Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ei gyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac mae'n annog ei staff i gymryd seibiannau rheolaidd o'r gwaith drwy gydol y flwyddyn i gefnogi hyn a'u lles cyffredinol.
Yn ogystal â'r wybodaeth a ddarperir yn eich Contract Cyflogaeth, mae'r canlynol yn berthnasol.
Rhaid i'ch rheolwr llinell gymeradwyo'r holl wyliau blynyddol ymlaen llaw. Dim ond ar ôl i'ch rheolwr llinell awdurdodi eich cais am wyliau y gallwch ymrwymo i'ch cynlluniau gwyliau, gan gynnwys archebu gwyliau. Os yw eich cais wedi'i dderbyn, rhaid i chi sicrhau eich bod yn diweddaru unrhyw galendrau a ddefnyddir i gyfleu eich argaeledd. I'r rhan fwyaf o bobl, calendr Microsoft Outlook fydd hwn.
Os gwrthodir eich cais am wyliau, bydd eich rheolwr llinell yn eich hysbysu cyn gynted â phosibl. Lle mae gofynion gwyliau blynyddol sy'n gwrthdaro, rhoddir blaenoriaeth i'r aelod o staff y derbyniwyd ei gais yn gyntaf, yn amodol ar anghenion y busnes.
Gellir cario hyd at wyth diwrnod o wyliau blynyddol ymlaen i'r flwyddyn wyliau nesaf.
Efallai y byddwch yn gallu cario gwyliau ychwanegol drosodd i'r flwyddyn ganlynol (gyda chymeradwyaeth gan yr aelod perthnasol o'r Tîm Arweinyddiaeth ac Adnoddau Dynol) os nad ydych chi wedi gallu cymryd eich gwyliau blynyddol oherwydd salwch, absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb rhiant a rennir neu os ydych chi eisiau cario gwyliau ychwanegol i gymryd gwyliau estynedig y flwyddyn ganlynol.
Ni ellir cymryd gwyliau blynyddol yn lle absenoldeb salwch.
Mae absenoldeb a gymerir mewn hanner diwrnodau’n cynnwys mynychu'r gwaith am hanner yr oriau net (ac eithrio seibiannau prydau bwyd) a fyddai’n cael eu gweithio fel rheol.
Fel rheol, ni ddylai cyfnod sengl o absenoldeb fod yn fwy na thair wythnos, ond bydd ceisiadau arbennig am gyfnodau sengl hirach yn cael eu hystyried gan eich rheolwr llinell.
Mae'r lwfans gwyliau blynyddol yn parhau i gronni yn y sefyllfaoedd canlynol:
Bob blwyddyn byddwch yn gallu prynu hyd at 5 diwrnod (pro-rata ar gyfer rhan amser) o wyliau blynyddol. Bydd angen gwneud y pryniant hwn yn ystod y cyfnod ymgeisio am wyliau blynyddol, a fydd yn cael ei gyfleu i'r holl staff bob blwyddyn.
Bydd y taliad am wyliau ychwanegol yn cael ei gymryd o'ch cyflog dros y misoedd sy'n weddill o'r flwyddyn wyliau flynyddol.
Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y dylid gwneud taliad am wyliau heb ei cymryd:
Cyfrifir y gyfradd gyflog ddyddiol am wyliau sydd heb ei gymryd drwy rannu'r cyflog blynyddol safonol, gan gynnwys lwfansau, gyda nifer y dyddiau gwaith yn y flwyddyn berthnasol.
Mae gennych chi hawl i wyth o wyliau cyhoeddus y flwyddyn (pro rata ar gyfer rhan amser) yn ychwanegol at eich lwfansau gwyliau blynyddol arferol.
Gwneir addasiadau i hawl gyffredinol am wyliau ar gyfer staff sy'n gweithio trefniant gweithio hyblyg neu y mae’n ofynnol iddynt weithio shifftiau sy'n syrthio ar ŵyl banc.
Mae'r polisi hwn yn rhoi canllawiau ar opsiynau gweithio hyblyg ac yn nodi'r broses ffurfiol ar gyfer gwneud cais am weithio hyblyg.
Mae gan bawb yr hawl i ofyn am weithio’n hyblyg waeth beth fo'u hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Efallai yr hoffech newid eich patrymau gwaith i alluogi cydbwysedd effeithiol rhwng bywyd a gwaith. Gall Chwaraeon Cymru helpu i gyflawni'r cydbwysedd hwn drwy ystyried cais am weithio hyblyg.
I fod yn gymwys, ni ddylech fod wedi gwneud mwy nag un cais arall am weithio hyblyg yn ystod y 12 mis diwethaf oni bai fod hyn yn rhan o addasiad rhesymol oherwydd anabledd.
Gallwch ofyn am:
Noder y bydd unrhyw ostyngiad mewn oriau gwaith yn arwain at ostyngiad cymesur mewn cyflog a buddion cytundebol eraill, fel cyfraniadau pensiwn a gwyliau blynyddol.
Ystyrir pob cais fesul achos. Ni fydd cytuno i un cais yn gosod cynsail nac yn creu'r hawl i gyflogai arall gael newid tebyg i'w batrwm gwaith.
Mae gweithio hyblyg yn cwmpasu amrywiaeth eang o batrymau gwaith. Mae’r enghreifftiau'n cynnwys; gweithio yn rhan amser, amser hyblyg, wythnos neu bythefnos gwaith cywasgedig, rhannu swydd, gweithio yn ystod y tymor ysgol, gweithio o gartref, oriau gwasgaredig, gostyngiad dros dro neu raddol mewn oriau (ymddeoliad neu afiechyd) a gweithio shifftiau.
Gallwch ofyn am newid eich oriau gwaith dros dro neu amrywio eich patrwm gwaith am gyfnod o dri mis neu lai. Yn yr achos hwn, byddwch yn cael gwarant y byddwch yn dychwelyd i'ch oriau neu batrwm gwreiddiol ar ôl y cyfnod a bennir yn yr amrywiad contract. Os ydych am barhau â'r newid i’ch oriau gwaith neu'r patrwm gwaith amrywiol, neu ofyn am newid pellach i'ch oriau gwaith neu batrwm gwaith, bydd angen i chi gyflwyno cais gweithio hyblyg pellach.
Os byddwch yn gofyn am newid oriau gwaith neu amrywio patrymau gwaith am gyfnod o fwy na thri mis, ni fyddwch yn cael gwarant y byddwch yn dychwelyd i'ch oriau neu batrwm gwaith gwreiddiol. Os hoffech ddychwelyd i'ch oriau neu batrwm gwreiddiol, neu amrywio'ch oriau neu batrwm gwaith eto, bydd angen i chi gyflwyno cais gweithio hyblyg pellach. Sylwch y byddwch yn cael cyflwyno uchafswm o 2 gais gweithio hyblyg mewn cyfnod o 12 mis.
Mae gweithio yn ystod y tymor yn drefniant lle mae cyflogai’n parhau ar gontract llawn amser neu ran amser ond mae ganddo'r hawl i gymryd absenoldeb heb dâl yn ystod y cyfnodau pan mae ysgolion ar gau.
Addasiadau Cyflog
Bydd cyflog yn seiliedig ar nifer yr oriau a weithir yn ystod y tymor a chaiff ei dalu mewn 12 rhandaliad misol cyfartal neu nifer pro rata o randaliadau os yw'r trefniant gweithio yn ystod y tymor yn dechrau yng nghanol y flwyddyn. Dylech nodi y gall cyflog sydd wedi'i gyfartaleddu ac a delir drwy gydol y flwyddyn mewn rhandaliadau cyfartal effeithio ar gyfrifo buddion eraill, a'r hawl iddynt, h.y. gwyliau blynyddol.
Cyflog llawn amser blynyddol/52.2 x nifer o wythnosau a weithiwyd = cyflog yn ystod y tymor
Gwyliau blynyddol
Byddwch yn cytuno â Chwaraeon Cymru faint o absenoldeb di-dâl o'r gwaith sydd ei angen a phryd y dylid ei gymryd, yn seiliedig ar ffactorau fel hawl y gweithiwr i wyliau blynyddol â thâl, pa mor hir fydd gwyliau'r ysgol, pryd fydd gwyliau'r ysgol, ac a ellir gwneud trefniadau gofal amgen ar gyfer rhai cyfnodau o wyliau'r ysgol ai peidio.
Gwyliau blynyddol ar gyfer y contract llawn amser/52.2 x nifer o wythnosau a weithiwyd = hawl
Oriau gwaith cywasgedig yw trefniant lle mae wythnos waith safonol o 37 awr yn cael ei chywasgu i lai na 5 diwrnod gwaith dros wythnos neu lai na 10 diwrnod gwaith dros bythefnos.
Addasiad Gwyliau a Chyflog
Cyn belled nad ydych chi'n lleihau eich oriau gwaith cyffredinol, ni fydd unrhyw newid i'ch gwyliau blynyddol na'ch cyflog.
Gan y bydd nifer yr oriau y byddwch chi'n eu gweithio bob dydd yn amrywio o'r 7.4 awr amser llawn safonol, bydd eich gwyliau blynyddol yn cael eu harddangos mewn oriau yn hytrach nag mewn dyddiau. Mae gwyliau blynyddol ar gyfer contract safonol 37 awr yn 33 diwrnod y flwyddyn, sy'n cyfateb i 244.2 awr.
Gan ddibynnu ar eich diwrnod pan nad ydych yn gweithio, bydd addasiad yn cael ei wneud i'ch hawl i wyliau banc. Fel rheol, mae’r gwyliau banc ar gyfer contract safonol 37 awr yn 8 diwrnod y flwyddyn, sy'n cyfateb i 59.2 awr. Os oeddech chi'n gweithio 9.25 awr bob dydd, byddai hyn yn rhoi 6.4 diwrnod o wyliau banc i chi y flwyddyn (hawl i 59.2 awr wedi'i rannu â 9.25 awr o ddiwrnod gwaith). Pe bai gennych chi nifer fwy o wyliau banc ar eich diwrnodau gwaith nag yr ydych chi'n gymwys iddynt, bydd balans y gwyliau banc yn cael ei gymryd o'ch balans gwyliau blynyddol. I'r gwrthwyneb, pe bai gennych chi nifer fwy o wyliau banc ar eich diwrnod pan nad ydych chi'n gweithio nag yr ydych chi'n gymwys iddynt, yna bydd balans y gwyliau banc yn cael ei ychwanegu at eich balans gwyliau blynyddol.
Bydd yr holl hawliau gwyliau blynyddol a gwyliau banc yn cael eu cyfrifo gan y tîm Adnoddau Dynol a'u gwirio gan y Gyflogres.
Bydd gennych yr un mynediad at wybodaeth a chyfleoedd â chyflogeion sy'n gweithio ar batrwm gwaith safonol 37 awr, cyflogeion contract drwy gydol y flwyddyn ac, felly, disgwylir i chi fynychu'r gweithle ar gyfer hyfforddiant, cyflwyno gwaith, cyfarfodydd tîm yn ôl yr angen. Gwneir pob ymdrech i drefnu dyddiadau sy'n gyfleus i'r ddwy ochr yn ystod eich oriau gwaith. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl, ac os felly rhoddir rhybudd digonol o'r dyddiadau hynny i'ch galluogi i fynychu. Bydd unrhyw newidiadau ad hoc o'r fath i'ch patrwm gwaith sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi weithio pan nad ydyw yn ddiwrnod gwaith yn cael eu rheoli gennych chi a'ch rheolwr llinell. Mewn achosion o'r fath, byddwch yn cytuno'n anffurfiol ar ddyddiad i gymryd yr amser ychwanegol a weithiwyd i ffwrdd.
Rhaid i'ch cais fod yn ysgrifenedig i'ch rheolwr llinell, a all ofyn am gyngor gan y tîm Adnoddau Dynol. Rhaid i’ch cais;
Ystyried y cais
Canlyniad
Bydd Chwaraeon Cymru yn ymdrechu i fodloni eich cais ond bydd angen cydbwyso'r newid gofynnol yn erbyn anghenion busnes. Bydd eich rheolwr llinell yn eich hysbysu o ganlyniad eich cais o fewn 2 fis i ddyddiad eich cais. Gall eich cais naill ai gael:
Os yw eich cais wedi cael ei wrthod, bydd Chwaraeon Cymru yn nodi rhesymau busnes clir ynghylch pam nad oes modd derbyn y cais a pham mae'r rhesymau hynny'n berthnasol i chi.
Gall Chwaraeon Cymru fabwysiadu'r seiliau canlynol wrth wrthod cais:
Os bydd Chwaraeon Cymru yn cytuno i'ch cais, byddwch yn cael manylion ysgrifenedig am eich patrwm gwaith newydd a'r dyddiad y bydd yn dod i rym. Bydd y manylion ysgrifenedig yn newid eich contract. Os yw eich cais wedi'i dderbyn, rhaid i chi sicrhau eich bod yn diweddaru unrhyw galendrau a ddefnyddir i gyfleu eich argaeledd. I'r rhan fwyaf o bobl, calendr Microsoft Outlook fydd hwn.
Apeliadau
Os na all Chwaraeon Cymru ddarparu ar gyfer eich cais am newid mewn trefniadau gwaith, nid oes gennych hawl gyfreithiol i apelio. Fodd bynnag, bydd Chwaraeon Cymru yn caniatáu apêl i chi godi unrhyw bryderon gweithdrefnol neu rannu unrhyw wybodaeth newydd, er mwyn i Chwaraeon Cymru adolygu a newid y penderfyniad os oes angen. Dylai eich apêl gael ei nodi'n ysgrifenedig a'i chyfeirio at y person a nodir yn y llythyr sy'n eich hysbysu o'r penderfyniad. Dylech nodi'r canlyniad rydych chi'n ei geisio o'r apêl. Bydd angen i chi apelio o fewn 5 diwrnod i dderbyn hysbysiad o'r penderfyniad.
Wedyn trefnir cyfarfod apêl i'w gynnal o fewn 2 fis i ddyddiad y cais gwreiddiol am weithio hyblyg. Bydd rheolwr sydd o leiaf un radd yn uwch na'r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol yn gwrando ar yr apêl. Gallwch gael cydweithiwr neu gynrychiolydd Undeb Llafur gyda chi yn y cyfarfod apêl.
Bydd Chwaraeon Cymru yn eich hysbysu o benderfyniad ei apêl yn ysgrifenedig o fewn 2 fis i'r cais gwreiddiol am weithio hyblyg. Os caiff yr apêl ei chadarnhau, bydd Chwaraeon Cymru yn ysgrifennu atoch gan roi manylion y patrwm gweithio newydd a'r dyddiad y bydd yn dod i rym. Os caiff yr apêl ei gwrthod, byddwch yn cael gwybod beth yw’r sail ar gyfer y penderfyniad hwnnw (sy'n briodol i sail eich apêl) ac esboniad pam mae'r sail hon yn berthnasol.
Gellir amrywio'r terfynau amser a grybwyllir uchod naill ai drwy gytundeb rhyngoch chi a Chwaraeon Cymru (rhaid cadarnhau'r cytundeb hwnnw yn ysgrifenedig gan nodi pa gyfnod y mae'r estyniad yn ymwneud ag ef a'r dyddiad y bydd yr estyniad yn dod i ben) neu pan fydd y Rheolwr, Pennaeth neu Gyfarwyddwr perthnasol a fydd yn delio â'ch cais, yn absennol oherwydd gwyliau blynyddol neu absenoldeb salwch.
Amcan amser hyblyg yw rhoi rhywfaint o ryddid i'n cyflogeion i drefnu eu diwrnod gwaith yn gyson â Chwaraeon Cymru yn gweithredu mor effeithlon â phosibl. Oherwydd natur gofynion gwaith o fewn Chwaraeon Cymru, efallai y bydd amgylchiadau a fyddai'n atal yr hyblygrwydd llawn a ragwelir gan y Cytundeb.
Mae’r cysyniad o amser hyblyg yn gymharol syml. Mae'n caniatáu i chi amrywio eich diwrnod gwaith a phryd rydych chi'n gweithio cyfanswm eich oriau cytundebol. Mae'n caniatáu i chi gymryd amser o’r gwaith pan fyddwch chi wedi cronni oriau sy’n fwy na’ch oriau wythnosol arferol.
Gan fod gan Chwaraeon Cymru swyddi amrywiol, mae gan bob adran anghenion amrywiol. Efallai y bydd angen presenoldeb swyddfa ar rai o 9am i 4pm bob diwrnod gwaith ac efallai na fydd hynny’n berthnasol i swyddi eraill. Mae'n ofynnol i bob aelod o staff lynu wrth drefniadau'r adran a all olygu bod angen i chi fod yn bresennol yn ystod rhan graidd benodol o'r diwrnod, ond gallwch amrywio eich oriau y tu allan i'r cyfnod craidd ar yr amod bod:-
Mae oriau safonol Chwaraeon Cymru yn 37 awr yr wythnos (ac eithrio egwyl cinio) ac felly mae'r diwrnod gwaith safonol yn 37 / 5 = 7.4 awr (7 awr 24 munud). Mae hanner diwrnod safonol yn 3.7 awr (3 awr 42 munud). Os yw oriau eich cytundeb yn fwy neu'n llai na hyn, bydd eich diwrnod gwaith safonol a'ch hanner diwrnod safonol yn wahanol. Dylech ddefnyddio'r cyfrifiad uchod i sefydlu eich diwrnod gwaith safonol.
Gall oriau a weithir sy'n fwy na'ch oriau cytundebol, ac o fewn meini prawf y polisi hwn, gael eu cronni fel Amser Hyblyg. Rydych chi'n gyfrifol am sicrhau eich bod chi'n gweithio oriau eich cytundeb ac yn cadw at y Gyfarwyddeb Amser Gweithio wrth sicrhau nad oes mwy na 48 awr yr wythnos yn cael eu gweithio.
Fel y soniwyd uchod, mae Chwaraeon Cymru yn sefydliad amrywiol. Mae gan bob adran anghenion amrywiol. Efallai y bydd angen i'ch adran gael staff cyflenwi am gyfnod o amser yn ystod y dydd, er enghraifft 9am tan 4pm. Yn yr achos hwnnw, bydd angen i chi drefnu o fewn eich adran sut bydd y cyfnod hwn o amser yn cael ei gyflenwi. Mae angen i chi sicrhau bod yr oriau rydych chi'n eu gweithio yn diwallu anghenion y gwasanaeth, gan gynnwys trefniadau cyflenwi.
Os ydych chi eisiau cymryd hanner diwrnod neu fwy fel absenoldeb hyblyg, rhaid i chi gael cytundeb eich rheolwr ymlaen llaw, gan roi rhybudd priodol.
Yn amodol ar gytundeb y rheolwyr, gellir defnyddio hyd at ddau ddiwrnod o absenoldeb hyblyg yn y ffordd hon mewn cyfnod cyfrifyddu. Dylid nodi, fodd bynnag, na ellir cymryd absenoldeb hyblyg yn syth ar ôl cyfnod o absenoldeb salwch, oni bai fod tystysgrif feddygol o ffitrwydd i ddychwelyd i'r gwaith yn cael ei darparu pan gymerir absenoldeb hyblyg. Pan gymerir amser hyblyg, ni ychwanegir unrhyw amser at y daflen gofnodi amser hyblyg.
Gall cyflogeion amrywio eu hamseroedd cyrraedd a gadael. O fewn eich adran efallai y bydd cyfnod penodol o amser lle gallwch gronni oriau, er enghraifft, rhwng 7am a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gelwir hyn yn ystod. Mewn adrannau eraill efallai na fydd ystod. Os byddwch yn dewis gwneud cais am amser hyblyg, bydd eich rheolwr yn rhoi gwybod i chi a oes ystod ar waith ar gyfer eich adran.
Bydd cyfnod cyfrifyddu o 4 wythnos, gyda'r oriau safonol yn ystod y cyfnod yn 148 (37 x 4). Ar ddechrau pob cyfnod cyfrifyddu, mae'r weithdrefn yn caniatáu cario unrhyw ormodedd neu ddiffyg o'r cyfnod blaenorol ymlaen fel addasiad i'r oriau a gofnodwyd ar gyfer y cyfnod newydd.
Os yw'r oriau a gofnodwyd yn llai na'r oriau safonol ar gyfer cyfnod cyfrifyddu, gellir cario'r diffyg hyd at 15 awr (pro-rata ar gyfer cyflogeion rhan amser) drosodd a'i dynnu o'r oriau a gofnodwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu nesaf.
Gellir cario unrhyw oriau a gofnodwyd dros oriau safonol hyd at 30 awr (pro-rata ar gyfer cyflogeion rhan amser) drosodd a'u hychwanegu at yr oriau a gofnodwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu nesaf.
Gellir cario unrhyw ormodedd neu ddiffyg sy'n fwy na'r swm hwn drosodd ar gymeradwyaeth eich rheolwr llinell, fodd bynnag, efallai y byddwch yn colli'r gormodedd os na chaiff hyn ei gymeradwyo. Os cewch eich cymeradwyo i gario unrhyw ormodedd neu ddiffyg drosodd, rhaid i chi sicrhau bod gennych gynllun i leihau eich gormodedd neu ddiffyg o fewn y terfynau a nodir uchod erbyn y cyfnod cyfrifyddu canlynol.
Bydd credydau'n cael eu cofnodi, os cânt eu hawdurdodi, am absenoldebau fel y canlynol:
Bydd credydau am ddiwrnod cyfan yn cael eu cofnodi fel eich diwrnod gwaith safonol a fydd, i'r rhai sydd ar gontract 37 awr, yn 7.4 awr (7 awr 24 munud) ac am hanner diwrnod yn 3.7 awr (3 awr 42 munud).
Mae goramser, fel mae’n cael ei awdurdodi gan y rheolwyr, ar wahân i amser hyblyg a bydd yn parhau i gael ei gofnodi ar wahân.
Rhoddir iawndal am amser teithio yn unol â darpariaethau perthnasol Polisi Teithio a Chynhaliaeth Chwaraeon Cymru. Bydd y rheolau canlynol yn berthnasol i gyflogeion sydd ar oriau hyblyg.:-
Sylwch nad yw’r uchod yn cynnwys eich teithio dyddiol i’r gwaith ac yn ôl.
Mae pob aelod o staff, ac eithrio’r rhai sy’n gweithio patrwm shifftiau neu batrwm gweithio sefydlog, yn gymwys i wneud cais.
Gallwch ddewis gweithio oriau hyblyg drwy lenwi ffurflen amrywio contract. Wedyn bydd angen cymeradwyaeth eich rheolwr llinell a fydd yn cadarnhau a oes angen cynnal gwasanaeth swyddfa dros gyfnod o amser (e.e. 9am i 4pm) neu a oes ystod gydag amser i chi gronni oriau (e.e. 7am a 7pm). Wedyn bydd yr adran Adnoddau Dynol yn trefnu cadarnhad ffurfiol. Bydd gofyn i bob cyflogai sy'n trosglwyddo i drefniant oriau hyblyg gadw cofnod unigol o'i bresenoldeb ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod hwn yn fanwl gywir.
Os byddwch chi’n ymuno â’r cynllun amser hyblyg, gallwch ddewis peidio â bod yn rhan o’r cynllun. Rhaid i chi wneud hyn drwy ofyn am hyn yn ysgrifenedig i’ch rheolwr llinell.
Rhaid cofnodi eich oriau gwaith gwirioneddol gan ddefnyddio'r daflen amser hyblyg sy’n cael ei darparu gan y tîm Adnoddau Dynol. Rydych chi'n gyfrifol am sicrhau bod hwn yn gofnod manwl gywir a hysbysu eich rheolwr llinell o gyfanswm eich oriau ar ddiwedd pob cyfnod, i'w gymeradwyo.
Ystyrir bod camddefnyddio amser hyblyg yn torri rheolau'r cynllun a dylai rheolwyr llinell fanteisio ar bob cyfle i atal cam-drin posibl. Dylid rhoi gwybod am gam-drin parhaus neu ddifrifol i'r adran Adnoddau Dynol a gall arwain at gael eich tynnu o'r cynllun a / neu gamau disgyblu.
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i helpu cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, ac yn cydnabod y gallai cyflogeion fod angen neu eisiau rhannu eu hamser rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio o bell (gartref neu mewn lleoliad arall). Mae gweithio o bell yn fuddiol i gyflogeion a chyflogwyr oherwydd mae’n gallu helpu i sicrhau cydbwysedd effeithiol rhwng bywyd a gwaith, cynyddu cynhyrchiant, a lleihau teithio diangen a’r difrod mae hynny’n ei wneud i’r amgylchedd.
Fodd bynnag, efallai na fydd modd cynnig gweithio hybrid i bob cyflogai oherwydd y bydd gofynion rhai swyddi’n golygu bod trefniadau o’r fath yn anaddas.
Mae gweithio hybrid yn drefniant gweithio hyblyg, anffurfiol sy’n eich galluogi chi i weithio yn y gweithle sydd yn eich contract, neu mewn un neu fwy o leoliadau gweithio o bell y cytunir arnynt. Bydd manylion eich gweithle yn eich contract cyflogaeth. Bydd hyn yng Nghaerdydd, ar Lannau Dyfrdwy neu yn Llanelli.
Bydd Chwaraeon Cymru yn gwneud ei orau i ganiatáu gweithio hybrid. Bydd gofyn i chi ddod i’r gweithle yn ôl anghenion y sefydliad. Bydd strwythur gweithio hybrid yn amrywio o un person i berson arall, yn dibynnu ar eu swydd a’i gofynion, a bydd raid i’ch rheolwr llinell gytuno ar hyn.
Os ydych chi’n anghytuno â’r hyblygrwydd rydych chi wedi’i gael o ran gweithio hybrid ac nad ydych chi’n gallu dod i gytundeb â’ch rheolwr llinell, dylech godi’r mater gyda rheolwr eich rheolwr llinell.
Wrth weithio mewn lleoliad gweithio o bell, bydd disgwyl i chi gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau Chwaraeon Cymru ar gyfer cyflogeion yn y swyddfa, yn benodol diogelu data, cyfrinachedd, ac Iechyd a Diogelwch.
Gwneud yn siŵr bod rheolwyr yn eu meysydd cyfrifoldeb yn rheoli’r cyflogeion sy’n gweithio o bell mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r polisi hwn a gwerthoedd Chwaraeon Cymru
Datrys unrhyw broblemau neu bryderon sy’n cael eu codi ynghylch gweithredu’r polisi hwn yn eu meysydd gwaith
Ar y cyd â’r adran Datrysiadau Technoleg, ystyried unrhyw geisiadau i weithio o bell y tu allan i’r DU fesul achos yn gyson â’r egwyddorion sydd wedi’u hamlinellu yn y polisi hwn.
Darparu asesiadau risg ar gyfer Cyfarpar Sgrin Arddangos i’w defnyddio gan gyflogeion a’u hadolygu gan reolwyr.
Rhoi cyngor i Reolwyr a’r Tîm Arwain ar weithredu a defnyddio’r polisi hwn, gan ymdrechu i sicrhau cysondeb, cyn belled ag y bo modd, a chaniatáu gwahaniaethau o ran defnydd yn ôl anghenion gweithredol.
Adolygu a diweddaru’r polisi i gyd-fynd â newidiadau deddfwriaethol a gofynion busnes, gan ymgynghori â’n hundeb lafur gydnabyddedig .
Pennu patrymau gweithio hybrid ag aelodau o’u tîm yn gyson â’r egwyddorion sydd wedi’u hamlinellu yn y polisi hwn.
Ar y cyd â’r adran Datrysiadau Technoleg, sicrhau bod gan aelodau o’r tîm gyfarpar priodol i wneud eu gwaith mewn lleoliad gweithio o bell.
Cefnogi cyflogeion i nodi a datrys unrhyw bwysau newydd sy’n codi o weithio mewn lleoliad gweithio o bell.
Adolygu’r dull gweithredu i sicrhau bod y trefniadau’n addas i’r diben.
Rhoi sylw i unrhyw bryderon ynglŷn ag allbwn gweithredol neu argaeledd sy’n deillio o drefniadau gweithio hybrid yn brydlon gyda’r aelod o’r staff, gyda’r nod o ddod o hyd i ateb sy’n fuddiol i bawb.
Sicrhau bod gennych amgylchedd gwaith addas yn eich lleoliad gweithio o bell sy’n eich galluogi i gyflawni eich swydd yn effeithiol.
Parhau i weithio’r oriau gofynnol yn eich contract cyflogaeth.
Cadw at y polisïau, y canllawiau, yr hyfforddiant a’r asesiadau perthnasol.
Sicrhau eich bod yn diweddaru unrhyw galendr sy’n cael ei ddefnyddio i ddangos a ydych chi ar gael. Calendr Microsoft Outlook yw hwn i’r rhan fwyaf o bobl.
Nodi a cheisio lleddfu unrhyw bwysau newydd sy’n cael ei greu o ganlyniad i weithio mewn lleoliad gweithio o bell.
Cynnal cysylltiad band eang digonol i sicrhau eich bod yn gallu gwneud eich gwaith yn effeithiol, a chadw mewn cysylltiad â’ch rheolwr a’ch cydweithwyr.
Bod yn hyblyg er mwyn bodloni anghenion y sefydliad.
Rhoi gwybod i’ch rheolwr llinell os ydych chi’n dymuno gweithio o bell y tu allan i’r DU.
Dylai’r rheolwyr weithio gyda’r aelodau o’u tîm i bennu pa lefelau hyblygrwydd sydd eu hangen fesul achos, a gweithio i gyflawni hyn cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol bosib, heb achosi effaith niweidiol ar anghenion y busnes na lles staff.
Dylai’r rheolwyr ystyried y canlynol:
Fel rheol, byddwch yn gweithio yn y gweithle sydd yn eich contract neu mewn un neu fwy o leoliadau gweithio y cytunir arnynt. Mae modd gweithio mewn lleoliadau eraill hefyd, fel cyrff cyhoeddus eraill sydd â mannau sy’n cael eu rhannu, llyfrgelloedd, caffis a hybiau gweithio. Os ydych chi’n dymuno gweithio mewn lleoliad newydd neu’n ansicr ynghylch a yw’r lleoliad yn addas ai peidio, trafodwch hyn gyda’ch rheolwr llinell er mwyn gallu ystyried polisïau sefydliadol eraill mewn cysylltiad â gwybodaeth a seibrddiogelwch.
Nid yw Chwaraeon Cymru yn cefnogi ceisiadau i weithio dramor am resymau personol. Y rheswm am hyn yw ein cyfrifoldebau penodol fel cyflogwr, gan gynnwys treth, yr hawl i weithio, a sicrhau bod gofynion cytundebol llawn y swydd yn cael eu bodloni heb eithriad.
Os oes unrhyw gyfrifoldebau domestig a gofalu a allai effeithio ar y diwrnod gwaith, rhaid cadw’r rhain ar wahân o dan unrhyw drefniadau gweithio o bell. Mae gweithio o bell yn gallu eich cefnogi i reoli eich cyfrifoldebau gofalu ond ni ddylai gymryd eu lle. Er enghraifft, os oes gennych chi blentyn oedran meithrinfa, efallai y bydd gweithio o bell yn golygu eich bod yn gallu ei gasglu o’r feithrinfa yn gyflymach nag y byddech o’r gweithle, ond ni fyddai’n briodol gofalu am eich plentyn yn ystod y dydd yn lle gwneud trefniadau gofalu swyddogol.
Dylech drafod unrhyw gyfrifoldebau gofalu a’r effaith ar eich diwrnod gwaith gyda’ch rheolwr i sicrhau dull gweithredu cyson, ond bydd gwahanol drefniadau yn eu lle i wahanol gyflogeion a’u hanghenion. Does dim rhaid rhoi gwybod i’r tîm Adnoddau Dynol am drefniadau’r cyflogeion sy’n gweithio o bell, ond gallai’r tîm gynnig cefnogaeth neu arweiniad.
Mae disgwyl i chi gydymffurfio’n llawn â thelerau cytundeb eich rheolwr mewn perthynas â chyfrifoldebau gofalu a rhaid i chi roi gwybod i’ch rheolwr llinell am unrhyw newidiadau. Dylech sicrhau bod eich calendr yn weladwy a’i fod yn cael ei ddiweddaru er mwyn i gydweithwyr wybod pan nad ydych ar gael.
Bydd Chwaraeon Cymru yn darparu’r cyfarpar sydd arnoch ei angen i weithio yn eich lleoliad gweithio o bell. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cyfarpar yn cael ei gynnal a’i gadw’n briodol yn barhaus. Chwaraeon Cymru fydd yn berchen ar y cyfarpar o hyd ac mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
Sicrhau mai dim ond chi sy’n ei ddefnyddio, a hynny at y dibenion y mae wedi cael ei ddarparu;
Cymryd gofal rhesymol ohono a dim ond ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’n polisïau a’n gweithdrefnau TGCh;
Cadw’r cyfarpar yn ddiogel wrth weithio neu deithio o un lle i’r llall;
Sicrhau bod Chwaraeon Cymru, neu rywun yn gweithredu ar ein rhan, yn gallu ei gasglu pan fydd yn gofyn am gael gwneud hynny.
Mae cyfarpar cyfrifiadurol, fel gliniaduron, tocynnau diogelwch mynediad o bell ac allweddi storio USB ar gael gan yr adran Datrysiadau Technoleg, sy’n caniatáu mynediad i rwydwaith Chwaraeon Cymru. Dylai cyflogeion wneud cais am yr eitemau hyn drwy’r adran Datrysiadau Technoleg.
Mae eitemau fel stand gliniadur, cadair, desg ac eitemau swyddfa ar gael gan y Gofrestrfa.
Os byddwch yn gadael Chwaraeon Cymru, bydd raid i chi ddychwelyd yr holl gyfarpar i’r adran Datrysiadau Technoleg a’r Gofrestrfa. Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd arian yn cael ei dynnu o’ch cyflog terfynol i adennill y costau.
Nid yw Chwaraeon Cymru yn gyfrifol am gostau cysylltiedig cyflogeion sy’n gweithio mewn lleoliadau gweithio o bell, gan gynnwys costau gwresogi, goleuo, trydan a rhyngrwyd band eang.
Mae’n ofynnol i chi greu amgylchedd gwaith addas sy’n cyd-fynd â pholisi Iechyd a Diogelwch Chwaraeon Cymru, a sicrhau bod digon o le i chi wneud eich gwaith yn ddiogel ac mewn ffordd sy’n bodloni ein gofynion Cyfarpar Sgrin Arddangos.
Mae Chwaraeon Cymru yn gyfrifol am eich diogelwch yn y gwaith. Fodd bynnag, chi sy’n gyfrifol am gymryd gofal rhesymol i beidio â niweidio eich hun na phobl eraill wrth wneud eich gwaith. Efallai y bydd angen i Chwaraeon Cymru gymryd golwg ar eich lleoliad gweithio o bell at ddibenion Iechyd a Diogelwch.
Os ydych chi’n teithio ar fusnes swyddogol ac yn dechrau’r siwrnai o’ch lleoliad gweithio o bell, dim ond y lleiaf o gost wirioneddol y siwrnai y mae gennych hawl i’w hawlio, neu gost y siwrnai fel pe baech wedi dechrau o’r gweithle yn eich contract.
Dim ond y cyflogai ddylai allu cael mynediad i gyfarpar a dogfennau, a dylid eu diogelu bob amser mewn unrhyw leoliad lle rydych chi’n gweithio.
Rydym yn eich cynghori i beidio â datgelu cyfeiriad eich cartref na / neu eich rhif ffôn personol i unrhyw un ar wahân i gyflogeion. Rydym yn eich cynghori’n gryf hefyd i beidio â chyfarfod partneriaid neu gwsmeriaid gartref.
Rydych chi’n gyfrifol am ddiogelwch eiddo Chwaraeon Cymru pan fyddwch yn gweithio mewn lleoliad gweithio o bell. Mae Chwaraeon Cymru yn gyfrifol am fod â pholisi yswiriant dilys sy’n gwarchod unrhyw gyfarpar rydyn ni’n ei ddarparu yn erbyn tân, lladrad, colled a difrod drwy gydol eich cyflogaeth. Ni fyddwch yn cyflawni unrhyw weithred neu hepgoriad a fydd yn gwneud y polisi yswiriant yn annilys, nac yn achosi neu ganiatáu hynny, yn gyson â’n Polisi TGCh.
Mae’n annhebygol y bydd raid i chi wneud newidiadau i yswiriant cynnwys eich cartref neu eich morgais, ond rydym yn eich cynghori i gadarnhau hyn gyda’ch darparwyr.
Bydd rheolwyr llinell yn monitro ac yn adolygu cymhwysedd ac effeithiolrwydd trefniadau gweithio o bell. Os caiff problemau eu nodi, er enghraifft, pryderon ynglŷn â pherfformiad, efallai y bydd gofyn i chi fod yn y gweithle’n fwy rheolaidd i elwa o hyfforddiant, cefnogaeth neu arweiniad wyneb yn wyneb. Dylai’r Rheolwr Llinell ofyn i’r tîm Adnoddau Dynol am gyngor ac arweiniad os bydd unrhyw broblemau.
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu arferion gwaith a pholisïau Adnoddau Dynol sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chyfle cyfartal mewn cyflogaeth.
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod y bydd achlysuron pryd bydd angen i chi gymryd amser o’r gwaith am resymau nad ydynt o reidrwydd yn dod o dan ddarpariaethau gwyliau blynyddol neu absenoldeb salwch arferol. Mewn llawer o sefyllfaoedd gellir rheoli hyn yn hyblyg ac yn anffurfiol rhyngoch chi a'ch rheolwr llinell.
Mae'r polisi hwn yn nodi ystod o opsiynau absenoldeb arbennig, a all fod gyda thâl neu heb dâl, i'ch helpu chi i gadw cydbwysedd rhwng ymrwymiadau personol, neu o dan amgylchiadau a allai fod y tu hwnt i'ch rheolaeth. Mae'r polisi hwn wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg i'ch amgylchiadau, felly yn y rhan fwyaf o achosion nid oes hyd amser penodol a ystyrir yn addas, fodd bynnag efallai y bydd terfyn ar faint o amser sy'n cael ei dalu'n llawn. Mae rheolwyr llinell a’r adran Adnoddau Dynol yn gyfrifol am sicrhau bod y polisi'n cael ei weithredu’n deg ac yn gyfartal.
I wneud cais am absenoldeb arbennig, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am absenoldeb arbennig, sydd ar gael o'r fewnrwyd. Bydd eich rheolwr llinell yn ystyried y cais, gyda chyngor gan y tîm Adnoddau Dynol (lle bo hynny'n berthnasol). Wedyn dylid anfon y ffurflen at y tîm Adnoddau Dynol i'w chymeradwyo. Bydd pob cais am absenoldeb arbennig yn cael ei ystyried gan edrych ar amgylchiadau unigol a thegwch.
Cyfrifoldebau wrth ofyn am absenoldeb arbennig
Cyfrifoldebau cyflogeion
Cyfrifoldebau rheolwyr
Cyfrifoldebau Adnoddau Dynol
Mae argyfwng domestig yn cynnwys amser o’r gwaith ar gyfer sefyllfaoedd a fydd yn annisgwyl neu nad oedd modd eu rhagweld. Gall y dehongliad o 'domestig' fod yn hyblyg. Er enghraifft, gellir caniatáu'r math hwn o amser o’r gwaith os ydych wedi bod yn ddioddefwr trosedd, neu dân neu lifogydd yn eich cartref.
Byddwch yn cael amser o’r gwaith i roi sylw i'r argyfwng. Byddwch yn cael eich talu am hyd at 1 diwrnod gwaith y flwyddyn ar gyfer absenoldeb argyfwng domestig. Os yw eich absenoldeb gyda thâl wedi'i ddefnyddio, gellir caniatáu absenoldeb heb dâl. Os oes angen cyfnod hwy, dylech drafod hyn gyda'ch rheolwr, a fydd yn ystyried opsiynau eraill fel gwyliau blynyddol neu weithio hyblyg.
Mae gennych hawl statudol i gymryd cyfnod rhesymol o amser o’r gwaith i ddelio ag argyfwng annisgwyl sy'n cynnwys dibynnydd.
Dibynyddion yw gwŷr neu wragedd, partneriaid, plant, rhieni, ffrindiau neu aelodau o'r teulu sy'n dibynnu arnoch chi am ofal.
Gallai absenoldeb argyfwng ar gyfer dibynnydd fod yn un o’r rhain:
Mae gennych hawl statudol i gymryd amser o’r gwaith heb dâl i ddelio â'r argyfwng. Bydd Chwaraeon Cymru yn cynyddu hyn i roi hyd at 3 diwrnod o absenoldeb argyfwng dibynnydd gyda thâl i chi y flwyddyn (pro rata ar gyfer cyflogeion rhan amser).
Os yw eich absenoldeb gyda thâl wedi'i ddefnyddio, gellir caniatáu absenoldeb heb dâl. Os oes angen cyfnod hwy, dylech drafod hyn gyda'ch rheolwr, a fydd yn ystyried opsiynau eraill fel gwyliau blynyddol neu weithio hyblyg.
Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, mae gennych hawl statudol i gymryd amser o'r gwaith. Mae absenoldeb gofalwr yn berthnasol i rywun sydd angen darparu neu drefnu gofal i ddibynnydd sydd â’r canlynol:
Mae gennych hawl statudol i gymryd amser o’r gwaith heb dâl ar gyfer absenoldeb gofalwr. Bydd Chwaraeon Cymru yn cynyddu hyn i ddarparu hyd at 5 diwrnod gyda thâl llawn ar gyfer yr absenoldeb hwn y flwyddyn (pro rata ar gyfer cyflogeion rhan amser). Gellir cymryd hwn mewn symiau llai neu floc llawn o 5 diwrnod, yn ôl yr angen.
Os yw eich absenoldeb gyda thâl wedi'i ddefnyddio, gellir caniatáu absenoldeb heb dâl. Os oes angen cyfnod hwy, dylech drafod hyn gyda'ch rheolwr, a fydd yn ystyried opsiynau eraill fel gwyliau blynyddol neu weithio hyblyg.
Efallai y byddwch yn wynebu amgylchiadau personol anodd os bydd perthynas agos yn cael salwch difrifol neu’n marw. Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod y bydd cyflogeion angen cymryd amser o’r gwaith efallai o dan yr amgylchiadau hyn.
Gellir caniatáu amser o’r gwaith gyda thâl mewn achos o salwch difrifol neu farwolaeth dibynnydd, perthynas agos neu berson rydych mewn perthynas agos ag ef. Er enghraifft, gŵr, gwraig, plentyn, partner sifil, partner, rhiant, brawd neu chwaer, taid neu nain, rhiant-yng-nghyfraith neu rywun sydd wedi gweithredu fel rhiant.
Bydd faint o amser o’r gwaith gyda thâl a gewch ar gyfer salwch difrifol neu brofedigaeth deuluol yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch perthynas â'r sawl sydd wedi marw. Gwneir penderfyniadau fesul achos.
Mae gan rieni sy'n dioddef marwolaeth plentyn (o dan 18 oed neu'n farw-anedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd) hawl statudol i 2 wythnos o leiaf o absenoldeb arbennig gyda thâl. Nid yw'r amser hwn o’r gwaith wedi'i gyfyngu i 2 wythnos a bydd yn cael ei ymestyn fesul achos.
Efallai eich bod yn ofalwr maeth neu'n ofalwr teuluol cymeradwy ac angen hyblygrwydd i ddiwallu anghenion eich plentyn neu berson ifanc maeth. Gellir rhoi amser o’r gwaith gyda thâl os yw’r canlynol yn berthnasol:
Byddwch yn cael amser gyda thâl dros gyfnod o 12 mis, pro-rata os ydych yn gyflogai rhan amser, fel a ganlyn:
Mae ein polisïau gweithio hyblyg, absenoldeb rhiant, ac amser o’r gwaith mewn argyfwng ar gyfer dibynyddion i gyd yn berthnasol i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf uchod. Os oes angen amser ychwanegol o’r gwaith, dylech ystyried y polisïau hyn neu wyliau blynyddol.
Os cewch eich galw i wasanaethu ar reithgor, dod yn aelod o dribiwnlys, neu i ymddangos mewn llys a / neu dribiwnlys fel tyst, byddwch yn cael absenoldeb arbennig gyda thâl am yr holl gyfnod y bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswydd o'r fath.
Os byddwch yn derbyn Gwŷs i Wasanaethu ar Reithgor, dylech hysbysu eich rheolwr llinell cyn gynted â phosibl a darparu copi o'r llythyr cadarnhau gwasanaeth rheithgor i'ch rheolwr llinell cyn gynted ag y byddwch yn ei dderbyn.
Ar unrhyw ddyddiau pan nad oes angen i chi fod yn y llys, disgwylir i chi fynychu'r gwaith neu weithio o gartref lle bo modd.
Os ydych chi eisiau ymgymryd â chymhwyster neu ddatblygiad achrededig arall a fyddai o fudd i chi yn eich gwaith, efallai y cewch absenoldeb arbennig gyda thâl er mwyn mynychu tiwtorials a sefyll arholiadau.
Am ragor o fanylion, edrychwch ar y polisi Astudio Hirdymor yn y Llawlyfr Staff.
Bydd Chwaraeon Cymru yn caniatáu absenoldeb arbennig gyda thâl i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol aml-chwaraeon, o safon byd, gan gynnwys y Gemau Olympaidd, Cystadleuaeth o Safon Byd, Gemau Ewropeaidd a Gemau'r Gymanwlad. I gael eich ystyried ar gyfer absenoldeb arbennig, bydd rhaid i chi gael eich dewis ar lefel ryngwladol lawn (nid grŵp oedran). Bydd y cyfnod o absenoldeb arbennig yn cynnwys teithio i'r digwyddiad a chymryd rhan ynddo.
Os ydych chi wedi cael eich dewis i weithredu fel swyddog ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol aml-chwaraeon, o safon byd, efallai y cewch absenoldeb arbennig gyda thâl ar yr amod bod y canlynol yn berthnasol:
Gellir rhoi absenoldeb arbennig hyd at y cyfnod llawn, ond rydym yn cadw'r hawl i ddidynnu o'ch cyflog unrhyw daliadau a wneir i chi gan hyrwyddwyr neu gyrff rheoli.
Os ydych chi wedi cael eich dewis i weithredu fel swyddog i gefnogi digwyddiad chwaraeon nad yw'n cynrychioli cyfle datblygu y cytunwyd arno, efallai y cewch absenoldeb arbennig gyda thâl hyd at hanner yr amser sydd ei angen (gyda gwyliau blynyddol neu absenoldeb heb dâl yn cael ei gymryd am y gweddill).
Rydym yn gwerthfawrogi na fyddwch yn gallu cyrraedd eich gweithle efallai mewn tywydd garw. O dan amgylchiadau o'r fath, dylech weithio o gartref os yw hyn yn bosibl. Os na allwch weithio o gartref neu deithio i'ch gweithle, gellir rhoi absenoldeb arbennig gyda thâl ar gyfer y cyfnod pan nad yw teithio'n bosibl. Mae disgwyl i chi ddangos sut cawsoch eich atal rhag mynychu eich gweithle.
Os bydd tarfu mawr annisgwyl ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n eich atal rhag gallu gweithio ac nad yw'n bosibl i chi weithio o gartref, a bod pob dull trafnidiaeth amgen fel beicio, defnydd o gar cronfa neu dacsi wedi'i ystyried, efallai y cewch ganiatâd i absenoldeb arbennig gyda thâl. Os yw'r tarfu mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hysbys ymlaen llaw, efallai y byddai'n fwy priodol defnyddio gwyliau blynyddol, os nad yw hyn yn bosibl, bydd absenoldeb arbennig heb dâl yn cael ei ddyfarnu.
Mae gennych hawl statudol i gael cyfnod rhesymol o amser o’r gwaith heb dâl i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus e.e. llywodraethwr ysgol, ynad neu aelod o fwrdd.
Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi unigolion sydd eisiau cyfrannu at y gymuned ehangach. Felly, fel rheol caniateir absenoldeb arbennig gyda thâl i'ch galluogi i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus. Mae Chwaraeon Cymru yn cadw'r hawl i ddidynnu o'ch cyflog unrhyw daliadau a wneir i chi gan gyrff cyhoeddus i gyflawni'r dyletswyddau hyn.
Dylech hysbysu eich rheolwr llinell pan fyddwch chi'n ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus a rhoi cymaint o rybudd â phosibl. Mae'r amser sy'n 'rhesymol' yn dibynnu ar yr hyn sy'n angenrheidiol i gyflawni'r rôl, fodd bynnag, ni fyddai hyn fel rheol yn fwy na 5 diwrnod y flwyddyn.
Byddwn yn eich cefnogi os ydych chi'n aelod o'r Lluoedd Wrth Gefn, i gydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae Milwyr Wrth Gefn yn ei wneud i amddiffyn y genedl a'r manteision personol a chysylltiedig â swydd sy'n deillio o'r sgiliau ychwanegol sy’n cael eu meithrin.
Byddwn yn darparu absenoldeb arbennig gyda thâl i'ch cynorthwyo i ymgymryd â'ch hyfforddiant Lluoedd Wrth Gefn. Os oes arnoch angen amser ychwanegol o’r gwaith, bydd Chwaraeon Cymru, lle bynnag y bo modd, yn hyblyg wrth ganiatáu gwyliau blynyddol neu absenoldeb arbennig heb dâl. Mae'n ofynnol i chi roi cymaint o rybudd â phosibl o'r holl ofynion absenoldeb at ddibenion hyfforddi.
Caiff milwyr wrth gefn eu galw i wasanaeth milwrol llawn amser i gefnogi gweithrediadau milwrol. Nid oes tâl am absenoldeb arbennig tra byddwch wedi eich galw i wasanaeth milwrol. Ni fydd gennych hawl i wyliau blynyddol na gwyliau banc tra byddwch yn gwasanaethu fel milwr wrth gefn.
Ar ddiwedd y gwasanaeth, dylech ddychwelyd i'r gwaith cyn gynted â sy’n rhesymol bosibl.
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod yr ymrwymiad sydd ei angen i wirfoddoli a gwasanaethu'r gymuned, a hefyd datblygu sgiliau a rhwydweithiau newydd gwerthfawr. I gydnabod yr ymrwymiad hwn ac i annog cyfranogiad cymunedol gweithredol, bydd Chwaraeon Cymru yn darparu amser o’r gwaith gyda thâl. Bydd hyd yr amser yn amrywio yn dibynnu ar y gwaith dan sylw ond rhagwelir na fydd yn fwy na 5 diwrnod y flwyddyn.
Bydd amser o’r gwaith ar gyfer llawdriniaeth, triniaeth ac adferiad sy'n ymwneud â chyflwr meddygol neu seicolegol ac a gefnogir gan dystysgrif feddygol yn cael ei drin fel absenoldeb salwch yn yr un modd ag unrhyw apwyntiad meddygol arall.
Mewn achosion o lawdriniaeth ddewisol, dylid cymryd gwyliau blynyddol i ddechrau. O dan amgylchiadau eithriadol gellir caniatáu absenoldeb heb dâl, yn amodol ar anghenion gweithredol. Llawfeddygaeth ddewisol yw llawdriniaeth / gweithdrefnau nad ydynt yn cael eu hystyried yn angenrheidiol yn feddygol, gan gynnwys llawdriniaeth gosmetig. Dylai ceisiadau am amser o’r gwaith ar gyfer llawdriniaeth, triniaeth ac adferiad ddilyn y broses arferol ar gyfer gofyn am wyliau blynyddol. Os bydd triniaeth o'r fath yn arwain at eich gwneud yn anaddas i weithio, e.e. oherwydd haint neu gymhlethdodau eraill, byddai'r weithdrefn salwch yn berthnasol.
Os ydych chi'n dilyn cwrs o driniaeth ffrwythlondeb ac wedi bod yn gyflogedig gan Chwaraeon Cymru am fwy nag un flwyddyn yn barhaus, byddwch yn gymwys i wneud cais am absenoldeb arbennig ar gyfer triniaeth ffrwythlondeb. Mae hyn yn cynnwys partneriaid o'r un rhyw a phobl sengl.
Wrth dderbyn triniaeth: Hyd at 5 diwrnod o absenoldeb gyda thâl o fewn cyfnod o 12 mis ar gyfer y driniaeth angenrheidiol yn ystod cylch o driniaeth ffrwythlondeb.
Partneriaid: Hyd at 2 ddiwrnod o absenoldeb gyda thâl o fewn cyfnod o 12 mis ar gyfer y driniaeth angenrheidiol ac i ddarparu cefnogaeth yn ystod cylch o driniaeth ffrwythlondeb.
Mae'r cyfnod o 12 mis yn weithredol o'r diwrnod cyntaf y cymerir absenoldeb at ddibenion triniaeth ffrwythlondeb. Os byddwch yn mynd yn sâl oherwydd, neu yn ystod, triniaeth anffrwythlondeb ac yn methu â mynychu'r gwaith, byddai'r weithdrefn absenoldeb salwch yn berthnasol.
Gallwch wneud cais i'ch rheolwr am absenoldeb arbennig gyda thâl neu heb dâl am resymau personol eraill sydd heb eu cynnwys yn y polisi hwn. Mae cyngor ar wneud cais am absenoldeb arbennig arall ar gael gan y tîm Adnoddau Dynol.
Mae seibiant gyrfa’n fath o absenoldeb arbennig heb dâl y gellir gofyn amdano am amrywiaeth o resymau. Mae’n eich galluogi i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gyrfa a'ch bywyd personol wrth gynnal parhad cyflogaeth.
Gallai seibiant gyrfa fod yn dri mis ond fel rheol ni fyddai’n fwy na dwy flynedd. Bydd ceisiadau am seibiant gyrfa’n cael eu hystyried fesul achos. Bydd angen i chi gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig i'ch rheolwr gan roi tri mis o rybudd cyn i chi fwriadu dechrau seibiant gyrfa. Bydd angen i'ch rheolwr ystyried sut bydd eich gwaith a'ch cyfrifoldebau'n cael eu cwblhau tra byddwch chi o’r gwaith. Bydd hefyd yn ystyried eich perfformiad, eich presenoldeb ac a ydych chi wedi bod yn destun gweithdrefnau disgyblu. Bydd rheolwyr yn ymgynghori â’r adran Adnoddau Dynol cyn penderfynu a ddylid cymeradwyo cais, er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb ar draws Chwaraeon Cymru. Ni fydd gennych hawl i wyliau blynyddol na gwyliau banc tra byddwch chi ar seibiant gyrfa a gall effeithio ar barhad eich gwasanaeth at ddibenion pensiwn.