Mae'r polisi hwn yn nodi dull Chwaraeon Cymru o ymdrin ag absenoldeb oherwydd salwch. Mae'r polisi'n berthnasol i'r rhai sydd ar gontractau parhaol a thymor penodol.
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod manteision iechyd a lles staff. Mae'r polisi hwn wedi'i anelu at reoli absenoldeb oherwydd salwch mewn modd rhagweithiol sy'n diwallu anghenion unigolion.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu safonau uchel o ran gwasanaeth a chyflenwi. Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol i gyflawni hyn a disgwylir i chi ddod i'r gwaith yn unol â'ch contract. Os ydych chi'n teimlo'n sâl ond yn gallu gweithio o gartref, siaradwch â'ch rheolwr llinell am hyn. Rydym yn cydnabod y bydd adegau pan fyddwch yn mynd yn sâl ac yn methu â gweithio. Ni ddisgwylir i chi weithio pan nad ydych yn ddigon da i wneud hynny.
Mae'r adrannau canlynol yn disgrifio ein polisïau a'n gweithdrefnau ar absenoldeb oherwydd salwch a rheoli presenoldeb. Os yw lefelau absenoldeb oherwydd salwch yn peri pryder, bydd rheolwyr yn darparu cefnogaeth ac yn cymryd camau priodol i wella presenoldeb, a all gynnwys camau ffurfiol.
Bydd Chwaraeon Cymru yn sicrhau bod pob rheolwr llinell yn ymwybodol o'r gweithdrefnau rheoli absenoldeb oherwydd salwch ac yn cael cefnogaeth addas gan y tîm Adnoddau Dynol i ddelio â materion o'r fath.
Bydd eich rheolwr llinell yn trin eich absenoldeb yn sensitif ac yn deg ac yn eich cefnogi i ddychwelyd i'r gwaith. Lle bo hynny'n briodol, byddwn yn gwneud addasiadau i'r amgylchedd gwaith a rôl y swydd er mwyn eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb oherwydd salwch neu fel mesur ataliol.
Os oes unrhyw reswm i gredu eich bod wedi rhoi gwybod eich bod yn sâl pan oeddech yn ddigon da i ddod i'r gwaith, bydd ein Gweithdrefn Ddisgyblu yn cael ei rhoi ar waith, a all arwain at rybuddion neu, o dan rai amgylchiadau, diswyddiad.
Os nad ydych chi'n ddigon da i fynd i’ch gwaith, rhaid i chi gysylltu â'ch rheolwr llinell cyn gynted â phosibl i roi gwybod iddo. Os nad yw eich rheolwr llinell ar gael, dylech gysylltu ag aelod uwch arall o staff i sicrhau bod y neges yn cael ei derbyn gyda chymaint o rybudd â phosibl cyn y disgwylir i chi ddod i'r gwaith. Os ydych chi i ffwrdd am fwy nag un diwrnod, bydd angen i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch rheolwr am eich absenoldeb a'r dyddiad tebygol y byddwch yn dychwelyd.
Os na fyddwch yn cysylltu â'ch rheolwr llinell, bydd eich absenoldeb yn cael ei ystyried yn absenoldeb heb awdurdod ac efallai y byddwn yn ceisio cysylltu â chi neu eich perthynas agosaf. Mae absenoldebau heb awdurdod yn rhai di-dâl a gallant arwain at weithdrefn ddisgyblu.
Mae eich rheolwr yn gyfrifol am gofnodi eich absenoldeb oherwydd salwch ar Cascade a chynnal cyfweliad dychwelyd i'r gwaith pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith yn dilyn absenoldeb oherwydd salwch.
Os ydych chi i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch, disgwylir i chi wneud eich gorau glas i sicrhau eich bod chi'n dychwelyd i'r gwaith yn gyflym. Ymddiriedir ynoch chi i ymddwyn yn synhwyrol ac yn onest yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb. Ni ddylech gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau a allai waethygu'r salwch neu'r anaf neu a allai ohirio adferiad.
Disgwylir i chi gynnal cysylltiad rheolaidd â'ch rheolwr yn ystod eich absenoldeb a chydweithredu ag unrhyw geisiadau am adroddiadau meddygol.
Os na fyddwch yn cadw at y disgwyliadau hyn, fe allech golli tâl salwch Chwaraeon Cymru a gall hefyd eich gwneud yn anghymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol.
Os byddwch chi'n mynd yn sâl yn ystod cyfnod o wyliau blynyddol a drefnwyd ymlaen llaw (ac eithrio cau'r swyddfa dros y Nadolig), gallwch ofyn am ganslo'r absenoldeb a chael credyd yn ôl. Bydd gweithdrefnau arferol ar gyfer adrodd am absenoldeb salwch yn berthnasol gan nad yw absenoldeb salwch yn debygol o gael ei gymhwyso wrth edrych yn ôl.
Er na ddylid cymryd gwyliau blynyddol yn lle absenoldeb oherwydd salwch, gallwch ddewis cymryd gwyliau blynyddol yn ystod cyfnod o salwch hirdymor, neu cyn i chi ddychwelyd i'r gwaith, ar yr amod nad yw'r cyfnod hwn yn dod o dan Nodyn Ffitrwydd.
Os ydych chi i ffwrdd am fwy nag wythnos oherwydd salwch, bydd angen i chi gyflwyno datganiad o ffitrwydd i weithio (nodyn ffitrwydd). Bydd y meddyg teulu naill ai’n cynghori nad yw’r cyflogai’n ffit i weithio neu y gallai fod yn ffit i weithio. Os na fyddwch yn darparu Nodyn Ffitrwydd, ni fyddwch yn gymwys i gael tâl salwch a gellir ystyried yr absenoldeb hwn fel un heb ei awdurdodi.
Os bydd y meddyg teulu yn cynghori y gallai'r cyflogai fod yn ffit i weithio, bydd yn awgrymu ffyrdd o gefnogi'r cyflogai yn ôl i'r gwaith ar y nodyn ffitrwydd.
Dylai rheolwyr roi ystyriaeth ofalus i unrhyw gyngor gan y meddyg teulu y gallai'r cyflogai fod yn ffit i weithio gyda chefnogaeth i ddychwelyd i'r gwaith. Dylid trefnu cyfarfod i siarad â'r cyflogai i drafod y nodyn ffitrwydd ac a yw'n bosibl darparu’r gefnogaeth a nodwyd gan y meddyg teulu.
Os gellir darparu’r gefnogaeth, dylent gytuno ar ddyddiad dychwelyd i'r gwaith gyda'r cyflogai, unrhyw addasiadau, trefniadau monitro a dyddiad i adolygu'r trefniant dros dro.
Os nad yw'n bosibl cydymffurfio â chyngor y meddyg teulu, bydd hyn yn cael ei egluro i'r cyflogai a chytunir ar ddyddiad adolygu neu ddyddiad dychwelyd i'r gwaith. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y nodyn ffitrwydd yn cael ei ystyried fel cyngor 'ddim yn ffit i weithio'.
Ystyrir absenoldeb sy'n para mwy na phedair wythnos yn olynol yn sgil cyflwr meddygol, salwch difrifol neu anaf fel absenoldeb hirdymor.
Yn ystod absenoldeb hirdymor, bydd angen i chi ddarparu nodiadau ffitrwydd sy'n cwmpasu'r cyfnod absenoldeb a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch rheolwr llinell am y cynnydd rydych chi'n ei wneud ac unrhyw brognosis rydych chi’n ei dderbyn.
Efallai y bydd cyfarfod lles yn cael ei drefnu i gynnig cymorth a chefnogaeth i chi, er mwyn ein helpu i gynllunio ar gyfer eich absenoldeb parhaus ac i’ch cefnogi i ddychwelyd i’r gwaith. Bydd nifer y cyfarfodydd adolygu hyn yn cael ei bennu gan eich salwch a'ch amgylchiadau.
Mae'n debygol y bydd atgyfeiriad iechyd galwedigaethol yn cael ei wneud, yn dibynnu ar natur yr absenoldeb. Bydd unrhyw gyngor neu argymhellion o’r adroddiad yn cael eu trafod gyda chi, eich rheolwr llinell a’r tîm Adnoddau Dynol.
Os yw’r absenoldeb yn parhau ac nad oes unrhyw arwydd y byddwch yn gallu dychwelyd i'r gwaith yn y dyfodol agos, bydd cyfarfod adolygu yn cael ei drefnu a fydd yn cynnwys Pennaeth yr adran neu swyddog uwch. Y pwrpas fyddai adolygu eich absenoldeb a bydd yn ystyried eich cyflwr, unrhyw gynnydd a wnaed, cyngor gan Feddyg Teulu neu Iechyd Galwedigaethol, y tebygolrwydd y byddwch yn gallu dychwelyd yn y dyfodol agos ac a ellid gwneud unrhyw addasiadau ymarferol a rhesymol i hwyluso’r broses ddychwelyd o fewn amserlen resymol.
Os na allwch ddychwelyd i'r gwaith yn y dyfodol agos ac nad oes dim byd ymarferol y gellir ei wneud o ran addasiadau a fyddai'n helpu i ddod â'r absenoldeb i ben, efallai y penderfynir dod â chontract y cyflogai i ben. Fodd bynnag, ni fyddwn yn diswyddo unrhyw un sydd â diagnosis terfynol oherwydd ei gyflwr.
Os na allwch ddychwelyd i'ch swydd arferol, cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, bydd swyddi eraill yn cael eu hystyried. Os oes gennych chi anabledd, byddwn yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol i gynnwys eich swydd, eich amodau gwaith neu eich amgylchedd a fyddai'n eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith.
Yn dilyn pob cyfnod o salwch, bydd eich rheolwr yn cynnal trafodaeth dychwelyd i'r gwaith i drafod y rhesymau dros eich absenoldeb, sicrhau eich bod yn ffit i weithio a thrafod a oes angen unrhyw gymorth arnoch ar ôl i chi ddychwelyd. Cedwir cofnod o'r drafodaeth hon ar y system Adnoddau Dynol.
Os oes angen cymorth a chyngor ar eich rheolwr llinell ynghylch eich iechyd a'ch presenoldeb, gofynnir i chi fynd i apwyntiad gyda'n cynghorydd Iechyd Galwedigaethol, a fydd yn rhoi cyngor arbenigol ar atal neu ddatrys problemau iechyd a all effeithio ar eich gallu i ddod i'r gwaith neu wneud eich gwaith yn effeithiol.
Gellir defnyddio cyngor gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol i helpu i gynllunio ar gyfer dychwelyd i'r gwaith yn raddol yn dilyn salwch hirdymor neu i helpu i gynllunio addasiadau i'r gwaith sydd eu hangen o ganlyniad i salwch / anabledd.
O dan rai amgylchiadau, gall Chwaraeon Cymru ofyn am adroddiad meddygol gan eich meddyg teulu eich hun. Gofynnir i chi lofnodi i gydsynio i brosesu'r adroddiad meddygol cyn gwneud unrhyw gynnydd.
Os na allwch gyflawni dyletswyddau arferol eich swydd oherwydd eich salwch, gellir ystyried newidiadau neu drefniadau dros dro eraill i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith neu fel mesur ataliol. Gallai dewisiadau gwahanol o'r fath gynnwys y canlynol:
O dan rai amgylchiadau, mae dychwelyd i'r gwaith yn raddol yn briodol i gyflogeion sy'n dychwelyd o gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch hirdymor. Bydd hyn yn galluogi'r cyflogai i gynyddu ei oriau gwaith a / neu ei ddyletswyddau yn raddol a setlo'n ôl i'w batrwm gwaith arferol.
Dylid cytuno ymlaen llaw ar amserlenni ar gyfer dychwelyd i’r gwaith yn raddol gyda'ch rheolwr, gyda chyngor gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol, eich Meddyg Teulu, a / neu'r tîm Adnoddau Dynol, gan ystyried anghenion y gwasanaeth. Bydd hyd a natur prosesau dychwelyd yn raddol yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.
Byddwch yn cael eich cyflog llawn wrth i chi ddychwelyd yn raddol i’r gwaith.
Ni fyddwch yn cael tâl salwch galwedigaethol am unrhyw driniaeth nad yw'n hanfodol (h.y. cosmetig), darllenwch y Polisi Absenoldeb Arbennig am ganllawiau pellach.
Tâl Salwch Statudol (TSS)
Chwaraeon Cymru fydd yn gyfrifol am dalu’r Tâl Salwch Statudol i chi yn unol â gofynion statudol. Ni fydd TSS yn cael ei dalu ar ben y Tâl Salwch Galwedigaethol (TSG) a bydd yn cael ei wrthbwyso yn erbyn unrhyw TSG a gaiff ei dalu i chi.
Tâl Salwch Galwedigaethol (TSG)
Ar yr amod eich bod wedi cydymffurfio â'r gofynion uchod ac unrhyw ofynion absenoldeb / adrodd am salwch eraill a bennir gan Chwaraeon Cymru, byddwch yn parhau i dderbyn tâl ar eich cyfradd arferol yn ystod unrhyw absenoldeb anochel oherwydd salwch neu anaf (boed hynny'n barhaus neu'n ysbeidiol) hyd at uchafswm o chwe mis o gyflog llawn mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, gan symud i chwe mis o hanner tâl, yn amodol ar uchafswm cyffredinol o 12 mis ar dâl llawn neu hanner tâl mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd.
Mae lefelau presenoldeb anfoddhaol yn cynnwys:
Os yw eich absenoldeb yn deillio o anaf sy'n gysylltiedig â gwaith, problemau iechyd eraill sy'n gysylltiedig â gwaith neu broblemau sy'n gysylltiedig â mamolaeth, ni fydd y rhain yn cyfrif tuag at yr uchod.
Os bydd eich lefel absenoldeb yn anfoddhaol, bydd y weithdrefn ganlynol yn cael ei gweithredu i sicrhau bod yr holl staff yn cael eu trin yn deg ac yn gyson.
Os ystyrir bod eich absenoldeb salwch yn anfoddhaol, bydd eich rheolwr llinell yn cyfarfod â chi'n anffurfiol i drafod pam mae eich absenoldebau'n destun pryder ac i drafod camau gweithredu angenrheidiol, fel ystyried atgyfeiriad at swyddog Iechyd Galwedigaethol neu weithredu addasiadau rhesymol a allai fod yn angenrheidiol yng nghyswllt anabledd neu gyflwr meddygol arall. Efallai y bydd angen cyngor gan y tîm Adnoddau Dynol yn y cam hwn o ran y ffordd orau o’ch cefnogi chi i sicrhau presenoldeb derbyniol.
Ar ôl y cyfarfod cychwynnol, bydd y rheolwr yn pennu cyfnod adolygu priodol, lle caiff lefelau absenoldeb eu monitro. Bydd methu â gwella lefelau presenoldeb o fewn yr amserlen y cytunwyd arni yn arwain at weithredu camau ffurfiol y weithdrefn.
Caiff camau ffurfiol y weithdrefn rheoli presenoldeb eu rhannu'n dri cham:
Ym mhob cam bydd cyfarfod i drafod yr absenoldebau a cheisio sefydlu a oes achos sylfaenol y mae angen ymdrin ag ef.
Bydd y cyflogai’n cael hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod/ydd. Bydd aelod o'r tîm Adnoddau Dynol yn dod i'r cyfarfod/ydd i roi cyngor ar faterion gweithdrefnol. Mae gan gyflogeion yr hawl i gael cwmni mewn cyfarfodydd ffurfiol. Gall y sawl a ddewisir fod yn gydweithiwr neu'n gynrychiolydd undeb llafur.
Os bydd y cyflogai’n methu â dod i gyfarfod ffurfiol heb reswm da, bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal, a gwneir penderfyniad yn ei absenoldeb. Fodd bynnag, os nad yw cynrychiolydd dewisol y cyflogai ar gael ar ddyddiad y cyfarfod, gall y cyflogai ofyn am oedi, unwaith, am hyd at bum niwrnod gwaith, er mwyn galluogi'r cynrychiolydd dewisol i fod yn bresennol.
Cynhelir y cyfarfod ffurfiol cyntaf pan na fydd unrhyw welliant wedi'i wneud yn dilyn y cyfarfod anffurfiol. Y rheolwr llinell fydd yn cadeirio’r cyfarfod hwn. Yn ystod y cyfarfod, bydd y rheolwr yn adolygu cofnodion salwch, yn gofyn i'r cyflogai pa gamau y mae wedi’u cymryd i helpu ei hun i wella ei bresenoldeb ac yn edrych ar a oes angen addasiadau i'r gweithle.
Os nad oes unrhyw amgylchiadau lliniarol dros lefelau uchel o absenoldeb yn dilyn y cyfarfod ffurfiol cyntaf, bydd y rheolwr llinell yn cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig cyntaf am lefelau uchel o absenoldeb. Bydd y rhybudd hwn yn nodi cyfnod adolygu a bydd disgwyl i'r cyflogai wella ei lefelau absenoldeb yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hyd y cyfnod adolygu yn cael ei bennu gan y rheolwr llinell ond ni ddylai fod yn hirach na 6 mis.
Ar ôl cwblhau'r cyfnod adolygu, dylid cynnal cyfarfod i adolygu lefelau'r absenoldeb. Os bydd y lefelau absenoldeb yn gwella yn ystod y cyfnod adolygu, nid oes angen cymryd unrhyw gamau pellach. Bydd y rhybudd ysgrifenedig cyntaf yn parhau'n weithredol am 6 mis o ddechrau'r cyfnod adolygu.
Os na chyrhaeddir y lefel presenoldeb ofynnol, bydd y rheolwr yn cynnal ail gyfarfod ffurfiol.
Cynhelir yr ail gyfarfod ffurfiol naill ai pan fydd presenoldeb yn gwaethygu yn ystod y cyfnod adolygu neu os na fydd unrhyw welliant i bresenoldeb yn dilyn rhybudd ysgrifenedig cyntaf a chwblhau'r cyfnod adolygu. Y rheolwr llinell fydd yn cadeirio’r cyfarfod hwn. Yn ystod y cyfarfod, bydd y rheolwr yn adolygu cofnodion salwch, yn gofyn i'r cyflogai pa gamau y mae wedi’u cymryd i helpu ei hun i wella ei bresenoldeb ac yn edrych ar a oes angen addasiadau i'r gweithle.
Os nad oes unrhyw amgylchiadau lliniarol dros lefelau uchel o absenoldeb yn dilyn yr ail gyfarfod ffurfiol, bydd y rheolwr llinell yn cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig terfynol am lefelau uchel o absenoldeb. Bydd y rhybudd hwn yn nodi cyfnod adolygu a bydd disgwyl i'r cyflogai wella ei lefelau absenoldeb yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hyd y cyfnod adolygu yn cael ei bennu gan y rheolwr llinell ond ni ddylai fod yn hirach na 6 mis.
Ar ôl cwblhau'r cyfnod adolygu, dylid cynnal cyfarfod i adolygu lefelau'r absenoldeb. Os bydd y lefelau absenoldeb yn gwella yn ystod y cyfnod adolygu, nid oes angen cymryd unrhyw gamau pellach. Bydd y rhybudd ysgrifenedig cyntaf yn parhau'n weithredol am 12 mis o ddechrau'r cyfnod adolygu.
Os na chyrhaeddir y lefel presenoldeb ofynnol, bydd y rheolwr yn cynnal cyfarfod ffurfiol terfynol.
Cynhelir y cyfarfod ffurfiol terfynol naill ai pan fydd presenoldeb yn gwaethygu yn ystod y cyfnod adolygu neu pan na fydd unrhyw welliant i bresenoldeb yn dilyn rhybudd ysgrifenedig terfynol a chwblhau'r cyfnod adolygu. Pennaeth yr adran (neu swyddog uwch, os yw'n briodol) fydd cadeirydd y cyfarfod. Yn ystod y cyfarfod, bydd y rheolwr yn adolygu cofnodion salwch, yn gofyn i'r cyflogai pa gamau y mae wedi’u cymryd i helpu ei hun i wella ei bresenoldeb ac yn archwilio a oes angen addasiadau i'r gweithle.
Yn dilyn y cyfarfod terfynol, os cadarnheir bod lefel y presenoldeb wedi parhau'n annerbyniol, mae'r ystod o opsiynau'n cynnwys y canlynol:
Dim ond Pennaeth Adran all wneud penderfyniadau diswyddo a bydd y cyflogai’n cael gwybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig ynghyd â’r rhesymau dros y diswyddiad, y dyddiad y bydd ei gyflogaeth yn dod i ben, y cyfnod rhybudd perthnasol, os yw'n berthnasol, a'i hawl i apelio.
Fel rheol, bydd diswyddo'n cael ei wneud gyda rhybudd, neu daliad yn lle rhybudd, oni bai fod y lefelau presenoldeb wedi bod mor esgeulus fel eu bod yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol, ac yn yr achos hwnnw bydd diswyddo'n cael ei wneud heb rybudd neu daliad yn lle rhybudd.
Os yw cyflogai’n dymuno herio penderfyniad o dan y weithdrefn hon, gall apelio yn ysgrifenedig, gan nodi ei sail lawn dros apelio, o fewn wythnos i'r dyddiad y cafodd wybod yn ysgrifenedig am y penderfyniad gwreiddiol.
Os yw'r apêl yn erbyn diswyddo, ni fydd y dyddiad y bydd y diswyddiad yn dod i rym yn cael ei ohirio tra mae canlyniad yr apêl yn cael ei glywed. Fodd bynnag, os bydd yr apêl yn llwyddiannus, bydd y cyflogai’n cael dychwelyd i'w swydd heb golli parhad cyflogaeth na chyflog.
Bydd y cyflogai’n cael hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad yr apêl.
Fel rheol, bydd gwrandawiad yr apêl ar ffurf adolygiad o'r penderfyniad gwreiddiol yng ngoleuni'r weithdrefn a ddilynwyd ac unrhyw wybodaeth newydd a allai fod wedi codi.
Cynhelir gwrandawiad yr Apêl gan y Swyddog Apêl, a fydd fel rheol ar yr un raddfa â'r rheolwr. Mewn rhai achosion, lle bo hynny'n briodol, gall hwn fod yn Aelod o'r Bwrdd. Bydd aelod o'r tîm Adnoddau Dynol yn dod i'r cyfarfod i roi cyngor ar faterion gweithdrefnol. Efallai y gofynnir i'r rheolwr a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol fod yn bresennol hefyd.
Gellir gohirio gwrandawiad os oes angen rhagor o wybodaeth neu roi ystyriaeth bellach i faterion a drafodwyd yn y gwrandawiad. Rhoddir cyfle rhesymol i'r cyflogai ystyried unrhyw wybodaeth newydd a geir cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Yn dilyn gwrandawiad yr apêl, gall y rheolwr sydd wedi gwrando ar yr apêl wneud un o’r canlynol:
Bydd y cyflogai’n cael gwybod yn ysgrifenedig am y penderfyniad terfynol ac ni fydd hawl bellach i apelio.
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod ei gyfrifoldebau am iechyd, diogelwch a lles ei gyflogeion o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999. Mae'r Polisi Lles Cyflogeion yn ymhelaethu ar bolisïau Iechyd a Diogelwch ac Iechyd a Lles Chwaraeon Cymru, i fynd i'r afael â meysydd a allai effeithio ar les cyflogeion, boed yn bersonol neu'n gysylltiedig â’u gwaith.
Gall unrhyw gyflogai sydd â phroblem lles, neu sy'n ymwybodol o broblem o’r fath, roi gwybod am y sefyllfa i'w reolwr llinell neu'r tîm Adnoddau Dynol, fel bod modd cymryd unrhyw gamau priodol. Gallai hyn gynnwys anawsterau sy'n gysylltiedig â gwaith neu anawsterau personol, profedigaeth, neu anawsterau domestig. Bydd unrhyw drafodaethau’n gwbl gyfrinachol.
Bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi ad-daliad i chi am gost prawf golwg os ydych chi'n defnyddio offer cyfrifiadurol yn rheolaidd neu os yw eich gwaith yn cynnwys gyrru cerbyd.
Yn ogystal â chost y prawf golwg, bydd Chwaraeon Cymru yn cyfrannu hyd at £50.00 at gostau sbectol neu lensys cyffwrdd lle mae eu hangen ar gyfer defnyddio VDUs / gyrru cerbyd YN UNIG.
Cynghorir yr holl staff mai eu cyfrifoldeb hwy yw diogelu unrhyw eitemau personol gwerthfawr maent yn eu gwisgo, h.y. oriorau, gemwaith ac ati, ac mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd Chwaraeon Cymru yn barod i ystyried unrhyw hawliad am iawndal am golled o'r fath. Fel rheol, dylai pob eitem fod wedi’i gwarchod gan yswiriant personol.
Os yw unrhyw waith yn cael ei wneud gan aelodau o staff a allai arwain at ddifrod i'w heiddo personol neu ei golli, dylid tynnu’r eiddo hwnnw cyn ymgymryd â'r dasg. Dim ond o dan amgylchiadau o esgeulustod ar ran Chwaraeon Cymru y gellir ystyried unrhyw gais am golled neu ddifrod.
Ar achlysuron prin iawn, efallai y bydd angen cymryd camau cyfreithiol i warchod cyflogeion rhag trydydd partïon, pan fydd bygythiadau'n codi yn ystod eu gwaith i Chwaraeon Cymru, ac o ganlyniad iddo.
Os ydych chi wedi gweithredu'n onest, yn rhesymol ac yn ddidwyll, ni fydd raid i chi ysgwyddo unrhyw atebolrwydd sifil personol o'ch adnoddau personol eich hun a achosir wrth gyflawni, neu honni cyflawni, eich dyletswyddau, oni bai eich bod wedi gweithredu'n ddi-hid.
Mae unrhyw weithred o drais neu gam-drin domestig yn annerbyniol ac mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i gefnogi unrhyw gyflogai sy'n dioddef o hyn.
Gellir diffinio trais domestig fel "unrhyw fath o gam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol sy'n digwydd yng nghyd-destun perthynas agos. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y berthynas rhwng partneriaid (priod, cyd-fyw, neu fel arall) neu gyn-bartneriaid".
Gall effeithiau trais domestig yn y gweithle fod fel a ganlyn:
Nod y polisi hwn yw darparu cefnogaeth i ddioddefwyr trais domestig. Mae cefnogaeth ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Os byddwch chi'n ymddiried yn eich rheolwr, bydd yn gallu ystyried eich amgylchiadau wrth ystyried materion perfformiad, fel absenoldeb oherwydd salwch a chyfnodau o berfformiad salach yn y gwaith. Gall eich rheolwr hefyd geisio sicrhau bod eich iechyd a'ch diogelwch chi a'ch cydweithwyr yn cael eu diogelu.
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i roi mesurau ar waith i sicrhau bod cyflogeion yn ddiogel wrth weithio ar eu pen eu hunain. Cydnabyddir, er y bydd llawer o gyflogeion yn treulio cyfnod cyfyngedig o amser yn gweithio “ar eu pen eu hunain”, fod y polisi hwn yn cwmpasu cyflogeion unigol sy'n gweithio ar eu pen eu hunain heb oruchwyliaeth agos neu uniongyrchol na chyswllt â chydweithwyr eraill. Dyma rai enghreifftiau:
Cyfrifoldeb y Cyflogwr
Chwaraeon Cymru sy’n gyfrifol am y canlynol:
Cyfrifoldeb y Rheolwyr a’r Goruchwylwyr
Y Rheolwyr a’r Goruchwylwyr sy’n gyfrifol am y canlynol:
Cyfrifoldeb y Cyflogeion
Y cyflogeion sy’n gyfrifol am y canlynol:
Arweiniad ar gyfer Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles cyflogeion, defnyddwyr gwasanaeth, cwsmeriaid, is-gontractwyr ac ymwelwyr ac unrhyw un arall sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan weithrediadau'r sefydliad o'r pwys mwyaf. Felly mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu ac yn gorfodi polisi ysmygu pwrpasol sydd hefyd yn cwmpasu e-sigaréts a fêpio, gan gydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth ddi-fwg gyfredol.
Polisi Chwaraeon Cymru yw bod ein holl weithleoedd yn ddi-fwg a bod gan bob cyflogai ac unrhyw un arall sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y sefydliad hawl i fod mewn amgylchedd di-fwg. Caiff y polisi ei adolygu yn ôl yr angen yn unol â'r ddeddfwriaeth.
Mae ysmygu, gan gynnwys defnyddio e-sigaréts a fêpio, wedi'i wahardd ar draws holl weithrediadau Chwaraeon Cymru heb unrhyw eithriadau. Mae hyn yn cynnwys cerbydau’r cwmni, ceir llogi’r cwmni, neu eich cerbyd eich hun os ydych chi'n ei ddefnyddio at ddibenion busnes ac yn cludo cyflogeion eraill.
Dim ond mewn mannau penodol dynodedig y caniateir ysmygu (er enghraifft, yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru mae hyn yn y maes parcio cefn yn y lloches ysmygu benodol) – allan o olwg y cyhoedd. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob cyflogai, ymgynghorydd, cwsmer neu aelod, ymwelydd ac is-gontractwr.
Mae cyflogeion sy'n defnyddio mannau ysmygu penodol wedi'u cyfyngu i gymryd dau seibiant o 10 munud y dydd. Bydd Chwaraeon Cymru yn darparu cynwysyddion i ysmygwyr waredu gwastraff ysmygu mewn mannau penodol.
I'r cyflogeion hynny sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu, gall y tîm Adnoddau Dynol eu cyfeirio at feysydd cymorth.
Y Prif Swyddog Gweithredol sy'n gyfrifol am weithredu ac adolygu'r polisi. Bydd y polisi hwn a'i ddefnydd gorfodol yn cael eu cyfleu i bob cyflogai, is-gontractwr, ymwelydd, cwsmer a phartïon sydd â diddordeb.
Fel rhan o broses sefydlu Chwaraeon Cymru, bydd yr adran Adnoddau Dynol yn hysbysu cyflogeion newydd am y polisi hwn ac yn dangos iddynt ble mae yn llawlyfr y staff.
Mae cyflogeion yn gyfrifol am hysbysu unrhyw ymwelwyr, defnyddwyr, cwsmeriaid neu is-gontractwyr am y polisi a hwyluso gweithredu'r polisi.
Bydd arwyddion 'Dim ysmygu' priodol yn cael eu harddangos yn glir wrth fynedfeydd y safle neu gerllaw.
Dim ond mewn mannau a ganiateir (manylir ar enghraifft uchod) y caiff cyflogeion, ymwelwyr, defnyddwyr, cwsmeriaid neu is-gontractwyr sy'n mynd allan i ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts a fêpio) ysmygu.
Os bydd cyflogai’n torri'r rheolau hyn, gall hynny arwain at gamau disgyblu priodol a fydd yn cael eu trin yn unol â gweithdrefn ddisgyblu Chwaraeon Cymru. Atgoffir y cyflogeion hefyd ei bod yn drosedd i gyflogeion ysmygu mewn mannau di-fwg, gyda dirwyon o hyd at £200.
Gall cyflogwyr gael dirwy o hyd at £2,500 os nad ydynt yn atal pobl rhag ysmygu yn y gweithle neu hyd at £1,000 os nad ydynt yn arddangos arwyddion 'dim ysmygu'.
Dylai cyflogai yn Chwaraeon Cymru atgoffa ymwelwyr, defnyddwyr, cwsmeriaid neu is-gontractwyr sy'n ysmygu mewn mannau di-fwg o'r arwyddion dim ysmygu a gofyn iddynt stopio. Os yw ymwelydd, defnyddiwr, cwsmer neu is-gontractwr yn parhau i ysmygu, dylai’r cyflogai esbonio bod yr ymwelydd, defnyddiwr, cwsmer neu is-gontractwr yn cyflawni trosedd ac na fydd yn cael gwasanaeth os yw'n parhau i wneud hynny.
Os yw'r ymwelydd, defnyddiwr, cwsmer neu is-gontractwr yn parhau i wrthod rhoi'r gorau i ysmygu, dylai’r staff ofyn iddo / iddi adael y safle a, lle bo hynny'n berthnasol, ei gyfeirio / chyfeirio at ble gall ysmygu. Fel dewis olaf, defnyddir gweithdrefn Chwaraeon Cymru ar gyfer delio ag ymddygiad anghyfreithlon neu fethiant i gydymffurfio â rheolau Chwaraeon Cymru ar ei safle.
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i gadw at arferion gweithio diogel ac i warchod iechyd, diogelwch a lles ei gyflogeion o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999. I lawer o bobl, mae yfed yn gymdeithasol yn rhan gadarnhaol o fywyd ac nid yw’n achosi unrhyw broblemau. Fodd bynnag, mewn cyd-destun gwaith, gall cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill nid yn unig niweidio iechyd ond effeithio hefyd ar berfformiad, cynhyrchiant, lefelau absenoldeb a damweiniau. Mae cyflogeion yn defnyddio alcohol neu gyffuriau yn amhriodol yn gallu bod yn angheuol i staff a chwsmeriaid.
Nod Chwaraeon Cymru yw darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach. Mae’n cydnabod y gallai hyn gael ei beryglu gan y rhai sy’n defnyddio alcohol neu gyffuriau yn amhriodol i’r graddau y gallai effeithio ar eu hiechyd, eu perfformiad, eu hymddygiad, eu perthynas â chydweithwyr, ac ar ddiogelwch cwsmeriaid neu ymwelwyr.
Gall defnydd amhriodol gynnwys, ymysg pethau eraill: dibyniaeth; digwyddiadau untro; patrymau digwyddiadau; cymryd sylweddau yn ystod amser gwaith; a dod â sylweddau anghyfreithlon i’r safle. Gall sylweddau gynnwys, ymysg pethau eraill: alcohol; cyffuriau anghyfreithlon; cyffuriau penfeddwol cyfreithlon (legal highs); cyffuriau ar bresgripsiwn; a thoddyddion (solvents).
Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau nad ydynt yn anaddas i weithio o ganlyniad i effeithiau alcohol neu gyffuriau pan fyddant yn dod i’r gwaith.
Mae pob rheolwr llinell yn gyfrifol am gadw llygad am arwyddion a symptomau defnydd amhriodol o alcohol neu gyffuriau, ac am gynnig cefnogaeth, fel y disgrifir isod.
Os bydd rheolwr llinell yn gwybod neu’n amau bod cyflogai yn anaddas i weithio o ganlyniad i effeithiau alcohol neu gyffuriau, mae’n gyfrifol am roi cyfarwyddiadau priodol i’r cyflogai. Gall hyn gynnwys anfon y cyflogai adref ac felly, fel dyletswydd o ofal i’r cyflogai, sicrhau ei fod yn teithio’n ddiogel ac yn gyfrifol. Mae cyngor a chymorth ar gael gan y tîm Adnoddau Dynol os bydd problemau’n codi.
Mae effeithiau alcohol neu gyffuriau yn y gwaith yn gallu achosi risgiau iechyd a diogelwch difrifol, yn enwedig mewn meysydd fel gyrru, defnyddio peiriannau neu oruchwylio gweithgareddau. Felly, dylid cadw at y rheolau canlynol:
Nid yw bob amser yn hawdd adnabod arwyddion camddefnyddio, ond dyma rai o’r arwyddion rhybuddio mwyaf cyffredin.
Os ydych chi’n teimlo bod gennych chi broblem gydag alcohol a / neu gyffuriau, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu am driniaeth a chefnogaeth, a rhoi gwybod i’ch rheolwr llinell am y camau rydych chi wedi’u cymryd er mwyn cael cefnogaeth ychwanegol. Mae’r Rhaglen Cymorth i Gyflogeion yn gallu helpu gyda phroblemau camddefnyddio hefyd.
Os bydd perfformiad gwael, lefelau absenoldeb uchel neu broblemau gydag ymddygiad yn cael eu nodi drwy arsylwi neu weithdrefnau disgyblu arferol, efallai y bydd eich rheolwr llinell yn gallu cynnig cymorth os ydych chi wedi rhoi gwybod iddo am y mater a’r camau rydych chi’n eu cymryd.
Bydd Chwaraeon Cymru yn gefnogol ac yn gadarnhaol ei agwedd at gyflogeion sy’n sâl oherwydd defnydd o alcohol neu gyffuriau, a bydd yn helpu i ddarparu triniaeth i gyflogeion cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.
Os ydych chi’n teimlo y gallech chi elwa o gefnogaeth allanol ychwanegol o bosib, a hynny ar gyfer dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu mewn cysylltiad â ffactorau sy’n achosi straen a allai gyfrannu at ddefnydd amhriodol o alcohol neu gyffuriau, bydd hyn ar gael drwy ein Rhaglen Cymorth i Gyflogeion.
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo hefyd i helpu i atal y camddefnydd o alcohol, cyffuriau a sylweddau eraill, a hynny drwy wneud y canlynol:
Bydd Chwaraeon Cymru yn ymdrechu i’ch cefnogi chi os ydych chi’n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau. Ond o dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn briodol cymryd camau disgyblu neu gamau rheoli perfformiad:
Bydd Chwaraeon Cymru yn sicrhau bod diodydd meddal / di-alcohol ar gael mewn digwyddiadau corfforaethol bob amser. Fodd bynnag, mae’n derbyn y bydd rhai digwyddiadau neu dderbyniadau corfforaethol, fel seremonïau gwobrwyo, lle bydd cyflogeion yn dymuno yfed alcohol o bosib. Mae’r canllawiau canlynol wedi cael eu llunio i’ch diogelu chi a’r sefydliad, ac mae’n rhaid eu dilyn:
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod iechyd a lles unigolion yn gwneud cyfraniad hanfodol at berfformiad, a’u bod o fudd i fywyd unigolion yn y gweithle a’r tu allan i’r gweithle. Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd gwaith sy’n diogelu lles corfforol a meddyliol ein staff. Mae’r polisi hwn yn darparu fframwaith, ac o fewn y fframwaith hwn bydd Chwaraeon Cymru yn hybu ac yn hwyluso arferion gweithio a gwasanaethau sy’n cefnogi lles cyflogeion. Mae hyn yn cael ei gefnogi drwy Werthoedd Chwaraeon Cymru; Gweithredu gydag Integriti, Annog Arloesedd ac Ychwanegu Gwerth drwy Ddysgu Gyda’n Gilydd, Cyflawni Gyda’n Gilydd a Dathlu Gyda’n Gilydd.
Mae’r Polisi Iechyd a Lles yn ehangu ar bolisïau Iechyd a Diogelwch ac Absenoldeb Salwch Chwaraeon Cymru, gan amlinellu sut bydd y sefydliad yn hybu lles cyflogeion yn y ffyrdd canlynol:
Bydd y Weithrediaeth a’r Uwch Dîm Rheoli yn gwneud y canlynol:
Bydd Rheolwyr a Goruchwylwyr yn gwneud y canlynol:
Bydd cyflogeion yn gwneud y canlynol:
Bydd y tîm Adnoddau Dynol yn gwneud y canlynol:
Rhaglen Cymorth i Gyflogeion
Mae’r Rhaglen Cymorth i Gyflogeion yn wasanaeth ffôn ac ar-lein 24 awr y dydd sy’n cynnig y canlynol:
Iechyd Galwedigaethol
Mae eich iechyd chi, neu iechyd rhywun rydych chi’n ei reoli, yn effeithio ar les, perfformiad a phresenoldeb. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn gallu helpu yn hyn o beth drwy roi cyngor:
Addasiadau yn y gweithle
Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol yn y gweithle i elfennau o swydd sy’n golygu bod cyflogai anabl dan anfantais sylweddol o gymharu â chyflogeion eraill. Bydd addasiadau’n cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol.
Mae Chwaraeon Cymru’n cydnabod bod straen yn cael effaith niweidiol ar les cyflogeion. Mae’n cydnabod hefyd bod sawl ffurf ar straen, ac felly bod angen ei ddadansoddi’n ofalus a rhoi sylw iddo ar lefel sefydliadol. Mae achosion straen yn y gweithle, a’r symptomau posib, i’w gweld yma.
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i hybu iechyd a lles ei gyflogeion drwy leihau straen yn y gweithle. Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod pobl yn ymdopi â phwysau mewn gwahanol ffyrdd, a bod gallu pawb i ymdopi yn wahanol. Mae rheoli’n rhagweithiol ac yn gefnogol yn gallu lleihau’r risg o straen.
Rôl rheolwyr
Mae rheolwyr yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi cyflogeion mewn cysylltiad â straen. Mae modd i reolwyr gymryd nifer o gamau i wneud hyn, gan gynnwys:
Gofalu amdanoch chi’ch hun
Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud er budd eich iechyd a’ch lles eich hun. Dyma rai camau y gallwch chi eu cymryd i helpu i leihau straen:
Y gefnogaeth sydd ar gael
Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n gallu ymdopi, dylech roi gwybod i’ch rheolwr llinell am unrhyw anawsterau. Yn yr un modd, os oes gan eich rheolwr llinell reswm i gredu bod gormod o straen arnoch chi o bosib, bydd yn gofyn am gyfarfod gyda chi i drafod eich pryderon ac i gynnal asesiad risg.
Mae iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol. Bydd tua un o bob pedwar person yn wynebu problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae amryw o gyflyrau iechyd meddwl, yn amrywio o rai cyffredin fel iselder, gorbryder ac anhwylderau bwyta, a rhai llai cyffredin fel anhwylder deubegynol, anhwylderau personoliaeth a sgitsoffrenia.
Mae’n bwysig peidio ag anwybyddu eich iechyd meddwl.
Rôl rheolwyr
Mae rheolwyr yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi cyflogeion mewn cysylltiad ag iechyd meddwl. Mae modd i reolwyr gymryd nifer o gamau i wneud hyn, gan gynnwys:
Gofalu amdanoch chi’ch hun
Dylech fod yn ymwybodol bob amser o’ch iechyd meddwl eich hun a deall sut gallai’r hyn rydych chi’n ei wneud effeithio ar iechyd meddwl pobl eraill. Dyma rai camau i gynnal eich lles meddyliol:
Ystyr anhwylderau cyhyrysgerbydol yw anafiadau neu boen yn eich cymalau, eich ligamentau, eich cyhyrau a’r strwythurau sy’n cefnogi eich breichiau a’ch coesau, eich gwddw a’ch cefn. Anhwylderau cyhyrysgerbydol yw’r math mwyaf cyffredin o salwch galwedigaethol. Yn ogystal ag effaith gorfforol anhwylderau cyhyrysgerbydol, mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod prawf o gyswllt rhwng anhwylderau cyhyrysgerbydol a phroblemau iechyd meddwl. Mae rhagor o fanylion am anhwylderau cyhyrysgerbydol ar gael yma.
Rôl rheolwyr
Mae ffactorau yn y gweithle’n gallu cyfrannu at broblemau cyhyrysgerbydol. Mae rheolwyr yn chwarae rôl allweddol yn atal y problemau hyn yn y lle cyntaf, yn ogystal â helpu cyflogeion i reoli’r problemau hyn, pan fyddant yn codi.
Dyma rai o’r pethau y gallwch chi eu gwneud fel rheolwr:
Gofalu amdanoch chi’ch hun
Mae llawer o gamau y gallwch chi eu cymryd i’ch gwneud yn llai tebygol o ddatblygu anhwylder cyhyrysgerbydol, gan gynnwys:
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod gweithgarwch corfforol yn hollbwysig ar gyfer iechyd da ac yn cyfrannu at les cadarnhaol. Mae’r gweithle’n fan pwysig lle mae pobl yn gallu cynyddu eu lefel gweithgarwch i wella eu hiechyd a gwarchod rhag salwch.
Mae gweithgarwch corfforol yn helpu pobl i reoli straen, poen cefn, eu pwysau, a chyflyrau meddygol. Mae ymchwil yn dangos bod cyflogeion sy’n gorfforol actif yn dweud eu bod yn sâl yn llai aml ac yn gwella’n gyflymach os ydynt yn sâl.
Mae cyflogeion sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol wedi dweud eu bod yn cael mwy o fwynhad o’u gwaith, eu bod yn gallu canolbwyntio’n well, bod ganddynt berthynas well â’u cydweithwyr a’u bod yn gweithio’n well gyda’u cydweithwyr.
Ein Hymrwymiadau
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
Y Gefnogaeth Sydd ar Gael
I hybu gweithgarwch corfforol a lles, bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi cyflogeion yn y ffyrdd canlynol:
I gael gwared ar rwystrau a galluogi staff i fod yn actif yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith, mae Chwaraeon Cymru yn darparu’r canlynol:
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod cael digon o faeth yn fuddiol i iechyd a lles ein cyflogeion.
Ein Hymrwymiadau
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
Y Gefnogaeth Sydd ar Gael
I annog bwyta’n iach, bydd Chwaraeon Cymru yn ymdrechu i gefnogi cyflogeion yn y ffyrdd canlynol:
I gael gwared ar rwystrau a galluogi staff i fwyta’n iach yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith, bydd Chwaraeon Cymru yn darparu’r canlynol:
Bydd y Polisi Iechyd a Lles yn cael ei adolygu’n rheolaidd gan y tîm Adnoddau Dynol. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys archwiliad o’r data rheoli y mae’r tîm Adnoddau Dynol wedi’u casglu.