Skip to main content

Rhaid bod eich prosiect:

  • ar gyfer adeilad yr ydych chi’n berchen arno neu y mae gennych chi brydles arno am o leiaf 7 mlynedd arall 
  • heb fod wedi cychwyn eto
  • cychwyn erbyn 31 Mawrth 2027
  • gorffen cyn pen 12 mis o gael y grant

Prosiectau a chyllid 

Rydym yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau a fydd yn cael yr effaith fwyaf. Mae enghreifftiau o brosiectau yn cynnwys:

  • ffenestri a drysau newydd, gan gynnwys anghenion gwresogi
  • systemau gwresogi sy’n fwy ecogyfeillgar ac sy’n fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni
  • inswleiddio gwell
  • paneli solar a batris storio
  • goleuadau LED a synwyryddion symud
  • systemau cynaeafu dŵr cynaliadwy

Rhaid i'ch clwb dalu o leiaf 20% o’r gost gyfan gwbl. Mae hyn yn cynnwys cael arolwg ynni fel rhan o’ch cais. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn talu 50% o gost eich arolwg ynni.

Dyddiadau 

Cam ymgeisio Yn agor Yn cau 
Mynegi diddordeb 10am, 21 Mai  20265pm, 29 Mehefin 2026
Cam 110am, 21 Mai 20263pm, 1 Gorffennaf 2026
Cam 210am, 22 Gorffennaf 20263pm, 7 Hydref 2026

Proses ymgeisio 

Darllenwch ein hamodau a thelerau grantiau cyn ymgeisio.

Gallwch ymgeisio yn Gymraeg neu yn Saesneg. Byddwn yn trin y ddwy iaith yn gyfartal.

  1. Cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb 
  2. Cael cadarnhad wrthym cyn pen 2 ddiwrnod gwaith 
  3. Cyflwyno ffurflen gais cam 1, gan ddweud mwy wrthym am eich prosiect 
  4. Cael cadarnhad wrthym 
  5. Efallai y byddwn yn gofyn i chi archebu arolwg ynni, os na fyddwch chi wedi cael un yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf
  6. Cyflwyno eich cais cam 2, gan ddefnyddio eich arolwg fel canllaw

Cymorth 

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os bydd angen help arnoch, gallwch  gysylltu â ni trwy: 

  • anfon e-bost at energy@sport.wales
  • ffonio 0300 3003102, yn ystod yr wythnos yn unig, rhwng 10am a 12:30pm a rhwng 1:15pm a 4pm