hyn i sicrhau bod manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyrraedd pawb ledled Cymru.
Tabl 1: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol**, a Dwysedd Poblogaeth.
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol | ||
| Gogledd Cymru | 58% | 319,000 |
| Canolbarth Cymru | 52% | 86,000 |
| Gorllewin Cymru | 52% | 299,000 |
| Canolbarth y De | 58% | 436,000 |
| Gwent | 56% | 265,000 |
| Dwysedd Poblogaeth | ||
| Trefol | 56% | |
| Gwledig | 55% | |
| Cyfanswm Cymru | 56% | 1,405,000 |
Mae Tabl 1 yn dangos nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol (PChRh), ac yn ôl ardaloedd gwledig a threfol.
Yn 2021-22, Gogledd Cymru a Chanolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn o leiaf un gamp / gweithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol (58%). Yng Nghanolbarth y De, roedd y gyfran hon yn cynrychioli 436,000 o oedolion – y ffigur uchaf a adroddwyd ar gyfer ‘Unrhyw Gyfranogiad’ yn 2021-22.
Roedd y ffigurau ar gyfer Gogledd Cymru a Chanolbarth y De yn uwch na’r ffigurau ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd ffigurau Gwent yn debyg i'r cyfartaledd cenedlaethol.
Yn ogystal, er bod nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn ardaloedd Trefol tua dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd Gwledig, roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn Ardaloedd Trefol a Gwledig yn debyg, gyda gwahaniaeth o ddim ond 1 pwynt canran.
Tabl 2: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD):
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | ||
| C1 (20% mwyaf difreintiedig) | 43% | 173,000 |
| C2 | 51% | 239,000 |
| C3 | 56% | 291,000 |
| C4 | 59% | 326,000 |
| C5 (20% lleiaf difreintiedig) | 66% | 377,000 |
| Cyfanswm Cymru | 56% | 1,405,000 |
Mae Tabl 2 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn unrhyw chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn erbyn ei gilydd.
Roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn unrhyw chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn sylweddol is ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (C1) yng Nghymru. Roedd gwahaniaeth o 23 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hwn yn wahaniaeth o tua 204,000 o oedolion.
Tabl 3: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, a Dwysedd Poblogaeth
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol | ||
| Gogledd Cymru | 35% | 191,000 |
| Canolbarth Cymru | 30% | 50,000 |
| Gorllewin Cymru | 32% | 181,000 |
| Canolbarth y De | 36% | 266,000 |
| Gwent | 33% | 155,000 |
| Dwysedd Poblogaeth | ||
| Trefol | 34% | 563,000 |
| Gwledig | 33% | 281,000 |
| Cyfanswm Cymru | 34% | 843,000 |
Mae Tabl 3 yn edrych ar nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, ac yn ôl ardaloedd gwledig a threfol.
Yn 2021-22, Canolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos (36%), sy’n cyfateb i 266,000 o oedolion.
Gogledd Cymru a Chanolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, gyda’r ffigurau a adroddwyd ar draws Gwent, Gorllewin Cymru a Chanolbarth Cymru yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Fodd bynnag, nid oedd y gwahaniaethau yn y ffigurau rhwng y rhanbarthau yn ystadegol arwyddocaol.
Yn ogystal, er bod nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn ardaloedd Trefol tua dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd Gwledig, roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn Ardaloedd Trefol a Gwledig yn debyg, gyda gwahaniaeth o ddim ond 1 pwynt canran.
Tabl 4: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | ||
| C1 (20% mwyaf difreintiedig) | 25% | 101,000 |
| C2 | 29% | 135,000 |
| C3 | 33% | 170,000 |
| C4 | 36% | 201,000 |
| C5 (20% lleiaf difreintiedig) | 42% | 236,000 |
| Cyfanswm Cymru | 34% | 844,000 |
Mae Tabl 4 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn erbyn ei gilydd.
Roedd cyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (h.y., C1 a C2).
Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a oedd yn byw yng Nghwintel 3, Cwintel 4 a Chwintel 5 (lleiaf difreintiedig).
Roedd gwahaniaeth o 17 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hwn yn wahaniaeth o 135,000 o oedolion.
Tabl 5: Cyfranogiad mewn o leiaf un Gamp neu Weithgaredd Corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg.
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Rhyw: | ||
| Benywod | 52% | 659,000 |
| Gwrywod | 61% | 745,000 |
| Ethnigrwydd: | ||
| Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati) | 56% | 1,295,000 |
| Gwyn – Arall | 61% | 39,000 |
| Unrhyw Grŵp Ethnig arall | 63% | 70,000 |
| Salwch, Anabledd neu Lesgedd | ||
| Â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 42% | 486,000 |
| Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 68% | 916,000 |
| Amddifadedd | ||
| Byw mewn amddifadedd materol | 37% | 106,000 |
| Ddim yn byw mewn amddifadedd materol | 58% | 1,299,000 |
| Yr Iaith Gymraeg | ||
| Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36) | 63% | 183,000 |
| Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd | 55% | 1,222,000 |
| Cyfanswm Cymru5 | 56% | 1,405,000 |
Mae Tabl 5 yn cyflwyno data cyfranogiad yn ôl gwahanol grwpiau demograffig yng Nghymru.
Yn 2021-22, roedd benywod yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â Gwrywod, gyda gwahaniaeth o 11 pwynt canran.
Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, roedd y rhai o ‘Gwyn – Arall’, ac ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y 4 wythnos flaenorol.
Roedd yr oedolion a ddywedodd bod ganddynt salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai hebddynt, gyda gwahaniaeth o 26 pwynt canran.
Roedd yr oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol gryn dipyn yn llai tebygol hefyd o nodi eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol, gyda gwahaniaeth o 21 pwynt canran.
Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran sylweddol uwch eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 8 pwynt canran.
Tabl 6: Cyfranogiad mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Rhyw: | ||
| Benywod | 30% | 380,000 |
| Gwrywod | 38% | 463,000 |
| Ethnigrwydd: | ||
| Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati) | 33% | 779,000 |
| Gwyn – Arall | 36% | 23,000 |
| Unrhyw Grŵp Ethnig arall | 38% | 42,000 |
| Salwch, Anabledd neu Lesgedd | ||
| Â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 25% | 289,000 |
| Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 41% | 552,000 |
| Amddifadedd | ||
| Byw mewn amddifadedd materol | 19% | 54,000 |
| Ddim yn byw mewn amddifadedd materol | 36% | 790,000 |
| Yr Iaith Gymraeg | ||
| Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36) | 40% | 116,000 |
| Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd | 33% | 727,000 |
| Cyfanswm Cymru | 34% | 844,000 |
Mae Tabl 6 yn dangos bod Benywod, yn 2021-22, yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â Gwrywod, gyda gwahaniaeth o 9 pwynt canran.
Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, roedd y rhai o ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol, o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Gwyn Prydeinig’. Fodd bynnag, nid oedd y gwahaniaethau hyn yn ystadegol arwyddocaol, ac felly dylid eu trin fel rhai tebyg ar draws y grwpiau.
Roedd yr oedolion a oedd yn adrodd am salwch hirsefydlog, anabledd neu lesgedd yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai hebddynt, gyda gwahaniaeth o 16 pwynt canran.
Roedd yr oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol gryn dipyn yn llai tebygol hefyd o adrodd eu bod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, gyda gwahaniaeth o 17 pwynt canran.
Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran uwch o oedolion eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 7 pwynt canran.
Mae'r weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd.
Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl Oedran, ynghyd â ffactorau bywyd ychwanegol a all effeithio ar wahanol bobl yn ystod gwahanol gyfnodau o’u bywyd.
Graff 3: Cyfranogiad mewn o leiaf un Gamp neu Weithgaredd Corfforol yn ystod y Pedair Wythnos Flaenorol, yn ôl Grwpiau Oedran.
Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos saith bar fertigol yn ôl grŵp oedran. Mae’r cyfranogiad ar ei uchaf ymhlith pobl 16–24 oed, sef 73%, ac wedyn 25–34 (70%), 35–44 (69%), 45–54 (63%), 55–64 (53%), 65–74 (41%), a'r rhai 75 oed a hŷn (17%). Mae llinell lorweddol yn dynodi’r gyfradd cyfranogiad gyfartalog genedlaethol o 56%.
Mae Graff 3 yn dangos cyfran yr oedolion ym mhob grŵp oedran a gymerodd ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Gostyngodd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol wrth i’r oedran gynyddu. Cymerodd cyfran uwch o oedolion 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, a 45 i 54 oed ran o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (56%), ac i grwpiau oedran hŷn. I’r gwrthwyneb, cymerodd cyfran is o oedolion ran o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol ymhlith y rhai 55 i 64 oed, 65 i 74 oed, a 75+ oed o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (56%), ac i grwpiau oedran iau. 18
Graff 4: Cyfranogiad mewn Chwaraeon a / neu Weithgarwch Corfforol Deirgwaith neu Fwy yr Wythnos, yn ôl Grwpiau Oedran.
Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos saith bar fertigol yn ôl grŵp oedran, yn dynodi’r cyfranogiad mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r cyfranogiad ar ei uchaf, sef 42%, ymhlith oedolion 16–24, 25–34, a 35–44 oed. Wedyn mae'r cyfraddau'n gostwng gydag oedran i 38% ar gyfer pobl 45–54 oed, 32% ar gyfer 55–64, 24% ar gyfer 65–74, a 9% ar gyfer y rhai 75 oed a hŷn. Mae llinell lorweddol yn dynodi'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 34%.
Roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn hafal rhwng y rhai 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, a 35 i 44 oed. Wrth i oedran gynyddu y tu hwnt i 45 oed, gostyngodd cyfran yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos. Cymerodd cyfran uwch o oedolion ran deirgwaith neu fwy ymhlith y rhai 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, a 45 i 54 oed o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (34%), ac i oedolion 55 i 64 oed, 65 i 74 oed a 75+ oed. Roedd y rhai 55 i 64 oed yn ystadegol debyg i’r cyfartaledd cenedlaethol (34%) ac yn llai tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â grwpiau oedran iau.
Tabl 7: Nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl ymatebion i gwestiynau iechyd a lles.
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Iechyd Cyffredinol | ||
| Da iawn neu dda | 40% | 733,000 |
| Gweddol | 20% | 97,000 |
| Gwael neu wael iawn | 7% | 14,000 |
| Unigrwydd | ||
| Ddim yn unig | 36% | 262,000 |
| Unig weithiau | 34% | 498,000 |
| Unig | 26% | 84,000 |
| Boddhad gyda bywyd | ||
| Mawr iawn | 37% | 299,000 |
| Mawr | 35% | 432,000 |
| Canolig | 26% | 90,000 |
| Isel | 17% | 22,000 |
| Hapusrwydd Cyffredinol | ||
| Mawr iawn | 36% | 347,000 |
| Mawr | 35% | 347,000 |
| Canolig | 30% | 106,000 |
| Isel | 22% | 43,000 |
| Gorbryder Cyffredinol | ||
| Isel iawn | 34% | 367,000 |
| Isel | 36% | 181,000 |
| Canolig | 33% | 128,000 |
| Mawr | 33% | 166,000 |
| Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil | ||
| Mawr iawn | 37% | 357,000 |
| Mawr | 34% | 389,000 |
| Canolig | 27% | 80,000 |
| Isel | 13% | 14,000 |
| Ag ymdeimlad o gymuned (perthyn; gwahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu, trin gyda pharch) | ||
| Oes | 34% | 526,000 |
| Nac oes | 34% | 275,000 |
| Cyfanswm Cymru | 34% | 844,000 |
Mae Tabl 7 yn dangos sut ymatebodd pobl a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos i gwestiynau iechyd a lles a hunanadroddir.
Roedd y rhai a ddywedodd bod eu hiechyd cyffredinol yn ‘Dda Iawn neu’n Dda’ yn fwy tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos na’r rhai a nododd bod eu hiechyd yn ‘Gweddol’ neu ‘Drwg neu wael iawn’. I’r gwrthwyneb, roedd 93% (194,000) o oedolion ag iechyd ‘Drwg neu Wael Iawn’ yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai na thair gwaith yr wythnos.
Yn yr un modd, roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn cael boddhad cyffredinol ‘Mawr iawn’ neu ‘Mawr’ â bywyd, ochr yn ochr â’r rhai a nododd hapusrwydd cyffredinol ‘Mawr iawn’ neu ‘Mawr’, yn fwy tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a ddywedodd Boddhad bywyd a hapusrwydd cyffredinol 'Canolig' neu 'Isel'. Yn eu tro, roedd 78% (149,000) o oedolion a nododd hapusrwydd ‘Isel’, ac 83% (107,000) o oedolion a ddywedodd bod eu boddhad mewn bywyd yn ‘Isel’, yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai na theirgwaith yr wythnos.
Ymhellach, roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Unig’ yn llai tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Unig Weithiau’ neu ‘Ddim yn Unig’. Yn eu tro, roedd 74% (236,000) o oedolion a ddywedodd eu bod yn ‘Unig’ yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai na theirgwaith yr wythnos.
Roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystadegol debyg ar draws y gwahanol lefelau o orbryder a hunanadroddir.
Ymhellach, nid oedd unrhyw wahaniaeth yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos rhwng y rhai a ddywedodd bod ganddynt ymdeimlad o berthyn i’w cymuned a'r rhai a ddywedodd nad oedd ganddynt ymdeimlad o’r fath.
Tabl 8: Nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Statws Cyflogaeth ac Addysg.
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Cyflogaeth | ||
| Mewn cyflogaeth | 42% | 594,000 |
| Di-waith | 26% | 15,000 |
| Economaidd anweithgar | 23% | 234,000 |
| Cymhwyster Uchaf a Sicrhawyd | ||
| Lefel Gradd | 44% | 350,000 |
| HNC, HND, BTEC Uwch, neu gyfatebol | 38% | 132,000 |
| Safon Uwch neu Uwch Gyfrannol neu gyfatebol | 40% | 117,000 |
| Prentisiaeth | 30% | 25,000 |
| Graddau Lefel O / TGAU A i C, neu gyfatebol | 30% | 107,000 |
| Graddau Lefel O / TGAU D i G, neu gyfatebol | 23% | 21,000 |
| Cymwysterau eraill | 24% | 59,000 |
| Dim cymwysterau | 11% | 31,000 |
| Cyfanswm Cymru | 34% | 844,000 |
Mae Tabl 8 yn dangos sut adroddodd pobl a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos ar eu cyflogaeth a’u cymhwyster addysg uchaf.
Roedd y rhai mewn cyflogaeth yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar.
Roedd y rhai a adroddodd eu bod wedi ennill Gradd, Safon Uwch / Uwch Gyfrannol, neu HNC / HND / BTEC Uwch (neu gyfatebol) yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai yr oedd eu cyrhaeddiad uchaf yn Brentisiaeth, TGAU / Lefel O neu Arall. Y rhai nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau oedd leiaf tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Graff 5: Canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl fforddiadwyedd bwyd.
Disgrifiad amgen: Graff gyda phedwar bar llorweddol. Y bar uchaf ar 34 y cant, yn dynodi amledd y cyfranogiad o dair gwaith neu fwy yr wythnos ar gyfer y rhai a gafodd bryd o fwyd gyda chig neu bryd bwyd llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf. Y bariau eraill ar 30, 28, a 25 y cant. Mae'r rhain yn cynrychioli'r rhai a gafodd brydau llai neu wnaeth hepgor prydau bwyd, y rhai oedd wedi derbyn bwyd o fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd diffyg arian, a'r rhai oedd wedi cael o leiaf un diwrnod yn ystod y pythefnos diwethaf pan nad oeddent wedi cael pryd bwyd sylweddol, yn y drefn honno.
Mae Graff 5 yn cyflwyno cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl cwestiynau fforddiadwyedd bwyd.
Roedd y rhai a brofodd un diwrnod neu fwy yn ystod y pythefnos diwethaf heb unrhyw brydau bwyd sylweddol yn llai tebygol o gymryd rhan mor aml â hyn, o gymharu â'r rhai a oedd wedi cael pryd o fwyd gydag opsiwn cig / llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf.
Graff 6: Canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Sefyllfa Byw.
Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos tri bar llorweddol yn ôl deiliadaeth tai. Mae’r cyfranogiad mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos ar ei uchaf ymhlith perchnogion-feddianwyr (36%), ac wedyn rhentwyr preifat (34%), ac ar ei isaf ymhlith y rhai mewn tai cymdeithasol (19%).
Fel y dangosir yng Ngraff 6, roedd y rhai a oedd yn rhentu’n breifat neu’n byw mewn eiddo yr oeddent yn berchen arno yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol.
Roedd canran yr oedolion a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol ac yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos (19%) yn sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol (34%).
Graff 7: Canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl mynediad i gerbyd.
Alt description: Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos dau far llorweddol sy'n cymharu cyfranogiad mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl defnydd o gerbyd. Mae’r cyfranogiad yn uwch ymhlith oedolion sydd â char neu fan ar gael (36%) nag ymhlith y rhai heb ddefnydd o gerbyd (19%).
Fel y dangosir yng Ngraff 7, roedd y rhai sydd â defnydd o gar neu fan yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Roedd canran yr oedolion nad oedd ganddynt gar neu fan ac a oedd yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos yn sylweddol is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 34%.
Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol, fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon a gweithgarwch.
Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar edrych ar y ‘Galw’ a’r ‘Galw Heb ei Fodloni’ am chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion. Mae'r ffigurau hyn yn dangos lle mae gan weithgareddau y potensial i gynyddu ac, yn ei dro, darparu mwy o gyfleoedd i oedolion eu mwynhau.
Mae oedolion â ‘Galw’ yn cyfeirio at y rhai a ddywedodd eu bod eisiau gwneud mwy o chwaraeon a / neu weithgarwch. Efallai bod yr oedolion hyn eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol.
Ar draws y 2.5 miliwn o oedolion yng Nghymru, dywedodd 773,000 bod ganddynt alw i gymryd rhan mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol, sef 31% o’r holl oedolion.
Graff 8: Cyfran yr oedolion sydd â galw am o leiaf un math o weithgaredd
Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos tri bar fertigol sy'n cynrychioli'r galw am wahanol fathau o weithgarwch. Mae'r galw uchaf am Weithgareddau Ffitrwydd ar 20%, ac wedyn Chwaraeon a Gemau sef 10%, a Gweithgareddau Awyr Agored ar 5%.
Ar draws y categorïau gweithgarwch eang, roedd gan 20% (500,000 o bobl) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, roedd gan 10% (260,000 o bobl) alw am o leiaf un gweithgaredd ‘Chwaraeon a / neu Gêm’, ac roedd gan 5% (123,000 o bobl) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Awyr Agored’.
Mae hyn yn cyfateb i tua 1 miliwn o gyfleoedd ychwanegol ar gyfer cyfranogiad ar draws y boblogaeth o oedolion.
Tabl 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o weithgarwch, yn ôl amledd y cyfranogiad.
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos | 43% | 328,000 |
| Wedi cymryd rhan 2 waith yr wythnos | 10% | 79,000 |
| Wedi cymryd rhan 1 waith yr wythnos | 11% | 82,000 |
| Wedi cymryd rhan llai nag unwaith yr wythnos | 37% | 281,000 |
Ymhlith oedolion sydd â galw am chwaraeon, cymerodd 43% ran, ar gyfartaledd, deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystod y pedair wythnos flaenorol. I'r gwrthwyneb, roedd 37% o oedolion oedd â galw wedi cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos ar gyfartaledd, neu ddim o gwbl, yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
Tabl 10: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol | ||
| Gogledd Cymru | 30% | 165,000 |
| Canolbarth Cymru | 33% | 55,000 |
| Gorllewin Cymru | 27% | 156,000 |
| Canolbarth y De | 35% | 265,000 |
| Gwent | 28% | 132,000 |
| Dwysedd Poblogaeth | ||
| Trefol | 32% | 529,000 |
| Gwledig | 29% | 244,000 |
| Cyfanswm Cymru | 31% | 773,000 |
Canolbarth y De oedd â'r gyfran uchaf o oedolion â galw am o leiaf un math o chwaraeon / gweithgarwch corfforol (35%), sef 265,000 o oedolion. Mae cyfran yr oedolion sydd â galw yng Nghanolbarth y De yn sylweddol uwch na Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Gorllewin Cymru a Gwent.
Ymhellach, roedd cyfran yr oedolion â galw yng Ngorllewin Cymru a Gwent yn sylweddol is o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 31%.
Yn ogystal, roedd nifer yr oedolion sydd â galw am o leiaf un math o chwaraeon / gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd Trefol yn fwy na dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd Gwledig, gan gynrychioli cyfran ystadegol wahanol o alw rhwng poblogaethau â nodweddion dwysedd amrywiol.
Tabl 11: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | ||
| C1 (20% mwyaf difreintiedig) | 28% | 113,000 |
| C2 | 27% | 126,000 |
| C3 | 31% | 164,000 |
| C4 | 30% | 168,000 |
| C5 (20% lleiaf difreintiedig) | 35% | 202,000 |
| Cyfanswm Cymru | 31% | 773,000 |
Mae Tabl 11 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn erbyn ei gilydd.
Roedd gwahaniaeth sylweddol o 7 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn yn wahaniaeth o 89,000 o oedolion.
Graff 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Grŵp Oedran
Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos wyth bar fertigol yn ôl grŵp oedran. Mae'r galw cenedlaethol yn 31%. Mae'r galw uchaf ymhlith pobl 35–44 oed, sef 39%, ac wedyn 16–24 (38%), 25–34 (36%), a 45–54 (35%). Wedyn mae'r galw'n gostwng i 30% ar gyfer pobl 55–64 oed, 23% ar gyfer y rhai 65–74 oed, a 13% ar gyfer pobl 75 oed a hŷn.
Yn gyffredinol, mae cyfran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn gostwng gydag oedran. Roedd y rhai rhwng 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, a 45 i 54 oed yn fwy tebygol o adrodd am alw i gymryd rhan o gymharu â’r rhai 55 i 64 oed, 65 i 74 oed a 75+ oed.
Tabl 12: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw i wneud mwy o un math o chwaraeon neu weithgarwch corfforol o leiaf.
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Rhyw: | ||
| Benywod | 32% | 382,000 |
| Gwrywod | 30% | 390,000 |
| Ethnigrwydd: | ||
| Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati) | 30% | 697,000 |
| Gwyn – Arall | 40% | 26,000 |
| Unrhyw Grŵp Ethnig arall | 44% | 49,000 |
| Salwch, Anabledd neu Lesgedd | ||
| Â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 28% | 341,000 |
| Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 32% | 430,000 |
| Amddifadedd | ||
| Byw mewn amddifadedd materol | 31% | 89,000 |
| Ddim yn byw mewn amddifadedd materol | 31% | 684,000 |
| Yr Iaith Gymraeg | ||
| Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36) | 33% | 94,000 |
| Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd | 30% | 678,000 |
| Cyfanswm Cymru | 31% | 773,000 |
Mae Tabl 12 yn dangos cyfran yr oedolion a ddywedodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl nodweddion demograffig.
Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Gwyn – Arall’, ac ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol. Roedd gan y ddau grŵp yma fwy o alw am fwy o weithgarwch o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Gwyn – (Cymreig, Seisnig, Prydeinig, ac ati)’
Ymhellach, roedd y rhai na ddywedodd bod ganddynt salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn fwy tebygol o adrodd am alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai oedd â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog.
I’r gwrthwyneb, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau rhwng Gwrywod a Benywod, y rhai sy’n byw ac nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol, a’r rhai sy’n siarad Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg bob dydd.
Tabl 13: Nifer a chanran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl ymatebion i gwestiynau iechyd a lles.
| Canran o Oedolion (%) | Nifer yr Oedolion | |
|---|---|---|
| Iechyd Cyffredinol | ||
| Da iawn neu dda | 32% | 587,000 |
| Gweddol | 29% | 142,000 |
| Gwael neu wael iawn | 21% | 44,000 |
| Unigrwydd | ||
| Ddim yn unig | 24% | 177,000 |
| Unig weithiau | 33% | 484,000 |
| Unig | 35% | 111,000 |
| Boddhad gyda bywyd | ||
| Mawr iawn | 27% | 214,000 |
| Mawr | 33% | 407,000 |
| Canolig | 32% | 111,000 |
| Isel | 30% | 39,000 |
| Hapusrwydd Cyffredinol | ||
| Mawr iawn | 27% | 263,000 |
| Mawr | 33% | 325,000 |
| Canolig | 34% | 122,000 |
| Isel | 33% | 63,000 |
| Gorbryder Cyffredinol | ||
| Isel iawn | 27% | 292,000 |
| Isel | 34% | 174,000 |
| Canolig | 33% | 130,000 |
| Mawr | 34% | 176,000 |
| Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil | ||
| Mawr iawn | 28% | 268,000 |
| Mawr | 32% | 369,000 |
| Canolig | 34% | 101,000 |
| Isel | 31% | 32,000 |
| Ag ymdeimlad o gymuned (perthyn; gwahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu, trin gyda pharch) | ||
| Oes | 29% | 451,000 |
| Nac oes | 34% | 296,000 |
| Cyfanswm Cymru | 31% | 773,000 |
Mae Tabl 13 yn dangos sut ymatebodd pobl sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol i gwestiynau iechyd a lles a hunanadroddir.
Roedd y rhai a ddywedodd bod eu hiechyd cyffredinol yn ‘Dda Iawn neu Dda’ yn fwy tebygol o fod â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn dioddef o iechyd ‘Drwg neu wael iawn’.
Roedd cyfraddau’r galw ar draws y grwpiau a ymatebodd i ‘Boddhad Bywyd Cyffredinol’ a ‘Hapusrwydd Cyffredinol’ yn gymysg. Roedd y rhai a nododd bod ganddynt hapusrwydd cyffredinol 'Isel' neu 'Ganolig', ochr yn ochr â'r rhai a nododd 'Isel', Canolig' neu 'Mawr' am Foddhad mewn Bywyd yn llawer mwy tebygol o fod â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â'r rheini a adroddodd hapusrwydd 'Mawr Iawn' a boddhad mewn bywyd.
Roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Unig’ neu’n ‘Unig Weithiau’ yn fwy tebygol o fod â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod ‘Ddim yn Unig’.
Ymhellach, roedd cyfran yr oedolion â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn uwch ymhlith oedolion a nododd lefelau ‘Uchel’ o orbryder cyffredinol o gymharu â’r rhai a nododd orbryder cyffredinol ‘Isel Iawn’.
Roedd cyfran yr oedolion a oedd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn ystadegol debyg ar draws y grwpiau ymateb ‘Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil’.
Yn olaf, roedd y rhai nad oes ganddynt ymdeimlad o gymuned yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â'r rhai sydd ag ymdeimlad o gymuned.
Graff 10: Canran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl fforddiadwyedd bwyd
Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos pedwar bar llorweddol sy'n cymharu'r galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl fforddiadwyedd bwyd. Mae'r galw uchaf ymhlith yr oedolion a gafodd brydau llai neu wnaeth hepgor prydau bwyd (43%), ac wedyn y rhai a gafodd un diwrnod o leiaf heb bryd bwyd sylweddol (40%), y rhai a ddefnyddiodd fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (33%), a'r rhai a gafodd fwyd yn cynnwys cig neu bryd bwyd llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf (31%).
Mae Graff 10 yn cyflwyno cyfran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn ôl cwestiynau fforddiadwyedd bwyd
Roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi cael pryd o fwyd gyda’r hyn oedd yn cyfateb i gig / opsiwn llysieuol bob yn ail ddiwrnod o leiaf yn llai tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o’u cymharu â’r rhai a oedd wedi cael prydau llai neu wedi hepgor prydau bwyd, neu wedi cael diwrnod yn ystod y pythefnos blaenorol heb bryd o fwyd sylweddol.
Graff 11: Canran yr oedolion sydd â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl mynediad i gerbydau.
Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos dau far llorweddol sy'n cymharu'r galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl defnydd o gerbyd. Mae'r galw'n uwch ymhlith oedolion sydd â defnydd o gar neu fan (31%) nag ymhlith y rhai heb ddefnydd o gerbyd (26%). Mae'r graff yn dangos dau far llorweddol sy'n cymharu'r galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl defnydd o gerbyd. Mae'r galw'n uwch ymhlith oedolion sydd â defnydd o gar neu fan (31%) nag ymhlith y rhai heb ddefnydd o gerbyd (26%).
Fel y dangosir yng Ngraff 11, roedd y rhai sydd â defnydd o gar neu fan yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am chwaraeon / gweithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai nad oes ganddynt ddefnydd o gerbyd.
At ddibenion yr adroddiad hwn, mae’r rhai sydd â ‘Galw Heb ei Fodloni’ yn cyfeirio’n benodol at y rhai nad oeddent wedi cymryd rhan mewn camp / gweithgaredd eisoes, ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny yn y dyfodol.
Yn 2021-22, dywedodd 44% neu 1,104,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Fodd bynnag, dywed 20% o'r oedolion hyn eu bod eisiau cymryd rhan mewn o leiaf un math o chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Mae hyn yn cynrychioli 224,000 o bobl, neu 9% o gyfanswm y boblogaeth o oedolion yng Nghymru.
Graff 12: Nifer yr oedolion nad ydynt eto'n cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau a / neu Weithgareddau Awyr Agored, ond sy'n dweud yr hoffent wneud hynny.
Disgrifiad amgen: Graff gyda thri bar fertigol. Mae'r bar uchaf ar 191,000 yn cynrychioli nifer yr oedolion sydd ddim yn cymryd rhan eto mewn Chwaraeon a Gemau, ond sy'n dweud yr hoffent wneud hynny. Mae'r ddau far arall ar 183,000 a 101,000 yn cynrychioli nifer yr oedolion sydd eisiau cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd a Gweithgareddau Awyr Agored, ond sydd ddim yn cymryd rhan eto yn y gweithgareddau hyn, yn y drefn honno.
Mae Graff 12 yn dangos bod 183,000 o oedolion yn 2021-22 na chymerodd ran mewn unrhyw ‘Weithgaredd Ffitrwydd’ ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Ymhellach, dywedodd 191,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw ‘Chwaraeon neu Gemau’, ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Yn olaf, dywedodd 101,000 o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mewn Gweithgaredd Awyr Agored, ond yr hoffent wneud hynny.
Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i bron i hanner miliwn o gyfleoedd mewn chwaraeon ymhlith oedolion, oedd eto i’w cyflawni yn ystod 2021-22.
Tabl 14: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni am weithgarwch, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
| Oedolion â Galw Heb Ei Fodloni (%) | Oedolion â Galw Heb Ei Fodloni | |
|---|---|---|
| Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol | ||
| Gogledd Cymru | 8% | 44,000 |
| Canolbarth Cymru | 10% | 17,000 |
| Gorllewin Cymru | 9% | 49,000 |
| Canolbarth y De | 11% | 79,000 |
| Gwent | 8% | 36,000 |
| Dwysedd Poblogaeth | ||
| Trefol | 10% | 161,000 |
| Gwledig | 7% | 64,000 |
| Cyfanswm Cymru | 9% | 224,000 |
Canolbarth y De oedd â'r gyfran uchaf o oedolion â galw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o ystyried cyfanswm yr oedolion yn y rhanbarth hwn. Mae cyfradd y galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De yn uwch nag yng Ngogledd Cymru a Gwent. Mae Tabl 14 yn dangos bod llawer mwy o oedolion â galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De na sydd mewn rhannau eraill o Gymru. Er enghraifft, er bod y gyfradd yn debyg i gyfradd Canolbarth Cymru, mae nifer gwirioneddol yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De fwy na 4 gwaith yn fwy.
Ymhellach, nododd cyfran uwch o oedolion o ardaloedd trefol alw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol na mewn ardaloedd gwledig. Hefyd, mae tua 2.5 gwaith y nifer o oedolion â galw heb ei fodloni yn byw mewn ardaloedd trefol o gymharu ag ardaloedd gwledig.
Yn gyffredinol, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion eu bod yn cymryd rhan ynddo oedd ‘Cerdded (mwy na 2 filltir)’; dywedodd 37% o oedolion eu bod wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol, sy'n cyfateb i 943,000 o bobl.
Y gamp neu'r gweithgaredd corfforol oedd â'r galw mwyaf oedd Nofio, gyda 9% o oedolion yn dweud yr hoffent wneud mwy ohono, sy'n cyfateb i 234,000 o bobl.
Graff 13: Y tri phrif weithgaredd cyfranogiad, yn ôl categori eang.
Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos naw bar llorweddol ar draws tri grŵp gweithgarwch. O ran Gweithgareddau Ffitrwydd, mae’r cyfranogiad ar ei uchaf ar gyfer cerdded mwy na dwy filltir (943,000 o oedolion), ac wedyn dosbarthiadau ffitrwydd (266,000) a chodi pwysau (200,000). O ran Gemau a Chwaraeon, athletau, rhedeg neu loncian yw'r mwyaf poblogaidd (283,000), o flaen golff (88,000) a phêl droed (86,000). Mae cyfranogiad llawer is mewn Gweithgareddau Awyr Agored, gyda dringo neu fynydda (24,000) yn arwain, wedyn pysgota neu enweirio (23,000), a chanŵio neu gaiacio (21,000).
Mae Graff 13 yn dangos y tri gweithgaredd ym mhob categori eang a oedd â'r nifer uchaf o oedolion yn cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
O fewn gweithgareddau ffitrwydd, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion eu bod yn cymryd rhan ynddo oedd Cerdded (mwy na 2 filltir), gyda 943,000 o oedolion wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Yn dilyn hyn, dywedodd 266,000 o oedolion eu bod wedi cymryd rhan mewn Dosbarthiadau Ffitrwydd, a dywedodd 200,000 o oedolion eu bod wedi cymryd rhan mewn Codi Pwysau.
O fewn Gemau a Chwaraeon, y categori cyfun o ‘Athletau, Rhedeg a / neu Loncian’ oedd y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion eu bod wedi cymryd rhan ynddo; roedd 283,000 o oedolion wedi cymryd rhan o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Yn dilyn hyn, cymerodd 88,000 o oedolion ran mewn Golff, a chymerodd 86,000 o oedolion ran mewn Pêl Droed.
O fewn Gweithgareddau Awyr Agored, y gweithgaredd Dringo a / neu Fynydda oedd y mwyaf cyffredin; cymerodd 24,000 o oedolion ran o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn y math hwn o weithgaredd. Yn dilyn hyn, cymerodd 23,000 o oedolion ran mewn Pysgota a / neu Enweirio, a chymerodd 21,000 o oedolion ran mewn Canŵio a / neu Gaiacio.
Graff 14: Y tri phrif weithgaredd y mae gan oedolion alw amdanynt, yn ôl categori eang.
Disgrifiad amgen: Mae'r graff yn dangos naw bar llorweddol ar draws tri grŵp gweithgarwch. O ran Gweithgareddau Ffitrwydd, mae'r galw mwyaf am nofio (234,000 o oedolion), ac wedyn dosbarthiadau ffitrwydd (115,000) a beicio (79,000). O ran Gemau a Chwaraeon, pêl droed sydd â'r galw mwyaf (57,000), o flaen athletau, rhedeg neu loncian (47,000) a golff (36,000). Mae Gweithgareddau Awyr Agored yn dangos galw llawer is, gyda chanŵio neu gaiacio (23,000) yn arwain, ac wedyn pysgota neu enweirio (20,000) a marchogaeth ceffylau (19,000).
Mae Graff 14 yn dangos y tri phrif weithgaredd yr oedd oedolion eisiau gwneud mwy ohonynt, o fewn pob categori eang.
O fewn Gweithgareddau Ffitrwydd, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion alw amdano oedd Nofio, gyda 234,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy. Yn dilyn hyn, dywedodd 115,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Ddosbarthiadau Ffitrwydd, a dywedodd 79,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Feicio.
O fewn Gemau a Chwaraeon, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion alw amdano oedd Pêl Droed, gyda 57,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy. Yn dilyn hyn, dywedodd 47,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Athletau, Rhedeg a / neu Loncian, a dywedodd 36,000 o oedolion eu bod eisiau chwarae mwy o Golff.
O fewn Gweithgareddau Awyr Agored, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion alw amdano oedd Canŵio a / neu Gaiacio, gyda 23,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy. Yn dilyn hyn, dywedodd 20,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Bysgota a / neu Enweirio, a dywedodd 19,000 o oedolion eu bod eisiau gwneud mwy o Farchogaeth Ceffylau.
| Grŵp Eang | Is-gategori |
|---|---|
| Dosbarthiadau Ffitrwydd | |
| Gweithgareddau campfa e.e. Codi Pwysau | |
| Dosbarthiadau Dawns | |
| Gweithgaredd Ffitrwydd | Beicio |
| Nofio | |
| Cerdded / Crwydro (mwy na 2 filltir) | |
| Loncian neu Redeg | |
| Chwaraeon Tîm | |
| Chwaraeon Raced | |
| Gemau Dan Do | |
| Bowlio neu Fowls | |
| Gemau a Chwaraeon | Chwaraeon Ymladd neu Grefftau Ymladd |
| Golff | |
| Saethu neu Saethyddiaeth | |
| Athletau | |
| Triathlon, deuathlon neu aml - chwaraeon eraill | |
| Chwaraeon mynydd fel dringo neu sgïo | |
| Chwaraeon modur | |
| Gweithgareddau | Pysgota neu enweirio |
| Awyr Agored | Marchogaeth ceffylau |
| Sglefrio neu sglefrfyrddio | |
| Chwaraeon dŵr (caiacio, syrffio, hwylio) |
Mae enghreifftiau o ddosbarthiadau ffitrwydd (wyneb yn wyneb / ar-lein) yn cynnwys: Ioga, Pilates, Gwersyll Ymarfer, Hyfforddiant Cylchedau, Swmba, Aerobics, HIIT, Sbin, Dosbarthiadau Bowns.
| Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol | Ardal Leol |
|---|---|
| Ynys Môn | |
| Gwynedd | |
| Conwy | |
| Gogledd Cymru | Sir Ddinbych |
| Sir y Fflint | |
| Wrecsam | |
| Powys | |
| Canolbarth Cymru | Ceredigion |
| Sir Benfro | |
| Sir Gaerfyrddin | |
| Gorllewin Cymru | Abertawe |
| Castell-nedd Port Talbot | |
| Pen-y-bont ar Ogwr | |
| Bro Morgannwg | |
| Canolbarth y De | Caerdydd |
| Rhondda Cynon Taf | |
| Merthyr Tydfil | |
| Caerffili | |
| Blaenau Gwent | |
| Gwent | Torfaen |
| Sir Fynwy | |
| Casnewydd |
Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol yng Nghymru.
Atodiad 2.7: Cyfranogiad Cenedlaethol yn ôl Math o Weithgaredd (2021-22)
| Math o Weithgaredd | Cyfranogiad Cyfranogiad Galw Galw | |||
|---|---|---|---|---|
| Cerdded mwy na 2 filltir | 943,000 | 37% | 59,000 | 2% |
| Athletau a / neu redeg / loncian | 283,000 | 11% | 47,000 | 2% |
| Dosbarthiadau ffitrwydd | 266,000 | 11% | 115,000 | 5% |
| Codi pwysau | 200,000 | 8% | 27,000 | 1% |
| Beicio | 181,000 | 7% | 79,000 | 3% |
| Nofio | 158,000 | 6% | 234,000 | 9% |
| Golff | 88,000 | 3% | 36,000 | 1% |
| Pêl droed | 86,000 | 3% | 57,000 | 2% |
| Beicio mynydd | 49,000 | 2% | - | - |
| Pŵl | 45,000 | 2% | - | - |
| Dosbarthiadau dawns | 38,000 | 2% | 27,000 | 1% |
| Tennis | 31,000 | 1% | 30,000 | 1% |
| Dartiau | 30,000 | 1% | - | - |
| Bowlio (deg) | 24,000 | 1% | - | - |
| Dringo neu fynydda | 24,000 | 1% | 17,000 | 1% |
| Pysgota neu enweirio | 23,000 | 1% | 20,000 | 1% |
| Canŵio a / neu gaiacio | 21,000 | 1% | 23,000 | 1% |
| Rygbi’r undeb | 21,000 | 1% | 12,000 | <1% |
| Chwaraeon ymladd a chrefftau ymladd | 20,000 | 1% | 35,000 | 1% |
| Gymnasteg a / neu drampolinio | 20,000 | 1% | 16,000 | 1% |
| Chwaraeon rhwyfo | 19,000 | 1% | 12,000 | <1% |
| Marchogaeth ceffylau | 18,000 | 1% | 19,000 | 1% |
| Sglefrio neu sglefrfyrddio | 17,000 | 1% | 7,000 | <1% |
| Badminton | 16,000 | 1% | 27,000 | 1% |
| Tennis bwrdd | 16,000 | 1% | - | - |
| Math o Weithgaredd | Cyfranogiad Cyfranogiad Galw | Galw | ||
|---|---|---|---|---|
| Bowls dan do a / neu awyr agored | 15,000 | 1% | 14,000 | 1% |
| Chwaraeon modur | 13,000 | 1% | - | - |
| Saethu targedau | 11,000 | <1% | - | - |
| Syrffio | 11,000 | <1% | 13,000 | <1% |
| Snwcer | 10,000 | <1% | - | - |
| Hwylio | 7,000 | <1% | 6,000 | <1% |
| Sboncen | - | - | 16,000 | 1% |
| Pêl rwyd | - | - | 16,000 | 1% |
| Sgïo a / neu eirafyrddio | - | - | 13,000 | <1% |
| Hoci iâ | - | - | 11,000 | <1% |
| Aerobics dŵr | - | - | 9,000 | <1% |
| Saethyddiaeth | - | - | 9,000 | <1% |
Sylwer: Mae “-” yn cynrychioli llai na 30 o ymatebion heb eu pwysoli. Roedd gan yr holl weithgareddau eraill (heb eu rhestru uchod) yn yr arolwg lai na 30 o ymatebion heb eu pwysoli ar gyfer cyfranogiad a galw (o arolwg o 12,000 o oedolion).
Nid yw hi fyth yn hawdd gwneud y penderfyniadau cywir er mwyn helpu chwaraeon i ffynnu yng Nghymru.