Skip to main content

Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym ym mis Ionawr 2005. Mae’n cynnig hawl i'r cyhoedd droi at wybodaeth sy’n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus, gyda rhai eithriadau.

Gall unrhyw un wneud cais ysgrifenedig am wybodaeth gan Chwaraeon Cymru. Rhaid i ni ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith, gan:

  • ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani neu  
  • gadarnhau ein bod yn dal y wybodaeth, ond na allwn ei rhyddhau oherwydd ei bod yn dod dan eithriad dan y Ddeddf neu
  • wadu ein bod yn dal y wybodaeth

Os na fydd eich cais yn glir, byddwn yn gofyn am eglurder am eich cais. Ni fydd y ffenestr ymateb 20-diwrnod yn cychwyn nes i ni gael eglurder.

Gallwch gael gwybod mwy am ryddid gwybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Gwneud cais rhyddid gwybodaeth  

Cyn gofyn am wybodaeth, dylech wirio a yw ar gael ar y wefan hon.

Gallwch gyflwyno eich cais trwy:

  • anfon e-bost at foi@sport.wales  
  • ei bostio i Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW