Skip to main content

Rhaid bod eich prosiect:

  • yn dal tudalen codi arian ar Crowdfunder
  • ar gyfer gwaith moderneiddio neu gyfleusterau allanol
  • er budd pobl sy’n byw yng Nghymru
  • cynnwys y gymuned leol yn ei ddatblygiad a’i ddarpariaeth

Gallwch weld meini prawf cymhwysedd llawn ar wefan Crowdfunder.

Prosiectau a chyllid 

Mae enghreifftiau o brosiectau yn cynnwys:

  • trwsio neu uwchraddio ystafelloedd newid, toiledau neu gawodydd
  • adnewyddu eich clwb
  • gwella safleoedd bar neu gegin
  • ychwanegu lle storio neu reseli beiciau
  • gwneud eich lle yn fwy hygyrch, gyda rampiau neu lifftiau
  • trwsio ffensys neu ychwanegu standiau a seddau
  • prynu sgorfyrddau neu offer fideo
  • offer cynnal a chadw meysydd chwarae

Rhaid i chi greu tudalen cyllido torfol ar wefan Crowdfunder ar gyfer eich prosiect. Mae eu gwefan yn cynnig help am sut i greu eich tudalen, gan gynnwys cyngor ynghylch gwobrau y gallwch eu cynnig i bobl am eu rhoddion.

I gael cyfraniadau ar gyfer eich ymgyrch cyllido torfol gennym ni, rhaid i chi:

  • godi o leiaf 25% o’ch targed cyfan gwbl
  • cael rhoddion gan nifer ofynnol o gefnogwyr – mae'r ffigwr hwn yn amrywio gan ddibynnu ar eich targed
  • cyrraedd eich targed erbyn terfyn amser penodedig

Os byddwch yn cyflawni’r nodau hyn, byddwn yn rhoi 50% o’ch cyfanswm i chi, hyd at £15,000. Gall hwn godi i 60% o’ch cyfanswm os bydd eich prosiect:

Defnyddiwch ein cyfleuster cyfrifo cyllido torfol i weld:

  • yr hyn y mae angen i chi ei godi 
  • faint o bobl y mae angen iddynt gyfrannu 
  • faint y gallem ei roi i chi 

Dyddiadau 

Mae ceisiadau ar agor trwy gydol y flwyddyn.

Proses ymgeisio 

  1. Cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb 
  2. Byddwn yn ymateb cyn pen 2 ddiwrnod gwaith gyda’r camau nesaf
  3. Creu eich tudalen Cyllido torfol eich hun ar Crowdfunder
  4. Dechrau codi arian

Gwyliwch ein canllaw fideo am weithgarwch cyllido torfol llwyddiannus.

Cymorth 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os oes angen help arnoch, cysylltwch â ni trwy:

  • anfon e-bost at aplaceforsport@sport.wales
  • ffonio 0300 3003102, yn ystod yr wythnos yn unig, rhwng 10am a 12:30pm a rhwng 1:15pm a 4pm

Gallwch hefyd gael help gan Gyllido torfol