Dyma delerau ac amodau eich aelodaeth a’r telerau a’r amodau i chi ddefnyddio Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW (“Canolfan”). Darllenwch y telerau a’r amodau hyn yn ofalus cyn i chi ddod yn aelod.
Mae’r telerau a’r amodau hyn yn rhan o’ch cytundeb gyda ni ac yn disodli unrhyw delerau ac amodau blaenorol.
2. Gwybodaeth amdanom ni a sut i gysylltu â ni
Ni yw Cyngor Chwaraeon Cymru, cwmni a grëwyd gan Siarter Frenhinol, sy’n masnachu fel Chwaraeon Cymru. Ein rhif cofrestru fel cwmni yw RC000579.
Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 300 3123 neu drwy ysgrifennu atom ar swnc.reception@sport.wales neu Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW.
Os bydd rhaid i ni gysylltu â chi byddwn yn gwneud hynny dros y ffôn neu drwy ysgrifennu atoch i’r cyfeiriad e-bost neu’r cyfeiriad post a ddarparwyd gennych pan ddaethoch yn aelod. Rhaid i chi roi gwybod i dderbynfa’r Ganolfan am unrhyw newidiadau i’ch manylion cyswllt.
Pan fyddwn yn defnyddio'r geiriau "ysgrifennu" neu "ysgrifenedig" yn y termau hyn, mae hyn yn cynnwys negeseuon e-bost.
3. Ein cytundeb gyda chi
Mae eich cytundeb aelodaeth gyda ni yn cynnwys:
eich ffurflen gais aelodaeth wedi'i llofnodi; ac
y telerau a’r amodau hyn.
Mae'r dogfennau hyn gyda'i gilydd yn ffurfio cytundeb cyfreithiol, rhwymol rhyngoch chi a ni.
Bydd y telerau a’r amodau hyn yn disodli unrhyw delerau anghyson a gymeradwyir ar, a gyflwynir gyda, a gynhwysir yn, neu y cyfeirir atynt ar y ffurflen gais aelodaeth.
Gallwch gwblhau'r broses gofrestru wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW (“Y Ganolfan”).
Mae eich cytundeb yn dechrau:
pan rydych yn cyflwyno eich ffurflen gais aelodaeth wedi'i chwblhau; a
talu'r ffi aelodaeth flynyddol (ar gyfer aelodaeth Efydd) neu'r rhandaliad misol cyntaf (ar gyfer aelodaeth Aur ac Arian).
Rhaid i aelodau sy'n dymuno defnyddio'r gampfa lenwi holiadur iechyd a sesiwn sefydlu yn y gampfa.
4. Mathau o Aelodaeth
Rydym yn cynnig y mathau canlynol o aelodaeth yn ein Canolfan i bawb sy’n 12 oed neu’n hŷn:
Efydd – mae hyn yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio ein Canolfan ar sail talu wrth fynd ar gyfradd is.
Arian – mae hyn yn rhoi'r hawl i chi gael mynediad i'r gampfa cardio a phwysau rhydd, dosbarthiadau ffitrwydd a gostyngiad ar archebion chwaraeon raced.
Aur – mae hyn yn rhoi'r hawl i chi gael mynediad i'r gampfa cardio a phwysau rhydd, dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon raced (yn amodol ar argaeledd).
Bydd yr aelodaeth efydd a nodir yng nghymal 4.1.1 yn perthyn i un o'r categorïau canlynol:
Oedolion;
Gostyngiadau;
Plant (12 i 17 oed);
Pensiynwyr (yn derbyn pensiwn y wladwriaeth); neu
Myfyrwyr.
Mae pob aelodaeth am bris is yn amodol ar ddarparu tystiolaeth ddigonol o gymhwysedd.
Rhaid i bob aelodaeth iau gael ei chymeradwyo gan rywun 18 oed neu hŷn, sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Mae cyfyngiadau oedran yn berthnasol i ddefnyddio'r campfeydd neu fynychu'r dosbarthiadau ffitrwydd. Campfeydd – rhaid i ieuenctid 14 i 15 oed fod yng nghwmni Aelod (18+ oed). Dosbarthiadau ffitrwydd – rhaid i ieuenctid 14 i 15 oed fod yng nghwmni person cyfrifol (16+ oed). Ni chaniateir i blant dan 14 oed ddefnyddio'r campfeydd na mynychu dosbarthiadau.
5. Ffioedd aelodaeth
Bydd cost eich aelodaeth yn dibynnu ar y math o aelodaeth rydych wedi ei dewis. Mae’r prisiau aelodaeth (sy'n cynnwys TAW) i'w gweld ar ein gwefan ni https://chwaraeon.cymru/canolfan-genedlaethol-caerdydd. Gall prisiau o’r fath newid yn unol â chymal 11.
Yn ystod eich aelodaeth, rhaid i chi dalu eich ffioedd aelodaeth os ydych chi’n defnyddio'r Ganolfan ai peidio.
Pan ddaw eich aelodaeth i ben am unrhyw reswm, a ninnau wedi cymryd y taliad terfynol gennych chi, eich cyfrifoldeb chi yw canslo unrhyw ddebyd uniongyrchol sydd gennych gyda ni. Ni ddylech ganslo unrhyw ddebyd uniongyrchol o’r fath cyn i’ch aelodaeth ddod i ben, oherwydd os gwnewch hynny ni fyddwn yn gallu casglu unrhyw daliadau sy’n weddill sy’n ddyledus gennych. Mewn digwyddiad o'r fath, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â hyn.
6. Dull o dalu
Ar gyfer aelodaeth Efydd mae'r ffi ymuno flynyddol yn daladwy pan gyflwynir eich cais am aelodaeth. Wedyn mae'n ofynnol i aelodau dalu am eu defnydd bob tro maent yn dymuno defnyddio cyfleuster am y pris perthnasol. Gellir gweld y prisiau talu wrth fynd am gyfleusterau ar ein gwefan ni https://chwaraeon.cymru/canolfan-genedlaethol-caerdydd. Ar ôl i'r flwyddyn galendr lawn ddod i ben, bydd yr aelodau Efydd yn cael y cyfle i adnewyddu eu haelodaeth flynyddol am bris is.
Ar gyfer aelodaeth Arian ac Aur, rhaid i chi dalu eich ffi aelodaeth ymlaen llaw bob mis drwy ddebyd uniongyrchol. Rhaid i chi lofnodi ffurflen mandad debyd uniongyrchol wrth gyflwyno eich cais am aelodaeth, a byddwn yn cymryd taliad ar neu o gwmpas diwrnod gwaith cyntaf pob mis.
Ar gyfer aelodaeth Arian ac Aur, rydych chi’n ymrwymo i fod yn aelod ac i dalu'r ffi aelodaeth fisol am o leiaf un mis calendr llawn. Ar ôl i’r mis calendr llawn ddod i ben, bydd eich aelodaeth yn parhau’n fisol, ond gallwch ganslo hyn yn unol â chymal 8.2.
Wrth brynu aelodaeth Arian neu Aur, os byddwch yn ymuno ar neu cyn y 14eg diwrnod o’r mis, bydd angen i chi dalu am weddill y mis (ar sail pro rata) gydag arian parod, cerdyn debyd neu gerdyn credyd wrth gyflwyno eich ffurflen gais wedi’i llenwi (cymerir taliadau misol dilynol drwy ddebyd uniongyrchol yn unol â chymal 6.2). Os byddwch yn ymuno ar neu ar ôl y 15fed diwrnod o’r mis, bydd angen i chi dalu am weddill y mis (ar sail pro rata) ynghyd â’r taliad misol canlynol gydag arian parod, cerdyn debyd neu gerdyn credyd wrth gyflwyno’ch ffurflen gais wedi’i chwblhau (cymerir taliadau misol dilynol drwy ddebyd uniongyrchol yn unol â chymal 6.2)
7. Methu talu
Os na fyddwch yn talu eich ffi aelodaeth fisol (os yw’n berthnasol) neu unrhyw ffioedd neu daliadau eraill rydych wedi cytuno i’w talu oherwydd:
Bod manylion y cyfrif a roesoch i ni ar gyfer y debyd uniongyrchol yn anghywir, byddwn yn gofyn i chi dalu ag arian parod, cerdyn debyd neu gerdyn credyd a gofynnir i chi enwi ffurflen mandad debyd uniongyrchol newydd
Nid oes digon o arian ar gael yn eich cyfrif banc, byddwn yn gofyn i chi dalu ag arian parod, cerdyn debyd neu gerdyn credyd. Chi sy'n gyfrifol am unrhyw daliadau a godir gan eich banc mewn cysylltiad ag unrhyw ymdrechion i sicrhau taliad sy’n methu;
Rydych chi wedi canslo eich debyd uniongyrchol heb roi rhybudd i ni, byddwn yn cymryd hwn fel rhybudd ymddangosiadol i ganslo eich aelodaeth.
Os oes taliadau yn ddyledus i ni gennych chi, ni fyddwch yn cael defnyddio'r Ganolfan na'r cyfleusterau.
8. Eich hawl i ganslo eich aelodaeth
Os ydych chi wedi prynu eich aelodaeth ar-lein, mae gennych chi hawl gyfreithiol i newid eich meddwl o fewn pedwar diwrnod ar ddeg (14) i ddechrau eich aelodaeth ac efallai y bydd gennych chi hawl i dderbyn ad-daliad. Mae'r cyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg (14) yn dechrau ar ddyddiad dechrau eich aelodaeth. Yr enw ar y cyfnod yma yw'r cyfnod ailfeddwl. Os ydych chi eisiau canslo eich aelodaeth yn ystod y cyfnod ailfeddwl, rhaid i chi anfon rhybudd ysgrifenedig i Swyddfa Gwasanaethau Cwsmeriaid y Ganolfan ar swnc.reception@sport.wales neu lenwi ffurflen cyfarwyddyd i ganslo aelodaeth.
Gallwch hefyd ganslo eich aelodaeth os ydych chi wedi prynu eich aelodaeth wyneb yn wyneb yn y Ganolfan ac ar ôl y cyfnod a nodir yng nghymal 8.1 (ar gyfer aelodaeth a brynwyd ar-lein) ar unrhyw adeg. I ganslo eich aelodaeth rhaid i chi anfon rhybudd ysgrifenedig i Swyddfa Gwasanaethau Cwsmeriaid y Ganolfan ar swnc.reception@sport.wales neu lenwi ffurflen cyfarwyddyd i ganslo aelodaeth. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn canslo'r aelodaeth o ddyddiad y trafodiad debyd uniongyrchol nesaf. Fodd bynnag, nodwch, os bydd y canslo'n digwydd ar ôl y 15fed diwrnod o unrhyw fis penodol, bydd debyd uniongyrchol yn cael ei gymryd ar y diwrnod 1af o'r mis canlynol a byddwn yn caniatáu mynediad i'r cyfleusterau yn unol â'r math o aelodaeth hyd at ddiwrnod olaf y mis hwnnw. Mae unrhyw ad-daliad o ffioedd aelodaeth wrth ganslo yn unol â’n disgresiwn llwyr.
9. Ein hawl ni i ganslo
Gallwn ganslo eich aelodaeth unrhyw bryd heb roi rhybudd i chi os yw’r canlynol yn berthnasol:
Rydym o'r farn nad ydych yn gallu defnyddio'r cyfleusterau'n ddiogel yn feddygol ac yn gorfforol;
Rydych yn mynd yn groes i’r telerau a’r amodau hyn yn ddifrifol, neu dro ar ôl tro;
Rydych yn caniatáu i berson arall ddefnyddio'ch cerdyn aelodaeth i gael mynediad i'n Canolfan; neu
Os ydych chi a / neu unrhyw un o’ch gwesteion yn defnyddio iaith dramgwyddol, sarhaus neu wahaniaethol neu’n bygwth ymddygiad treisgar, sarhaus neu fygythiol yn ein Canolfan neu, yn ein barn resymol ni, os yw eich ymddygiad neu os gallai eich ymddygiad roi ein cyflogeion a / neu aelodau eraill a / neu westeion mewn perygl.
10. Eich hawliau chi i wneud newidiadau
Gall uwchraddio aelodaeth fod ar gael a gall olygu tâl pro rata i gwmpasu'r cyfnod rhwng uwchraddio'r aelodaeth a'r taliad cyntaf yn cael ei gymryd ar y gyfradd newydd drwy ddebyd uniongyrchol. Mae ffurflen newid aelodaeth ar gael o dderbynfa'r Ganolfan.
Dim ond ar ôl llenwi ffurflen newid aelodaeth / cyfarwyddyd canslo, sydd ar gael o dderbynfa'r Ganolfan, y gellir trefnu israddio aelodaeth.
11. Ein hawliau ni i wneud newidiadau
O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn newid ein ffioedd aelodaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid i ffioedd debyd uniongyrchol ar e-bost neu drwy’r post a byddwn yn rhoi o leiaf un mis calendr llawn o rybudd i chi cyn i’r newid ddod i rym.
Gallwn, heb roi rhybudd i chi, wneud newidiadau rhesymol i’r telerau a’r amodau hyn.
Pan fyddwn yn gwneud newidiadau a allai effeithio arnoch chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y newidiadau rydym yn bwriadu eu gwneud drwy arddangos y newidiadau yn y Ganolfan am un mis calendr. Os nad ydych yn fodlon gyda’r newidiadau, gallwch ganslo eich aelodaeth fel y nodir yng nghymal 8.2.
12. Ein hawl i wrthod darpar aelodau
Gallwn, ar unrhyw adeg, wrthod caniatáu i chi ddod yn aelod, os oes gennym reswm i gredu bod eich ymddygiad yn neu y bydd, yn ein barn resymol ni, yn rhoi ein cyflogeion a / neu aelodau a / neu westeion mewn perygl.
13. Cardiau aelodaeth
Byddwn yn rhoi cerdyn aelodaeth i chi. Rhaid dangos cardiau aelodaeth a'u sweipio ar bob ymweliad neu bydd y ffi safonol yn berthnasol. Bydd llun ohonoch yn cael ei dynnu wrth ymuno at ddibenion adnabod.
Nid yw cardiau aelodaeth yn drosglwyddadwy.
Rhaid rhoi gwybod i dderbynfa’r Ganolfan am gardiau sydd wedi’u difrodi, eu colli neu eu lladrata. Efallai y codir ffi am gerdyn newydd.
14. Cyfleusterau
Er y gwneir pob ymdrech i gadw at y rhaglen sydd wedi’i chyhoeddi, rydym yn cadw’r hawl i newid yr oriau agor a’r gweithgareddau. Byddwn yn ymdrechu i roi rhybudd priodol os bydd hyn yn digwydd, ond efallai na fydd rhai gweithgareddau yn gallu digwydd oherwydd amgylchidau annisgwyl.
Rhaid i aelodau gydymffurfio â’r amodau defnydd a arddangosir yn ardaloedd y cyfleusterau.
Mae'r Ganolfan yn darparu maes parcio am ddim i gwsmeriaid wrth ddefnyddio'r Ganolfan (yn amodol ar argaeledd).
Gall aelodau archebu chwaraeon raced saith (7) diwrnod ymlaen llaw. Mae'n bosibl y codir cyfradd y cwrt ar aelodau sy'n archebu cwrt a ddim yn mynychu, pan fyddant yn bresennol y tro nesaf.
Gall y rhaglen dosbarthiadau ymarfer grŵp gael ei diwygio heb roi gwybod ymlaen llaw a neilltuir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin. Gall aelodau archebu dosbarthiadau saith (7) diwrnod ymlaen llaw. Gall aelodau sy'n archebu dosbarth a ddim yn mynychu orfod talu'r gyfradd i’r rhai nad ydynt yn aelodau am y dosbarth pan fyddant yn bresennol y tro nesaf.
Gellir gwrthod mynediad i ddosbarthiadau ymarfer grŵp os bydd aelodau'n cyrraedd ar ôl amser dechrau’r dosbarth, yn ôl disgresiwn hyfforddwr y dosbarth neu reolwyr y Ganolfan.
Oni bai yr hysbysebir yn wahanol, mae pob archeb am gwrt am 55 munud, ac eithrio ar gyfer sboncen sydd am 40 munud. Mae’r dosbarthiadau ffitrwydd am 45 munud. Nid oes unrhyw gyfyngiadau amser ar gyfer defnyddio'r campfeydd. Caniateir mynediad sawl gwaith i'r gampfa drwy gydol y dydd, rhaid i aelodau fynd i'r dderbynfa i ddechrau, a chyflwyno eu cerdyn aelodaeth a thalu os oes angen ar bob achlysur.
15. Chwaraeon raced
Caniateir uchafswm o chwe (6) chwaraewr ym mhob archeb Badminton, Tennis a Thennis Bwrdd. Uchafswm o dri (3) chwaraewr ym mhob archeb Sboncen.
Rhaid i'r aelod fod yn bresennol ac yn chwarae fel rhan o’r archeb.
Ni chaniateir gwylwyr ar ymyl y cwrt.
Gellir archebu uchafswm o un (1) cwrt y dydd.
16. Gwybodaeth gyffredinol
Bydd y Ganolfan yn rhoi o leiaf un (1) mis o rybudd pan fydd y Ganolfan yn cau (e.e. yn ystod cyfnod y Nadolig / gwyliau banc / dyddiau hyfforddi staff). Mae'r ffioedd a'r taliadau a gyhoeddir yn adlewyrchu'r cau yma ac ni fydd unrhyw amser ychwanegol yn cael ei ychwanegu i'ch digolledu. Holwch yn y dderbynfa, edrychwch ar yr hysbysfyrddau / cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan am wybodaeth.
Rydym yn cadw'r hawl i gau'r Ganolfan neu ardaloedd penodol ar gyfer gwaith glanhau, cynnal a chadw ac adnewyddu neu mewn argyfwng. Rhoddir rhybudd ymlaen llaw oni bai fod amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Ganolfan yn golygu bod angen cau ar unwaith.
17. Digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth resymol
Os na allwn ddarparu’r holl wasanaethau a chyfleusterau yn y Ganolfan am dri deg (30) diwrnod yn olynol neu fwy, neu os caiff gwasanaethau a chyfleusterau eu lleihau’n sylweddol am dri deg (30) diwrnod yn olynol neu fwy, am resymau neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, gallwch chi neu gallwn ni ganslo eich cytundeb ar unwaith drwy rybudd ysgrifenedig.
Gallai rhesymau neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol gynnwys, er enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i, drychinebau naturiol, gweithredoedd y llywodraeth, rhyfel, argyfwng cenedlaethol neu ranbarthol, gweithredoedd terfysgol, protestiadau, terfysg, tân, ffrwydrad, llifogydd, epidemig, pandemig a streiciau neu anghydfodau llafur eraill (nad ydynt yn ymwneud â'n gweithlu).
18. Polisi ffôn symudol / ffotograffiaeth
Ni chaniateir ffotograffiaeth o unrhyw fath mewn mannau sensitif, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
Ystafelloedd newid;
Toiledau;
Campfeydd; a
Dosbarthiadau ffitrwydd.
Gellir caniatáu eithriadau mewn ardaloedd gweithgarwch gyda chaniatâd ysgrifenedig rheolyr y Ganolfan.
19. Ymholiadau
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y telerau a’r amodau hyn neu eich cytundeb aelodaeth, siaradwch â derbynfa’r Ganolfan.
20. Ein cyfrifoldeb ni am golled neu ddifrod a ddioddefir gennych chi
Pan fyddwn yn cynnal asesiadau iechyd a holiaduron ymarfer, efallai y byddwn yn nodi problemau posibl wrth i chi gymryd rhan mewn ymarfer corff ac yn argymell eich bod yn ceisio cyngor meddygol. Nid ydym yn gyfrifol os byddwch yn anwybyddu ein hargymhellion ac yn parhau i ymarfer yn y Ganolfan.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn gallu gwneud yr ymarfer corff a ddarperir mewn unrhyw raglen ymarfer corff y byddwch yn ei dilyn neu ddosbarth yr ewch iddo.
Ni allwn warantu bod yr holl gyfleusterau yn y Ganolfan ar gael bob amser oherwydd problemau cynnal a chadw, cyfleusterau neu offer yn torri neu'n ddiffygiol.
Ni allwn dderbyn atebolrwydd am ladrad neu golled neu ddifrod i'ch eiddo yn y Ganolfan neu yn y maes parcio oni bai bod y lladrad neu golled neu ddifrod wedi'i achosi gan ein hesgeulustod ni.
Ni fydd unrhyw beth yn y telerau a’r amodau hyn yn cyfyngu nac yn eithrio ein hatebolrwydd am y canlynol:
marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ei esgeulustod, neu esgeulustod ei gyflogeion, asiantau neu is-gontractwyr (fel sy'n berthnasol);
twyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus; neu
unrhyw fater y byddai'n anghyfreithlon i ni eithrio neu gyfyngu ar atebolrwydd mewn perthynas ag ef.
Yn amodol ar amod 20.5 uchod:
Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol i’r aelod boed mewn contract, cytundeb (gan gynnwys esgeulustod), mynd yn groes i ddyletswydd statudol, neu fel arall, am unrhyw golled mewn enillion, neu golli elw, neu unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â defnydd yr aelod o'r Ganolfan a/neu ei chyfleusterau; a
cyfanswm atebolrwydd Chwaraeon Cymru i’r aelod mewn perthynas â phob colled arall sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â defnydd yr aelod o’r Ganolfan a / neu ei chyfleusterau, boed hynny mewn contract, cytundeb (gan gynnwys esgeulustod), ynd yn groes i ddyletswydd statudol, neu fel arall, ni fydd o dan unrhyw amgylchiadau yn wy na’r cyfanswm a dalwyd gennych am eich aelodaeth a / neu’r gwasanaethau a arweiniodd at y rhwymedigaeth yn y deuddeg (12) mis cyn y digwyddiad cyntaf y cododd y rhwymedigaeth ohono.
21. Sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Dim ond yn unol â’r deddfau diogelu data perthnasol a Pholisi Preifatrwydd Chwaraeon Cymru sydd i’w gweld ar ein gwefan ni https://chwaraeon.cymru/preifatrwydd y byddwn yn prosesu’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni. Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn diogelu eich gwybodaeth, i bwy y mae gennym hawl i’w rhoi a sut i arfer unrhyw un o’ch hawliau mewn perthynas â hi.
22. Telerau pwysig eraill
Efallai y byddwn yn trosglwyddo ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan y telerau a’r amodau hyn i sefydliad arall. Byddwn bob amser yn dweud wrthych yn ysgrifenedig os bydd hyn yn digwydd a byddwn yn sicrhau na fydd y trosglwyddo’n effeithio ar eich hawliau o dan y contract.
Dim ond gyda’n caniatâd ysgrifenedig ni y cewch drosglwyddo eich hawliau neu eich rhwymedigaethau o dan y telerau a’r amodau hyn i berson arall.
Mae'r contract hwn rhyngoch chi a ni. Ni fydd gan unrhyw berson arall unrhyw hawliau i orfodi unrhyw un o'i delerau.
Mae pob un o baragraffau'r telerau a’r amodau hyn yn gweithredu ar wahân. Os bydd unrhyw lys neu awdurdod perthnasol yn penderfynu bod unrhyw un ohonynt yn anghyfreithlon, bydd y paragraffau sy'n weddill yn parhau mewn grym ac yn cael effaith lawn.
Os na fyddwn yn mynnu ar unwaith eich bod yn gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i chi ei wneud o dan y telerau hyn, neu os byddwn yn oedi cyn cymryd camau yn eich erbyn mewn perthynas â thorri’r contract hwn, ni fydd hynny’n golygu nad oes raid i chi wneud y pethau hynny neu ein hatal rhag cymryd camau yn eich erbyn yn ddiweddarach. Er enghraifft, os byddwch yn methu taliad ac nad ydym yn mynd ar eich ôl, ond yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau, gallwn barhau i fynnu eich bod yn gwneud y taliad yn ddiweddarach.
Mae’r telerau a’r amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a gallwch ddwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â’ch aelodaeth yn llysoedd Cymru a Lloegr. Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ddwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â'ch aelodaeth naill ai yn llysoedd yr Alban neu lysoedd Cymru a Lloegr. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â'ch aelodaeth naill ai yn llysoedd Gogledd Iwerddon neu lysoedd Cymru a Lloegr. Rydych yn cytuno y bydd pob anghydfod sy’n ymwneud â’ch aelodaeth a / neu ein cytundeb â chi na allwn ei ddatrys rhyngom yn ddarostyngedig i awdurdodaeth anghyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr neu os ydych yn byw yn yr Alban, llysoedd yr Alban, neu os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, llysoedd ogledd Iwerddon.