Rydym yn gwybod am y rôl bwerus y gall chwaraeon ei chyflawni o ran lles corfforol a meddyliol pobl, o chwaraeon ar lawr gwlad i berfformiad elît. Rydym yn gweithio ar draws grwpiau oedran a chwaraeon er mwyn creu iechyd gwell trwy chwaraeon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth genedlaethol, gan gydnabod ei rôl hanfodol wrth helpu pobl i wynebu heriau bywyd. Gan gyd-fynd â hyn, rydym yn ystyried sut i ymwreiddio cymorth iechyd meddwl mewn chwaraeon.
Mae ein dull gweithredu yn canolbwyntio ar:
Rydym yn deall bod profiadau, perthnasoedd ac amgylcheddau pobl yn siapio eu hiechyd meddwl. Yr enw am hyn yw dull perthynol tuag at iechyd meddwl, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddiagnosis a thriniaeth.
Hyd yn hyn, rydym wedi gweithio gydag 19 o gyrff llywodraethu cenedlaethol a phartneriaid cenedlaethol, gan gynnwys Hoci Cymru, Badminton Cymru a Cholegau Cymru. Rydym wedi ymgysylltu â nhw trwy gyfrwng gweithdai, cymorth wedi’i deilwra a chydweithio parhaus.
Cydweithiwyd gydag elusen iechyd meddwl Platfform a Phrifysgol Portsmouth trwy gyfrwng y gweithdai. Buont yn archwilio:
Mae 80% o’r sefydliadau dan sylw wedi nodi blaenoriaethau newydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl, ac mae dros hanner ohonynt wedi dechrau ymwreiddio dulliau perthynol yn eu gwaith.
Mae’r prif heriau yr ydym wedi’u gweld hyd yn hyn fel a ganlyn:
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i oresgyn y rhwystrau hyn. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r angen am:
Mae ein gwaith iechyd meddwl parhaus yn canolbwyntio ar 3 maes craidd:
Rydym yn dymuno sicrhau bod athletwyr benywaidd yn gallu cyflawni eu potensial yn llawn. Mae ein harbenigwyr yn Sefydliad Chwaraeon Cymru yn cynnwys gwyddonwyr chwaraeon, arbenigwyr meddygol a chynghorwyr perfformiad. Maent wedi datblygu strategaethau a chymorth ar gyfer athletwyr benywaidd. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor am:
Am ragor o wybodaeth, gweler ein hadran cymorth ynghylch iechyd athletwyr benywaidd.
Nod strategaeth pwysau iach Llywodraeth Cymru yw atal gordewdra. Mae’n cefnogi rhaglen beilot o’r enw ‘Plant iach, pwysau iach yng Nghymru’, a elwir ‘Pipyn’, sy’n dod o enw’r rhaglen yn Gymraeg, sef ‘Pwysau Iach Plant yng Nghymru’. Nod y fenter, a arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yw lleihau cyfraddau gordewdra yn ystod plentyndod. Rydym yn cydweithio ar y rhaglen er mwyn cynllunio a chyflwyno gweithgareddau corfforol diogel ac sy’n ymgysylltu. Mae ar gyfer teuluoedd sy’n cynnwys plant 3 i 7 oed sydd mewn perygl o ddioddef gordewdra. Ar ôl peilot dros 2 flynedd, cynhelir prosiect ‘Pipyn Actif’ mewn 3 ardal ar draws Cymru:
Dewisom y lleoliadau hyn er mwyn cynrychioli amrediad amrywiol o gymunedau yng Nghymru. Maent yn cynnig cymysgedd o:
Mae pob sefydliad arweiniol yn cydweithio gyda phartneriaid lleol i gyrraedd y grwpiau cywir o bobl. Mae’r holl staff cyflwyno ar y prosiect wedi mynychu hyfforddiant er mwyn addysgu sgiliau corfforol i blant ifanc, gan helpu plant i symud yn hyderus a gyda chymhelliant mewn dull cynhwysol sy’n seiliedig ar chwarae.
Mae tîm allanol yn gwerthuso effaith Pipyn, gan glywed gan y plant a’r teuluoedd a fu’n ymwneud â hyn a chasglu gwybodaeth am yr hyn a ddysgwyd gan arweinwyr y prosiect. Nod y dull hwn sy’n canolbwyntio ar deuluoedd yw creu newid ymddygiadol dros y tymor hir, a lleihau cyfraddau gordewdra ar draws Cymru.
Mae Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 Oed wedi bod yn rhedeg ers dechrau 2021 i bobl hŷn ar draws Cymru. Mae’n cynnig sesiynau chwaraeon a ffitrwydd rhatach neu am ddim i bobl 60 oed a throsodd. Mae ar gael mewn canolfannau hamdden, mewn mannau yn yr awyr agored ac mewn lleoliadau cymunedol ar draws Cymru. Mae’r chwaraeon a’r gweithgareddau yn cynnwys:
Rydym yn ariannu’r cynllun ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru. Caiff ei gyflwyno gan y 22 awdurdod lleol, ar y cyd â chymunedau lleol. Er 2021, cofnodwyd dros 150,000 o sesiynau a fynychwyd.
Nod y cynllun yw targedu grwpiau sy’n llai tebygol o fod yn actif, ac mae cydweithio gyda mudiadau cymunedol lleol yn helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar y ddarpariaeth yn y grwpiau hyn. Mae’r cynllun wedi dangos budd cymdeithasol sylweddol i’r rhai sy’n cymryd rhan hefyd.
Rydym yn gwybod nad yw cynnig gweithgareddau yn unig yn ddigon er mwyn ymgysylltu â’r bobl leiaf actif ac sydd â’r diddordeb lleiaf yn hyn mewn cymunedau. Mae angen i’r cynllun fod yn rhan o ymdrechion ehangach i ymgysylltu ag aelodau hŷn ein cymunedau lleol.
I fanteisio ar y cynllun, cysylltwch â’ch cyngor neu’ch canolfan hamdden leol.
Rydym yn rheoli Nofio am Ddim yng Nghymru, sy’n cynnig sesiynau nofio rhatach ac am ddim i bobl 16 oed ac iau, neu bobl 60 oed a throsodd. Y nod yw gwella iechyd a lles pobl iau a phobl hŷn. Mae hefyd yn targedu pobl o gymunedau difreintiedig.
Darparir y cynllun gan y 22 awdurdod lleol a’u partneriaid cyflawni, megis ymddiriedolaethau hamdden. Mae pob awdurdod lleol yn penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r gyllideb ar roddwyd iddynt ar gyfer y cynllun. Eu nod yw:
I fanteisio ar y cynllun, cysylltwch â’ch cyngor neu’ch canolfan hamdden leol.
Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu cychwyn gwych i'w bywyd. Gall gweithgarwch corfforol a chwaraeon hwyliog, diogel a datblygiadol helpu gyda hyn. Mae addysg gorfforol a chwaraeon yn yr ysgol yn cynorthwyo:
Rydym yn helpu ysgolion i greu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer gweithgarwch corfforol, lle y mae symud yn rhan arferol a phleserus o fywyd ysgol, a gaiff ei werthfawrogi.
Os ydych chi’n addysgwr, gallwch archwilio ein hadnoddau addysg hefyd.
Mae syniad llythrennedd corfforol yn allweddol i'n dull gweithredu. Mae’n ymwneud â chynnig popeth i blant y bydd ei angen arnynt er mwyn byw bywydau actif, boed hynny yn sgiliau, hyder, cymhelliant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth.
Rydym yn cynorthwyo rhaglenni addysg, partneriaethau ac adnoddau sy’n ceisio:
Mae angen i unrhyw un sy’n darparu gweithgareddau ac addysg gorfforol fodloni anghenion yr holl ddysgwyr. Er mwyn gwneud hyn, mae angen iddynt deimlo’n hyderus, yn alluog a’u bod yn cael eu cynorthwyo.
Mae Citbag, ein platfform ar-lein am ddim i ysgolion ac addysgwyr yn darparu’r cymorth hwn. Mae’n cynnwys cannoedd o adnoddau o ansawdd uchel a ddatblygwyd gan arbenigwyr o’r byd addysg a chwaraeon.
Rydym wedi sicrhau bod yr holl adnoddau ar Citbag yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru, gyda ffocws clir ar faes iechyd a lles y cwricwlwm. Rydym wedi cynllunio’r adnoddau i gynorthwyo dysgu ar draws camau cynnydd, gan helpu ysgolion i gynllunio a darparu gwersi sy’n cynorthwyo datblygiad plant o 3 i 16 oed.
Mae Citbag yn helpu ysgolion i:
Mae Actif Bob Dydd yn waith ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n fframwaith yr ydym yn ei ddatblygu ar gyfer ysgolion er mwyn creu amgylcheddau dysgu actif, ac mae ar gyfer unrhyw ddysgwyr 3 i 16 oed. Mae’n canolbwyntio ar ymwreiddio gweithgarwch corfforol ar draws y diwrnod ysgol, yn ogystal â'r amgylchedd ysgol ehangach.
Mae’r dull yn cyd-fynd â maes iechyd a lles Cwricwlwm i Gymru. Mae’n cydnabod pwysigrwydd gweithgarwch corfforol ar gyfer lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.
Rydym yn datblygu’r fframwaith ar sail 8 dylanwad allweddol ar weithgarwch corfforol mewn ysgolion. Y rhain yw:
Bydd Actif Bob Dydd yn cynorthwyo ysgolion i:
Rydym yn ariannu ac yn cefnogi’r rhaglen Cenhadon Ifanc, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid. Mae’n fudiad arweinyddiaeth ieuenctid sy’n ceisio helpu pobl ifanc i:
Darganfod mwy am y rhaglen Cenhadon Ifanc ar wefan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.