Cyfranogiad:
Galw:
Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Y Weledigaeth yw’r llwyfan ar gyfer ymgysylltu traws-sector mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mae’n ceisio trawsnewid Cymru yn genedl actif, lle gall pawb fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol am oes.
Cafodd y Weledigaeth ei llunio ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid ac mae’n cynrychioli llais pobl Cymru. Bydd ymdrech gydweithredol i weithio tuag at y Weledigaeth yn cyflawni’r canlynol:
Mae’r Adroddiad Cyflwr y Genedl yn edrych ar ganfyddiadau’r adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-2023.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC) yn arolwg o sampl ar hap o aelwydydd o oedolion (16 oed a hŷn) o bob rhan o Gymru. Gweithredir yr arolwg hwn gan Lywodraeth Cymru ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Cyn 2016, roedd Chwaraeon Cymru yn cynnal arolwg annibynnol o’r enw ‘Yr Arolwg Oedolion Actif’. Ers hynny, mae arolygon cyrff cyhoeddus ar raddfa fawr wedi’u dwyn ynghyd i wella effeithlonrwydd wrth gasglu data ledled Cymru, gan ffurfio Arolwg Cenedlaethol Cymru fel y mae heddiw.
Ers 2016, mae Chwaraeon Cymru wedi bod â chwestiynau am gyfranogiad chwaraeon a’r galw amdanynt wedi’u hymgorffori yn ACC. Gelwir y cwestiynau hyn bellach yn adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ yr arolwg a dyma ffocws yr adroddiad hwn.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg blynyddol. Mae data’n cael eu casglu’n barhaus drwy gydol y flwyddyn, o fis Ebrill i’r mis Mawrth dilynol. Bob gwanwyn, mae cylch newydd yn dechrau, a dadansoddir data o'r 12 mis blaenorol i gynhyrchu crynodeb blynyddol o ymddygiad oedolion yng Nghymru. Wedyn caiff y data eu pwysoli i gynrychioli nodweddion y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru, sef tua 2.5 miliwn o oedolion. Cyhoeddir y prif ganlyniadau am y tro cyntaf gan Lywodraeth Cymru yn ystod misoedd yr haf (mis Gorffennaf fel rheol).
Daw’r contract presennol ar gyfer darparu Arolwg Cenedlaethol Cymru i ben gyda chanlyniadau arolwg 2022-23. Er mwyn caniatáu i'r contract newydd ddechrau, bydd bwlch yn y data a gyhoeddir ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y gwaith sefydlu, y profi a’r gwaith maes ar gyfer yr arolwg yn cael ei wneud. Bydd cyhoeddi data felly yn ailddechrau fel arfer yn haf 2025, a bydd yn parhau i fod yn weithredol yn flynyddol am gyfnod contract yr arolwg. Bydd data yn eu tro ar gael ar gyfer cylchoedd blynyddol 2024-25; 2025-26; 2026-27; a 2027-28.
Mae’r prif ganfyddiadau a gwybodaeth gefndir ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro'n adrannau sy'n ymwneud â'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Yr adrannau hyn yw:
Cenedl Actif: adran sy’n cynnwys prif wybodaeth am ymddygiadau cyfranogiad.
Pawb: adran sy’n archwilio ymddygiadau cyfranogiad gwahanol fathau o oedolion yng Nghymru.
GydolOes: adran sy’n canolbwyntio ar wahaniaethau yn ôl grwpiau oedran poblogaeth a ffactorau ffordd o fyw eraill.
Mwynhad: mae’r adran hon yn canolbwyntio ar y galw am wneud mwy o chwaraeon ledled Cymru a faint o’r galw hwn sy’n cael ei fodloni.
Chwaraeon: mae'r adran hon yn cyflwyno'r gweithgareddau sydd fwyaf poblogaidd yng Nghymru ar hyn o bryd. Darperir gwybodaeth ar gyfer cyfranogiad a galw am wahanol fathau o weithgareddau chwaraeon.
Y weledigaeth yw creu cenedl actif gyda chymaint o bobl â phosibl wedi’u hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.
Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad cyffredinol ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru. Mae'r ffigurau hyn yn ein galluogi i edrych ar y cynnydd tuag at y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.
Mae poblogaeth Cymru tua 3.1 miliwn o bobl, y mae 2.5 miliwn ohonynt yn oedolion (pawb 16+ oed)¹.
Ar draws y 2.5 miliwn o oedolion yng Nghymru, cymerodd 1,528,000 ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, sef 60% o’r holl oedolion. Yn eu tro, cymerodd tua 123,000 yn fwy o oedolion ran mewn gweithgareddau cysylltiedig â chwaraeon yn 2022-23 o gymharu â 2021-22 (56% yn 2021-22).
Gellir dosbarthu gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn grwpiau eang. Mae’r adroddiad hwn yn categoreiddio ymddygiadau cyfranogiad yn dri grŵp eang²: ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’, ‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’.
Cymerodd 56% (1,430,000) o oedolion ran mewn ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, cymerodd 16% (412,000) o oedolion ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’, a chymerodd 6% (148,000) o oedolion ran mewn ‘Gweithgaredd Awyr Agored’ yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
Cymerodd cyfran uwch o oedolion ran mewn ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ a ‘Chwaraeon a Gemau’ yn 2022-23 o gymharu â 2021-22, tra bo cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn parhau’n debyg.
Cymerodd 39% o oedolion ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos³ yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Mae hyn yn cyfateb i 986,000 o oedolion yn fras.
I’r gwrthwyneb, cymerodd 44% o oedolion ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai nag unwaith yr wythnos, neu ddim o gwbl, yn ystod y pedair wythnos flaenorol (Graff 1). Mae hyn yn cyfateb i 1,120,000 o oedolion.
1 Amcangyfrifon Poblogaeth ac Aelwydydd yng Nghymru.
2 Mae Atodiad 7.I yn darparu manylion am y mathau o weithgareddau sydd wedi’u dosbarthu yn y grwpiau eang. Sylwer: gallai oedolion adrodd am weithgarwch mewn grwpiau eang lluosog.
3 Dangosydd Cenedlaethau’r Dyfodol Rhif 38
Graff 1: Amledd Cenedlaethol Cyfranogiad Oedolion yn yr holl Chwaraeon a / neu Weithgarwch Corfforol, Cymhariaeth Dros Amser.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 1 yn cymharu amledd cyfranogiad oedolion yn 2021–22 a 2022–23 ar draws pedwar categori. Cynyddodd y cyfranogiad dair gwaith neu fwy yr wythnos o 34% i 39%. Arhosodd y cyfranogiad unwaith yr wythnos (9%) a dwywaith yr wythnos (8%) yr un fath, ond bu gostyngiad yn y cyfranogiad llai nag unwaith yr wythnos o 50% i 44%, gan ddangos symudiad tuag at weithgarwch amlach.
Mae Graff 1 yn dangos y nifer cyfartalog o weithiau y cymerodd oedolion yng Nghymru ran mewn chwaraeon a gweithgarwch bob wythnos yn 2021-22 a 2022-23.
Cymerodd cyfran uwch o oedolion ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn 2022-23 o gymharu â 2021-22, tra bo cyfran y bobl a gymerodd ran unwaith neu ddwywaith yr wythnos yn parhau’n debyg. I’r gwrthwyneb, cymerodd cyfran is o oedolion ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai nag unwaith yr wythnos yn 2022-23 o gymharu â 2021-22.
Graff 2: Amledd Cyfranogiad Oedolion, yn ôl Math o Weithgaredd Eang yn 2022-23.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 2 yn dangos amledd y cyfranogiad yn ôl math o weithgarwch ar draws pedwar categori. Gweithgareddau Ffitrwydd sydd amlycaf yn y cyfranogiad rheolaidd, gyda 36% o oedolion yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 3% ar gyfer Chwaraeon a Gemau ac 1% ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored.
Gwelir patrwm tebyg ar gyfer cyfranogiad wythnosol a dwywaith yr wythnos, gyda’r cyfranogiad heb fod yn rheolaidd ar ei uchaf ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored (98%), ac wedyn Chwaraeon a Gemau (89%) a Gweithgareddau Ffitrwydd (48%). Yn gyffredinol, mae 52% o oedolion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd unwaith yr wythnos o leiaf, o gymharu ag 11% mewn Chwaraeon a Gemau a 2% mewn Gweithgareddau Awyr Agored.
Mae Graff 2 yn dangos amledd cyfranogiad yr oedolion mewn pob math o weithgareddau yn eang⁴.
Roedd cyfran uwch o oedolion yn cymryd rhan mewn ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â ‘Chwaraeon a Gemau’ neu
‘Gweithgareddau Awyr Agored’. At hynny, roedd oedolion yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ unwaith yr wythnos o leiaf (52%), o gymharu â ‘Chwaraeon a Gemau’ (11%) a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ (2%)
I’r gwrthwyneb, roedd oedolion a gymerodd ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ neu ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau lai nag unwaith yr wythnos.
Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos y rhan y mae ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ yn ei chwarae wrth gadw oedolion yn actif yn rheolaidd.
4 Mae Atodiad 7.I yn darparu manylion am y mathau o weithgareddau sydd wedi’u dosbarthu yn y grwpiau eang.
Mae'r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn gweld eu hunain fel rhai medrus mewn chwaraeon i'r rhai sy'n ennill medalau.
Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl daearyddiaeth a grwpiau demograffig yng Nghymru.
Mae’r ffigurau hyn yn helpu i edrych ar y tebygrwydd neu’r gwahaniaethau rhwng y grwpiau hyn i sicrhau bod manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyrraedd pawb ledled Cymru.
Tabl 1: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, a Dwysedd Poblogaeth.
| Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 5 | Canran o oedolion | Nifer yr Oedolion |
|---|---|---|
| Gogledd Cymru | 62% | 349,000 |
| Canolbarth Cymru | 54% | 92,000 |
| Gorllewin Cymru | 60% | 340,000 |
| Canolbarth y De | 64% | 477,000 |
| Gwent | 57% | 269,000 |
| Dwysedd Poblogaeth 6 | ||
| 'Trefol' | 60% | 1,007,000 |
| 'Gwledig' | 61% | 521,000 |
| Cyfanswm Cymru 7 | 60% | 1,528,000 |
Mae Tabl 1 yn dangos nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal y
Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol (PChRh), ac yn ôl ardaloedd ‘Gwledig’ a ‘Threfol’.
Yn 2022-23, Canolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn o leiaf un gamp / gweithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol (64%) yn cynrychioli 477,000 o oedolion.
5 Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
6 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma
7 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad
Tabl 2: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | Canran o oedolion | Nifer yr Oedolion |
|---|---|---|
| Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig) | 53% | 223,000 |
| Cwintel 2 | 56% | 267,000 |
| Cwintel 3 | 61% | 318,000 |
| Cwintel 4 | 62% | 342,000 |
| Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig) | 68% | 378,000 |
| Cyfanswm Cymru 8 | 60% | 1,528,000 |
Mae Tabl 2 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn unrhyw chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn erbyn ei gilydd.
Roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol ar ei isaf ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) yng Nghymru. Roedd gwahaniaeth o 15 pwynt canran rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r gwahaniaeth hwn yn cyfateb i tua 154,000 o oedolion.
⁸Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau yn y cyflwyniad
O gymharu â 2021-22, cynyddodd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol ymhlith y rhai a oedd yn byw yn 20% uchaf yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) o 10 pwynt canran. O ganlyniad, mae'r bwlch cyfranogiad rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi lleihau.
Tabl 3: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, a Dwysedd Poblogaeth.
| Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 9 | Canran o Oedolion | Nifer yr Oedolion |
|---|---|---|
| Gogledd Cymru | 41% | 230,000 |
| Canolbarth Cymru | 33% | 56,000 |
| Gorllewin Cymru | 38% | 219,000 |
| Canolbarth y De | 43% | 325,000 |
| Gwent | 33% | 156,000 |
| Dwysedd Poblogaeth 10 | ||
| 'Trefol' | 40% | 659,000 |
| 'Gwledig' | 38% | 327,000 |
| Cyfanswm Cymru 11 | 39% | 986,000 |
Mae Tabl 3 yn edrych ar nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, ac yn ôl ardaloedd ‘Gwledig’ a ‘Threfol’.
Yn 2022-23, Canolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos (43%), sy’n cyfateb i 325,000 o oedolion.
O gymharu â’r ffigurau a adroddwyd yn 2021-22, dangosodd Canolbarth y De, Gogledd Cymru, a Gorllewin Cymru gyfrannau uwch o oedolion yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, tra bo’r ffigurau ar gyfer Gwent a Chanolbarth Cymru yn parhau i fod yn debyg i’r rhai a adroddwyd yn 2021-22, ac yn parhau i ostwng yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Yn ogystal, er bod nifer yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos mewn ardaloedd ‘Trefol’ tua dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd ‘Gwledig’, roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn Ardaloedd ‘Trefol’ a ‘Gwledig’ deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg.
9 Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
10 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma
11 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad.
Tabl 4: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig) | 34% | 141,000 |
| Cwintel 2 | 36% | 171,000 |
| Cwintel 3 | 40% | 208,000 |
| Cwintel 4 | 40% | 220,000 |
| Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig) | 44% | 246,000 |
| Cyfanswm Cymru 12 | 39% | 986,000 |
Mae Tabl 4 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Fel y disgrifir uchod, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn erbyn ei gilydd.
Roedd cyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (h.y., Cwintel 1 a Chwintel 2).
Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a oedd yn byw yng Nghwintel 3, Cwintel 4 a Chwintel 5 (llai difreintiedig i leiaf difreintiedig ).
Roedd gwahaniaeth o 11 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hwn yn wahaniaeth o 40,000 o oedolion.
Mae cyfran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos wedi cynyddu yn y cymunedau mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) o 25% yn 2021-22 i 34% yn 2022-23. Roedd y newid hwn yn fwy na’r newid a welwyd ar gyfer Cwintel 2, Cwintel 3, Cwintel 4, a C5 ers 2021-22.
Tabl 5: Cyfranogiad mewn o leiaf un Gamp neu Weithgaredd Corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg.
| Rhyw | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Benywod | 57% | 728,000 |
| Gwrywod | 64% | 797,000 |
| Ethnigrwydd | ||
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig) |
60% |
1,401,000 |
Gwyn Arall (Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall) |
64% |
41,000 |
Unrhyw Grŵp Ethnig Arall (Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog) |
68% |
86,000 |
| Salwch, Anabledd neu Lesgedd | ||
| Â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 49% | 585,000 |
| Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 72% | 928,000 |
| Amddifadedd | ||
| Byw mewn amddifadedd materol | 49% | 192,000 |
| Ddim yn byw mewn amddifadedd materol | 63% | 1,336,000 |
| Yr Iaith Gymraeg | ||
| Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36) | 67% | 180,000 |
| Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd | 60% | 1,348,000 |
| Cyfanswm Cymru13 | 60% | 1,528,000 |
Mae Tabl 5 yn cyflwyno data cyfranogiad yn ôl gwahanol grwpiau demograffig yng Nghymru.
Roedd benywod yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â gwrywod, gyda gwahaniaeth o 8 pwynt canran.
Rhwng grwpiau ethnigrwydd eang, y rhai a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’ oedd â’r lefelau cyfranogiad isaf. Y rhai o ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ oedd fwyaf tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y 4 wythnos flaenorol. O archwilio ymhellach, roedd tueddiadau ychwanegol o fewn y grŵp eang ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’, gan mai’r rhai a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Grwpiau Ethnig Cymysg neu Luosog’ oedd â’r lefel cyfranogiad uchaf (82%); 22 pwynt canran yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Roedd oedolion a ddywedodd bod ganddynt salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai heb unrhyw salwch, anabledd neu lesgedd, gyda gwahaniaeth o 23 pwynt canran. Ymhellach, roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi’u cyfyngu gan eu salwch, eu hanabledd neu eu llesgedd yn llai tebygol hyd yn oed o fod wedi cymryd rhan o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol, gyda 42% (385,000) o oedolion wedi cymryd rhan.
Roedd oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol yn llai tebygol hefyd o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol, gyda gwahaniaeth o 14 pwynt canran. Fodd bynnag, cymerodd 86,000 yn fwy o oedolion sy’n byw mewn amddifadedd materol ran yn 2022-23 o gymharu â 2021-22, sy’n awgrymu bod y bwlch cyfranogiad rhwng y rhai mewn amddifadedd materol, a’r rhai nad ydynt, wedi lleihau.
Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran uwch eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 7 pwynt canran.
Tabl 6: Cyfranogiad mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg.
| Rhyw | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Benywod | 35% | 451,000 |
| Gwrywod | 43% | 533,000 |
| Ethnigrwydd | ||
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig) |
39% |
899,000 |
Gwyn Arall (Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall) |
42% |
26,000 |
Unrhyw Grŵp Ethnig Arall (Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog) |
47% |
60,000 |
| Salwch, Anabledd neu Lesgedd | ||
| Â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 30% | 362,000 |
| Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 48% | 614,000 |
| Amddifadedd | ||
| Byw mewn amddifadedd materol | 31% | 120,000 |
| Ddim yn byw mewn amddifadedd materol | 41% | 866,000 |
| Yr Iaith Gymraeg | ||
| Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36) | 46% | 122,000 |
| Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd | 38% | 864,000 |
| Cyfanswm Cymru¹⁴ | 39% | 986,000 |
14 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad
Mae Tabl 6 yn dangos bod Benywod, yn 2022-23, yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â Gwrywod, gyda gwahaniaeth o 8 pwynt canran.
Oedolion a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’ oedd â’r cyfraddau cyfranogiad isaf. Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, y rhai a ddosbarthwyd fel ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ oedd fwyaf tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Roedd oedolion a oedd yn adrodd am salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai heb salwch, anabledd neu lesgedd, gyda gwahaniaeth o 18 pwynt canran. Ymhellach, roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi’u cyfyngu gan eu salwch, eu hanabledd neu eu llesgedd yn llai tebygol hyd yn oed o fod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, gyda 26% (238,000) yn cymryd rhan yn aml.
Roedd oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol yn llai tebygol hefyd o adrodd eu bod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol, gyda gwahaniaeth o 10 pwynt canran.
Er gwaethaf hyn, cymerodd 66,000 yn fwy o bobl a oedd yn byw mewn amddifadedd materol ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn 2022-23 o gymharu â 2021-22.
Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran uwch o oedolion eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 7 pwynt canran.
Mae’r canlyniadau yn yr adran hon yn dangos, er bod y cyfraddau cymryd rhan wedi cynyddu ledled Cymru rhwng 2021-22 a 2022-23, bod gwahaniaethau o hyd yn y cyfraddau hyn o’u harchwilio yn ôl nodweddion poblogaeth penodol.
Er bod tystiolaeth bod y bylchau’n lleihau ar draws blynyddoedd yr arolwg, mae gwahaniaethau sylweddol a dwfn o hyd mewn lefelau cyfranogiad yn ôl rhyw, anabledd, amddifadedd, ethnigrwydd, a’r iaith Gymraeg. Adlewyrchir y ffactorau hyn mewn patrymau cyfranogiad lleol a rhanbarthol, ochr yn ochr â ffactorau ychwanegol fel oedran ac iechyd cyffredinol, sy’n cael sylw yn yr adran nesaf, 4. Gydol Oes.
Mae'r weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd.
Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl oedran, ynghyd â ffactorau bywyd ychwanegol a all effeithio ar wahanol bobl yn ystod gwahanol gyfnodau o’u bywyd.
Graff 3: Cyfranogiad mewn o leiaf un Gamp neu Weithgaredd Corfforol yn ystod y Pedair Wythnos Flaenorol, yn ôl Grwpiau Oedran.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 3 yn dangos pedwar ar ddeg o fariau fertigol ar draws saith grŵp oedran (16–24, 25–34, 35–44, 45–54, 55–64, 65–74, a 75+). Mae gan bob grŵp oedran ddau far sy'n cymharu cyfranogiad mewn chwaraeon unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol o leiaf ar gyfer 2021–22 a 2022–23.
Cynyddodd y cyfranogiad ar draws pob grŵp oedran. Yn 2022–23, roedd y cyfranogiad yn amrywio o uchafswm o 82% ymhlith pobl 16 i 24 oed (i fyny o 73% yn 2021–22) i isafswm o 23% ymhlith y rhai 75 oed a hŷn (i fyny o 17%). Roedd y cyfraddau ar gyfer y grwpiau oedran eraill yn 2022–23 yn 73% (25–34), 70% (35–44), 67% (45–54), 56% (55–64), a 47% (65–74).
Mae llinell lorweddol yn dynodi’r gyfradd cyfranogiad gyfartalog genedlaethol o 60%.
Mae Graff 3 yn dangos cyfran yr oedolion ym mhob grŵp oedran a gymerodd ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn 2021-22 a 2022-23. Dangosir y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer 2022-23 hefyd.
Yn 2022-23, mae cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol o leiaf yn gostwng wrth i grŵp oedran yr ymatebwyr gynyddu.
Cymerodd cyfran uwch o oedolion yn y grwpiau oedran 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, a 45 i 54 oed ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (60%), ac â grwpiau oedran hŷn.
I’r gwrthwyneb, cymerodd cyfran is o oedolion ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol ymhlith y rhai 55 i 64 oed, 65 i 74 oed, a 75+ oed o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (60%), ac â grwpiau oedran iau.
O gymharu â 2021-22, cynyddodd cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed a gymerodd ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf 9 pwynt canran, gan gynrychioli 29,000 o oedolion ychwanegol yn y grŵp oedran hwn a gymerodd ran. Ymhellach, cynyddodd cyfran yr oedolion 65 oed a hŷn a gymerodd ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf 6 phwynt canran, gan gynrychioli 43,000 o oedolion ychwanegol yn y grŵp oedran hwn a gymerodd ran. Fodd bynnag, arhosodd cyfran y
rhai a gymerodd ran yn y grwpiau oedran 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, 45 i 54 oed, a 55 i 64 oed yn debyg i’r ffigurau a adroddwyd yn 2021-22.
Graff 4: Cyfranogiad mewn Chwaraeon a / neu Weithgarwch Corfforol Deirgwaith neu Fwy yr Wythnos, yn ôl Grwpiau Oedran.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 4 yn dangos pedwar ar ddeg o fariau fertigol ar draws saith grŵp oedran (16–24, 25–34, 35–44, 45–54, 55–64, 65–74, a 75+), gyda dau far fesul grŵp yn cymharu data 2021–22 a 2022–23.
Cynyddodd y cyfranogiad mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos ar draws pob grŵp oedran. Yn 2022–23, roedd y cyfraddau ar eu huchaf ymhlith pobl 16 i 24 oed, sef 57% (i fyny o 42%). Wedyn roedd y cyfranogiad yn gostwng gydag oedran: 48% ar gyfer oedrannau 25–34, 45% ar gyfer 35–44, 42% ar gyfer 45–54, 36% ar gyfer 55–64, 29% ar gyfer 65–74, a 13% ar gyfer pobl 75 oed a hŷn.
Mae llinell lorweddol yn dynodi’r gyfradd cyfranogiad gyfartalog genedlaethol o 39%.
Mae Graff 4 yn edrych ar y gwahaniaethau mewn grwpiau oedran yn ôl amledd y cyfranogiad.
Fel uchod, gostyngodd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos wrth i oedran yr ymatebwyr gynyddu.
Cymerodd cyfran uwch o oedolion 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, a 45 i 54 oed ran deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (39%), ac â grwpiau oedran hŷn.
I’r gwrthwyneb, roedd cyfran is o oedolion yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos ymhlith y rhai 55 i 64 oed, 65 i 74 oed, a 75+ oed o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (39%), ac â grwpiau oedran iau.
O gymharu â’r ffigurau a adroddwyd yn 2021-22, cynyddodd cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos 15 pwynt canran, gan gynrychioli 47,000 o oedolion ychwanegol yn y grŵp oedran hwn a gymerodd ran mor aml. Ymhellach, cynyddodd cyfran yr oedolion 65 oed a hŷn sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos 4 pwynt canran, gan gynrychioli 29,000 o oedolion ychwanegol yn y grŵp oedran hwn a gymerodd ran mor aml â hyn.
O gymryd y ffigurau a gyflwynir yng Ngraff 3 a Graff 4 gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau’n awgrymu nid yn unig bod mwy o oedolion 16 i 24 oed yn cymryd rhan yn gyffredinol o gymharu â 2021-22, ond bod amledd y cymryd rhan hefyd wedi gwella o fewn y grŵp oedran hwn. Gellir dangos hyn gan y ffaith, er bod 29,000 yn fwy o oedolion 16 i 24 oed yn cymryd rhan o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, bu tuedd lawer fwy o 47,000 o bobl ifanc 16 i 24 oed yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Fodd bynnag, mae'r gwrthwyneb yn wir am oedolion 65 oed a hŷn; er bod 43,000 yn fwy o oedolion 65+ oed yn cymryd rhan unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, dim ond 29,000 yn fwy o oedolion sy'n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Yn gyffredinol, mae hyn yn awgrymu bod oedolion 65 oed a hŷn yn fwy tebygol o fod wedi dechrau neu ailddechrau camp neu weithgaredd newydd, a’r rhai 16 i 24 oed i’w gweld yn cynyddu’r nifer maent yn cymryd rhan ynddynt.
Mae’r tabl canlynol yn dangos sut mae cyfran yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos yn amrywio yn ôl iechyd cyffredinol, unigrwydd, boddhad â bywyd, hapusrwydd, a lefelau gorbryder.
Tabl 7: Nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl ymatebion i gwestiynau iechyd a lles.
| Iechyd Cyffredinol | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Da iawn neu dda | 46% | 811,000 |
| Gweddol | 25% | 145,000 |
| Gwael neu wael iawn | 14% | 30,000 |
| Unigrwydd | ||
| Ddim yn unig | 42% | 408,000 |
| Unig weithiau | 40% | 477,000 |
| Unig | 30% | 93,000 |
| Boddhad gyda bywyd | ||
| Mawr iawn | 42% | 313,000 |
| Mawr | 41% | 521,000 |
| Canolig | 32% | 117,000 |
| Isel | 22% | 27,000 |
| Hapusrwydd Cyffredinol | ||
| Mawr iawn | 41% | 378,000 |
| Mawr | 40% | 394,000 |
| Canolig | 37% | 139,000 |
| Isel | 32% | 66,000 |
| Gorbryder Cyffredinol | ||
| Isel iawn | 39% | 407,000 |
| Isel | 44% | 220,000 |
| Canolig | 38% | 148,000 |
| Mawr | 37% | 203,000 |
| Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil | ||
| Mawr iawn | 42% | 377,000 |
| Mawr | 41% | 477,000 |
| Canolig | 34% | 102,000 |
| Isel | 20% | 20,000 |
| Cyfanswm Cymru 15 | 39% | 986,000 |
Mae Tabl 7 yn dangos sut ymatebodd oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos i gwestiynau iechyd a lles a hunanadroddir.
Roedd y rhai a ddywedodd bod eu hiechyd cyffredinol yn ‘Da Iawn neu dda’ yn fwy tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos na’r rhai a nododd bod eu hiechyd yn ‘Gweddol’ neu ‘Gwael neu wael iawn’. I’r gwrthwyneb, roedd 86% (177,000) o oedolion ag iechyd ‘Gwael neu wael iawn’ yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai na thair gwaith yr wythnos.
Yn yr un modd, roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn cael boddhad cyffredinol ‘Mawr iawn’ neu ‘Mawr’ â bywyd, ochr yn ochr â’r rhai a nododd hapusrwydd cyffredinol ‘Mawr iawn’ neu ‘Mawr’, yn fwy tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a ddywedodd Boddhad bywyd a hapusrwydd cyffredinol 'Canolig' neu 'Isel'. Yn eu tro, roedd 68% (142,000) o oedolion a nododd hapusrwydd ‘Isel’, a 78% (97,000) o oedolion a ddywedodd bod eu boddhad mewn bywyd yn ‘Isel’, yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai na theirgwaith yr wythnos.
Ymhellach, roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Unig’ yn llai tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Unig weithiau’ neu ‘Ddim yn unig’. Yn eu tro, roedd 70% (220,000) o oedolion a ddywedodd eu bod yn ‘Unig’ yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai na theirgwaith yr wythnos.
Roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg ar draws y gwahanol lefelau o orbryder a hunanadroddwyd.
Mae'r adran hon yn edrych ar yr amrywiad yng nghyfran yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl statws cyflogaeth presennol ac yn ôl y cymhwyster uchaf yr oedd y person hwnnw wedi'i ennill yn ystod ei oes.
Tabl 8: Nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Statws Cyflogaeth ac Addysg
| Cyflogaeth 16 | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Mewn cyflogaeth | 47% | 669,000 |
| Di-waith | 45% | 22,000 |
| Economaidd anweithgar | 28% | 294,000 |
| Cymhwyster Uchaf a Sicrhawyd | ||
| Lefel Gradd | 48% | 393,000 |
| HNC, HND, BTEC Uwch, neu gyfatebol | 43% | 150,000 |
| Safon Uwch neu Uwch Gyfrannol neu gyfatebol | 49% | 152,000 |
| Prentisiaeth | 31% | 25,000 |
| Graddau Lefel O / TGAU A i C, neu gyfatebol | 36% | 134,000 |
| Graddau Lefel O / TGAU D i G, neu gyfatebol | 25% | 25,000 |
| Cymwysterau eraill | 29% | 60,000 |
| Dim cymwysterau | 16% | 45,000 |
| Cyfanswm Cymru 17 | 39% | 986,000 |
Mae Tabl 8 yn dangos sut adroddodd oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos ar eu cyflogaeth a’u cymhwyster addysg uchaf.
Roedd y rhai mewn cyflogaeth a phobl ddi-waith yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn economaidd anweithgar.
Roedd y rhai a adroddodd eu bod wedi ennill Gradd, Safon Uwch / Uwch Gyfrannol, neu HNC / HND / BTEC Uwch (neu gyfatebol) yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai yr oedd eu cyrhaeddiad uchaf yn Brentisiaeth, TGAU / Lefel O neu Arall. Y rhai nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau oedd leiaf tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.
16 Mae enghreifftiau o bobl Economaidd Anweithgar yn cynnwys pobl sydd wedi ymddeol, myfyrwyr llawn amser neu bobl sy'n cael eu hatal rhag gweithio oherwydd salwch hirdymor neu anabledd, ac mae di-waith yn cynrychioli'r rhai sy'n chwilio am waith.
Mae’r adran hon yn edrych ar sut mae cyfran y bobl sy’n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos yn amrywio yn ôl defnydd bwyd, deiliadaeth tai a pherchnogaeth cerbydau.
Graff 5: Canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl fforddiadwyedd bwyd.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 5 yn dangos wyth bar llorweddol ar draws pedwar categori fforddiadwyedd bwyd: defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, cael prydau llai neu hepgor prydau bwyd, dim pryd bwyd sylweddol ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y pythefnos diwethaf, a chael pryd gyda chig neu bryd llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf. Mae pob categori’n cymharu’r cyfranogiad mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos ar gyfer 2021–22 a 2022–23.
Ymhlith yr oedolion a ddefnyddiodd fanc bwyd, gostyngodd y cyfranogiad o 28% yn 2021–22 i 24% yn 2022–23. Cynyddodd y cyfranogiad ar gyfer y rhai oedd yn cael prydau bwyd llai neu’n hepgor prydau bwyd (o 30% i 34%) ac ar gyfer y rhai heb gael unrhyw bryd sylweddol (o 25% i 33%). Oedolion oedd yn cael prydau bwyd cig neu lysieuol rheolaidd oedd yn dangos y cyfranogiad uchaf, gan godi o 34% i 39% dros yr un cyfnod.
Mae Graff 5 yn cyflwyno cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl cwestiynau fforddiadwyedd bwyd.
Roedd y rhai a brofodd un diwrnod neu fwy yn ystod y pythefnos diwethaf heb unrhyw brydau bwyd sylweddol neu a oedd wedi cael prydau bwyd llai neu wedi hepgor prydau bwyd yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â'r rhai a oedd wedi cael pryd o fwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf.
I’r gwrthwyneb, roedd y rhai a oedd wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig â chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Mae cyfran yr oedolion a gafodd bryd o fwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf ac a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos wedi cynyddu ers y ffigurau a adroddwyd yn 2021-22, gyda 131,000 o oedolion ychwanegol yn cymryd rhan mor aml â hyn.
Graff 6: Canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon deirgwaith neu fwyyr wythnos, yn ôl Sefyllfa Byw.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 6 yn dangos chwe bar llorweddol ar draws tri math o dai: tai rhent preifat, tai cymdeithasol, a thai perchnogion-feddianwyr, gan gymharu’r cyfranogiad mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2021–22 a 2022–23.
Cynyddodd y cyfranogiad ar draws pob sefyllfa fyw. Ymhlith rhentwyr preifat, cododd y cyfraddau o 34% i 44%. O ran tai cymdeithasol, cynyddodd y cyfranogiad o 19% i 29%. Bu cynnydd ymhlith perchnogion-feddianwyr hefyd, o 36% yn 2021–22 i 40% yn 2022–23.
Fel y dangosir yng Ngraff 6, roedd y rhai a oedd yn rhentu’n breifat neu’n byw mewn eiddo yr oeddent yn berchen arno yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol. Mae’r patrwm hwn yn debyg i’r ffigurau a adroddwyd yn 2012-22.
Roedd canran yr oedolion a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol ac yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos (29%) yn sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol (39%).
Graff 7: Canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Mynediad i Gerbyd.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 7 yn dangos pedwar bar llorweddol ar draws dau gategori: oedolion heb gar na fan ar gael a'r rhai sydd â defnydd o gar neu fan, gan gymharu’r cyfranogiad mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2021–22 a 2022–23.
Cynyddodd y cyfranogiad ar gyfer y ddau grŵp. Ymhlith yr oedolion heb ddefnydd o gerbyd, cododd y cyfraddau o 19% i 28%. Ar gyfer y rhai oedd â defnydd o gar neu fan, cynyddodd y cyfranogiad o 35% yn 2021–22 i 40% yn 2022–23.
Fel y dangosir yng Ngraff 7, roedd y rhai sydd â defnydd o gar neu fan yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r patrwm hwn yn debyg i’r ffigurau a adroddwyd yn 2012-22.
Roedd canran yr oedolion nad oedd ganddynt gar neu fan ac a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 39%.
Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol, fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon a gweithgarwch.
Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar edrych ar y ‘Galw’ a’r ‘Galw Heb ei Fodloni’ am chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion. Mae'r ffigurau hyn yn dangos lle mae gan weithgareddau y potensial i gynyddu ac, yn ei dro, darparu mwy o gyfleoedd i oedolion eu mwynhau.
Mae oedolion â ‘Galw’ yn cyfeirio at y rhai a ddywedodd eu bod eisiau gwneud mwy o chwaraeon a / neu weithgarwch. Efallai bod yr oedolion hyn eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol.
Ar draws y 2.5 miliwn o oedolion yng Nghymru, dywedodd 685,000 bod ganddynt alw i gymryd rhan mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol, sef 27% o’r holl oedolion yn 2022-23.
Mae’r ffigur hwn wedi gostwng 4 pwynt canran ers 2021-22, pryd dywedodd 31% o oedolion bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch. Mae hyn yn cynrychioli 87,000 yn llai o oedolion â galw.
Mae'r gostyngiad hwn wedi'i sbarduno'n bennaf gan lai o alw am weithgareddau ffitrwydd (Graff 8).
Graff 8: Cyfran yr oedolion sydd â galw am o leiaf un math o weithgaredd dros amser.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 8 yn dangos chwe bar fertigol yn cymharu'r galw am dri math o weithgarwch - Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored - rhwng 2021–22 a 2022–23.
Gostyngodd y galw am Weithgareddau Ffitrwydd o 20% i 16%. Arhosodd y galw am Chwaraeon a Gemau yr un fath ar 10%, fel y gwnaeth y galw am Weithgareddau Awyr Agored ar 5% yn ystod y ddwy flynedd.
Ar draws y grwpiau gweithgarwch eang¹⁸, roedd gan 16% (403,000 o oedolion) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, roedd gan 10% (248,000 o oedolion) alw am o leiaf un gweithgaredd ‘Chwaraeon a / neu Gêm’, ac roedd gan 5% (126,000 o oedolion) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Awyr Agored’ yn 2022-23.
Mae hyn yn cyfateb i tua thri chwarter miliwn o gyfleoedd ychwanegol ar gyfer cyfranogiad ar draws y boblogaeth o oedolion.
Tabl 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o weithgarwch, yn ôl amledd y cyfranogiad.
| Canran o oedoloion | Nifer yr oedolion | |
|---|---|---|
| Wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos | 49% | 337,000 |
| Wedi cymryd rhan 2 waith yr wythnos | 9% | 61,000 |
| Wedi cymryd rhan 1 waith yr wythnos | 9% | 61,000 |
| Wedi cymryd rhan llai nag unwaith yr wythnos | 33% | 222,000 |
Ymhlith oedolion oedd â galw, cymerodd 49% ran, ar gyfartaledd, deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Mae hwn yn gynnydd o 7 pwynt canran o gymharu â 2021-22.
I'r gwrthwyneb, roedd 33% o oedolion oedd â galw wedi cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos ar gyfartaledd, neu ddim o gwbl, yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Mae hwn yn ddirywiad o 4 pwynt canran o gymharu â 2021-22.
¹⁸Mae Atodiad 7.I yn darparu manylion am y mathau o weithgareddau sydd wedi’u dosbarthu yn y grwpiau eang. Sylwer: gallai oedolion adrodd am weithgarwch mewn grwpiau eang lluosog.
Tabl 10: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol a Dwysedd Poblogaeth.
| Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 19 | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Gogledd Cymru | 30% | 169,000 |
| Canolbarth Cymru | 29% | 50,000 |
| Gorllewin Cymru | 31% | 178,000 |
| Canolbarth y De | 25% | 188,000 |
| Gwent | 21% | 100,000 |
| Dwysedd Poblogaeth 20 | ||
| 'Trefol' | 26% | 434,000 |
| 'Gwledig' | 29% | 251,000 |
| Cyfanswm Cymru 21 | 27% | 685,000 |
Roedd cyfran yr oedolion â galw yng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru a Gorllewin Cymru yn uwch na chyfran yr oedolion â galw yng Nghanolbarth y De a Gwent.
Ymhellach, roedd cyfran yr oedolion â galw yng Ngwent yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, tra oedd y galw yng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Gorllewin Cymru, a Chanolbarth y De yn debyg i'r cyfartaledd cenedlaethol.
O gymharu â chanfyddiadau 2021-22, gwelwyd y galw yng Nghanolbarth y De a Gwent yn lleihau, ond arhosodd y galw yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru yn debyg.
Yn ogystal, roedd cyfran yr oedolion oedd â galw am o leiaf un math o chwaraeon / gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd ‘Gwledig’ yn debyg i'r hyn a geir mewn ardaloedd ‘Trefol’. Mae hyn yn wahanol i ganfyddiadau Arolwg Cenedlaethol 2021-22 lle’r oedd y bobl mewn ardaloedd ‘Trefol’ yn fwy tebygol o fod â galw o gymharu â’r bobl mewn ardaloedd ‘Gwledig’. Mae hyn yn golygu bod y newid wedi’i sbarduno gan lai o alw mewn ardaloedd ‘Trefol’.
19 Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
20 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma..
21 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad
Tabl 11: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig) | 25% | 107,000 |
| Cwintel 2 | 25% | 119,000 |
| Cwintel 3 | 29% | 152,000 |
| Cwintel 4 | 28% | 155,000 |
| Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig) | 27% | 152,000 |
| Cyfanswm Cymru 22 | 27% | 685,000 |
Mae Tabl 11 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng
Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn erbyn ei gilydd.
Roedd cyfran yr oedolion â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn debyg rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae hyn yn wahanol i ganfyddiadau 2021-22, lle gwelwyd gwahaniaeth o 7 pwynt canran rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig. At hynny, arhosodd y ffigurau galw yn debyg rhwng 2021-22 a 2022-23 ar gyfer y rhai yng Nghwintel 1 (mwyaf difreintiedig), Cwintel 2, Cwintel 3 a Chwintel 4. Fodd bynnag, bu gostyngiad yn y galw ymhlith y rhai yng Nghwintel 5 (lleiaf difreintiedig).
22 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad
Graff 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Grŵp Oedran.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 9 yn dangos pedwar ar ddeg o fariau fertigol ar draws saith grŵp oedran (16–24 i 75+), gan gymharu'r galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch yn 2021–22 a 2022–23.
Gostyngodd y galw ar draws pob grŵp oedran. Yn 2022–23, roedd y galw uchaf ymhlith pobl 25–34 oed (34%) a’r galw isaf ymhlith y rhai 75 oed a hŷn (12%). O gymharu â 2021–22, gwelwyd y gostyngiadau mwyaf ymhlith pobl 35–44 oed (o 39% i 32%) a phobl 45–54 oed (o 35% i 29%).
Mae llinell lorweddol yn nodi'r galw cyfartalog cenedlaethol ar 27%.
Yn gyffredinol, roedd cyfran yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn gostwng gydag oedran; roedd y rhai rhwng 16 a 24 oed, 25 a 34 oed, 35 a 44 oed, 45 a 54 oed, a 55 a 64 oed yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch o gymharu ag oedolion 65 i 74 oed a 75+ oed.
O gymharu â 2021-22, gostyngodd cyfran yr oedolion â galw o fewn grwpiau oedran 35 i 44, a 45 i 54, ond arhosodd cyfran yr oedolion â galw mewn grwpiau oedran eraill yn debyg.
Tabl 12: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw i wneud mwy o un math o leiaf o chwaraeon neu weithgarwch corfforol.
| Rhyw | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Benywod | 26% | 340,000 |
| Gwrywod | 28% | 345,000 |
| Ethnigrwydd | ||
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig) |
26% |
620,000 |
Gwyn Arall (Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall) |
34% |
22,000 |
Unrhyw Grŵp Ethnig Arall (Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog) |
34% |
43,000 |
| Salwch, Anabledd neu Lesgedd | ||
| Â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 28% | 335,000 |
| Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog | 27% | 346,000 |
| Amddifadedd | ||
| Byw mewn amddifadedd materol | 33% | 129,000 |
| Ddim yn byw mewn amddifadedd materol | 26% | 556,000 |
| Yr Iaith Gymraeg | ||
| Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36) | 32% | 85,000 |
| Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd | 26% | 600,000 |
| Cyfanswm Cymru²³ | 27% | 685,000 |
23 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad
Mae Tabl 12 yn dangos cyfran yr oedolion a ddywedodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl nodweddion demograffig.
Roedd y rhai a oedd yn byw mewn amddifadedd materol yn fwy tebygol o adrodd am alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol. Yn 2022-23, arhosodd y cyfraddau galw yn debyg i’r ffigurau a adroddwyd yn 2021-22 ar gyfer y rhai sy’n byw mewn amddifadedd materol (31% yn 2021-22). Fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad o 5 pwynt canran yn y cyfraddau galw ymhlith y rhai nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol (31% yn 2021-22).
Ymhellach, roedd y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yn fwy tebygol o adrodd am alw am o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd.
O gymharu â 2021-22, arhosodd y cyfraddau galw yn debyg ymhlith defnyddwyr yr iaith Gymraeg (33% yn 2021-22). Fodd bynnag, gostyngodd y cyfraddau galw 4 pwynt canran ymhlith y rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd (30% yn 2021-22).
Yn gyson â chanfyddiadau 2021-22, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau mewn cyfraddau galw rhwng Gwrywod a Benywod.
Fodd bynnag, mewn cyferbyniad â 2021-22, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau rhwng Grwpiau Ethnig eang, na rhwng y rhai â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog a heb salwch, anabledd neu lesgedd o’r fath yn 2022-23.
Tabl 13: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl ymatebion i gwestiynau iechyd a lles.
| Iechyd Cyffredinol | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Da iawn neu dda | 28% | 485,000 |
| Gweddol | 26% | 148,000 |
| Gwael neu wael iawn | 25% | 51,000 |
| Unigrwydd | ||
| Ddim yn unig | 24% | 242,000 |
| Unig weithiau | 27% | 331,000 |
| Unig | 34% | 107,000 |
| Boddhad gyda bywyd | ||
| Mawr iawn | 25% | 183,000 |
| Mawr | 28% | 359,000 |
| Canolig | 27% | 101,000 |
| Isel | 30% | 38,000 |
| Hapusrwydd Cyffredinol | ||
|---|---|---|
| Mawr iawn | 26% | 236,000 |
| Mawr | 27% | 272,000 |
| Canolig | 27% | 104,000 |
| Isel | 33% | 69,000 |
| Gorbryder Cyffredinol | ||
| Isel iawn | 24% | 250,000 |
| Isel | 28% | 144,000 |
| Canolig | 28% | 112,000 |
| Mawr | 32% | 173,000 |
| Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil | ||
| Mawr iawn | 27% | 243,000 |
| Mawr | 27% | 322,000 |
| Canolig | 28% | 87,000 |
| Isel | 27% | 28,000 |
| Cyfanswm Cymru 24 | 27% | 685,000 |
Mae Tabl 13 yn dangos sut ymatebodd oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol i gwestiynau iechyd a lles a hunanadroddir.
Yn gyson â chanfyddiadau 2021-22, roedd y rhai a ddywedodd bod lefel eu ‘Hapusrwydd Cyffredinol’ yn ‘Isel’ yn fwy tebygol o adrodd am alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd bod lefel eu ‘Hapusrwydd Cyffredinol’ yn ‘Uchel iawn’.
Hefyd yn gyson â chanfyddiadau 2021-22, roedd y rhai a ddywedodd bod lefel eu ‘Gorbryder Cyffredinol’ yn ‘Isel iawn’ yn fwy tebygol o adrodd am alw am fwy o
chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd bod lefel eu gorbryder yn ‘Uchel’.
Fodd bynnag, yn wahanol i ganfyddiadau 2021-22, nid oedd unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau ar gyfer mesurau ‘Iechyd Cyffredinol’, ‘Unigrwydd’, a ‘Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil’.
24 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau yn y cyflwyniad
Graff 10: Canran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Fforddiadwyedd Bwyd.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 10 yn dangos wyth bar llorweddol ar draws pedwar categori fforddiadwyedd bwyd, gan gymharu'r galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch yn 2021–22 a 2022–23.
Gostyngodd y galw ar draws pob categori. Ymhlith yr oedolion a ddefnyddiodd fanc bwyd, gostyngodd y galw o 33% i 27%. Ar gyfer y rhai gafodd brydau llai neu wnaeth hepgor prydau bwyd, gostyngodd y galw o 43% i 37%, a gostyngodd y galw ymhlith y rhai heb gael unrhyw bryd bwyd sylweddol yn ystod y pythefnos diwethaf o 40% i 35%. Adroddodd oedolion a oedd yn cael prydau cig neu lysieuol rheolaidd am alw is hefyd, gan ostwng o 31% yn 2021–22 i 27% yn 2022–23.
Mae Graff 10 yn cyflwyno cyfran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn ôl cwestiynau fforddiadwyedd bwyd
Roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi cael pryd o fwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf yn llai tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a oedd wedi cael prydau llai neu wedi hepgor prydau bwyd, neu wedi cael diwrnod yn ystod y pythefnos blaenorol heb unrhyw bryd bwyd sylweddol.
Graff 11: Canran yr oedolion sydd â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Mynediad i Gerbydau.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 11 yn dangos pedwar bar llorweddol ar draws dau grŵp - oedolion heb ddefnydd o gar na fan a'r rhai â defnydd - gan gymharu'r galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch yn 2021–22 a 2022–23.
Gostyngodd y galw ar gyfer y ddau grŵp. Ymhlith oedolion heb ddefnydd o gerbyd, gostyngodd y galw o 26% i 23%. Ar gyfer y rhai â defnydd o gar neu fan, gostyngodd y galw o 31% yn 2021–22 i 28% yn 2022–23.
Fel y dangosir yng Ngraff 11, roedd y rhai sydd â defnydd o gar neu fan yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am chwaraeon / gweithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai nad oes ganddynt ddefnydd o gerbyd.
At ddibenion yr adroddiad hwn, mae’r rhai sydd â ‘Galw Heb ei Fodloni’ yn cyfeirio’n benodol at y rhai nad oeddent wedi cymryd rhan mewn camp / gweithgaredd eisoes, ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny yn y dyfodol.
Yn 2022-23, dywedodd 40% neu 998,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Fodd bynnag, dywedodd 18% o'r oedolion hyn eu bod eisiau cymryd rhan mewn o leiaf un math o chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Mae hyn yn cynrychioli 183,000 o bobl, neu 7% o gyfanswm y boblogaeth o oedolion yng Nghymru.
O gymharu â 2021-22, bu gostyngiad o 2 bwynt canran yng nghyfran yr oedolion â galw heb ei fodloni, sy’n cyfateb i wahaniaeth o 41,000 o oedolion.
Graff 12: Nifer yr oedolion nad ydynt eto'n cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau a / neu Weithgareddau Awyr Agored, ond sy'n dweud yr hoffent wneud hynny²⁶.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 12 yn dangos chwe bar fertigol yn cymharu galw heb ei fodloni am dri math o weithgarwch - Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored - rhwng 2021–22 a 2022–23.
Gostyngodd y galw heb ei fodloni am Weithgareddau Ffitrwydd o 183,000 o oedolion yn 2021–22 i 140,000 yn 2022–23. Gostyngodd y galw heb ei fodloni ar gyfer Chwaraeon a Gemau hefyd, o 191,000 i 171,000 o oedolion. O ran Gweithgareddau Awyr Agored, roedd gan 101,000 o oedolion alw heb ei fodloni yn 2021–22.
Mae Graff 12 yn dangos bod 140,000 o oedolion yn 2022-23 na chymerodd ran mewn unrhyw ‘Weithgaredd Ffitrwydd’ ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny.
Ymhellach, dywedodd 171,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw ‘Chwaraeon neu Gemau’ ond yr hoffent wneud hynny. Yn olaf, dywedodd 104,000
o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mewn Gweithgaredd Awyr Agored, ond yr hoffent wneud hynny.
Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i tua 415,000 o gyfleoedd mewn chwaraeon ymhlith oedolion, oedd eto i’w cyflawni yn ystod 2022-23.
²⁵ Sylwer: gall y diffiniad ar gyfer ‘Galw Heb ei Fodloni’ fod yn wahanol yn yr Adroddiad Cyflwr y Genedl ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol.
²⁶ Sylwer: gall cyfranogwyr ymddangos mewn grwpiau eang lluosog, ond dim ond unwaith y cânt eu cyfrif o fewn pob grŵp.
O gymharu â 2021-22, bu gostyngiad o 2 bwynt canran yng nghyfran yr oedolion â galw heb ei fodloni am ‘Weithgareddau Ffitrwydd’, tra bo’r galw heb ei fodloni am ‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ wedi aros yn debyg.
Tabl 14: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni am weithgarwch, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
| Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 27 | Canran o oedolion | Nifer yr oedolion |
|---|---|---|
| Gogledd Cymru | 8% | 45,000 |
| Canolbarth Cymru | 9% | 16,000 |
| Gorllewin Cymru | 8% | 45,000 |
| Canolbarth y De | 6% | 48,000 |
| Gwent | 6% | 29,000 |
| Dwysedd Poblogaeth 28 | ||
| 'Trefol' | 7% | 120,000 |
| 'Gwledig' | 7% | 63,000 |
| Cyfanswm Cymru 29 | 7% | 183,000 |
Canolbarth Cymru oedd â'r gyfran uchaf o oedolion â galw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol. I’r gwrthwyneb, Gwent oedd â’r gyfran isaf o oedolion â galw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol.
Ers 2021-22, mae nifer yr oedolion â galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De wedi haneru bron yn 2022-23 ac, yn ei dro, roedd gan Ganolbarth y De gyfran is o oedolion â galw heb ei fodloni o gymharu â Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru.
At hynny, nododd cyfran uwch o oedolion o ardaloedd ‘Gwledig’ alw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol nag mewn ardaloedd ‘Trefol’. Fodd bynnag, mae bron i ddwywaith y nifer o oedolion â galw heb ei fodloni yn byw mewn ardaloedd ‘Trefol’ o gymharu ag ardaloedd ‘Gwledig’.
Ers 2021-22, mae cyfran yr oedolion mewn ardaloedd ‘Trefol’ sydd â galw heb ei fodloni wedi gostwng 2.5 pwynt canran, tra bo cyfran yr oedolion mewn ardaloedd ‘Gwledig’ sydd â galw heb ei fodloni wedi aros yn debyg.
27 Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.
28 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma.
29 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad.
Yn gyffredinol, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion eu bod yn cymryd rhan ynddo oedd ‘Cerdded (mwy na 2 filltir)’; dywedodd 41% o oedolion eu bod wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol, sy'n cyfateb i 1,050,000 o oedolion.
Graff 13: Y Tri Phrif Weithgaredd Cyfranogiad, yn ôl Grŵp Eang.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 13 yn dangos naw bar llorweddol ar draws tri chategori o weithgarwch: Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored.
O ran Gweithgareddau Ffitrwydd, fe wnaeth mwy na miliwn o oedolion gerdded mwy na dwy filltir yn ystod y pedair wythnos diwethaf, ac wedyn 398,000 wnaeth ymarfer gartref a 315,000 a aeth i'r gampfa. O ran Chwaraeon a Gemau, roedd y cyfranogiad uchaf ar gyfer athletau, rhedeg neu loncian (293,000), gyda llai o oedolion yn chwarae pŵl (94,000) neu bêl droed (87,000). Gweithgareddau Awyr Agored oedd â'r cyfranogiad isaf, wedi'u harwain gan ganŵio neu gaiacio (28,000), pysgota neu enweirio (26,000), a dringo neu fynydda (24,000).
Mae Graff 13 yn dangos y tri gweithgaredd ym mhob grŵp eang a oedd â'r nifer uchaf o oedolion yn cymryd rhan ynddynt yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
O fewn gweithgareddau ffitrwydd, y gweithgaredd mwyaf cyffredin a wnaed oedd Cerdded (mwy na 2 filltir), gyda 1,050,000 o oedolion wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Yn dilyn hyn, dywedodd 398,000 o oedolion eu bod wedi gweithio neu ymarfer gartref, a dywedodd 315,000 o oedolion eu bod wedi mynd i’r gampfa i wneud gwaith cardio, pwysau neu hyfforddiant cryfder arall (nid ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd).
O fewn Gemau a Chwaraeon, y categori cyfun o ‘Athletau, Rhedeg a / neu Loncian’³⁰ oedd y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion eu bod wedi cymryd rhan ynddo; roedd 293,000 o oedolion wedi cymryd rhan o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Yn dilyn hyn, roedd 94,000 o oedolion wedi chwarae Pŵl yn ystod y pedair wythnos flaenorol, a chymerodd 87,000 o oedolion ran mewn Pêl Droed.
³⁰Sylwer: Mae ‘Rhedeg neu Loncian’ yn cael ei gategoreiddio fel ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’ fel rheol, fodd bynnag, mae wedi’i grwpio gydag ‘Athletau’ at ddibenion buddsoddi, ac felly mae wedi’i gyfrif yn y categori ‘Chwaraeon a Gemau’ yma.
O fewn y categori Gweithgareddau Awyr Agored, y gweithgaredd Canŵio a / neu Gaiacio oedd y mwyaf cyffredin; cymerodd 28,000 o oedolion ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn y math hwn o weithgaredd. Yn dilyn hyn, cymerodd 26,000 o oedolion ran mewn Pysgota a / neu Enweirio, a chymerodd 24,000 o oedolion ran mewn Dringo / Mynydda.
Graff 14: Y Tri Phrif Weithgaredd y mae gan Oedolion Alw Amdanynt, yn ôl Grŵp Eang.
Disgrifiad amgen: Mae Graff 14 yn dangos naw bar llorweddol ar draws tri chategori: Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored.
O ran Gweithgareddau Ffitrwydd, roedd y galw mwyaf am nofio (172,000 o oedolion), ac wedyn dosbarthiadau ffitrwydd (78,000) a beicio (65,000). Ar gyfer Chwaraeon a Gemau, pêl droed oedd â'r galw mwyaf (46,000), o flaen golff (35,000) ac athletau, rhedeg neu loncian (33,000). O ran Gweithgareddau Awyr Agored, roedd y galw mwyaf am farchogaeth ceffylau (29,000), ac wedyn dringo neu fynydda (20,000) a chanŵio neu gaiacio (19,000).
Mae Graff 14 yn dangos y tri phrif weithgaredd yr oedd oedolion eisiau gwneud mwy ohonynt, o fewn pob grŵp eang.
O fewn Gweithgareddau Ffitrwydd, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion alw amdano oedd Nofio, gyda 172,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy. Gostyngodd y galw am nofio o tua 62,000 o bobl rhwng 2021-22, ond roedd hyn wedi’i wrthbwyso i raddau gan fod niferoedd y cyfranogiad wedi cynyddu 60,000 yn ystod yr un cyfnod. Yn dilyn hyn, dywedodd 78,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Ddosbarthiadau Ffitrwydd, a dywedodd 65,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Feicio.
O fewn Gemau a Chwaraeon, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion alw amdano oedd Pêl Droed, gyda 46,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy. Yn dilyn hyn, dywedodd 35,000 o oedolion eu bod eisiau chwarae mwy o Golff, a dywedodd 33,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Athletau a / neu Redeg neu Loncian³¹.
³¹Sylwer: Mae ‘Rhedeg neu Loncian’ yn cael ei gategoreiddio fel ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’ fel rheol, fodd bynnag, mae wedi’i grwpio gydag ‘Athletau’ at ddibenion buddsoddi, ac felly mae wedi’i gyfrif yn y categori ‘Chwaraeon a Gemau’ yma.
O fewn Gweithgareddau Awyr Agored, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion alw amdano oedd Marchogaeth Ceffylau gyda 29,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy. Yn dilyn hyn, dywedodd 20,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Ddringo neu Fynydda a dywedodd 19,000 o oedolion eu bod eisiau gwneud mwy o Ganŵio neu Gaiacio.
O gymharu â 2021-22, mae’r tri Gweithgaredd Ffitrwydd sydd â’r galw mwyaf amdanynt wedi aros yn gyson, ond mae cyfran yr oedolion sydd â galw am y gweithgareddau hyn wedi gostwng. Mae hyn hefyd yn wir am y gweithgareddau Chwaraeon a Gemau mwyaf poblogaidd. Fodd bynnag, Marchogaeth Ceffylau bellach yw’r gweithgaredd y mae’r galw mwyaf amdano ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored, gan fod nifer yr oedolion â galw wedi cynyddu o 9,000 o oedolion ers 2021-22.
| Grŵp Eang | Is-gategori |
|---|---|
Gweithgaredd Ffitrwydd | Gweithio neu ymarfer gartref, neu fel rhan o ddosbarth ar-lein |
| Dosbarthiadau Ffitrwydd (wyneb yn wyneb) | |
| Mynd i’r gampfa (nid ar gyfer dosbarth ffitrwydd) | |
| Dosbarthiadau Dawns | |
| Beicio | |
| Nofio neu Ddeifio | |
| Cerdded dros 2 filltir (gan gynnwys Crwydro) | |
| Loncian neu Redeg | |
| Gymnasteg | |
| Trampolinio | |
Gemau a Chwaraeon | Chwaraeon Tîm |
| Chwaraeon Raced | |
| Gemau Dan Do | |
| Bowlio neu Fowls | |
| Chwaraeon Ymladd neu Grefftau Ymladd | |
| Golff | |
| Saethu neu Saethyddiaeth | |
| Athletau | |
| Triathlon, deuathlon neu aml-chwaraeon eraill | |
Gweithgareddau Awyr Agored | Chwaraeon mynydd fel dringo neu sgïo |
| Chwaraeon modur | |
| Pysgota neu enweirio | |
| Marchogaeth ceffylau | |
| Sglefrio neu sglefrfyrddio | |
| Chwaraeon dŵr (caiacio, syrffio, hwylio) |
Mae’r rhestr lawn o weithgareddau i’w gweld yn holiadur yr arolwg.
| Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol | Ardal Leol |
|---|---|
Gogledd Cymru | Ynys Môn |
| Gwynedd | |
| Conwy | |
| Sir Ddinbych | |
| Sir y Fflint | |
| Wrecsam | |
Canolbarth Cymru | Powys |
| Ceredigion | |
Gorllewin Cymru | Sir Benfro |
| Sir Gaerfyrddin | |
| Abertawe | |
| Castell-nedd Port Talbot | |
Canolbarth y De | Pen-y-bont ar Ogwr |
| Bro Morgannwg | |
| Caerdydd | |
| Rhondda Cynon Taf | |
| Merthyr Tudful | |
Gwent | Caerffili |
| Blaenau Gwent | |
| Torfaen | |
| Sir Fynwy | |
| Casnewydd |
Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol yng Nghymru ar gael yma.
Rhestr o weithgareddau chwaraeon (gan gynnwys gweithgareddau grŵp) – 2022-23
| Gweithgaredd | Cyfranogiad | Cyfranogiad | Galw | Galw |
|---|---|---|---|---|
| Cerdded mwy na 2 filltir | 1,050,000 | 41% | 59,000 | 2% |
| Gweithio / ymarfer gartref | 398,000 | 16% | - | - |
| Campfa (nid ar gyfer dosbarth ffitrwydd) | 315,000 | 12% | 26,000 | 1% |
| Athletau a / neu redeg / loncian | 293,000 | 12% | 33,000 | 1% |
| Codi Pwysau | 246,000 | 10% | - | - |
| Nofio | 218,000 | 9% | 172,000 | 7% |
| Beicio | 213,000 | 8% | 65,000 | 3% |
| Dosbarthiadau ffitrwydd | 208,000 | 8% | 78,000 | 3% |
| Pŵl | 94,000 | 4% | - | - |
| Pêl droed | 87,000 | 3% | 46,000 | 2% |
| Golff | 77,000 | 3% | 35,000 | 1% |
| Dartiau | 53,000 | 2% | - | - |
| Tennis bwrdd | 38,000 | 2% | - | - |
| Bowlio (deg) | 37,000 | 1% | - | - |
| Tennis | 36,000 | 1% | 32,000 | 1% |
| Dosbarthiadau dawns | 31,000 | 1% | 28,000 | 1% |
| Canŵio a/neu gaiacio | 28,000 | 1% | 19,000 | 1% |
| Pysgota neu enweirio | 26,000 | 1% | 13,000 | 1% |
| Rygbi’r undeb | 24,000 | 1% | 19,000 | 1% |
| Dringo neu fynydda | 24,000 | 1% | - | - |
| Bowls dan do a / neu awyr agored | 21,000 | 1% | 9,000 | <1% |
| Sglefrio neu sglefrfyrddio | 20,000 | 1% | - | - |
| Rhwyf-fyrddio | 20,000 | 1% | 14,000 | 1% |
| Badminton | 20,000 | 1% | 26,000 | 1% |
| Marchogaeth ceffylau | 19,000 | 1% | 29,000 | 1% |
| Gweithgaredd | Cyfranogiad | Cyfranogiad | Galw | Galw |
|---|---|---|---|---|
| Snwcer | 13,000 | 1% | - | - |
| Saethu targedau | 13,000 | 1% | - | - |
| Sboncen | 11,000 | <1% | 9,000 | <1% |
| Gymnasteg a/neu drampolinio | 11,000 | <1% | - | - |
| Pêl rwyd | 11,000 | <1% | 9,000 | <1% |
| Chwaraeon modur | 11,000 | <1% | - | - |
| Criced | 7,000 | <1% | 11,000 | <1% |
| Aerobics dŵr | 6,000 | <1% | - | - |
| Crwydro ogofâu | - | - | 20,000 | 1% |
| Bocsio | - | - | 14,000 | 1% |
| Sgïo a/neu eirafyrddio | - | - | 14,000 | 1% |
| Saethyddiaeth | - | - | 13,000 | 1% |
| Tai chi | - | - | 6,000 | <1% |
Sylwer: Mae “-” yn cynrychioli llai na 30 o ymatebion heb eu pwysoli. Roedd gan yr holl weithgareddau eraill (heb eu rhestru uchod) yn yr arolwg lai na 30 o ymatebion heb eu pwysoli ar gyfer y cwestiynau cyfranogiad a galw (o arolwg o tua 12,000 o oedolion).
Nid yw hi fyth yn hawdd gwneud y penderfyniadau cywir er mwyn helpu chwaraeon i ffynnu yng Nghymru.