Skip to main content

Prif ganfyddiadau

Cyflwynir y canfyddiadau allweddol o adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif Arolwg Cenedlaethol Cymru isod. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion, fel cyfrifiadau poblogaeth a daearyddiaeth, ym mhrif adrannau'r adroddiad.

Cyfranogiad:

  • Cymerodd 59% o oedolion yng Nghymru ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf.
  • Cymerodd 35% o oedolion yng Nghymru ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol Rhif 38). Mae hyn yn is nag yn 2022-23 pan oedd y ganran yn 39%.

Lefel Cyfranogiad:

  • Mae 79% o oedolion sy'n cymryd rhan yn gwneud hynny heb fod yn gystadleuol, er enghraifft ar gyfer iechyd neu hamdden.
  • Cystadlodd 18% ar lefel amatur.
  • Cystadlodd 2% ar lefel broffesiynol neu led-broffesiynol.

Galw:

  • Yn gyffredinol, dywedodd 35% o’r holl oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Nododd 27% o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos diwethaf y byddent yn hoffi cymryd rhan. Mae hyn yn cyfateb i 11% o gyfanswm poblogaeth oedolion Cymru.

Rhesymau a fyddai’n annog cyfranogiad yn y dyfodol:

  • Nid oedd tua thri o bob deg oedolyn (31%) wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf ac nid oedd ganddynt unrhyw alw am wneud hynny.
  • Yn seiliedig ar yr oedolion a oedd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol neu a oedd â galw am wneud hynny:
  • Y tri phrif reswm a fyddai’n annog cyfranogiad yn y dyfodol oedd ‘Pe bawn i’n llai prysur gyda gwaith’ (44%), ‘Pe bai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn fy ardal i’ (41%), a ‘Pe bai’n costio llai’ (31%).

Cyfleusterau Chwaraeon:

  • Yn seiliedig ar yr oedolion a oedd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol neu a oedd â galw am wneud hynny:
  • Roedd bron i bedwar o bob deg oedolyn yng Nghymru (38%) wedi defnyddio cyfleuster chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn eu hardal leol o fewn y 12 mis diwethaf.
  • Roedd 27% o'r rhai nad oeddent wedi defnyddio cyfleuster chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn eu hardal leol wedi bod eisiau gwneud hynny.

Gwirfoddoli mewn chwaraeon:

  • Roedd canran yr oedolion roddodd amser am ddim i helpu gyda gweithgaredd chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf, h.y. gwirfoddoli mewn chwaraeon, yn llai nag un o bob deg oedolyn (9%).

Gwylio Chwaraeon:

  • Roedd 37% o oedolion wedi mynychu un digwyddiad chwaraeon o leiaf fel gwylwyr yn ystod y 12 mis diwethaf.

Agweddau tuag at Weithgarwch Corfforol:

  • Yn seiliedig ar yr oedolion a oedd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol neu a oedd â galw am wneud hynny:
  • Roedd 85% yn cytuno neu’n cytuno’n llwyr gyda 'Mae gen i’r cyfle i fod yn actif yn gorfforol' ac 'Mae gen i'r hyder i fod yn actif yn gorfforol' ac yn yr un modd, roedd 84% yn cytuno neu’n cytuno’n llwyr â'r datganiad 'Rydw i'n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus'.

Bydd yr adroddiad hwn yn cyflwyno'r canfyddiadau manwl o'r adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y fethodoleg, edrychwch ar y Cyflwyniad.

1. Cyflwyniad

Cefndir Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Adroddiad Cyflwr y Genedl yn edrych ar ganfyddiadau adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2024-2025. Mae’r canlyniadau’n seiliedig yn bennaf ar gyfweliadau dros y ffôn a holiaduron ar-lein hefyd.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC) yn arolwg sampl ar hap ar raddfa fawr o oedolion (16 oed a hŷn) o bob cwr o Gymru. Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Cyn 2016, roedd Chwaraeon Cymru yn cynnal arolwg annibynnol o’r enw ‘Yr Arolwg Oedolion Actif’. Ers hynny, mae arolygon ar raddfa fawr cyrff cyhoeddus wedi cael eu casglu at ei gilydd i wella effeithlonrwydd wrth gasglu data ledled Cymru, gan ffurfio Arolwg Cenedlaethol Cymru fel y mae heddiw.

Gan ddechrau yn 2016, mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn gyfrifol am y cwestiynau am gyfranogiad a galw am chwaraeon sydd wedi’u hymgorffori yn ACC. Cyfeirir at y cwestiynau hyn bellach fel adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ yr arolwg ac maent yn ffocws yr adroddiad hwn.

Mae ACC yn arolwg blynyddol. Cesglir data yn barhaus drwy gydol y flwyddyn, o fis Ebrill i'r mis Mawrth canlynol. 

Ers 2021, mae'r arolwg wedi mabwysiadu cynllun ffôn-yn-gyntaf o weithredu, sy'n golygu bod y cwestiynau'n cael eu gofyn dros y ffôn yn bennaf yn hytrach na wyneb yn wyneb (ac o ganlyniad maent yn cael eu gweinyddu heb ddefnyddio cardiau dangos). Bydd yr arolygon yn y dyfodol yn cael eu gweinyddu fel holiaduron ar-lein. 

Mae ymatebwyr yr arolwg yn cael eu samplu a'u pwysoli i gynrychioli nodweddion y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru, sy'n cyfateb i tua 2.5 miliwn o oedolion (16+). 

Mae prif ganfyddiadau pennaf a gwybodaeth gefndir bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Arolwg Cenedlaethol Cymru | LLYW.CYMRU.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

  • Yn 2024-25, cymerodd tua 6,000 o oedolion (16+ oed) ledled Cymru ran yn yr arolwg. Mae hyn yn sylweddol is nag yn ystod blynyddoedd blaenorol yr arolwg.
  • Defnyddir pwysau'r arolwg i ddod â'r sampl yn nes at y boblogaeth o ran oedran, rhyw, a maint yr awdurdod lleol, yn ogystal ag i wneud iawn am amrywiad o'r targed yn nifer y cyfweliadau a gynhaliwyd yn ystod pob chwarter. Mae'r pwysau'n lleihau effeithiau gwahaniaethau yn y sampl a gyflawnwyd o gymharu â blynyddoedd blaenorol a gyda'r boblogaeth gyffredinol.
  • Bob blwyddyn, cyflwynir adran "Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif" yr arolwg ac mae'n edrych ar gyfranogiad a galw mewn "Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol". Cynhwysir pynciau ychwanegol bob hyn a hyn hefyd. Yn 2024-25 roedd y rhain yn cynnwys gwirfoddoli a gwylio mewn chwaraeon, cyfleusterau chwaraeon, ac agweddau at fod yn actif. Mae holiadur yr arolwg ar gael ar-lein (Tudalennau 156-181).
  • Ar gyfer yr adroddiad hwn, mae'r term "Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol" yn cyfeirio at y gweithgareddau sydd wedi’u rhestru yn Atodiad A1. Gall oedolion gymryd rhan mewn dim un, un, neu fwy nag un o'r gweithgareddau sydd wedi’u rhestru yn y diffiniad hwn.
  • Er mwyn casglu ffigurau “Cyfranogiad”, gofynnir i ymatebwyr am eu hymddygiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol o fewn y “…pedair wythnos flaenorol”, gan fod hyn yn rhoi syniad o ymddygiad nodweddiadol yr unigolyn hwnnw.
  • Drwy gydol yr adroddiad, mae “Amledd cyfranogiad” yn cyfeirio at gyfanswm yr achlysuron y cymerodd oedolyn ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, ar sail cyfartaledd i ddarparu amcangyfrif o gyfranogiad wythnosol.
  • Mae gwaith maes yr arolwg yn rhedeg yn barhaus drwy gydol y flwyddyn sy'n sicrhau, yn gyffredinol, bod yr ymatebion blynyddol yn ystyried amrywiadau tymhorol mewn lefelau gweithgarwch.
  • Mae crynhoi’r cwestiynau amledd cyfranogiad ar gyfer pob gweithgaredd o fewn yr adran “Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif” yn yr arolwg yn ein galluogi i adrodd ar “Canran y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos”. Dyma Ddangosydd Cenedlaethol (Rhif 38) ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dehongli'r Data:

  • Mae pob adran o'r adroddiad yn darparu ystadegau disgrifiadol o adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif ACC 2024-25.
  • Mae cymariaethau'n bosibl rhwng ACC 2024-25 a'r ddau arolwg cenedlaethol blaenorol (ACC 2021-22 ac ACC 2022-23). Mae'r adroddiadau hyn ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru. Nodyn: dylid bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau â blynyddoedd blaenorol oherwydd y cyfraddau ymateb is a gafwyd yn 2024-25 [1] .
  • Yn y gorffennol bu bylchau yn y data tueddiadau rhwng yr arolwg Oedolion Actif ac ACC 2016-17, a rhwng ACC 2019-20 a 2021-22.
  • Mae gwahaniaethau rhwng grwpiau poblogaeth, ac mewn newid dros amser, wedi'u hamlygu pryd bynnag y mae newid ystadegol arwyddocaol.
  • Mae data coll (er enghraifft, ymateb ‘gwrthod’ neu ‘ddim yn gwybod’) yn cael eu heithrio o’r canlyniadau gan fwyaf. Weithiau gall hyn achosi mân wahaniaethau bach yng nghyfansymiau’r tablau. Enghraifft arall o ble gallai hyn ddigwydd yw pan ofynnir cwestiwn penodol i is-sampl gynrychioliadol o’r arolwg. Bydd y canrannau a’r cyfansymiau’n seiliedig ar yr is-sampl hwn.
  • Mae’r canrannau’n cael eu talgrynnu i’r ganran agosaf, ac mae’r ffigurau poblogaeth yn cael eu talgrynnu i’r mil agosaf.

Strwythur yr Adroddiad

Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro yn adrannau sy'n gysylltiedig â'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Yr adrannau hyn yw:

  • Cenedl Actif: adran sy'n cynnwys y brif wybodaeth am ymddygiadau cymryd rhan.
  • Pawb: adran sy'n archwilio ymddygiadau cymryd rhan gwahanol fathau o oedolion yng Nghymru.
  • Gydol Oes: adran sy'n canolbwyntio ar wahaniaethau yn ôl grwpiau oedran y boblogaeth a ffactorau ffordd o fyw eraill.
  • Mwynhad: mae'r adran hon yn canolbwyntio ar y galw i wneud mwy o chwaraeon ledled Cymru a faint o'r galw hwn sy'n cael ei fodloni.

2. Cenedl Actif: Lefelau cyfranogiad

Y weledigaeth yw creu cenedl actif, gyda chymaint o bobl â phosibl yn cael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.

Mae'r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol gan oedolion Cymru. Mae'r canlyniadau'n helpu i archwilio’r cynnydd tuag at Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.

2.1 Cyfranogiad Cenedlaethol

Mae poblogaeth Cymru tua 3.19 miliwn o bobl [1], ac mae 2.49 miliwn ohonynt wedi'u diffinio fel oedolion (y rhai 16+ oed at ddiben yr adroddiad hwn) ac wedi'u cynrychioli yn ACC 2024-25 [2].

Cymerodd bron i chwech o bob deg oedolyn ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, sy'n cynrychioli 59% o'r holl oedolion (1,449,000 o oedolion).

Gellir categoreiddio chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn grwpiau eang. Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio tri grŵp eang: 'Gweithgareddau Ffitrwydd', 'Chwaraeon a Gemau' a 'Gweithgareddau Awyr Agored'.

  • Mae gweithgareddau ‘ffitrwydd’ yn cynnwys rhedeg / loncian, beicio, nofio, mynd i’r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd, dosbarthiadau dawns, cerdded mwy na 2 filltir, ac ymarferion gartref.
  • Mae ‘chwaraeon a gemau’ yn cynnwys Chwaraeon Tîm, Chwaraeon Raced, Golff, Athletau, Bowlio, Gemau Dan Do a Chwaraeon Ymladd.
  • Mae ‘gweithgareddau awyr agored’ yn cynnwys chwaraeon Mynydd (e.e. dringo neu sgïo), Chwaraeon Modur, Pysgota neu enweirio, Marchogaeth Ceffylau, Sglefrio neu sglefrfyrddio, a Chwaraeon Dŵr (e.e. caiacio, syrffio, hwylio).

Cymerodd 56% o oedolion (1,366,000 o oedolion) ran mewn ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, cymerodd bron i un o bob pump o oedolion (19%) ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ (477,000 o oedolion), a chymerodd 6% ran mewn ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn ystod y pedair wythnos flaenorol (143,000 o oedolion). 

Roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn gweithgareddau ‘Ffitrwydd’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf yn debyg i 2022-23 (56% a 6% yn y drefn honno). Fodd bynnag, roedd canran yr oedolion oedd wedi cymryd rhan mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ wedi cynyddu ychydig. Yn 2024-25 roedd yn 19% ac roedd yn 16% yn 2022-23. Mae hyn yn cyfateb i 65,000 yn fwy o oedolion yn cymryd rhan mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ unwaith o leiaf yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf o gymharu â’r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

2.2 Amledd Cyfranogiad Cenedlaethol

Yn ystod 2024-25, cymerodd ychydig dros draean o oedolion (35%) ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. Mae hyn yn cyfateb i 868,000 o oedolion. Roedd 1,586,000 o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mor aml, gyda’r rhan fwyaf yn cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos (fel y dangosir yng Ngraff 2.1).

Graff 2.1: Amledd Cenedlaethol Cyfranogiad Oedolion 

Siart bar gyda 4 bar yn dangos % yn ôl amledd cyfranogiad. O'r chwith i'r dde mae'r siart yn dangos: Llai nag unwaith yr wythnos 48% (1,167,000), unwaith yr wythnos 10% (244,000), dwywaith yr wythnos 7% (175,000), a 3 gwaith yr wythnos neu fwy 35% (868,000).

Mae canran yr oedolion a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos bedwar pwynt canran yn is nag yr oedd yn 2022-23. Mae hyn yn golygu bod 118,000 yn llai o oedolion yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2024-25 o gymharu â'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

Mae Tabl 2.1 yn dangos bod canfyddiadau amledd cyffredinol y cyfranogiad ar gyfer Cymru yn cael eu gyrru gan gyfranogiad rheolaidd mewn 'Gweithgareddau Ffitrwydd'. Cymerodd canran uwch o oedolion ran mewn 'Gweithgareddau Ffitrwydd', ac fe wnaethant hynny'n amlach o gymharu â 'Chwaraeon a Gemau' neu 'Gweithgareddau Awyr Agored'.

Tabl 2.1: Amledd cyfranogiad yn ôl grwpiau gweithgarwch eang:

Grŵp gweithgareddauLlai nag unwaith yr wythnosUnwaith yr wythnosDwywaith yr wythnosTair gwaith neu fwy yr wythnos
Gweithgareddau Ffitrwydd51%10%7%32%
Chwaraeon a Gemau88%6%4%3%
Gweithgareddau Awyr Agored98%1%<1%1%
Cymru yn Gyffredinol48%10%7%35%

Cymerodd ychydig llai na thraean o oedolion (32%) ran mewn gweithgareddau ‘Ffitrwydd’ dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ystod 2024-25. Mae hyn yn cyfateb i 787,000 o oedolion. Cymerodd canran lawer is o oedolion ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ dair gwaith neu fwy yr wythnos (3%), sy’n cynrychioli 66,000 o oedolion. Yn is eto oedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ eraill dair gwaith neu fwy yr wythnos (1%; 16,000 o oedolion). Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos y rôl allweddol y mae ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ yn ei chwarae wrth gadw oedolion yn actif yn rheolaidd.

Roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ dair gwaith neu fwy yr wythnos yn unol â 2022-23, fodd bynnag, mae canran yr oedolion a gymerodd ran mewn gweithgareddau ‘Ffitrwydd’ dair gwaith neu fwy yr wythnos wedi gostwng. Yn 2024-25 roedd yn 32% ac roedd yn 36% yn 2022-23. Mae hyn yn cyfateb i 133,000 yn llai o oedolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau 'Ffitrwydd' dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

Mae dadansoddiad pellach yn dangos bod y dirywiad yn cael ei yrru'n bennaf gan lai o oedolion yn cerdded mwy na dwy filltir. Yn 2024-25, nododd 38% o oedolion eu bod wedi cerdded mwy na dwy filltir yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf (edrychwch ar Adran 6), o gymharu â 41% o oedolion yn 2022-23. Yn ogystal, gwnaeth oedolion a gymerodd ran yn y gweithgaredd hwn hynny'n llai aml dros y cyfnod o bedair wythnos, gyda gostyngiad yn y rhai a oedd yn cerdded sawl gwaith yr wythnos.

2.3 Lefel y Cyfranogiad

Gofynnwyd i'r rhai a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol [3] yn 2024-25 asesu'r lefel uchaf roeddent wedi cymryd rhan ynddi o ran cystadlu. Roedd hyn yn amrywio o'r rhai oedd yn cael eu talu i gystadlu'n broffesiynol i'r rhai a gymerodd ran mewn gweithgareddau heb fod yn gystadleuol yn unig, fel ar gyfer iechyd neu hamdden (Tabl 2.2).

Tabl 2.2: Lefel y cyfranogiad 

Lefel y cyfranogiadCanran yr OedolionNifer yr Oedolion
Cystadlu’n broffesiynol / lled-broffesiynol2%14,000
Cystadlu mewn chwaraeon amatur18%152,000
Cymryd rhan heb gystadlu79%658,000

Fel y dangosir yn Nhabl 2.2, roedd y rhan fwyaf o'r oedolion a gymerodd ran wedi gwneud hynny mewn gweithgarwch heb fod yn gystadleuol (79%; 658,000 o oedolion), ac felly roeddent wedi cymryd rhan am resymau eraill fel iechyd a / neu hamdden[5]. Cystadlodd tua 18% ar lefel amatur (152,000 o oedolion) a chystadlodd 2% ar lefel broffesiynol neu led-broffesiynol (14,000 o oedolion).

Cymerodd canran is o fenywod ran yn gystadleuol (naill ai'n broffesiynol / lled-broffesiynol / neu fel amatur) o gymharu â gwrywod (13% a 24% yn y drefn honno). Yn ogystal, ac er gwaetha’r ffaith bod ychydig mwy o fenywod na gwrywod yn byw yng Nghymru[6], dim ond 46,000 o fenywod a gystadlodd tra bo nifer y gwrywod a oedd wedi cystadlu yn 116,000.

Nid yw'r anghydraddoldebau hyn mewn cyfranogiad wedi'u cyfyngu i gymryd rhan yn gystadleuol neu i wrywod a benywod yn unig. Bydd hyn yn cael ei amlygu yn yr adran nesaf.

3. Pawb: Pwy sy'n cymryd rhan

Mae'r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn ystyried eu hunain fel pobl fedrus mewn chwaraeon i bobl sy'n ennill medalau.

Mae'r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, yn ôl daearyddiaeth a nodweddion poblogaeth. Mae'r canfyddiadau hyn yn helpu i archwilio tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng y grwpiau hyn i sicrhau bod manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyrraedd pawb ledled Cymru.

3.1 Daearyddiaeth

Mae'r adran hon yn edrych ar sut mae cyfranogiad yn amrywio yn ôl gwahanol ddaearyddiaeth.

3.1.1 Cyfranogiad yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf yn ôl daearyddiaeth

Mae Tabl 3.1 yn dangos canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal Partneriaeth Chwaraeon (PCh), ac yn ôl ardaloedd 'Gwledig' a ​​'Threfol' [1].

Tabl 3.1: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal Partneriaeth Chwaraeon, a dwysedd poblogaeth.

  Canran yr OedolionNifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth ChwaraeonGogledd Cymru 60%322,000
Canolbarth Cymru 59%95,000
Gorllewin Cymru53%290,000
Canolbarth y De66%494,000
Gwent54%248,000
Dwysedd PoblogaethTrefol60%987,000
Gwledig57%462,000
Cyfanswm Cymru59%1,449,000

Canolbarth y De oedd â'r ganran uchaf o oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol (66%), yn cynrychioli 494,000 o oedolion. Roedd gan Ogledd Cymru a Chanolbarth Cymru ganrannau tebyg yn cymryd rhan, sef 60% a 59% yn y drefn honno, sy'n cyfateb i 322,000 o oedolion ar gyfer Gogledd Cymru a 95,000 o oedolion ar gyfer Canolbarth Cymru.

O ran maint y boblogaeth, roedd nifer yr oedolion a gymerodd ran ym mhob PCh arall yn fwy na Chanolbarth Cymru. Am bob cyfranogwr yng Nghanolbarth Cymru, roedd pump o oedolion oedd wedi cymryd rhan yng Nghanolbarth y De. Fodd bynnag, mae hyn yn bennaf oherwydd bod mwy o oedolion yn byw mewn PChau eraill o gymharu â Chanolbarth Cymru.

Gorllewin Cymru (53%) a Gwent (54%) oedd â'r ganran isaf a chanran debyg o oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn cynrychioli 290,000 o oedolion ar gyfer Gorllewin Cymru a 248,000 o oedolion ar gyfer Gwent.

O gymharu â 2022-23, arhosodd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn debyg yn fras ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd y partneriaethau chwaraeon, ac eithrio Gorllewin Cymru lle bu gostyngiad o 7 pwynt canran mewn cyfranogiad o 60% yn 2022-23 i 53% yn 2024-25.

Yn ogystal, er bod nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn ardaloedd 'Trefol' tua dwbl nifer yr ardaloedd 'Gwledig', roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn ardaloedd 'Trefol' a 'Gwledig' yn debyg i 2022-23; gyda 60% a 57% yn 2024-25 o gymharu â 60% a 61% yn 2022-23, yn y drefn honno.

Mae Tabl 3.2 yn dangos canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Tabl 3.2: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):

Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruCanran yr Oedolion Nifer yr Oedolion
Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig)54%233,000
Cwintel 254%242,000
Cwintel 360%305,000
Cwintel 459%298,000
Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig)66%370,000
Cyfanswm Cymru59%1,449,000

Roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn amrywio ar draws lefelau amddifadedd. Roedd y rhai a oedd yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Cwintel 5) yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1).

Roedd gan y rhai a oedd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) a Chwintel 2 lefelau cyfranogiad o 54%, sy'n cyfateb i 233,000 o oedolion ar gyfer Cwintel 1 a 242,000 o oedolion ar gyfer Cwintel 2. Roedd gan y rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Cwintel 5) ganran cyfranogiad o 66% (370,000 o oedolion). Roedd bwlch o 12 pwynt canran rhwng Cwintel 1 a Chwintel 5, gyda 137,000 yn fwy o oedolion yn cymryd rhan yng Nghwintel 5 o gymharu â Chwintel 1.

O gymharu â 2022-23, mae canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn parhau'n debyg ar draws pob lefel amddifadedd.

3.1.2 Cyfranogiad dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl daearyddiaeth

Mae Tabl 3.3 yn edrych ar ganran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl ardal PCh, ac yn ôl dosbarthiad 'Gwledig' a ​​'Threfol'.

Tabl 3.3: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl ardal partneriaeth chwaraeon, a dwysedd poblogaeth.

  Canran yr OedolionNifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth ChwaraeonGogledd Cymru 37%197,000
Canolbarth Cymru 36%59,000
Gorllewin Cymru33%179,000
Canolbarth y De38%287,000
Gwent32%147,000
Dwysedd PoblogaethTrefol36%586,000
Gwledig35%282,000
Cyfanswm Cymru35%868,000

Canolbarth y De a Gogledd Cymru oedd â’r ganran uchaf, sef 38% a 37% yn y drefn honno, gyda Chanolbarth y De yn cynrychioli 287,000 o oedolion a Gogledd Cymru yn cynrychioli 197,000 o oedolion. Roedd gan Ganolbarth Cymru ganran debyg i Ogledd Cymru (36%), ond roedd yn cynrychioli'r nifer isaf o oedolion yn cymryd rhan (59,000 o oedolion) ar draws pob ardal partneriaeth chwaraeon. Roedd gan Orllewin Cymru a Gwent gyfraddau cyfranogiad tebyg o 33% a 32% yn y drefn honno, gan gynrychioli 179,000 o oedolion ar gyfer Gorllewin Cymru a 147,000 o oedolion ar gyfer Gwent.

O gymharu â 2022-23, mae canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn parhau'n debyg ar draws ardaloedd y partneriaethau chwaraeon.

Yn ogystal, roedd canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn debyg rhwng ardaloedd trefol a gwledig, gyda 36% o oedolion mewn ardaloedd trefol (586,000 o oedolion) a 35% mewn ardaloedd gwledig (282,000 o oedolion). Fodd bynnag, roedd yr ardaloedd trefol yn cynrychioli mwy na dwbl nifer y cyfranogwyr o gymharu ag ardaloedd gwledig.

O gymharu â 2022-23, mae’r lefelau cyfranogiad yn gostwng mewn ardaloedd trefol o 4 pwynt canran, ac roedd newid llai nodedig mewn ardaloedd gwledig (40% a 38% yn 2022-23 yn y drefn honno).

Mae Tabl 3.4 yn dangos canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).Fel y disgrifiwyd yn gynharach yn yr adroddiad, y MALlC yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru.

Tabl 3.4: Cyfranogiad dair gwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):

Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruCanran yr Oedolion Nifer yr Oedolion
Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig)31%134,000
Cwintel 231%138,000
Cwintel 336%185,000
Cwintel 437%118,000
Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig)40%224,000
Cyfanswm Cymru35%868,000

Roedd canran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn debyg ar gyfer y rhai a oedd yn byw yn y ddwy ardal fwyaf difreintiedig (roedd Cwintel 1 a Chwintel 2 ill dau yn 31%). Yn ogystal, roedd y rhai a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â'r rhai a oedd yn byw yn y rhan leiaf difreintiedig yng Nghymru (h.y. Cwintel 5 ar 40%).

Roedd gwahaniaeth o 9 pwynt canran yng nghanran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos rhwng y rhai sy'n byw yn yr 20% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1), o gymharu â'r rhai sy'n byw yn yr 20% isaf o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru (Cwintel 5). Mae'r gwahaniaeth hwn yn cyfateb i 90,000 o oedolion rhwng y mwyaf a'r lleiaf difreintiedig.

O gymharu â 2022-23, mae canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn parhau'n debyg ar draws pob lefel amddifadedd.

3.2 Nodweddion y Boblogaeth

Mae'r adran hon yn edrych ar sut mae cyfranogiad yn amrywio yn ôl gwahanol nodweddion poblogaeth.

3.2.1 Cyfranogiad yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf yn ôl nodweddion poblogaeth

Mae Tabl 3.5 yn cyflwyno cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol (yn ystod y 4 wythnos flaenorol) a archwiliwyd yn ôl gwahanol grwpiau demograffig yng Nghymru.

Tabl 3.5: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl rhyw, ethnigrwydd, anabledd, amddifadedd materol, a defnydd o'r iaith Gymraeg.

 Canran yr OedolionNifer yr Oedolion
RhywBenywod56%717,000
 Gwrywod62%732,000
Ethnigrwydd

Gwyn

(Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig)

58%1,284,000

Gwyn Arall

(Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall)

67%56,000

Unrhyw Grŵp Ethnig arall

(Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog)

67%108,000
Cyflyrau iechyd, salwch neu namauGyda salwch cyfyngus hirdymor 39%334,000
Dim salwch cyfyngus hirdymor70%1,092,000
AmddifadeddByw mewn amddifadedd materol60%167,000
Byw mewn amddifadedd materol59%1,267,000
Yr iaith Gymraeg (FG36)Pobl sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd  165,000
Pobl sydd ddim yn defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd59%1,281,000
Cyfanswm Cymru59%1,449,000

Roedd benywod yn llai tebygol o nodi eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â gwrywod, gyda gwahaniaeth o 6 pwynt canran. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws y ddwy flynedd.

Roedd gan y rhai a nododd eu hethnigrwydd fel 'Gwyn' ganran cyfranogiad o 58%, ac roedd gan y rhai a nododd eu hethnigrwydd fel 'Gwyn Arall' ac 'Unrhyw Grŵp Ethnig Arall' ganrannau cyfranogiad o 67%. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws y ddwy flynedd.

Roedd yr oedolion a nododd bod ganddynt salwch cyfyngus hirdymor yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol (39%) o gymharu â'r rhai heb salwch cyfyngus hirdymor (70%), gyda gwahaniaeth o 31 pwynt canran [3]. Yn 2022-23 roedd y gwahaniaeth yn 23 pwynt canran.

Roedd oedolion sy'n byw mewn amddifadedd materol yr un mor debygol o nodi eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol (60%), sy'n cynrychioli 167,000 o oedolion, o gymharu â'r rhai nad oeddent mewn amddifadedd materol (59%), sy'n cynrychioli 1,267,000 o oedolion.

O gymharu â’r ffigurau a adroddwyd yn 2022-23, cynyddodd nifer yr oedolion sy'n byw mewn amddifadedd materol a gymerodd ran yn ystod y pedair wythnos flaenorol 11 pwynt canran, sy'n cyfateb i tua 26,000 yn rhagor o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gostyngodd nifer yr oedolion nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol 4 pwynt canran, sy'n cyfateb i 69,000 yn llai o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol.

Yn olaf, roedd y lefelau cyfranogiad yn debyg ymhlith y rhai sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd a'r rhai nad ydynt yn defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws y ddwy flynedd.

3.2.2 Cyfranogiad dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl Nodweddion y Boblogaeth

Mae Tabl 3.6 yn cyflwyno cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos wedi'i archwilio yn ôl gwahanol grwpiau demograffig yng Nghymru.

Tabl 3.6 Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl rhyw, ethnigrwydd, anabledd, amddifadedd materol, a defnydd o'r iaith Gymraeg.

 Canran yr OedolionNifer yr Oedolion
RhywBenywod32%404,000
Gwrywod40%463,000
Ethnigrwydd

Gwyn

(Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig)

35%777,000

Gwyn Arall

(Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall)

39%33,000

Unrhyw Grŵp Ethnig arall

(Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog)

67%108,000
Cyflyrau iechyd, salwch neu namauGyda salwch cyfyngus hirdymor 21%178,000
Dim salwch cyfyngus hirdymor44%677,000
AmddifadeddByw mewn amddifadedd materol33%92,000
Byw mewn amddifadedd materol36%768,000
Yr iaith Gymraeg (FG36)Pobl sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd 40%105,000
Pobl sydd ddim yn defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd35%760,000
Cyfanswm Cymru35%868,000

Mae Tabl 3.6 yn dangos bod benywod yn llai tebygol o nodi eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â gwrywod; gwahaniaeth o 8 pwynt canran. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws dwy flynedd yr arolwg.

Roedd canran y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 35% ar gyfer y rhai’n uniaethu fel 'Gwyn', 39% ar gyfer y rhai’n uniaethu fel 'Gwyn arall' a 36% o 'Unrhyw grŵp ethnig arall'. O gymharu â 2022-23, mae'r canlyniadau'n parhau'n debyg ar draws dwy flynedd yr arolwg.

Roedd canran yr oedolion a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos heb salwch cyfyngus hirdymor (44%) yn fwy na dwbl canran y rhai gyda salwch cyfyngus hirdymor (21%) [4]; gwahaniaeth o 23 pwynt canran. O gymharu â 2022-23, roedd gostyngiad o 6 pwynt canran ymhlith yr oedolion gyda salwch cyfyngus hirdymor ac a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos, tra oedd y ganran gyfatebol o oedolion heb salwch cyfyngus hirdymor wedi aros yn debyg ar draws y ddwy flynedd.

Roedd canran yr oedolion sy'n byw mewn amddifadedd materol a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos (33%) yn agos at ganran yr oedolion nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol (36%). Fodd bynnag, o gymharu â 2022-23, roedd gostyngiad o 5 pwynt canran ymhlith y rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos, sy'n cyfateb i 98,000 yn llai o oedolion, ac i'r rhai sy'n byw mewn amddifadedd materol roedd y lefel a adroddwyd yn gyson â 2022-23.

Yn olaf, roedd canran yr oedolion sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd yn 40% ac roedd yn 35% ar gyfer y rhai nad oeddent yn defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd. 

O gymharu â 2022-23, roedd y rhai nad oeddent yn defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd ac a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos wedi gostwng 4 pwynt canran. Mae hyn yn cyfateb i 104,000 yn llai o oedolion nad oeddent yn defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd ac a gymerodd ran dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2024-25.

4. Gydol Oes: Cyfranogiad yn ôl grŵp oedran

Mae'r weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl ar wahanol gyfnodau yn eu bywyd.

Mae'r adran hon yn edrych ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl oedran, ochr yn ochr â phynciau ychwanegol sy'n dangos sut mae pobl yn cymryd rhan ac yn rhyngweithio â chwaraeon yn ystod gwahanol gyfnodau yn eu bywyd.

4.1 Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl oedran.

Fel yr arolygon blaenorol (ACC 2021-22 a 2022-23) yn 2024-25, mae canran yr oedolion a gymerodd ran yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn tueddu i ostwng wrth i grŵp oedran ymatebwyr yr arolwg gynyddu. Dangosir hyn yng Ngraff 4.1.

Graff 4.1: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl oedran.

Siart bar gyda 7 bar yn dangos % yn ôl oedran. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: 16-24 76% (167,000), 25-34 75% (280,000), 35-44 72% (270,000), 45-54 67% (255,000), 55-64 54% (232,000), 65-74 48% (171,000), a 75 a hŷn 23% (74,000). Mae llinell ddotiog yn dangos y cyfartaledd cenedlaethol o 59%.

Mae Graff 4.1 yn dangos canran yr oedolion ym mhob grŵp oedran a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn 2024-25.

Cymerodd canran uwch o oedolion o fewn y grwpiau oedran 16-24 oed, 25-34 oed, 35-44 oed, a 45-54 oed ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol (59%) a grwpiau oedran hŷn. I'r gwrthwyneb, cymerodd canran is o oedolion ran ymhlith y rhai 55-64 oed, 65-74 oed, a 75+ oed o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, ac â grwpiau oedran iau. Canfuwyd tuedd debyg hefyd yn 2021-22 a 2022-23.

Mae Tabl 4.1 yn dangos nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn 2024-25 ochr yn ochr â chanrannau.

Tabl 4.1: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl oedran

Grŵp OedranCanran yr OedolionNifer yr Oedolion
16-2476%167,000
25-3475%280,000
35-4472%270,000
45-5467%255,000
55-6464%232,000
65-7448%171,000
75+23%74,000
Cyfanswm Cymru59%1,449,000

4.2 Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl oedran

Wrth archwilio hyn yn fanylach, gwelwyd fod canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn aml (h.y. dair gwaith neu fwy yr wythnos) hefyd wedi gostwng wrth i oedran yr ymatebwyr gynyddu (Graff 4.2).

Graff 4.2: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl oedran

Siart bar gyda 7 bar yn dangos % yn ôl oedran. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: 16-24 52% (114,000), 25-34 45% (167,000), 35-44 42% (158,000), 45-54 39% (149,000), 55-64 33% (141,000), 65-74 28% (99,000), a 75 a hŷn 12% (40,000). Mae llinell ddotiog yn dangos y cyfartaledd cenedlaethol o 35%.

Mae Graff 4.2 yn edrych ar y gwahaniaethau yn ôl grŵp oedran ar gyfer y rhai a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos.

Cymerodd canran uwch o oedolion 16-24 oed, 25-34 oed, a 35-44 oed ran dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol (35%), ac o gymharu â grwpiau oedran hŷn. I'r gwrthwyneb, cymerodd canran is o oedolion ran dair gwaith neu fwy yr wythnos ymhlith y rhai 65-74 oed, a 75+ oed o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, ac o gymharu â grwpiau oedran iau. Oedolion rhwng 55 a 64 oed gymerodd ran agosaf at y cyfartaledd cenedlaethol.

Mae Tabl 4.2 yn dangos nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2024-25 ochr yn ochr â'r canrannau hyn.

Tabl 4.2: Cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ôl oedran

Grŵp OedranCanran yr OedolionNifer yr Oedolion
16-2452%114,000
25-3445%167,000
35-4442%158,000
45-5439%149,000
55-6433%141,000
65-7428%99,000
75+12%40,000
Cyfanswm Cymru  35%868,000

Mae canfyddiadau Adrannau 4.1 a 4.2 yn awgrymu, wrth i oedolion symud drwy wahanol gyfnodau yn eu bywyd, bod lefel eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn tueddu i ostwng. Mae'r adran nesaf yn edrych ar rai o'r ffactorau a allai gyfrannu at y gostyngiad hwn. Bydd hefyd yn dangos rhai o'r gwahanol ffyrdd y mae oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon y tu hwnt i gyfranogiad.

4.3 Rhesymau sy'n annog cyfranogiad yn y dyfodol

Gofynnwyd i oedolion beth fyddai'n eu hannog i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Gallai oedolion awgrymu sawl rheswm a fyddai'n eu hannog i fod yn fwy actif. Awgrymodd 31% un rheswm, awgrymodd 33% ddau neu dri rheswm, a nododd 36% fwy na thri rheswm a fyddai'n eu hannog i wneud mwy o chwaraeon. Dangosir y canlyniadau manwl ar gyfer 2024-25 yng Ngraff 4.3.

Graff 4.3: Rhesymau sy'n annog cyfranogiad yn y dyfodol

Siart bar fertigol gyda 12 bar yn dangos % yn ôl rheswm a fyddai'n annog cyfranogiad yn y dyfodol. O'r top i'r gwaelod, mae'r siart yn dangos: Pe bawn i'n llai prysur gyda gwaith 44% (377,000), Pe bai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn fy ardal 41% (353,000), Pe bai’n costio llai 36% (307,000), Pe bawn i'n teimlo mwy o gymhelliant 35% (298,000), Pe bawn i'n gallu mynd gyda rhywun arall 30% (262,000), Pe bawn i'n teimlo'n fwy heini 28% (240,000), Pe bai gen i lai o ymrwymiadau teuluol neu ofalu 26% (

Yn 2024-25 y rheswm a grybwyllwyd amlaf oedd ‘Pe bawn i’n llai prysur gyda gwaith’ (44%). Roedd y ganran a grybwyllodd ‘Pe bai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn fy ardal i’ yn uchel hefyd (41%). Roedd ‘Pe bai’n costio llai’ yn un o’r tri phrif reswm hefyd. Dangosir dadansoddiad llawn yn Nhabl 4.3.

Tabl 4.3: Rhesymau sy’n annog cyfranogiad yn y dyfodol

Rheswm  Canran yr Oedolion(%)Nifer yr Oedolion
Pe bawn i'n llai prysur gyda gwaith44%377,000
Pe bai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn fy ardal i41%353,000
Pe bai'n costio llai36%307,000
Pe bawn i'n teimlo mwy o gymhelliant 35%298,000
Pe bawn i'n gallu mynd gyda rhywun arall30%262,000
Pe bawn i'n teimlo'n fwy heini28%240,000
Pe bai gen i lai o ymrwymiadau teuluol neu ofalu26%227,000
Pe bai'n haws teithio i glybiau / cyfleusterau / grwpiau24%211,000
Pe bawn i'n teimlo'n fwy hyderus yn gwneud chwaraeon19%165,000
Pe bai cyfleusterau, clybiau neu grwpiau a oedd yn diwallu fy anghenion hygyrchedd15%131,000
Pe bawn i'n gwybod sut i gymryd rhan 14%123,000
Arall6%47,000

4.4 Cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol

Cafodd cwestiynau newydd am gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn yr ardal leol [3] a oedd wedi cael eu defnyddio yn ystod y 12 mis diwethaf eu gofyn [4] yn 2024-25.

Canfuwyd bod bron i bedwar o bob deg oedolyn yng Nghymru (38%) wedi defnyddio cyfleuster chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i 658,000 o bobl. Mae hyn hefyd yn dangos nad oedd y 960,000 o oedolion y gofynnwyd y cwestiwn hwn iddynt wedi defnyddio'r cyfleusterau lleol hyn.

O'r 960,000 o oedolion nad oeddent wedi defnyddio cyfleuster chwaraeon neu weithgarwch corfforol lleol yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd mwy na chwarter (27%) wedi bod eisiau defnyddio'r cyfleuster.

I edrych ar hyn ymhellach, gofynnwyd i oedolion a oedd wedi defnyddio neu a oedd eisiau defnyddio cyfleusterau lleol yn ystod y 12 mis diwethaf gyfres o ddatganiadau agwedd yn gysylltiedig â’r ddarpariaeth o gyfleusterau. Cyflwynir y canlyniadau isod.

Dangosir lefel y cytuno â'r datganiad 'Rydw i'n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen' yng Ngraff 4.4.

Graff 4.4: Cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen.’

Siart bar gyda 6 bar yn dangos % yn ôl lefel cytundeb â'r datganiad. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: Cytuno'n llwyr 53% (486,000), Tueddu i gytuno 33% (300,000), Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 5% (44,000), Tueddu i anghytuno 5% (45,000), Anghytuno'n llwyr 4% (34,000), Ddim yn berthnasol 1% (13,000).

Mae Graff 4.4 yn dangos bod mwy na hanner y cyfranogwyr yn cytuno’n llwyr â’r datganiad (53%), gyda 33% ychwanegol yn tueddu i gytuno. Roedd canrannau’r rhai oedd ddim yn cytuno nac yn anghytuno i gyd yn llawer is (roedd pob un yn agos at 5% neu is). Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.4.

Tabl 4.4: Cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen’

Rydw i’n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen’Canran yr Oedolion(%)Nifer yr Oedolion
  Cytuno’n llwyr53%486,000
  Tueddu i gytuno33%300,000
  Ddim yn cytuno nac yn anghytuno5%44,000
  Tueddu i anghytuno5%45,000
  Anghytuno’n llwyr4%34,000
  Amherthnasol1%13,000

Nesaf, dangosir lefel y cytuno â'r datganiad 'Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol.' yng Ngraff 4.5.

Graff 4.5: Cytuno â’r datganiad ‘Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol.’

Siart bar gyda 6 bar yn dangos % yn ôl lefel cytundeb â'r datganiad. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: Cytuno'n llwyr 32% (289,000), Tueddu i gytuno 37% (340,000), Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 8% (69,000), Tueddu i anghytuno 14% (125,000), Anghytuno'n llwyr 8% (77,000), Ddim yn berthnasol (dim gwybodaeth wedi'i dangos).

Mae Graff 4.5 yn dangos bod y farn yn fwy cymysg, gyda thua thraean yn cytuno'n llwyr â'r datganiad (32%), gydag ychydig mwy yn tueddu i gytuno (37%). Roedd canran y rhai nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno, yn tueddu i anghytuno neu'n anghytuno'n llwyr i gyd yn is (8%, 14% ac 8% yn y drefn honno). Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.5.

Tabl 4.5: Cytuno â’r datganiad ‘Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol.’

Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol.’Canran yr Oedolion(%)Nifer yr Oedolion
  Cytuno’n llwyr32%289,000
  Tueddu i gytuno37%340,000
  Ddim yn cytuno nac yn anghytuno8%69,000
  Tueddu i anghytuno14%125,000
  Anghytuno’n llwyr8%77,000
  Amherthnasol--

Er bod y rhan fwyaf o oedolion yn cytuno â ‘Mae digon o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i mi yn fy ardal leol,’ roedd ychydig mwy yn anghytuno â’r datganiad hwn (Graff 4.5) o gymharu â’r datganiad blaenorol (edrychwch ar Graff 4.4), sy’n golygu bod rhywfaint o anghysondeb o ran bod digon o gyfleusterau ar gael a gallu cyrraedd y cyfleusterau oedd eu hangen i fod yn actif.

Un rheswm efallai dros y gwahaniaeth yw oherwydd hepgor ‘ardal leol’ yn y datganiad ‘Rydw i’n gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd arnaf i eu hangen.’ ac o ganlyniad gallai ddangos bod rhai’n teithio y tu hwnt i’w hardal leol i gael mynediad at y cyfleusterau sydd arnynt eu hangen os nad oes digon yn eu hardal leol.

Nesaf roedd asesiad o lefel y cytuno â’r datganiad ‘Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i o ansawdd uchel.’ (Graff 4.6).

Graff 4.6: Cytuno â’r datganiad: ‘Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i o ansawdd uchel.’

Siart bar gyda 6 bar yn dangos % yn ôl lefel cytundeb â'r datganiad. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: Cytuno'n llwyr 26% (230,000), Tueddu i gytuno 39% (350,000), Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 16% (142,000), Tueddu i anghytuno 10% (85,000), Anghytuno'n llwyr 6% (49,000), Ddim yn berthnasol 3% (30,000).

Mae Graff 4.6 yn dangos bod tua chwarter yn cytuno'n llwyr â'r datganiad hwn (26%), gyda mwy yn tueddu i gytuno (39%). Roedd canran y rhai nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno, yn tueddu i anghytuno neu'n anghytuno'n llwyr i gyd yn is (16%, 10% a 6% yn y drefn honno). Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.6.

Tabl 4.6: Cytuno â’r datganiad ‘Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i o ansawdd uchel.’

‘Mae’r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i o ansawdd uchel.’Canran yr Oedolion(%)Nifer yr Oedolion
  Cytuno’n llwyr26%230,000
  Tueddu i gytuno39%350,000
  Ddim yn cytuno nac yn anghytuno16%142,000
  Tueddu i anghytuno10%85,000
  Anghytuno’n llwyr6%49,000
  Amherthnasol3%30,000

Yn olaf, dangosir lefel y cytuno â’r datganiad ‘Mae'r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i yn fforddiadwy i mi.’ yng Ngraff 4.7.

Graff 4.7: Cytuno â’r datganiad: Mae'r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i yn fforddiadwy i mi.

Siart bar gyda 6 bar yn dangos % yn ôl lefel cytundeb â'r datganiad. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: Cytuno'n llwyr 35% (312,000), Tueddu i gytuno 36% (326,000), Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 12% (107,000), Tueddu i anghytuno 10% (91,000), Anghytuno'n llwyr 4% (35,000), Ddim yn berthnasol 3% (30,000).

Mae Graff 4.7 yn dangos bod ychydig dros draean yn cytuno'n llwyr â'r datganiad hwn (35%), gyda lefelau tebyg yn tueddu i gytuno (36%). Roedd canran y rhai nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno, yn tueddu i anghytuno neu'n anghytuno'n llwyr i gyd yn is (12%, 10% a 4% yn y drefn honno). Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.7.

Tabl 4.7: Cytuno â’r datganiad ‘Mae'r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i yn fforddiadwy i mi.’

‘Mae'r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fy ardal leol i yn fforddiadwy i mi.’Canran yr Oedolion(%)Nifer yr Oedolion
  Cytuno’n llwyr35%312,000
  Tueddu i gytuno36%326,000
  Ddim yn cytuno nac yn anghytuno12%107,000
  Tueddu i anghytuno10%91,000
  Anghytuno’n llwyr4%35,000
  Amherthnasol3%30,000

Roedd y patrymau a ddangoswyd yn y canlyniadau ar gyfer datganiadau am ansawdd (Graff 4.6) a fforddiadwyedd (Graff 4.7) yn debyg yn fras, gyda theimlad ychydig yn fwy cadarnhaol tuag at fforddiadwyedd, gan awgrymu nad yw ansawdd a fforddiadwyedd yn gysylltiedig o reidrwydd mewn ffordd syml (h.y. mae cyfleusterau o ansawdd gwell yn llai fforddiadwy).

Yn gyffredinol, mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o oedolion sy'n defnyddio cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gallu cyrraedd y rhai sydd arnynt eu hangen. Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf yn meddwl bod digon yn eu hardaloedd lleol a bod y rhai sydd ar gael yn cael eu hystyried o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy. Fodd bynnag, ni ddylai hyn guddio'r ffaith nad yw'r rhan fwyaf o oedolion yn cymryd rhan yn aml, nad oes ganddynt alw am wneud mwy, ac nad oeddent wedi defnyddio, neu'n wir eisiau defnyddio, cyfleusterau chwaraeon lleol yn ystod y 12 mis diwethaf.

Serch hynny, gellir ystyried y canfyddiadau hyn ochr yn ochr ag Adran 4.3 lle canfuwyd y byddai 41% yn cymryd mwy o ran pe bai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn eu hardal leol, byddai 24% yn cymryd mwy o ran pe bai'n haws teithio i glybiau / cyfleusterau / grwpiau a byddai 15% yn gallu gwneud mwy pe bai cyfleusterau, clybiau neu grwpiau a oedd yn diwallu eu hanghenion hygyrchedd.

Yn ogystal, dylid nodi mai ‘pe bai’n costio llai’ oedd un o’r tri phrif reswm a fyddai’n annog oedolion i wneud mwy, a grybwyllwyd gan 307,000 o oedolion, ond dim ond 126,000 o oedolion oedd yn anghytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy.

Mae’r adrannau nesaf yn disgrifio mwy o ffyrdd y gall oedolion fod yn actif drwy chwaraeon.

4.5 Gwirfoddoli mewn chwaraeon 

Rhoddodd ychydig llai nag un o bob deg oedolyn (9%) eu hamser am ddim i helpu gyda gweithgaredd chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i 213,000 o oedolion a oedd wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon.

Tabl 4.8: Gwirfoddoli mewn Chwaraeon 

Gwirfoddoli cysylltiedig â chwaraeon (yn ystod y 12 mis diwethaf)Canran yr Oedolion(%)Nifer yr Oedolion
  Gwirfoddoli mewn chwaraeon9%213,000
  Heb wirfoddoli mewn chwaraeon91%2,241,000

Mae canran yr oedolion a oedd wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon yn 2024-25 yn unol â chanfyddiadau 2019-20 a 2016-17 (pan ganfuwyd bod gwirfoddoli mewn chwaraeon yn 10%).

I roi lefel y gwirfoddoli mewn chwaraeon mewn cyd-destun, rydym hefyd yn gwybod bod tua thraean (32%) o oedolion Cymru yn wirfoddolwyr, yn gyffredinol, yn 2024-25 (725,000 o bobl). Mae'r oedolion hyn yn gwirfoddoli mewn amrywiaeth eang o ffyrdd ac ni fydd pob gwirfoddolwr yn cefnogi chwaraeon. Fodd bynnag, o blith y rhai sy'n gwirfoddoli, gwirfoddoli i glwb chwaraeon oedd yr ail fath mwyaf cyffredin o weithgarwch gwirfoddoli, yn ail i wirfoddoli i sefydliad elusennol.

Dim ond un o'r lleoliadau lle gwirfoddolodd oedolion mewn chwaraeon yw gwirfoddoli mewn clwb chwaraeon. Gwirfoddolodd y rhan fwyaf mewn clwb chwaraeon (66%) ond gwirfoddolodd oedolion hefyd mewn ysgol neu grŵp pobl ifanc (18%), ac mewn lleoliadau eraill (20%) yn ystod y 12 mis diwethaf (Tabl 4.9).

Tabl 4.9: Lleoliadau'r gwirfoddoli mewn Chwaraeon

Lleoliadau’r gwirfoddoli mewn chwaraeonCanran y gwirfoddolwyr(%)Nifer yr Oedolion
 Clwb chwaraeon 66%142,000
 Ysgol neu grŵp pobl ifanc 18%38,000
 Arall 20%43,000

Dyma nifer o ffyrdd y mae gwirfoddolwyr mewn chwaraeon yn rhoi eu hamser am ddim yn y lleoliadau hyn. Mae'r nifer o ffyrdd y mae oedolion yn gwirfoddoli mewn chwaraeon i’w gweld yng Ngraff 4.8.

Graff 4.8: Gwirfoddoli mewn chwaraeon yn ôl math o wirfoddoli
 

Siart bar gydag 8 bar yn dangos % yn ôl math o wirfoddoli mewn chwaraeon. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: Codi Arian 42% (89,000), Hyfforddi 41% (87,000), Cludiant 29% (61,000), Gweinyddu 27% (58,000), Stiwardio 23% (50,000), Arlwyo 11% (24,000), Dyfarnu 10% (21,000), ac Arall 11% (23,000).

Mae tua hanner y gwirfoddolwyr mewn chwaraeon yn helpu gydag o leiaf un o'r gweithgareddau hyn (52%). Mae 21% ychwanegol yn gwirfoddoli amser ar gyfer dau o'r gweithgareddau hyn a'r 27% sy'n weddill yn gwirfoddoli mewn tri neu fwy o'r gweithgareddau hyn.

Codi Arian a Hyfforddi yw'r ffyrdd mwyaf cyffredin y mae oedolion yn gwirfoddoli mewn chwaraeon ac roedd tua 4 o bob 10 o'r rhai a wirfoddolodd mewn chwaraeon wedi darparu amser ar gyfer o leiaf un o'r gweithgareddau hyn yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Nhabl 4.10.

Tabl 4.10: Gwirfoddoli mewn chwaraeon yn ôl math o wirfoddoli

Math o wirfoddoli mewn chwaraeon Canran y Gwirfoddolwyr(%)Nifer yr Oedolion
Codi arian 42%89,000
Hyfforddi 41%87,000
Cludiant i unigolion nad ydynt yn deulu 29%61,000
Gweinyddu27%58,000
Stiwardio23%50,000
Arlwyo 11%24,000
Dyfarnu 10%21,000
Arall 11%23,000

Mae rhai oedolion yn cael eu talu hefyd am eu rôl mewn chwaraeon. Yn benodol mewn perthynas â hyfforddi, mae 2% o'r holl oedolion yn cael eu talu i hyfforddi fel rhan o'u swydd (38,000 o bobl). Yn ogystal, mae gan 82% o'r rhai sy'n gwirfoddoli mewn hyfforddi rôl hyfforddi â thâl hefyd; ac felly maent yn cael eu talu am hyfforddi ond maent hefyd yn rhoi eu hamser am ddim i hyfforddi.

Roedd faint o amser a ddarparwyd ar gyfer gwirfoddoli mewn chwaraeon yn amrywio yn ôl y gwirfoddolwr ond roedd y rhan fwyaf yn gwirfoddoli'n rheolaidd (Tabl 4.11).

Tabl 4.11: Amledd y gwirfoddoli mewn chwaraeon 

Amledd (yn ystod y 12 mis diwethaf) Canran y Gwirfoddolwyr (%)Nifer yr Oedolion
Unwaith yr wythnos o leiaf 38%82,000
Llai nag unwaith yr wythnos ond unwaith y mis o leiaf 26%56,000
Llai nag unwaith y mis 33%70,000
Amledd arall  3%6,000

Darparodd y rhai a wirfoddolodd mewn chwaraeon yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf tua 6 i 7 awr o amser gwirfoddoli.

4.6 Gwylio Chwaraeon 

Mae rhai oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon drwy fynd i'w gwylio'n bersonol. Yn 2024-25 roedd ymhell dros draean o oedolion (37%) wedi mynychu o leiaf un digwyddiad chwaraeon fel gwyliwr yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i 907,000 o oedolion.

O blith y gwylwyr hynny, roedd rhaniad cymharol gyfartal rhwng y rhai a oedd wedi mynychu unwaith neu ddwywaith yn ystod y 12 mis diwethaf (37%; 343,000), y rhai a fynychodd dair neu bedair gwaith (30%; 272,000 o oedolion) a'r rhai a fynychodd yn amlach (mynychodd 32% unwaith y mis neu'n amlach; 289,000 o oedolion).

Yn ogystal, roedd y mwyafrif helaeth (85%; 778,000 o oedolion) wedi mynychu digwyddiad chwaraeon yng Nghymru. Roedd 127,000 o bobl a oedd wedi mynychu digwyddiadau y tu allan i Gymru yn unig.

5. Mwynhad: Galw a'r galw heb ei fodloni am chwaraeon

Mae'r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol, fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar edrych ar y 'Galw' a'r 'Galw Heb ei Fodloni' am chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru. Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu lle mae gan weithgareddau'r potensial i dyfu ac, yn eu tro, darparu mwy o gyfleoedd i oedolion eu mwynhau.

5.1 Galw Cenedlaethol

Mae oedolion sydd â ‘galw’ yn cyfeirio at y rhai a ddywedodd eu bod eisiau gwneud mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Efallai bod yr oedolion hyn eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Ychydig dros draean o oedolion (35%) a nododd alw i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, sy'n cynrychioli 840,000 o oedolion yn 2024-25.

Mae canran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol 7 pwynt canran yn uwch nag yr oedd yn 2022-23. Mae hyn yn golygu bod 155,000 yn fwy o oedolion eisiau gwneud mwy yn 2024-25 o gymharu â'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

Mae Graff 5.1 yn dangos sut mae'r galw hwn yn amrywio yn ôl grŵp gweithgarwch eang.

Graff 5.1: Canran yr oedolion oedd â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl grŵp gweithgarwch eang

Siart bar gyda 3 bar yn dangos % yn ôl galw ar gyfer grŵp gweithgarwch eang. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: Gweithgareddau Ffitrwydd 22% (545,000), Chwaraeon a Gemau 12% (304,000), Gweithgareddau Awyr Agored 6% (142,000).

Ar draws y grwpiau gweithgarwch eang, roedd gan 22% o oedolion (545,000) alw am o leiaf un 'Gweithgaredd Ffitrwydd', roedd gan 12% o oedolion (304,000) alw am o leiaf un gweithgaredd 'Chwaraeon a Gemau', ac roedd gan 6% o oedolion (142,000) alw am o leiaf un 'Gweithgaredd Awyr Agored' yn 2024-25.

Canran yr oedolion a oedd eisiau gwneud mwy o 'Weithgareddau Awyr Agored' yw'r isaf o'r holl fathau eang o weithgarwch ac mae'n parhau'n agos at y ganran a ganfuwyd yn 2022-23 (5% yn 2022-23). ​​Mae canran yr oedolion oedd eisiau gwneud mwy o 'Weithgareddau Ffitrwydd' yn uwch nawr nag yr oedd yn 2022-23 (cynnydd o 6 phwynt canran). Mae hyn yn cyfateb i 142,000 yn fwy o oedolion eisiau gwneud mwy o 'Weithgareddau Ffitrwydd' o gymharu â'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl [1]. Yn ogystal, mae canran yr oedolion a oedd eisiau gwneud mwy o weithgareddau ‘Chwaraeon a Gemau’ bellach yn uwch na’r lefel a ganfuwyd yn 2022-23 (cynnydd o 3 phwynt canran). Mae hyn yn cyfateb i 56,000 yn fwy o oedolion sydd eisiau gwneud mwy o weithgareddau ‘Chwaraeon a Gemau’ o gymharu â’r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

5.2 Galw a Daearyddiaeth

Mae’r adran hon yn edrych ar sut mae’r galw’n amrywio yn ôl gwahanol ddaearyddiaeth yng Nghymru.

Tabl 5.1: Canran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl ardal partneriaeth chwaraeon a dwysedd poblogaeth

 Canran yr Oedolion (%)Nifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth ChwaraeonGogledd Cymru 38%203,000
Canolbarth Cymru 34%55,000
Gorllewin Cymru28%153,000
Canolbarth y De38%280,000
Gwent33%151,000
Dwysedd Poblogaeth'Trefol'34%558,000
'Gwledig'35%282,000
Cyfanswm Cymru35%840,000

Roedd canran yr oedolion â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Ngogledd Cymru a Chanolbarth y De yn fwy na chanran yr oedolion â galw yng Nghanolbarth Cymru, Gwent, a Gorllewin Cymru, gyda Gogledd Cymru a Chanolbarth y De â chanran o 38%.

Roedd canran yr oedolion â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Ngorllewin Cymru (28%) yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol (35%), tra bo’r galw yng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Canolbarth y De a Gwent yn agosach at y cyfartaledd cenedlaethol.

O gymharu â chanfyddiadau 2022-23, cynyddodd y galw yng Ngogledd Cymru, Canolbarth y De a Gwent. Gwelwyd y cynnydd mwyaf sylweddol yng Nghanolbarth y De a Gwent. Cynyddodd Canolbarth y De 13 pwynt canran, sy'n cyfateb i 91,000 o oedolion ychwanegol â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a chynyddodd Gwent 12 pwynt canran, sy'n cyfateb i 50,000 yn fwy o oedolion. Cynyddodd Gogledd Cymru 8 pwynt canran hefyd, sy'n cyfateb i 34,000 yn fwy o oedolion â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Arhosodd y galw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn agos at y lefelau a adroddwyd yn 2022-23.

Yn ogystal, roedd canran yr oedolion oedd â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd 'Gwledig' (35%) yn unol â chanran yr ardaloedd 'Trefol' (34%). Serch hynny, o gymharu â 2022-23, bu cynnydd yn y galw mewn ardaloedd 'Trefol' a 'Gwledig'.

Cynyddodd y galw mewn ardaloedd 'Trefol' 8 pwynt canran, sy'n cyfateb i 124,000 o oedolion ychwanegol â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Dangosodd ardaloedd 'gwledig' rywfaint o dwf hefyd, gan gynyddu 6 phwynt canran, sy'n cyfateb i 31,000 o oedolion ychwanegol yn mynegi galw.

Mae Tabl 5.2 yn dangos canran a nifer yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 

Tabl 5.2: Canran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):

Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruCanran yr Oedolion (%)Nifer yr Oedolion
Cwintel 1(20%mwyaf difreintiedig )34%147,000
Cwintel 231%136,000
Cwintel 334%171,000
Cwintel 434%169,000
Cwintel 5 (20%lleiaf difreintiedig )39%217,000
Cyfanswm Cymru35%840,000

Roedd canran yr oedolion â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gymharol debyg ar draws y lefelau amddifadedd. Y gwahaniaeth mwyaf oedd bod gan y rhai yng Nghwintel 5 (lleiaf difreintiedig) fwy o alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol na'r rhai yng Nghwintel 2 [5].

O gymharu â 2022-23, cynyddodd y galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghwintel 1 (mwyaf difreintiedig), Cwintel 4 a Chwintel 5 (lleiaf difreintiedig). Mae Cwintel 1 (mwyaf difreintiedig) wedi gweld cynnydd o 9 pwynt canran, sy'n cyfateb i 40,000 o oedolion ychwanegol â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn yr un modd, gwelodd Cwintel 4 gynnydd o 6 phwynt canran hefyd, sy'n cyfateb i 14,000 o oedolion ychwanegol â galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Cwintel 5 (lleiaf difreintiedig) welodd y cynnydd mwyaf, sef 12 pwynt canran. Mae hyn yn cyfateb i 66,000 o oedolion ychwanegol yn mynegi galw am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn 2024-25. Arhosodd y galw yng Nghwintel 2 a Chwintel 3 yn debyg i'r lefelau a adroddwyd yn 2022-23.

5.3 Galw a Nodweddion y Boblogaeth

Mae'r adran hon yn edrych ar sut mae'r galw’n amrywio yn ôl gwahanol nodweddion poblogaeth.

Graff 5.2: Canran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl grŵp oedran.
 

Siart bar gyda 7 bar yn dangos % yn ôl oedran. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: 16-24 33% (72,000), 25-34 37% (137,000), 35-44 44% (164,000), 45-54 40% (152,000), 55-64 37% (157,000), 65-74 29% (102,000), a 75 a hŷn 18% (57,000). Mae llinell ddotiog yn dangos y cyfartaledd cenedlaethol o 35%.

Roedd y galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn is i'r rhai 75+ oed nag i grwpiau oedran eraill.

Yn fwy penodol, roedd y rhai 35-44 oed, 45-54 oed, a 55-64 oed yn fwy tebygol o nodi galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â'r rhai 65-74 oed a 75+ oed.

O gymharu â 2022-23, cynyddodd y galw yn sylweddol ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran, ac eithrio'r rhai 16-24 oed a 25-34 oed y parhaodd eu lefelau galw yn debyg. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y galw ymhlith y rhai 35-44 oed, gan godi 13 pwynt canran. Yn yr un modd, cynyddodd y galw hefyd ymhlith y rhai 45-54 oed a 55-64 oed; cynyddodd y galw ar gyfer y ddau grŵp oedran 11 pwynt canran. Roedd cynnydd hefyd yn y galw ymhlith oedolion hŷn 65-74 oed (8 pwynt canran) a 75+ oed (6 phwynt canran).

Yn nodedig, er bod y cyfraddau cyfranogiad wedi aros yn sefydlog ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran rhwng 2022-23 a 2024-25, cynyddodd y galw i bawb 35 oed a hŷn, gan ddangos casgliad cynyddol o alw cudd a bwlch sy'n ehangu rhwng cyfranogiad a galw ar gyfer y grŵp oedran hwn o gymharu ag oedolion o dan 35 oed.

Mae Tabl 5.3 yn dangos canran a nifer yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl nodwedd ddemograffig.

Tabl 5.3: Canran a nifer yr oedolion â galw i wneud mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl nodweddion poblogaeth.

 Canran yr Oedolion (%)Nifer yr Oedolion
RhywBenywod34%435,000
 Gwrywod35%405,000
Ethnigrwydd

Gwyn

(Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig)

33%718,000

Gwyn Arall

(Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall)

43%36,000

Unrhyw Grŵp Ethnig arall

(Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog)

54%85,000
Cyflyrau iechyd, salwch neu namauGyda salwch cyfyngus hirdymor 34%291,000
Dim salwch cyfyngus hirdymor35%538,000
AmddifadeddByw mewn amddifadedd materol44%120,000
Byw mewn amddifadedd materol34%715,000
Yr iaith Gymraeg (FG36)Pobl sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd 37%97,000
Pobl sydd ddim yn defnyddio'r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd34%740,000
Cyfanswm Cymru35%840,000

Yn 2024-25, ychydig iawn o wahaniaeth oedd yng nghanran yr oedolion â galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol rhwng Gwrywod (35%) a Benywod (34%).

Serch hynny, o gymharu â 2022-23, roedd cynnydd o 7 pwynt canran i Wrywod a chynnydd o 8 pwynt canran i Fenywod, sy'n cynrychioli 60,000 yn fwy o wrywod a 95,000 yn fwy o fenywod â galw.

Wrth edrych ar ethnigrwydd, roedd gan y rhai a nododd eu bod yn 'Unrhyw grŵp ethnig arall' ganran uwch o alw (54%) o gymharu â'r rhai a nododd eu bod yn 'Gwyn' (33%), tra oedd yn 43% ar gyfer y rhai a nododd eu bod yn 'Gwyn arall'.

Mae’r canlyniadau ar gyfer 2024-25 yn dangos cynnydd o 20 pwynt canran yn y galw ymhlith y rhai a nododd eu bod yn 'Unrhyw grŵp ethnig arall' o gymharu â 2022-23, pan oedd y galw yn 34%. Yn yr un modd, roedd cynnydd o 6 phwynt canran ymhlith y rhai a nododd eu bod yn 'Gwyn' o gymharu â 2022-23. Nid oedd gan y rhai a nododd eu hethnigrwydd fel 'Gwyn arall' unrhyw newid mesuradwy [6] yn lefelau'r galw.

Yn 2024-25, nododd 34% o oedolion sy'n byw gyda salwch cyfyngus hirdymor alw, o gymharu â 35% o oedolion sy'n byw heb salwch cyfyngus hirdymor [7].

Cynyddodd y galw hefyd rhwng 2022-23 a 2024-25 ymhlith y rhai sydd â salwch cyfyngus hirdymor a'r rhai nad oes ganddynt salwch o’r fath. Roedd cynnydd o 7 pwynt canran ymhlith y rhai â salwch cyfyngus hirdymor (28% yn 2022-23) a chynnydd o 8 pwynt canran ymhlith y rhai heb salwch cyfyngus hirdymor (27% yn 2022-23).

Mae’r canlyniadau ar gyfer 2024-25 yn dangos bod y rhai sy'n byw mewn amddifadedd materol yn fwy tebygol o nodi galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â'r rhai nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol, gyda'r rhai sy'n byw mewn amddifadedd materol yn dangos lefel galw o 10 pwynt canran yn uwch na'r rhai nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol.

Yn 2024-25, cynyddodd cyfraddau'r galw o gymharu â’r ffigurau a adroddwyd yn 2022-23 ar gyfer y ddau grŵp amddifadedd materol. Cynyddodd y galw gan y rhai sy'n byw mewn amddifadedd materol 11 pwynt canran (o 33% yn 2022-23 i 44% yn 2024-25). Cynyddodd cyfraddau'r galw hefyd, ond o 8 pwynt canran, ymhlith y rhai nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol (o 26% yn 2022-23 i 34% yn 2024-25).

Yn ogystal, roedd y galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn debyg yn fras rhwng y rhai sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu bywyd bob dydd a'r rhai nad ydynt.

O gymharu â 2022-23, cynyddodd y galw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith y rhai nad ydynt yn defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu bywyd bob dydd 8 pwynt canran (o 26% yn 2022-23 i 34% yn 2024-25) tra bo’r galw ymhlith y rhai sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu bywyd bob dydd wedi aros yn agos at y lefelau a adroddwyd yn 2022-23 (32% yn 2022-23 i 37% yn 2024-25).

5.4 Galw Heb ei Fodloni

At ddibenion yr adroddiad hwn, mae'r rhai sydd â 'Galw Heb ei Fodloni' yn cyfeirio'n benodol at y rhai nad ydynt wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf ond a nododd yr hoffent wneud mwy yn y dyfodol.

Yn 2024-25, dywedodd 11% o oedolion (tua 1 o bob 9) eu bod eisiau cymryd rhan mewn o leiaf un math o gamp neu weithgaredd corfforol ond nad oeddent wedi cymryd rhan yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf, sy'n cynrychioli 273,000 o oedolion â galw heb ei fodloni.

O gymharu â 2022-23, cynyddodd y galw heb ei fodloni 4 pwynt canran (o 7% yn 2022-23 i 11% yn 2024-25), gydag 89,000 yn fwy o oedolion yn nodi galw heb ei fodloni yn 2024-25.

Yn 2024-25, roedd 211,000 o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mewn unrhyw 'Weithgaredd Ffitrwydd' ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Ymhellach, roedd 207,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw 'Chwaraeon a Gemau' ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny. Yn olaf, dywedodd 116,000 o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mewn unrhyw 'Weithgareddau Awyr Agored' ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny.

Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i o leiaf 543,000 o gyfleoedd newydd mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion, y byddai angen eu bodloni ar gyfer y 273,000 o oedolion sydd â galw heb ei fodloni.

Tabl 5.4: Canran a nifer yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni am weithgarwch, yn ôl ardaloedd y partneriaethau chwaraeon.

 Canran yr oedolion (%)Nifer yr Oedolion
Ardal Partneriaeth ChwaraeonGogledd Cymru 14%73,000
Canolbarth Cymru 10%17,000
Gorllewin Cymru10%56,000
Canolbarth y De9%69,000
Gwent13%58,000
Dwysedd Poblogaeth'Trefol'11%178,000
'Gwledig'12%95,000
Cyfanswm Cymru11%273,000

Mae canran y galw heb ei fodloni yn debyg ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd y partneriaethau chwaraeon. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng Gogledd Cymru a Chanolbarth y De, lle'r oedd gwahaniaeth o 5 pwynt canran yn y galw heb ei fodloni.

O gymharu â 2022-23, bu newidiadau yng nghanran y galw heb ei fodloni yng Ngogledd Cymru (6 phwynt canran), Canolbarth y De (3 phwynt canran) a Gwent (6 phwynt canran).

Nododd canran debyg o oedolion o ardaloedd 'Gwledig' (12%) ac ardaloedd 'Trefol' (11%) alw heb ei fodloni am chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Fodd bynnag, mae mwy o oedolion â galw heb ei fodloni yn byw mewn ardaloedd 'Trefol' (178,000 o oedolion) o gymharu ag ardaloedd 'Gwledig' (95,000 o oedolion). Fodd bynnag, mae hyn yn rhannol oherwydd bod mwy o bobl yn byw yn y Gymru 'Drefol' beth bynnag.

O gymharu â 2022-23, cynyddodd canran yr oedolion â galw heb ei fodloni yn yr ardaloedd 'Trefol' o 7% yn 2022-23 i 11% yn 2024-25, ac yn yr ardaloedd 'Gwledig' o 7% yn 2022-23 i 12% yn 2024-25.

5.5 Agweddau at fod yn gorfforol actif

Gofynnwyd i oedolion a oedd wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf neu a oedd â galw i gymryd rhan yn amlach am lefel eu cytuno â thri datganiad a oedd yn gysylltiedig â chael y cyfle i fod yn gorfforol actif, bod â’r hyder i fod yn gorfforol actif, a theimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.

Canfuwyd bod lefel y cytuno ar draws y cwestiynau hyn yn debyg, gyda'r rhan fwyaf yn teimlo'n gadarnhaol tuag at y datganiadau hyn. Roedd rhwng 84% ac 85% yn cytuno'n llwyr neu'n tueddu i gytuno â'r datganiadau 'Mae gen i'r cyfle i fod yn gorfforol actif.', 'Mae gen i'r hyder i fod yn gorfforol actif.' ac 'Rydw i'n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.' (sy'n cynrychioli rhwng 1.4 ac 1.5 miliwn o oedolion yng Nghymru). 

Dangosir y patrwm cyffredinol ar draws pob datganiad yng Ngraff 5.3, Graff 5.4, a Graff 5.5.

Graff 5.3: Cytuno â’r datganiad ‘Mae gen i’r cyfle i fod yn gorfforol actif.'

Siart bar gyda 5 bar yn dangos % yn ôl lefel cytundeb â'r datganiad. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: Cytuno'n llwyr 51% (879,000), Tueddu i gytuno 34% (579,000), Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 5% (84,000), Tueddu i anghytuno 7% (118,000), Anghytuno'n llwyr 3% (56,000).

Roedd y rhan fwyaf naill ai’n cytuno’n llwyr bod ganddynt y cyfle i fod yn gorfforol actif (51%, 879,000 o oedolion) neu’n tueddu i gytuno (34%, 579,000 o oedolion). Roedd 10% yn tueddu i anghytuno neu’n anghytuno’n llwyr (174,000 o oedolion). Nid oedd 5% yn cytuno nac yn anghytuno (84,000 o oedolion).

Tabl 5.5: Cytuno â’r datganiad ‘Mae gen i’r cyfle i fod yn gorfforol actif.'

‘Mae gen i’r cyfle i fod yn gorfforol actif.'Canran yr Oedolion(%)Nifer yr Oedolion
  Cytuno’n llwyr51%879,000
  Tueddu i gytuno34%579,000
  Ddim yn cytuno nac yn anghytuno5%84,000
  Tueddu i anghytuno7%118,000
  Anghytuno’n llwyr3%56,000

Graff 5.4: Cytuno â’r datganiad ‘Mae gen i’r hyder i fod yn gorfforol actif.’

Siart bar gyda 5 bar yn dangos % yn ôl lefel cytundeb â'r datganiad. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: Cytuno'n llwyr 51% (868,000), Tueddu i gytuno 34% (587,000), Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 6% (98,000), Tueddu i anghytuno 7% (122,000), Anghytuno'n llwyr 3% (44,000).

Roedd y rhan fwyaf naill ai’n cytuno’n llwyr bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (51%, 868,000 o oedolion) neu’n tueddu i gytuno (34%, 587,000 o oedolion). Roedd 10% yn tueddu i anghytuno neu’n anghytuno’n llwyr (166,000 o oedolion).  Nid oedd 6% yn cytuno nac yn anghytuno (44,000 o oedolion).

Tabl 5.6: Cytuno â’r datganiad ‘Mae gen i’r hyder i fod yn gorfforol actif.’

‘Mae gen i’r hyder i fod yn gorfforol actif.’Canran yr Oedolion(%)Nifer yr Oedolion
  Cytuno’n llwyr51%868,000
  Tueddu i gytuno34%587,000
  Ddim yn cytuno nac yn anghytuno6%98,000
  Tueddu i anghytuno7%122,000
  Anghytuno’n llwyr3%44,000

Graff 5.5: Cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.'’

Siart bar gyda 5 bar yn dangos % yn ôl lefel cytundeb â'r datganiad. O'r chwith i'r dde, mae'r siart yn dangos: Cytuno'n llwyr 48% (833,000), Tueddu i gytuno 36% (616,000), Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 8% (141,000), Tueddu i anghytuno 5% (93,000), Anghytuno'n llwyr 2% (34,000).

Roedd y rhan fwyaf naill ai’n cytuno’n llwyr eu bod yn teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus (48%, 833,000 o oedolion) neu’n tueddu i gytuno (36%, 616,000 o oedolion). Roedd 7% yn tueddu i anghytuno neu’n anghytuno’n llwyr (127,000 o oedolion).  Nid oedd 8% yn cytuno nac yn anghytuno (141,000 o oedolion).

Tabl 5.7: Cytuno â’r datganiad ‘Rydw i’n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.'’

‘Rydw i’n teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus.'Canran yr Oedolion(%)Nifer yr Oedolion
  Cytuno’n llwyr48%833,000
  Tueddu i gytuno36%616,000
  Ddim yn cytuno nac yn anghytuno8%141,000
  Tueddu i anghytuno5%93,000
  Anghytuno’n llwyr2%34,000

Mae'n bwysig cofio na ofynnwyd y cwestiynau hyn i oddeutu tri o bob deg oedolyn. Gan mai'r rhain oedd y rhai nad oeddent yn cymryd rhan neu nad oeddent â galw am weithgareddau chwaraeon, mae siawns uchel mai'r rhain yw'r oedolion sydd â llai o gyfle, llai o hyder, ac sy’n llai tebygol o fwynhau bod yn gorfforol actif. Fodd bynnag, byddai angen ymchwil pellach i gadarnhau'r rhagdybiaethau hyn.

6. Chwaraeon: Gweithgareddau a galw

Mae'r adran hon yn cyflwyno canfyddiadau ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch chwaraeon. Gyda'i gilydd, mae'r wybodaeth hon yn dangos cyfraniad pob gweithgaredd chwaraeon at lefelau cyfranogiad a galw cyffredinol ledled Cymru.

Mae'n bosibl archwilio'r mathau o weithgarwch manwl sy'n ffurfio 'Gweithgareddau Ffitrwydd', 'Chwaraeon a Gemau', a 'Gweithgareddau Awyr Agored'. Mae gwneud hynny'n galluogi lefel ddyfnach o wybodaeth am y gweithgareddau mae oedolion yn cymryd rhan ynddynt neu eisiau gwneud mwy ohonynt.

Mae safle pob gweithgaredd o gymharu â'i gilydd yn dibynnu'n sylfaenol ar sut mae'r gweithgaredd hwnnw'n cael ei ddiffinio. Pan ddefnyddir diffiniad ehangach ar gyfer gweithgaredd neu pan gaiff mwy o weithgareddau eu grwpio gyda'i gilydd, y mwyaf tebygol yw y bydd oedolion naill ai wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd hwnnw neu fod â galw amdano. Yn ogystal, mae meintiau sampl llai yn gofyn am ddefnyddio diffiniadau ehangach er mwyn adrodd yn gadarn ar fathau penodol o weithgareddau, sy'n golygu bod maint y sampl, diffiniadau a chanlyniadau wedi'u cysylltu'n annatod (edrychwch ar isod am enghreifftiau o pam mae hyn yn bwysig).

Gwybodaeth ddefnyddiol 

Mae sut mae gweithgareddau'n cael eu categoreiddio yn bwysig:

Er enghraifft, byddai canran yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn llawer uwch pe bai 'Cerdded mwy na 2 filltir' yn cael ei ailddosbarthu o ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’ ac i'r grŵp hwn. Hefyd, mae rhai categorïau'n cynnwys mwy o weithgareddau (e.e. mae gan Chwaraeon Tîm 21 is-deip) nag eraill, a allai gynnwys dim ond ychydig (e.e. mae gan 'Beicio' dri - 'BMX', 'Beicio Mynydd' a 'Math arall o feicio awyr agored neu drac’).

Mae sut mae gweithgareddau'n cael eu grwpio gyda'i gilydd yn bwysig:

Er enghraifft, byddai 'Athletau' yn llawer is nag a ddangosir, ac o gymharu â gweithgareddau eraill, pe bai 'Loncian neu Redeg' wedi'i eithrio o'r diffiniad a gyflwynir ar gyfer y gamp honno.  Yn ogystal, ac yn gysylltiedig â'r pwynt uchod, byddai hefyd wedi'i grwpio gyda 'Chwaraeon a Gemau' yn lle hynny.

Mae'r gallu i adrodd ar weithgareddau yn gysylltiedig â maint y sampl:

Hefyd, os yw maint y sampl yn lleihau, efallai mai dim ond cyfle i adrodd ar ddosbarthiadau gweithgarwch eang fydd. Er enghraifft, gyda sampl mawr, byddem yn canfod pa mor gyffredin yw pêl-droed, rygbi'r undeb, criced ac ati (h.y. gwahanol fathau o chwaraeon tîm) ond gyda samplau bach, efallai mai dim ond ar 'Chwaraeon Tîm' yn gyffredinol fel math o weithgarwch y bydd modd adrodd.

Ar gyfer yr adroddiad hwn, defnyddiwyd y lefel fanylaf wrth ddadansoddi pan oedd hynny'n ymarferol ac yn ddefnyddiol. Datgelodd y dadansoddiad hwn mai ‘Cerdded mwy na 2 filltir’ yw’r math mwyaf cyffredin o hyd o weithgaredd y mae oedolion yn cymryd rhan ynddo i fod yn actif, er gwaetha’r galw cymharol isel. Yn wir, ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ‘Weithgareddau Ffitrwydd’ roedd y rhai a gymerodd ran ynddynt ymhell y tu hwnt i’r lefel o alw i wneud mwy o’r gweithgaredd hwnnw (e.e. ymarfer corff gartref, mynd i’r gampfa, rhedeg neu loncian, dosbarthiadau ffitrwydd). Nid yw hyn yn wir am lawer o’r chwaraeon a’r gweithgareddau awyr agored mwy traddodiadol lle mae’r galw’n fwy yn unol â chyfranogiad (Tabl 6.1Tabl 6.2Thabl 6.3).

6.1 Gweithgareddau Ffitrwydd

Y gweithgaredd yr oedd oedolion yn cymryd rhan ynddo fwyaf o fewn ‘Chwaraeon a Gemau’ oedd ‘Golff.  Roedd y galw mwyaf am ‘Pêl droed’.

Tabl 6.1: Canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf neu a oedd â galw i wneud mwy yn ôl math o weithgaredd (Gweithgaredd Ffitrwydd)

Gweithgaredd ManwlCyfranogiad (yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf)Galw
 Canran yr oedolion (%)Nifer yr oedolionCanran yr oedolion (%)Nifer yr oedolion
Cerdded mwy na 2 filltir36.70%905,0003.30%79,000
Ymarfer corff / hyfforddi gartref17.00%419,000**
Mynd i’r gampfa - nid ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd15.20%375,0003.90%95,000
Loncian neu Redeg (gan gynnwys Athletau [2] )12.80%315,0002.30%56,000
Nofio neu ddeifio11.10%274, 00010.10%245,000
Dosbarthiadau ffitrwydd10.70%265, 0002.90%72,000
Beicio – BMX / Beicio Mynydd / Arall8.20%203,0003.90%96,000
Dosbarthiadau dawns1.90%47,0000.80%19,000
Gymnasteg / Trampolinio0.60%16,000**
Gweithgarwch Ffitrwydd Cyffredinol 56%1,366,00022%545,000

6.2 Chwaraeon a Gemau

Y gweithgaredd yr oedd oedolion yn cymryd rhan ynddo fwyaf o fewn ‘Chwaraeon a Gemau’ oedd ‘Nofio neu ddeifio’. Dyma hefyd y gweithgaredd yr oedd y galw mwyaf amdano.

Tabl 6.2: Canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf neu a oedd â galw i wneud mwy yn ôl math o weithgaredd (Chwaraeon a Gemau)

Gweithgaredd ManwlCyfranogiad (yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf)Galw
 Canran yr oedolion (%)Nifer yr oedolionCanran yr oedolion (%)Nifer yr oedolion
Golff4.00%100, 0001.90%47,000
Pŵl3.70%91,000**
Dartiau3.40%85, 000**
Pêl droed2.60%65,0002.70%66,000
Bowlio (deg)2.60%64,000**
Badminton1.50%38,0001.60%40,000
Tennis1.50%38,0001.80%45,000
Bowls – Dan Do / Awyr Agored0.80%20,0000.70%18,000
Tennis bwrdd0.80%20,000**
Criced**0.60%15,000
Sboncen**0.70%16,000
Chwaraeon a Gemau Cyffredinol19%477,00012%304,000

6.3 Gweithgareddau Awyr Agored

Y ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ y cymerodd oedolion ran ynddynt fwyaf oedd ‘Dringo / mynydda’.  Y gweithgareddau hyn a ‘Canŵio / Caiacio’ oedd â’r galw mwyaf.

Tabl 6.3: Canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf neu a oedd â galw i wneud mwy yn ôl math o weithgaredd (Gweithgareddau Awyr Agored)

Gweithgaredd ManwlCyfranogiad (yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf)Galw
 Canran yr oedolion (%)Nifer yr oedolionCanran yr oedolion (%)Nifer yr oedolion
Dringo / mynydda1.50%37,0001.10%27,000
Pysgota neu enweirio0.80%21,000**
Canŵio / Caiacio0.80%19,0001.10%27,000
Padlfyrddio0.70%17,0000.70%18,000
Marchogaeth ceffylau0.60%15,0001.20%28,000
Sgïo**0.60%16,000
Gweithgareddau Awyr Agored Cyffredinol6%143,0006%142,000

Dylid nodi bod gan y rhan fwyaf o'r mathau manwl o weithgareddau a grybwyllwyd yn benodol yn yr arolwg (rhestrwyd tua 90 o fathau o weithgareddau i gyd) lefel isel o ymateb [3] ar lefel y gweithgaredd unigol. Am y rheswm hwn, roedd angen cyfuno gweithgareddau i gategorïau ehangach neu eu grwpio at ddiben adrodd. Os na ellir dod o hyd i weithgaredd yn y tablau, mae hynny oherwydd y lefel isel o gyfranogiad neu alw ar draws yr holl oedolion yng Nghymru.

6.4 Diweddariad Nesaf

Bydd tîm arolwg Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bwletinau manwl ar bynciau ychwanegol o Arolwg Cenedlaethol Cymru dros y misoedd nesaf.

Disgwylir i'r rownd nesaf o ganlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol gael eu cyhoeddi yn haf 2027. Bydd y diweddariad yn cynnwys canlyniadau o flwyddyn gwaith maes 2026-27.

 

7. Atodiad

A1 – Dosbarthiad ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’,‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ 

Grŵp GweithgarwchIs-gategori***
Gweithgaredd Ffitrwydd Ymarfer neu hyfforddi gartref, neu fel rhan o ddosbarth ar-lein                       
Dosbarthiadau ffitrwydd(wyneb yn wyneb)
Mynd i’r gampfa (nid ar gyfer dosbarth ffitrwydd) *4
Dosbarthiadau dawns
Beicio *3
Nofio neu ddeifio *5
Cerdded mwy na 2 filltir*2
Loncian neu redeg 
Gymnasteg
Trampolinio
Chwaraeon a GemauChwaraeon tîm *21
Chwaraeon raced *3
Gemau dan do *5
Bowlio neu fowls *3
Chwaraeon neu grefftau ymladd *6
Golff
Saethu neu saethyddiaeth *3
Athletau *2
Triathlon, deuathlon neu aml-gamp arall 
Gweithgareddau Awyr AgoredChwaraeon mynydd fel dringo neu sgïo *6
Chwaraeon modur *3
Pysgota neu enweirio
Marchogaeth ceffylau
Sglefrio neu sglefrfyrddio *3
Chwaraeon dŵr(caiacio,syrffio, hwylio) *11

*** Gellir rhannu unrhyw is-gategori gyda ‘*’ wrth ei ymyl yn ddadansoddol yn fathau manylach o weithgareddau cysylltiedig. Dangosir nifer y categorïau pellach sy'n benodol yn yr holiadur wrth ymyl y rhain. Edrychwch ar yr Holiadur am fanylion llawn.

A2 - Ardal Partneriaeth Chwaraeon - Ôl-troed Daearyddol

Ardal Partneriaeth ChwaraeonAwdurdod Lleol
Gogledd Cymru Ynys Môn
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Wrecsam 
Canolbarth CymruPowys
Ceredigion
Gorllewin CymruSir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Abertawe
Castell-nedd Port Talbot
Canolbarth y De Pen-y-bont ar Ogwr
Bro Morganwg
Caerdydd
Rhondda Cynon Taf
Merthyr Tudful
GwentCaerffili
Blaenau Gwent
Torfaen
Sir Fynwy 
Casnewydd

A3 Dadansoddiad Gweithgarwch Cyfun 2024-25 (pob un â > 30 o ymatebion)

Tabl A1:Canran a nifer yr oedolion a gymerodd ran yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf neu a oedd â galw i wneud mwy yn ôl math o weithgaredd manwl

GweithgareddCyfranogiad (yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf)Galw
GrŵpManwlCanran yr oedolion (%)Nifer yr oedolionCanran yr oedolion (%)Nifer yr oedolion
Gweithgaredd FfitrwyddCerdded mwy na 2 filltir36.70%905,0003.30%79,000
Gweithgaredd FfitrwyddYmarfer corff / hyfforddi gartref17.00%419,000**
Gweithgaredd FfitrwyddMynd i’r gampfa - nid ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd15.20%375,0003.90%95,000
Gweithgaredd Ffitrwydd(a Chwaraeon a Gemau)Loncian neu Redeg ((gan gynnwys Athletau)12.80%315,0002.30%56,000
Gweithgaredd FfitrwyddNofio neu ddeifio11.10%274, 00010.10%245,000
Gweithgaredd FfitrwyddDosbarthiadau ffitrwydd10.70%265, 0002.90%72,000
Gweithgaredd FfitrwyddBeicio – BMX / Beicio Mynydd / Arall8.20%203,0003.90%96,000
Chwaraeon a Gemau Golff4.00%100, 0001.90%47,000
Chwaraeon a GemauPŵl3.70%91,000**
Chwaraeon a GemauDartiau3.40%85, 000**
Chwaraeon a GemauPêl droed2.60%65,0002.70%66,000
Chwaraeon a GemauBowlio (deg)2.60%64,000**
Gweithgaredd FfitrwyddDosbarthiadau dawns1.90%47,0000.80%19,000
Chwaraeon a GemauBadminton1.50%38,0001.60%40,000
Chwaraeon a GemauTennis1.50%38,0001.80%45,000
Gweithgareddau Awyr AgoredDringo neu fynydda1.50%37,0001.10%27,000
Gweithgareddau Awyr AgoredPysgota neu enweirio0.80%21,000**
Chwaraeon a GemauBowls – Dan Do / Awyr Agored0.80%20,0000.70%18,000
Chwaraeon a GemauTennis bwrdd0.80%20,000**
Gweithgareddau Awyr AgoredCanŵio / Caiacio0.80%19,0001.10%27,000
Gweithgareddau Awyr AgoredPadlfyrddio0.70%17,0000.70%18,000
Gweithgaredd FfitrwyddGymnasteg / Trampolinio0.60%16,000**
Gweithgareddau Awyr AgoredMarchogaeth ceffylau0.60%15,0001.20%28,000
Chwaraeon a GemauCriced**0.60%15,000
Gweithgareddau Awyr AgoredSgïo**0.60%16,000
Chwaraeon a GemauSboncen **0.70%16,000
Cymru yn Gyffredinol59%1,449,00035%840,000