Yn Bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft, Rajma Begum, Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Professor Leigh Robinson, Phil Tilley, Martin Veale
Y Staff Yn Bresennol: Sarah Powell (PSG), Paul Randle, Graham Williams, Brian Davies, Liam Hull, Owen Hathway, Owen Lewis (Eitem 4.1), Jane Foulkes (Eitem 5.3), Craig Nowell (Eitem 5.5), Amanda Thompson (cofnodion).
Arsylwr: Paul Kindred (Llywodraeth Cymru)
Cyflwynodd y Cadeirydd y cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Judi Rhys, Alison Thorne a Steffan Roberts (Llywodraeth Cymru).
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 16 Medi 2020 fel cofnod manwl gywir. Nodwyd y Cofnod Gweithredu. Nid oedd unrhyw faterion yn codi.
Tynnodd yr adroddiad sylw at y gwaith o alluogi staff i ffynnu (a'r gefnogaeth a roddwyd ers i Covid19 daro), sut oedd y dull o gynllunio wedi esblygu a gwella drwy gydol y flwyddyn a'r gwaith a wnaed ynghylch dychwelyd at chwaraeon. Roedd pryder ynglŷn â'r bwlch sy’n ehangu o ran anghydraddoldeb.
Pwyntiau trafod:
CAM GWEITHREDU: Byddai aide memoire yn mapio’r gwahanol gynlluniau cyllido yn helpu’r
Aelodau i weld sut oedd y risg o ddyblygu a gorgyffwrdd yn cael ei lliniaru.
Nodwyd eisoes fel blaenoriaeth fusnes ar gyfer 2020/21 ac roedd y cyfnod gorfodol o weithio o bell wedi amlygu pwysigrwydd digideiddio. Gwnaed cynnydd sylweddol o ran symud y diwylliant i werthfawrogi technoleg ddigidol ac roedd y staff yn magu hyder i ddefnyddio platfformau newydd. Byddai asesiad aeddfedrwydd digidol a dadansoddiad SWOT yn helpu i gefnogi'r gwaith hwn wrth symud ymlaen. Cyflwynwyd opsiynau i aelodau'r Bwrdd yn ymwneud â chwmpas y gwaith a gofynnwyd am adborth ar y rhain:
Tynnwyd sylw at arwydd cynnar o'r math o fuddsoddiad y byddai ei angen. Roedd Llywodraeth Cymru o blaid digideiddio ond nid oedd sicrwydd o unrhyw fuddsoddiad ychwanegol tuag at y gwaith hwn, felly efallai y bydd angen ad-drefnu’r cyllidebau presennol. Argymhellodd y tîm digideiddio opsiwn 3, er y byddai mwy o waith yn cael ei wneud i nodi’r costau, y manteision a chyflogi staff.
Pwyntiau trafod:
CAM GWEITHREDU: Gwaith pellach i gael ei wneud i ddatgan budd cost opsiynau 2 a 3.
Diolchodd y Weithrediaeth i'r Aelodau oedd wedi ymuno â'r pum cyfarfod a gynhaliwyd hyd yma ar fyr rybudd. Roedd papurau a chofnodion ar gael i holl Aelodau'r Bwrdd. Roedd CGG wedi cymeradwyo’r canlynol:
Cynigiodd y Cadeirydd, yr Is Gadeirydd a'r Weithrediaeth y dylid parhau â'r CGG tra mae'n berthnasol fel grŵp hyblyg, a chytunwyd i hyn. Gwnaed cynnig y dylid cyflwyno adroddiad yn tynnu sylw at benderfyniadau yn y cyfarfodydd. Byddai ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i'r ffordd orau o adrodd yn ôl.
Cyfarfu’r SRG ddiwethaf ar 18 Awst. Atgoffwyd y Bwrdd am yr ymchwil oedd ar y gweill a'r blaenoriaethau ar gyfer eiriolaeth. Yr egwyddorion arweiniol oedd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thargedu grwpiau a dangynrychiolir. Byddai’r SRG yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd maes o law.
Craffodd Bwrdd Chwaraeon Cymru ar achos busnes Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru (SNWP) ar 20 Tachwedd a chyfarfod Bwrdd Prosiect CSAP ar 23 Tachwedd. Roedd hyder yng nghynnydd ac ymrwymiad SNWP i fwrw ymlaen â'r prosiect. Roedd meysydd wedi'u nodi ar y cyd a fyddai'n elwa o gefnogaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru. Byddai'r hyn a ddysgwyd oddi wrth y siwrnai hyd yma’n cael ei gymhwyso i ehangu CSAP ledled gweddill Cymru.
CAM GWEITHREDU: Cymeradwywyd yr achos busnes a’r camau nesaf ar gyfer SNWP.
Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 5 Tachwedd. Roedd y prosiect Hil a Hiliaeth, cydweithrediad rhwng y pum Cyngor Chwaraeon, yn casglu data ac yn cynnal cyfweliadau am brofiadau byw. Trafododd y DG hefyd sut i wella amrywiaeth ym mhroses recriwtio Chwaraeon Cymru, anghenion hyfforddi'r Bwrdd (EDI, trawsrywedd a rhagfarn anymwybodol) a'r angen am eiriolwr amrywiaeth lefel uchel. Byddai'r Weithrediaeth yn gofyn i lysgenhadon helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder pobl i ddod ymlaen a siarad am eu profiadau a'u hawgrymiadau ar gyfer goresgyn rhwystrau. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Chwefror.
Grŵp Adolygu Cyfleusterau (FRG) - SW(20)55
Adolygodd yr FRG amcanestyniadau refeniw manwl ar gyfer y ddwy Ganolfan Genedlaethol a'r cynnydd tuag at ailagor. Edrychodd yr adolygiad ariannol ar incwm a gwariant rhagamcanol hyd at ddiwedd y flwyddyn, y gofynion cyfalaf a'r rhagolwg tymor hir. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhewi gwariant cyfalaf pellach eleni; nid oedd yn hysbys a allai hynny newid y flwyddyn nesaf ond ni chafodd ei ddiystyru.
Argymhellodd yr FRG ei bod bellach yn briodol tendro am wasanaethau ymgynghori i ffurfioli'r broses i geisio partner rheoli allanol neu fenter ar y cyd. Cynigiwyd recriwtio'r ymgynghoriaeth drwy GwerthwchiGymru yn y flwyddyn newydd, gan gyhoeddi'r contract erbyn 26 Chwefror.
Drwy ddiwydrwydd dyladwy, byddai darpar bartneriaid yn dod yn ymwybodol o angen Plas Menai am fuddsoddiad cyfalaf. Efallai y bydd rhaid i Chwaraeon Cymru chwilio am bartner a allai ddod ag arian parod i'r fargen. Ni ellid disgwyl i bartner newydd godi'r rhwymedigaethau presennol a byddai angen iddo fod yn hyderus o Blas Menai fel ased hyfyw.
Roedd y cynllun cyfathrebu wedi'i ddrafftio eisoes i'w adolygu yng nghyfarfod nesaf yr FRG ar 1 Rhagfyr. Byddai’r negeseuon yn canolbwyntio ar gael dyfodol cadarnhaol i Blas Menai fel cyfleuster cynaliadwy. Cynlluniwyd y broses dendro ar gyfer gwasanaethau ymgynghori ar gyfer mis Ionawr ond roedd yn well gan yr Aelodau ddechrau ym mis Rhagfyr gyda chefnogaeth ychwanegol i'r tîm Cyfathrebu os oedd angen.
Cafwyd trafodaeth ynghylch amseru a risg o niwed i enw da ac ymateb gwleidyddol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ym mis Mai 2021. Gall y Bwrdd benderfynu gohirio unrhyw gamau tan ar ôl yr etholiad. Byddai'r Bwrdd hefyd eisiau gwybod a allai buddsoddiad cyfalaf ddod yn ystod 2021 gan Lywodraeth Cymru a/neu drwy gynlluniau'r Ymddiriedolaeth Garbon.
CAM GWEITHREDU: Cymeradwyodd Aelodau'r Bwrdd argymhellion y papur ond ar yr amod y dylid rheoli'r broses dendro ar gyfer gwasanaethau ymgynghori yn ofalus. Gofynnodd yr Aelodau am gael gweld y cynllun cyfathrebu gorffenedig.
Cyfarfu’r ARAC ddiwethaf ar 1 Hydref ac adolygodd adroddiadau archwilio mewnol ar gyfer cynlluniau arian grant (sicrwydd cymedrol) ac ymgysylltu â phartneriaid (adroddiad cynghori). Roedd un argymhelliad lefel ganolig a dau lefel isel wedi'u gweithredu. Llongyfarchwyd Chwaraeon Cymru ar ba mor gyflym oedd y cynlluniau cyllido newydd wedi'u dyfeisio a'u gweithredu mewn ymateb i bandemig Covid19, ac am lefel ei ymgysylltiad â phartneriaid.
Nododd yr Aelodau bod y cyfrifon statudol ar gyfer 2019/20 wedi'u cymeradwyo'n ffurfiol a'u ffeilio'n briodol.
Cyfarfu'r Pwyllgor Tâl ar 9 Tachwedd. Cytunodd ar y dyfarniad costau byw ar 2.5% a chymeradwyodd roi’r dyfarniad i'r Prif Swyddog Gweithredol yn gyfartal. Cymeradwyodd Aelodau'r Bwrdd y newidiadau a argymhellwyd i'r cylch gorchwyl.
Ni fu'n bosibl i gynrychiolydd Grŵp Llywio’r LlI fynychu'r cyfarfod hwn. Nodwyd yr adroddiad a dderbyniwyd. Roedd yr Is Gadeirydd wedi mynychu Cynhadledd Genedlaethol y LlI ym mis Tachwedd.
Nodwyd yr adroddiad.
Roedd y cynllun ffyrlo wedi'i ymestyn gan Lywodraeth y DU hyd at fis Mawrth 2021. Roedd Chwaraeon Cymru wedi derbyn tua £352k hyd at ddiwedd mis Hydref ac amcangyfrif o tua £170k pellach posibl hyd at fis Mawrth. Ni fyddai parhad y ffyrlo o reidrwydd yn cynnwys yr un aelodau o staff. Roedd cyngor cyfreithiol wedi'i dderbyn ynglŷn â chymhwysedd felly byddai'n hawliad archwiliadwy.
Roedd y Weithrediaeth wedi bod yn ystyried mesurau ar gyfer Plas Menai gan fod cyfyngiadau pellach wedi effeithio ar gynlluniau ailagor. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai cefnogaeth ar gael i wneud iawn am golledion y Canolfannau Cenedlaethol. Roedd y taliadau diffyg pensiwn a'r dyfarniad tâl ar £2.5% wedi'u hychwanegu at y gyllideb. Roedd hyblygrwydd o ran tynnu arian y Loteri i lawr os oedd angen, i sefydlogi’r sefyllfa llif arian ar ddiwedd y flwyddyn.
Wrth edrych ymhellach ymlaen, roedd effaith Covid19 yn golygu rhagweld bwlch o tua £500k ar gyfer 2021/22. Roedd y Weithrediaeth yn edrych ar ffyrdd o liniaru'r golled hon. Roedd Canghellor Trysorlys y DU wedi cyhoeddi rhewi cyflogau cyhoeddus dros £24.5k. Byddai Chwaraeon Cymru yn trafod gyda Llywodraeth Cymru maes o law gan fod bargeinio cyflogau’n fater datganoledig, ond pe na bai dyfarniad costau byw yn cael ei gynnwys yn swm canlyniadol Barnett, byddai rhoi dyfarniad o’r fath yn her i bob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru.
Gobeithio y byddai cyflwyno’r brechlyn yn ystod y misoedd nesaf yn galluogi dychwelyd i normalrwydd yn gyflymach. Fodd bynnag, roedd disgwyl o hyd i ddychwelyd 100% gymryd dwy i dair blynedd.
Roedd Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau na fyddai unrhyw risgiau diangen nac annerbyniol yn cael eu cymryd a allai roi'r sefydliad neu unrhyw un o'i randdeiliaid mewn perygl o niwed posibl neu beryglu cyflawniad cyffredinol y Cynllun Strategol. Cydnabuwyd y gallai agwedd rhy wrthwynebus tuag at risg arwain at fethu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd neu anallu i weithredu'n bendant yn wyneb newidiadau yn yr amgylchedd allanol a allai fod yn fygythiad i gyflawni nodau tymor hwy. Er bod Chwaraeon Cymru wedi mabwysiadu agwedd bwrpasol at ddyhead risg ar gyfer risgiau strategol, darparwyd canllawiau ar ffurf mapio dyhead risg priodol yn erbyn risg a gwobr i gynorthwyo gyda'r broses o wneud penderfyniadau.
Mewn achosion lle'r oedd Chwaraeon Cymru yn barod i dderbyn risgiau i hyrwyddo ei amcanion strategol, disgwylid y byddai pob cam lliniaru priodol yn cael ei gymryd. Ar gyfer lefel uwch o risg, rhaid sefydlu lefel uwch o atebolrwydd. Ymhlith yr esiamplau o addasiadau i'r dull blaenorol o weithredu roedd CSAP, y Model Buddsoddi newydd a'r cynlluniau cyllido a sefydlwyd fel ymateb i Covid19.
Trafodwyd risg ar lefel cyfarwyddiaeth a'i choladu drwy'r Grŵp Rheoli a Sicrwydd Risg (RMAG) oedd yn argymell yr hyn ddylid ei symud ymlaen i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol gyffredinol. Roedd y broses honno’n cael ei goruchwylio gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC). Cymeradwyodd Aelodau'r Bwrdd y raddfa a argymhellwyd ar gyfer dyhead risg.
Nodwyd yr adroddiad ac ychwanegwyd dau bwynt pellach:
Tynnwyd sylw'r Bwrdd at y risgiau cost sy'n gysylltiedig â darpariaethau pensiwn a ddarperir drwy CPLlL. Yn ogystal â chostau cynyddol darparu buddion gwasanaeth yn y dyfodol, gwnaeth Chwaraeon Cymru gyfraniad blynyddol hefyd tuag at ei gyfran o'r diffyg gwasanaeth blaenorol a gyfrifwyd gan actwarïau'r cynllun. Yn 2019/20 roedd y taliad diffyg hwn yn £941k ac fe'i talwyd ym mis Chwefror 2020. Yn dilyn y prisiad diweddar, a chan gydnabod y cynnydd sylweddol mewn cyfraniadau gwasanaeth yn y dyfodol, ailbroffiliodd actiwarïau’r CPLlL y taliadau diffyg gwasanaeth blaenorol yn effeithiol gan sicrhau sefyllfa niwtral o ran arian parod yn 2020/21 (taliadau gwasanaeth yn y dyfodol + taliadau gwasanaeth blaenorol). Yn ystod y ddwy flynedd nesaf daw'r costau ychwanegol gwirioneddol i'r amlwg oherwydd bydd y taliadau diffyg gwasanaeth blaenorol yn cynyddu eto. Rhoddwyd manylion llawn yn yr adroddiad.
Roedd trafodaethau wedi’u cynnal gyda gweinyddwyr CPLlL i nodi unrhyw gamau y gellid eu cymryd yn rhesymol i leihau costau pensiwn cyffredinol. Cadarnhawyd y byddai Gwarant y Goron yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gyfraddau cyfraniadau gwasanaeth yn y dyfodol a'r diffyg gwasanaeth blaenorol o bosibl. Roedd Chwaraeon Cymru yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ystyried y cais hwn.
Roedd y Prif Swyddog Gweithredol wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i gadarnhau'r model a'r dull gweithredu, y newidiadau i gyllid a'r cynnig pontio i helpu i ddiogelu partneriaid o dan yr amgylchiadau presennol. Roedd y Weithrediaeth wedi rhoi gwybod i swyddogion am gynnydd ac unrhyw broblemau posibl.
Yn gynnar ym mis Tachwedd, cyfarfu'r staff â'r holl bartneriaid i drafod cyllid a'r dull buddsoddi newydd. Ar gyfer buddsoddiadau partner sy'n cael eu sbarduno gan ddata, rhoddwyd arwydd o'r swm sy'n cynyddu neu'n gostwng. Ar y cyfan, roedd y cyfarfodydd yn gadarnhaol, ac roedd y partneriaid yn hapus gyda’r cyllidebau dangosol ar gyfer 2021/22 ynghyd â'r cyfle i elwa o'r pecyn adfer. Fel y rhagwelwyd, roedd y partneriaid a allai dderbyn llai o arian o 2023 ymlaen yn gofyn am esboniad pellach o’r model. Byddai’r staff yn gweithio gyda'r partneriaid hyn i ateb ymholiadau ac edrych ar eu hanghenion yn y tymor hwy. Roedd partneriaid ar yr un lefel neu lefel uwch o gyllid yn cael cefnogaeth i sicrhau y gallent sicrhau’r effaith orau bosibl i lefel y buddsoddiad a bodloni'r lefel ofynnol o allu sy’n angenrheidiol i'w dderbyn.
Roedd proses apelio ffurfiol yn cael ei datblygu ar y cyd â Chyfreithwyr Loosemores ac roedd barn gymharol am y prosesau a ddefnyddir gan Gynghorau Chwaraeon eraill y Gwledydd Cartref wedi'i sicrhau. Byddai proses gwyno ehangach sy'n gysylltiedig ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cael ei hystyried hefyd. Rhagwelwyd y byddai'r polisïau perthnasol wedi'u diweddaru’n barod i'w cymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Chwefror.
Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg Chwaraeon Cymru 2019/20 ar 30 Medi 2020. Roedd uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:
Roedd y Bwrdd a'r Weithrediaeth yn awyddus i ganfod mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar draws y sefydliad a chreu diwylliant lle gallai'r Gymraeg ffynnu. Awgrymwyd bod Chwaraeon Cymru yn mapio'r holl sgiliau ieithyddol o fewn y sefydliad, er na ddylai hyn wanhau'r ymrwymiad i flaenoriaethu defnydd cyfartal o'r Gymraeg.
Casglodd yr Is Gadeirydd ymatebion Aelodau'r Bwrdd ynghylch y trefniadau llywodraethu a’r newidiadau penodol a wnaed o ganlyniad i sefyllfa Covid19. Roedd y canlyniadau ar y cyfan yn bleserus ac roedd y mwyafrif o natur gadarnhaol. Nodwyd rhai cyfleoedd ac anghenion datblygu, a byddai cynllun gweithredu'n cael ei lunio a'i gyflwyno yn ôl ger bron y Bwrdd ym mis Chwefror.
Byddai dyddiad ym mis Rhagfyr ar gyfer cyfarfod cymdeithasol ar-lein ar gyfer y Bwrdd a'r tîm Arweinyddiaeth yn cael ei ddosbarthu. Roedd y Grŵp Ymgysylltu’n llunio syniadau ar gyfer dathliadau ar-lein i’r staff yn ystod yr wythnos 14 i 18 Rhagfyr.
25 Chwefror, 20 Mai, 7 Gorffennaf, 17 Medi a 25 Tachwedd 2021