Rydym eisiau i'n staff ragori gan roi sylw dyledus i'w hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), cyfeiriadedd rhywiol, dewis o ran yr iaith Gymraeg a statws economaidd-gymdeithasol, ac felly rydym yn mynd ati i ddatblygu amgylchedd gwaith amrywiol a chynhwysol lle caniateir i staff fod yn nhw eu hunain, lle cydnabyddir eu gwahaniaethau a lle gwerthfawrogir eu cyfraniadau.
Mae'r polisi hwn yn nodi ein hymrwymiad i greu gweithle cynhwysol lle mae cydraddoldeb yn cael ei hyrwyddo, amrywiaeth yn cael ei pharchu, a phawb yn teimlo eu bod yn perthyn.
Cydraddoldeb: Lle mae gan bob person hawliau cyfartal a lle mae gan bob person gyfle teg. Mae'n ddull o weithredu sy’n cydnabod bod gan wahanol bobl wahanol fannau cychwyn.
Tegwch: Yn cydnabod bod tegwch weithiau'n gofyn am wahanol ddulliau neu gefnogaeth i sicrhau canlyniadau cyfartal i bawb.
Amrywiaeth: Mae amrywiaeth yn golygu gwahanol. Rydym i gyd yn wahanol felly mae amrywiaeth yn ein cynnwys ni i gyd. Mae'r cysyniad o amrywiaeth yn cwmpasu derbyn a pharch. Mae'n golygu deall bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol.
Cynhwysiant: Lle mae pob person yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi a'u bod yn ffitio i mewn ac yn cael eu cynnwys.
Dim ond pan fyddwn yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth (amrywiaeth), yn mabwysiadu tegwch, ac yn cydweithio i greu cynhwysiant y bydd cyfleoedd i bawb (cydraddoldeb) yn bodoli mewn gwirionedd.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob aelod o staff, heb ystyried y math o gontract, ac mae'n cwmpasu pob agwedd ar gyflogaeth, gan gynnwys recriwtio, hyfforddi, dyrchafu ac amodau gwaith.
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chadw at arferion sy'n rhydd o unrhyw wahaniaethu.
Bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi unrhyw gyflogai sy'n destun gwahaniaethu, naill ai'n fewnol neu gan drydydd parti. Nid yw Chwaraeon Cymru, o dan unrhyw amgylchiadau, yn goddef unrhyw fath o fwlio, aflonyddu, erlid na gwahaniaethu, gan ei gyflogeion nac yn eu herbyn.
Rydym yn ymdrechu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn chwaraeon a'n harferion gwaith ac rydym eisiau sicrhau bod y rhai sydd â'r dyhead i wneud cynnydd yn cael y cyfle i wneud hynny. Rydym eisiau gweld y cwsmer, gan gynnwys ein cyflogeion, wrth galon ein cynlluniau a'n penderfyniadau. Ond yn fwy na dim rydym eisiau i bawb deimlo eu bod yn cael eu derbyn a gallu bod yn nhw eu hunain.
Ailgynlluniwyd a diweddarwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol Chwaraeon Cymru ym mis Ebrill 2024. Rydym bellach yn symud ymlaen tuag at gwblhau'r amcanion a'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun wedi'i ddiweddaru. Nod y Cynllun yw sbarduno newid diwylliannol sy'n ymgorffori cydraddoldeb yng ngwead Chwaraeon Cymru ac, yn y pen draw, mewn chwaraeon ledled Cymru.
Dyma ddolen i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS).
Mae'r Bwrdd (y pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn benodol) yn atebol am gydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb a'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol. Maent yn gyfrifol am gytuno ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Chwaraeon Cymru ac ymgymryd â rôl graffu mewn perthynas â hyn.
Y Tîm Arweinyddiaeth yw'r arweinydd strategol ar gyfer cydraddoldeb, gan bennu ac arwain amcanion cydraddoldeb, gan ymgorffori'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol, a hyrwyddo cydraddoldeb ledled y sefydliad.
Bydd y Tîm Adnoddau Dynol a'r Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cefnogi gweithredu a monitro'r polisi hwn ac yn cynnig arweiniad a hyfforddiant lle bo angen.
Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i ymddwyn mewn ffordd sy'n cefnogi cynhwysiant. Dylem fod yn ymwybodol bob amser o effaith yr hyn a ddywedwn neu a wnawn ar eraill, a pheidio â gwahaniaethu, aflonyddu na bwlio, na goddef gwahaniaethu, aflonyddu na bwlio gan eraill.
Bydd hyfforddiant a chefnogaeth ar gael yn ôl yr angen, e.e. o fewn y Cyfnod Sefydlu, i sicrhau bod staff yn ymwybodol o gymhwyso cydraddoldeb ac amrywiaeth yn Chwaraeon Cymru a'u cyfrifoldebau o fewn hyn. Bydd hyn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau perthnasol i'r gyfraith neu'r polisi, gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar hawliau trawsryweddol, mannau un rhyw, a'r gwahaniaeth rhwng gwarchodaeth rhyw ac ailbennu rhywedd.
Mae'n ofynnol i ni, yn ôl y gyfraith, beidio â gwahaniaethu yn erbyn ein cyflogeion a chydnabod ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan ofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, a chydymffurfio â hwy.
O dan ddeddfwriaeth Cydraddoldeb mae'n anghyfreithlon gwneud y canlynol:
Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried sut i gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy hyrwyddo cydraddoldeb a chysylltiadau da yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn ddarostyngedig i Ddeddf yr Iaith Gymraeg a safonau i sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Yn ogystal, o dan y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ystyried sut gall ein penderfyniadau strategol helpu i leihau anghydraddoldebau canlyniad sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.
Nodyn: Yn unol â dyfarniad Goruchaf Lys y DU ym mis Ebrill 2025, rydym yn cydnabod bod y nodwedd warchodedig “rhyw” yn cyfeirio at ryw biolegol. Fodd bynnag, rydym yn parhau i warchod a chefnogi unigolion yn llawn o dan y nodwedd “ailbennu rhywedd” fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i amgylchedd cynhwysol i’r holl staff, waeth beth fo’u hunaniaeth o ran rhywedd.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at naw Nodwedd Warchodedig. Rydym hefyd yn cydnabod y Gymraeg fel rhan allweddol o hunaniaeth a chynhwysiant yng Nghymru a'n cyfrifoldeb i leihau anfantais economaidd-gymdeithasol, fel y nodir isod:
Oedran
Anabledd
Rhyw (Biolegol)
Ailbennu Rhywedd
Beichiogrwydd a Mamolaeth
Hil / Ethnigrwydd
Crefydd, Cred a Diwylliant
Cyfeiriadedd Rhywiol
Priodas a Phartneriaethau Sifil
Yr Iaith Gymraeg
Anfantais Economaidd-gymdeithasol
Disgwylir i bob aelod o staff fod wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant gwaith a gweithredol cynhwysol ac i godi pryderon ynghylch ymddygiad digroeso neu amhriodol yn y gweithle.
Gellir codi pryderon, a gellir gwneud cwynion, os ydych chi'n cael eich effeithio'n bersonol gan y gweithredoedd digroeso neu fel trydydd parti sy'n dyst i fwlio, aflonyddu, erlid a gwahaniaethu.
Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn am sut i wneud cwyn yn y Polisi Cwynion.
Cynhyrchir ein hadroddiad Dyletswydd Cydraddoldeb yn flynyddol ac mae'n cynnwys ein data amrywiaeth a gwybodaeth monitro. Os canfyddir bod tueddiadau a phatrymau'n dod i'r amlwg, byddwn yn dadansoddi'r rhain ac yn defnyddio'r data i ddangos tystiolaeth o'n gwaith yn y dyfodol i greu sefydliad cynhwysol, cyfartal ac amrywiol yn Chwaraeon Cymru. Caiff effeithiolrwydd y polisi hwn ei fonitro ymhellach drwy arolygon staff sy'n canolbwyntio ar ymddygiadau profiadol.