Skip to main content

Mae'r polisi defnydd derbyniol hwn yn nodi'r safonau sy'n berthnasol pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwefan.

Am y polisi hwn

Mae'r polisi hwn yn berthnasol pan fyddwch chi'n:

  • uwchlwytho cynnwys i'n gwefan
  • cysylltu â defnyddwyr eraill drwy ein gwefan
  • cysylltu â'n gwefan
  • rhyngweithio â'n gwefan mewn unrhyw ffordd arall

Pwy ydym ni

Mae’r wefan hon yn cael ei gweithredu gan Gyngor Chwaraeon Cymru (sy'n masnachu fel Chwaraeon Cymru).

Swyddfa gofrestredig:  Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW

Rhif cwmni: 524477  

Rhif TAW: 135 4398 60

Cyswllt: communications@sport.wales  

Drwy ddefnyddio ein gwefan rydych chi'n derbyn y polisi hwn

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi'n cadarnhau eich bod chi'n derbyn ac yn cytuno i gydymffurfio â'r polisi hwn.

Os nad ydych chi'n cytuno, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

Defnydd gwaharddedig

Ni chewch ddefnyddio ein gwefan:

  • mewn unrhyw ffordd sy'n mynd yn groes i unrhyw gyfraith neu reoliad cymwys
  • mewn unrhyw ffordd anghyfreithlon neu dwyllodrus
  • i niweidio neu geisio niweidio eraill
  • i drosglwyddo meddalwedd niweidiol neu faleisus
  • i gasglu data o'r wefan heb ganiatâd
  • i gynnal crafu neu gynaeafu gwybodaeth yn awtomatig

Safonau cynnwys

Rhaid i gynnwys fod fel a ganlyn:

  • yn fanwl gywir lle mae'n datgan ffeithiau
  • yn ddidwyll lle mae'n datgan barn
  • cydymffurfio â chyfraith berthnasol yn y DU

Ni ddylai cynnwys fod fel a ganlyn:

  • yn ddifenwol
  • yn anweddus neu'n sarhaus
  • hyrwyddo trais neu wahaniaethu
  • mynd yn groes i hawliau eiddo deallusol
  • ymyrryd â phreifatrwydd person arall
  • camarwain neu ddynwared person arall
  • hyrwyddo gweithgarwch anghyfreithlon
  • cynnwys sbam neu hysbysebu heb ganiatâd

Diogelu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol

Efallai y byddwn yn dileu neu'n cyfyngu ar fynediad i unrhyw gynnwys yr ydym yn ei ystyried yn:

  • anghyfreithlon
  • niweidiol
  • cam-drin
  • camarweiniol

Mae hyn yn cynnwys unrhyw gynnwys sy’n mynd yn groes o bosibl i rwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.

Feirysau a gweithgarwch maleisus

Ni ddylech wneud y canlynol: 

  • cyflwyno feirysau neu god maleisus
  • ceisio cael mynediad heb awdurdod i systemau
  • ymyrryd â gweithrediad ein gwefan

Gall gweithgarwch o'r fath fod yn droseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

Mynd yn groes i’r polisi hwn

Os byddwch yn mynd yn groes i’r polisi hwn, efallai y byddwn yn gwneud y canlynol:

  • dileu cynnwys rydych chi wedi'i bostio
  • atal dros dro neu derfynu eich mynediad i'r wefan
  • adrodd am weithgarwch anghyfreithlon i awdurdodau gorfodi'r gyfraith
  • cymryd camau cyfreithiol lle bo hynny'n briodol

Newidiadau i'r polisi hwn

Efallai y byddwn yn diweddaru'r polisi hwn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio'r dudalen hon.

Dylech wirio'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn deall y rheolau sy'n berthnasol wrth ddefnyddio ein gwefan.