Troednodyn: Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y galw am unrhyw chwaraeon ymhlith disgyblion nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos
Mae’r Adroddiad Cyflwr y Genedl hwn yn edrych ar ganfyddiadau Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 Chwaraeon Cymru. Yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yw un o'r cyfleoedd mwyaf, y pen, yn y byd i bobl ifanc gael lleisio eu barn am chwaraeon. Eleni (2022) ymatebodd mwy na 116,000 o ddisgyblion, o 1,000 o ysgolion. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 28 Mawrth 2022 a 22 Gorffennaf 2022.
Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn arolwg cenedlaethol o ddisgyblion o flynyddoedd 3 i 11, sy’n edrych ar agweddau, ymddygiad a chyfleoedd i bobl ifanc mewn chwaraeon. Mae’r arolwg yn allweddol i ddeall pwy, ble, a pha mor aml y mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon a faint o alw sydd ganddynt am chwaraeon. Mae athrawon hefyd yn cael cynnig y cyfle i rannu eu barn ar y ddarpariaeth chwaraeon mewn ysgolion a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i'w chyflwyno. Mae canlyniadau’r arolwg yn galluogi i Chwaraeon Cymru, ysgolion, awdurdodau lleol, chwaraeon a’r sector ehangach ddylanwadu ar ddyfodol chwaraeon, yn unol â lleisiau pobl ifanc. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data allweddol a all helpu i ddeall yn well y tirlun chwaraeon ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru, gan ddarparu sylfaen o dystiolaeth fel sail i bolisi ac ymarfer.
Cyflwynir yr Arolwg Chwaraeon Ysgol ar-lein. Darperir dolenni at yr arolwg i bob ysgol yng Nghymru, sydd, yn eu tro, yn cael eu rhannu gyda disgyblion mewn amgylchedd dosbarth. Rhoddir arweiniad hefyd i athrawon i gynorthwyo eu disgyblion, pe bai angen.
Eleni, am y tro cyntaf, cynigiwyd yr arolwg cyfranogiad (disgyblion) cyfan i bob disgybl ar ffurf Hawdd ei Ddarllen, gan roi llais cyfartal i bawb. Mae Hawdd ei Ddarllen yn ddull o gyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig i’w gwneud yn haws ei deall i bobl sy’n cael anhawster darllen. Mae'r cynllun Hawdd ei Ddarllen yn cynnwys cymhorthion delwedd, ffont mwy a symlach a bylchau digonol a phriodol. Mae'r newid allweddol hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad i greu arolwg mwy hygyrch a symlach i'w gwblhau.
Nid yw data ysgolion annibynnol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn oherwydd y niferoedd is o ddisgyblion o’r ysgolion hyn sy’n cymryd rhan.
Mae niferoedd isel ar lefelau rhanbarthol ac awdurdod lleol yn golygu bod data ysgolion arbennig hefyd yn cael eu heithrio ar y lefelau hyn. Fodd bynnag, cynhwysir data ysgolion arbennig ar lefel genedlaethol.
Mae canrannau wedi'u talgrynnu i'r cant agosaf; a’r boblogaeth i’r mil agosaf.
Mae unrhyw gyfeiriadau at wahaniaethau neu debygrwydd drwyddo draw yn ystadegol arwyddocaol.
Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Y Weledigaeth yw’r llwyfan ar gyfer ymgysylltu traws-sector mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mae’n ceisio trawsnewid Cymru yn genedl actif, lle gall pawb fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol am oes.
Cydgynhyrchwyd y Weledigaeth gydag ystod eang o randdeiliaid ac mae’n cynrychioli llais pobl Cymru. Bydd ymdrech ar y cyd i weithio tuag at y Weledigaeth yn cyflawni’r canlynol:
Mae’r adroddiad hwn wedi’i drefnu’n bedair adran:
Drwy ddefnyddio hyn fel sail i’r adroddiad, mae cyfle i ddeall yn well y cynnydd tuag at y Weledigaeth ac archwilio lle mae potensial i wneud pethau’n wahanol i ddiwallu anghenion pobl ifanc Cymru.
Diolch yn fawr / Thank you
Hoffai Chwaraeon Cymru gydnabod a diolch i bawb a gymerodd ran, a phawb a helpodd i weithredu a chydlynu Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022.
Y Weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif, gyda chymaint o bobl â phosibl wedi’u hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran ganlynol yn archwilio ystod o ddata’r Arolwg Chwaraeon Ysgol, gan edrych ar gyfranogiad a darpariaeth, er mwyn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o lefelau gweithgarwch chwaraeon a chyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru.
Ledled Cymru, cymerodd 97% o ddisgyblion ran mewn o leiaf un gamp yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, sy’n cyfateb i fwy na 304,000 o ddisgyblion.
Mae’r cyfranogiad mewn chwaraeon yn amrywio yn ôl lleoliad. Cymerodd 50% (157,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon allgyrsiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a chymerodd 65% (202,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon clwb cymunedol yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Graff 1: Unrhyw gyfranogiad mewn chwaraeon yn ôl lleoliad
Troednodyn: Mae chwaraeon allgyrsiol yn cyfeirio at chwaraeon mewn clwb ysgol. Gallai hyn fod yn ystod amser cinio, ar ôl ysgol, mewn clwb brecwast, neu gyda chlwb ysgol ar-lein.
Cymerodd 39% (124,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau’r Dyfodol 38). Mae hwn yn ostyngiad o 9 pwynt canran ers 2018, pan gymerodd 48% o ddisgyblion ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos.
I’r gwrthwyneb, dywedodd 36% (111,000) o ddisgyblion nad oeddent yn cymryd rhan yn aml mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm (h.y., yn cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos). O gymharu, dim ond 28% o ddisgyblion yn 2018 a nododd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm.
Graff 2: Amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm
Troednodyn: Mae chwaraeon trefnus yn cyfeirio at unrhyw gyfranogiad allgyrsiol neu mewn clwb cymunedol
Cymerodd 56% (174,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Mae hyn yn ostyngiad o 9 pwynt canran ers 2018.
Y gamp fwyaf poblogaidd i gymryd rhan ynddi mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf oedd pêl droed, gyda 61,000 o ddisgyblion yn dweud eu bod yn cymryd rhan yn y gamp hon yn rheolaidd. Gellir gweld dadansoddiad llawn o gyfranogiad mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yn atodiad B.
Graff 3: Y chwaraeon y cymerwyd rhan fwyaf ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf
Dywedodd 54% (170,00) o ddisgyblion eu bod yn aelod o glwb chwaraeon yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Mae hyn yn ostyngiad ar y ffigyrau a welwyd yn 2018, pan ddywedodd 59% o ddisgyblion Cymru eu bod yn aelod o glwb chwaraeon.
Gall disgyblion weithio tuag at genedl actif hefyd drwy helpu i gyflwyno chwaraeon. Gofynnwyd i ddisgyblion a ydynt yn gwirfoddoli neu’n helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu yn eu cymuned. Dywedodd 24% (75,000) o ddisgyblion eu bod yn gwirfoddoli neu’n helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu mewn clwb cymunedol.
Yn 2018, dywedodd 32% o’r ymatebwyr eu bod yn gwirfoddoli neu’n helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu mewn clwb cymunedol.
Mae’r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â’r ymatebion a gafwyd o adran athrawon yr arolwg.
Ar gyfartaledd, darparwyd 93 munud yr wythnos o AG gwricwlaidd mewn ysgolion cynradd ledled Cymru ym mlwyddyn academaidd 2021/2022. Yn yr un modd, darparwyd 93 munud yr wythnos o AG gwricwlaidd ar gyfartaledd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2021/2022.
Tabl 1: Munudau cwricwlaidd cyfartalog o AG a ddarperir yr wythnos, yn ôl sector
| 2018 | 2022 | |
| Ysgolion Cynradd | 99 munud | 93 munud |
| Ysgolion Uwchradd | 95 munud | 93 munud |
Gofynnodd arolwg eleni hefyd i ysgolion i ba raddau yr oeddent yn cyflwyno AG a / neu chwaraeon ysgol gan ddefnyddio dulliau ar-lein.
Dywedodd 78% o ysgolion ledled Cymru eu bod wedi cyflwyno AG a / neu chwaraeon ysgol o bell gan ddefnyddio dulliau ar-lein ers dechrau’r pandemig, tra bo 32% o ysgolion wedi darparu AG a / neu chwaraeon ysgol o bell gan ddefnyddio dulliau ar-lein ers dechrau blwyddyn academaidd 2021/2022.
Dywedodd 9% o ysgolion hefyd eu bod yn bwriadu defnyddio dulliau ar-lein yn rheolaidd i gyflwyno AG a / neu chwaraeon ysgol yn y dyfodol.
Gofynnwyd i athrawon hefyd pa ffactorau sy'n dylanwadu'n bennaf ar y chwaraeon a gynigir yn ystod sesiynau cwricwlaidd ac allgyrsiol.
Tabl 2: Ffactorau sy'n dylanwadu ar y ddarpariaeth gwricwlaidd ac allgyrsiol ar gyfer chwaraeon
| Darpariaeth chwaraeon gwricwlaidd | Darpariaeth chwaraeon allgyrsiol | |
|---|---|---|
| Y cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael yn yr ysgol neu yn y gymuned | 90% | 76% |
| Mynediad at yr offer chwaraeon angenrheidiol | 81% | 66% |
| Sgiliau staff | 79% | 70% |
| Dewisiadau disgyblion | 53% | 50% |
| Cyfleoedd i gystadlu yn lleol | 48% | 33% |
| Capasiti staff | 47% | 58% |
| Hyfforddiant blaenorol staff | 42% | 28% |
| Dewisiadau staff | 37% | 47% |
| Cefnogaeth ychwanegol | 27% | 23% |
| Cynsail hanesyddol (h.y., rydyn ni wedi gwneud hyn erioed) | 21% | 15% |
| Arall | 3% | 7% |
Adroddwyd mai argaeledd cyfleusterau chwaraeon yn yr ysgol neu yn y gymuned oedd y ffactor mwyaf tebygol o ddylanwadu ar y ddarpariaeth chwaraeon gwricwlaidd ac allgyrsiol. Yn y cyfamser, dywedodd athrawon bod dewis y disgyblion yn dylanwadu ar tua hanner y ddarpariaeth chwaraeon gwricwlaidd ac allgyrsiol mwn ysgolion.
Yn hanesyddol, bu bwlch mewn cyfranogiad chwaraeon ledled Cymru, gyda merched yn adrodd yn gyson am lai o gyfranogiad mewn chwaraeon na’u cymheiriaid gwrywaidd. Mae disgyblion sy’n nodi eu bod yn ‘arall’ yn adrodd fel rheol eu bod yn cymryd rhan hyd yn oed yn llai aml mewn chwaraeon.
Ym mlwyddyn academaidd 2021/2022, cymerodd 43% o fechgyn ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 36% o ferched a 28% o ddisgyblion a nododd ‘arall’. Gwelwyd patrwm tebyg yn 2018 pan gymerodd 50% o fechgyn, 46% o ferched, a 39% o’r rhai a nododd ‘arall’ ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Yn y cyfamser, roedd y rhai a nododd ‘arall’ yn fwy tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (gan gymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos) o gymharu â bechgyn a merched. Roedd merched hefyd yn fwy tebygol o adrodd am ddim gweithgarwch aml o gymharu â bechgyn.
Graff 4: Amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl rhywedd
Cymerodd 40% (114,000) o ddisgyblion heb anabledd neu nam ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. O gymharu, roedd y cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos ymhlith disgyblion a adroddodd am anabledd neu nam yn 35% (6,000).
Hefyd dywedodd 7,000 o ddisgyblion ag anabledd neu nam nad oeddent wedi
gwneud unrhyw weithgarwch aml (llai nag unwaith yr wythnos) yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Graff 5a: Amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl anabledd neu nam.
Gwelwyd patrwm tebyg wrth gymharu disgyblion ag anhawster dysgu â'r rhai heb anhawster dysgu. Roedd y disgyblion ag anhawster dysgu yn fwy tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (42%) na’r rhai heb anhawster dysgu (34%).
Graff 5b: Amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl anhawster dysgu.
Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 gyfres o gwestiynau i athrawon hefyd ynghylch eu darpariaeth o Addysg Gorfforol a / neu chwaraeon i’r rhai ag anabledd, nam neu anhawster dysgu.
Tabl 3: Darpariaeth chwaraeon i ddisgyblion ag anabledd, nam neu anhawster dysgu
| Cwestiwn | Ie |
|---|---|
| Oes gennych chi le hygyrch yn yr ysgol i gyflwyno’r holl weithgareddau yn gynhwysol ar gyfer disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)? | 87% |
| Ydych chi’n hyderus wrth addasu tasgau a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i gynnwys yn ystyrlon y disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)? | 83% |
| Oes gennych chi’r offer yn yr ysgol sy'n galluogi cynnwys disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)? | 60% |
| Ydych chi'n defnyddio pobl ychwanegol i gefnogi cynnwys disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn sesiwn AG? | 75% |
Dywedodd dros dri chwarter yr athrawon bod ganddynt ofod hygyrch, eu bod yn hyderus wrth addasu tasgau a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio, a’u bod yn defnyddio pobl ychwanegol i gefnogi cynnwys disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Fodd bynnag, mae llai na dwy ran o dair o athrawon yn dweud bod ganddynt yr offer angenrheidiol i alluogi cynnwys disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Gofynnwyd i athrawon hefyd a oedd cyfle i ddisgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gymryd rhan mewn gwersi AG. Ymatebodd 92% o athrawon drwy ddweud ‘Oes, drwy’r amser’, tra bo 6% arall wedi ymateb drwy ddweud ‘Oes, weithiau’.
Tabl 4: Cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl ethnigrwydd a'r iaith Gymraeg
| Canran (%) | Nifer y disgyblion | |
|---|---|---|
| Ethnigrwydd | ||
| Gwyn | 41% | 106,000 |
| Grŵp Ethnig cymysg neu luosog | 43% | 5,000 |
| Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig | 30% | 4,000 |
| Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd | 38% | 2,000 |
| Grŵp ethnig arall | 33% | 1,000 |
| Yr Iaith Gymraeg | ||
| Siaradwr Cymraeg | 46% | 60,000 |
| Di-Gymraeg | 35% | 63,000 |
Roedd y disgyblion a nododd eu bod yn wyn a disgyblion a nododd eu bod yn rhan o grŵp ethnig cymysg neu luosog yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos na’u cyfoedion a nododd eu bod yn Asiaidd neu o grŵp ethnig arall.
I’r gwrthwyneb, roedd disgyblion a nododd eu bod yn Asiaidd yn fwy tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (llai nag unwaith yr wythnos) na’u cyfoedion a nododd eu bod yn Wyn, Du, neu o grwpiau ethnig cymysg neu luosog.
Roedd siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos. Dywedodd 46% o siaradwyr Cymraeg eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 35% o ddisgyblion di-Gymraeg.
Troednodyn: Mae siaradwyr Cymraeg yn cynnwys y rhai sy’n ‘rhugl yn y Gymraeg’, ‘yn gallu sgwrsio’n hyderus yn y Gymraeg’, neu ‘yn gallu sgwrsio’n syml yn y Gymraeg’.
Tabl 5: Cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl partneriaeth chwaraeon rhanbarthol
| Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol | Canran (%) | Nifer y disgyblion |
|---|---|---|
| Canolbarth y De | 40% | 39,000 |
| Gwent | 38% | 22,000 |
| Canolbarth Cymru | 40% | 7,000 |
| Gogledd Cymru | 39% | 26,000 |
| Gorllewin Cymru | 42% | 28,000 |
“Roedd cyfran is o ddisgyblion Gwent yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â Gorllewin Cymru”.
Gorllewin Cymru oedd â’r gyfran uchaf o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r holl bartneriaethau chwaraeon rhanbarthol eraill.
Roedd nifer y disgyblion oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i'r cwricwlwm ar ei uchaf yng Nghanolbarth y De (39,000) ac ar ei isaf yng Nghanolbarth Cymru (7,000).
Tabl 6: Cyfranogiad mewn chwaraeon clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf, fesul partneriaeth chwaraeon rhanbarthol
| Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol | Canran (%) | Nifer y disgyblion |
|---|---|---|
| Canolbarth y De | 56% | 54,000 |
| Gwent | 54% | 32,000 |
| Canolbarth Cymru | 59% | 11,000 |
| Gogledd Cymru | 56% | 37,000 |
| Gorllewin Cymru | 58% | 39,000 |
Yn y cyfamser, Canolbarth Cymru oedd â'r gyfran uchaf o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf (59%), tra bo nifer y disgyblion a gymerodd ran ar ei uchaf yng Nghanolbarth y De (54,000).
Troednodyn: Edrychwch ar atodiad A ar gyfer grwpiau awdurdodau lleol yn ôl partneriaethau chwaraeon rhanbarthol
Yn yr Arolwg Chwaraeon Ysgol, defnyddir Cinio Ysgol Am Ddim (PYADd) fel mesur o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, gyda PYADd1 yn cyfrif am y lleiaf a PYADd4 yn cyfrif am y mwyaf difreintiedig.
Mae gwahaniaeth o 15 pwynt canran yn bodoli rhwng y rhai lleiaf difreintiedig (PYADd1) a’r rhai mwyaf difreintiedig (PYADd4) wrth ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r gwahaniaeth hwn wedi cynyddu ers 2018 lle gwelwyd gwahaniaeth o 13 pwynt canran rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig.
Graff 6: Cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl chwartelau Prydau Ysgol Am Ddim
Mae’r gwahaniaeth rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig yn amlycach fyth wrth ystyried cyfranogiad clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf, gyda gwahaniaeth pwynt canran o 20 i’w weld rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig.
Graff 7: Cyfranogiad mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf, yn ôl chwartelau Prydau Ysgol Am Ddim.
Mae'r weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd. Mae’r adran hon yn edrych ar y gwahanol ffactorau a allai effeithio ar gyfranogiad pobl ifanc mewn chwaraeon ar wahanol adegau yn eu bywyd.
Mae blynyddoedd blaenorol yr Arolwg Chwaraeon Ysgol wedi gweld y cyfranogiad mewn chwaraeon yn amrywio yn ôl grŵp blwyddyn, yn cyrraedd uchafbwynt fel rheol pan fydd myfyrwyr ym mlynyddoedd 5 a 6, ac wedyn yn gostwng yn gyffredinol o'r fan honno.
Dengys Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/2022, bod y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos ar ei uchaf ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 (44%), ac ar ei isaf ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 3 (33%).
Graff 8: Cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl blwyddyn ysgol.
Yn y cyfamser, roedd disgyblion ym mlynyddoedd 10 i 11 yn fwy tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (39%) yn dweud eu bod yn cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos), tra bo disgyblion ym mlynyddoedd 5 i 6 yn llai tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (31%).
Mae’r cwricwlwm ysgol newydd i Gymru yn pwysleisio bod ‘datblygu iechyd a lles corfforol yn dod â manteision gydol oes’. Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion faint maen nhw’n meddwl y mae gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu i gael ffordd o fyw iach.
Mae 51% o ddisgyblion yn credu bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach. Yn y cyfamser, mae 7% o ddisgyblion yn credu nad yw gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu o gwbl i gael ffordd o fyw iach.
Mae’r graff canlynol yn dangos bod disgyblion ysgolion cynradd yn fwy tebygol o gredu bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach na disgyblion ysgolion uwchradd.
Graff 9: Barn y disgyblion am AG a chwaraeon yn helpu i sicrhau ffordd o fyw iach, yn ôl sector.
Galw cudd yw pan fydd disgyblion yn dweud yr hoffent wneud mwy o gamp benodol.
Roedd gan 93% (292,000) o ddisgyblion Cymru alw cudd am wneud mwy o chwaraeon. Roedd disgyblion ysgolion cynradd yn fwy tebygol o fod â galw cudd am fwy o chwaraeon (96%) o gymharu â disgyblion ysgolion uwchradd (91%).
Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, ond sydd â galw i wneud mwy o chwaraeon.
Roedd gan 56% o ddisgyblion alw heb ei fodloni, sef cyfwerth â 175,000 o ddisgyblion. Roedd y galw heb ei fodloni hefyd yn uwch ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd (60%) o gymharu â disgyblion ysgolion uwchradd (53%).
Graff 10: Galw heb ei fodloni, yn ôl chwartelau Prydau Ysgol Am Ddim.
Mewn cyferbyniad â'r patrwm a welwyd ar gyfer cyfranogiad yn gynharach yn yr adroddiad hwn, roedd disgyblion yn PYADd4 (mwyaf difreintiedig) yn fwy tebygol o fod â galw heb ei fodloni na'u cyfoedion yn PYADd1, PYADd2, a PYADd3, yn y drefn honno. Mae'r galw heb ei fodloni ymhlith disgyblion PYADd4 yn cyfateb i 38,000 o ddisgyblion, tra bo’r galw heb ei fodloni ymhlith disgyblion PYADd1 yn cyfateb i 41,000 o ddisgyblion.
Mae dadansoddiad llawn o’r galw cudd a’r galw heb ei fodloni fesul camp i’w weld yn atodiad C.
Mae ymateb i anghenion a dymuniadau disgyblion, a chydnabod y rhwystrau i gyfranogiad, yn allweddol i allu gwneud chwaraeon yn weithgaredd gydol oes.
Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion ddewis ymatebion i’r cwestiwn ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai’. Yr ymatebion a ddewiswyd amlaf ledled Cymru i ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’ oedd ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon sy’n fy siwtio i’ (37%), ‘Pe bai gen i fwy o amser’ (36%), a ‘Pe bai gen i fwy o hyder' (25%). Mae’r Tabl a ganlyn yn amlinellu’r ymatebion yn ôl rhywedd.
Tabl 7: Ymatebion i ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’, yn ôl rhywedd
| Canran y bechgyn (%) | Nifer y bechgyn | Canran y merched (%) | Nifer y merched | |
|---|---|---|---|---|
| Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon sy’n fy siwtio i | 36% | 56,000 | 37% | 55,000 |
| Pe bai gen i fwy o amser | 33% | 52,000 | 40% | 59,000 |
| Pe bai'n haws cyrraedd yno | 17% | 26,000 | 20% | 30,000 |
| Pe bawn i'n fwy hyderus | 17% | 27,000 | 31% | 46,000 |
| Pe bawn i'n well mewn chwaraeon | 17% | 26,000 | 23% | 33,000 |
| Pe bai gen i’r offer sydd arnaf ei angen | 16% | 25,000 | 16% | 23,000 |
| Pe bai'n rhatach | 15% | 23,000 | 20% | 30,000 |
| bai | 15% | 24,000 | 31% | 45,000 |
| Pe bawn i'n mwynhau chwaraeon yn fwy | 13% | 12,000 | 17% | 25,000 |
| Pe bawn i'n mwynhau AG yn fwy | 13% | 20,000 | 18% | 26,000 |
| Pe bai'r llefydd roeddwn i'n cymryd rhan mewn chwaraeon ynddynt yn well | 11% | 17,000 | 9% | 13,000 |
| Pe bai bechgyn a merched yn gwneud chwaraeon neu AG gyda'i gilydd | 8% | 12,000 | 11% | 16,000 |
| Pe bai bechgyn a merched yn gwneud chwaraeon neu AG ar wahân | 6% | 10,000 | 13% | 19,000 |
| Pe na bai rhaid i mi fynd adref ar y bws | 6% | 9,000 | 7% | 10,000 |
| Pe bai mwy o bobl mewn chwaraeon yn edrych fel fi | 4% | 6,000 | 5% | 8,000 |
| Pe bawn i’n gallu rheoli fy mislif yn well | 2% | 3,000 | 8% | 12,000 |
Troednodyn: Dim ond i ddisgyblion ym mlynyddoedd 5 ac uwch y cyflwynwyd ‘Pe bawn i’n gallu rheoli fy mislif yn well’ fel opsiwn
Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar y data am farn disgyblion am eu profiadau chwaraeon, yn ogystal â barn staff am y ddarpariaeth o weithgarwch corfforol.
Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion a oeddent yn mwynhau chwaraeon mewn lleoliadau amrywiol ‘yn fawr’, ‘ychydig’, neu ‘ddim o gwbl’.
Roedd y disgyblion yn fwy tebygol o fwynhau gwersi AG, a chwaraeon yn rhywle arall ‘yn fawr’, o gymharu â lleoliadau clwb allgyrsiol a chymunedol. Roedd disgyblion yn lleiaf tebygol o fwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol yn fawr na mewn unrhyw leoliad arall.
Graff 11: Mwynhad ‘mawr’ o chwaraeon, yn ôl lleoliadau
Roedd mwynhad o chwaraeon mewn gwahanol leoliadau yn amrywio hefyd yn ôl rhywedd, oedran ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol.
Tabl 8: Mwynhad o chwaraeon mewn gwahanol leoliadau yn ôl rhywedd, sector, anabledd neu nam, ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol
| Mwynhad ‘mawr’ o AG | Mwynhad ‘mawr’ o chwaraeon allgyrsiol | Mwynhad ‘mawr’ o chwaraeon mewn clwb cymunedol | |
|---|---|---|---|
| Rhywedd | |||
| Bachgen | 67% | 45% | 52% |
| Merch | 49% | 35% | 43% |
| Arall | 26% | 22% | 31% |
| Sector | |||
| Cynradd | 69% | 49% | 51% |
| Uwchradd | 47% | 32% | 44% |
| Anabledd neu nam | |||
| Anabledd neu nam | 53% | 36% | 40% |
| Dim anabledd na nam | 58% | 40% | 48% |
| Amddifadedd economaidd-gymdeithasol | |||
| PYADd1 (lleiaf difreintiedig) | 57% | 42% | 53% |
| PYADd2 | 57% | 40% | 50% |
| PYADd3 | 55% | 38% | 44% |
| PYADd4 (mwyaf difreintiedig) | 61% | 38% | 39% |
Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 hefyd i’r disgyblion i ba raddau yr oedd pobl yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol yn eu barn hwy.
Mae 15% o’r disgyblion yn credu bod pobl yn gwrando ‘bob amser’ ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol, tra bo 45% o ddisgyblion yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ‘weithiau’.
Tabl 9: Barn am deimlo bod pobl yn gwrando arnynt ynghylch AG a chwaraeon ysgol yn ôl rhywedd ac anabledd neu nam
| Bob amser | Weithiau | Byth | |
|---|---|---|---|
| Rhywedd | |||
| Bachgen | 18% | 46% | 14% |
| Merch | 13% | 45% | 15% |
| Arall | 6% | 21% | 26% |
| Anabledd neu nam | |||
| Anabledd neu nam | 19% | 37% | 17% |
| Dim anabledd na nam | 15% | 46% | 15% |
Mae hyder pobl ifanc i gymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon newydd yn cael effaith fawr ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon. Dangosodd Arolwg Chwaraeon Cymru 2018 bod disgyblion sy’n hyderus iawn wrth roi cynnig ar weithgareddau newydd ddwywaith yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Yn Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, dywedodd 28% o’r disgyblion eu bod yn ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd, a dywedodd 8% o ddisgyblion eu bod ‘ddim yn hyderus o gwbl’.
Graff 12: Hyder i roi cynnig ar chwaraeon newydd, yn ôl rhywedd
Er bod bechgyn yn fwy tebygol o lawer na merched o ddweud eu bod yn ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd, roedd y ddau rywedd yr un mor debygol o ddweud eu bod yn ‘eithaf hyderus’.
Atodiad A. Awdurdodau lleol wedi'u grwpio yn ôl partneriaethau chwaraeon rhanbarthol.
| Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol | Awdurdod Lleol |
|---|---|
| Gogledd Cymru | Ynys Môn |
| Gwynedd | |
| Conwy | |
| Sir Ddinbych | |
| Sir y Fflint | |
| Wrecsam | |
| Canolbarth Cymru | Powys |
| Ceredigion | |
| Gorllewin Cymru | Sir Benfro |
| Sir Gaerfyrddin | |
| Abertawe | |
| Castell-nedd Port Talbot | |
| Canolbarth y De | Pen-y-bont ar Ogwr |
| Bro Morgannwg | |
| Caerdydd | |
| Rhondda Cynon Taf | |
| Merthyr Tudful | |
| Gwent | Caerffili |
| Blaenau Gwent | |
| Torfaen | |
| Sir Fynwy | |
| Casnewydd |
Atodiad B. Cyfranogiad clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf, fesul camp.
| Camp | Canran (%) | Nifer y disgyblion |
|---|---|---|
| Saethyddiaeth | 1% | 3,000 |
| Athletau | 3% | 10,000 |
| Badminton | 1% | 4,000 |
| Pêl Fasged | 4% | 11,000 |
| BMX | 1% | 4,000 |
| Boccia | <1% | <1,000 |
| Bowlio (nid deg) | <1% | 2,000 |
| Bocsio | 5% | 15,000 |
| Canŵio neu Gaiacio | <1% | 2,000 |
| Crwydro Ogofâu | <1% | <1,000 |
| Codi Hwyl Mewn Gemau | 1% | 4,000 |
| Dringo dan do neu yn yr awyr agored | 1% | 4,000 |
| Criced | 4% | 12,000 |
| Cyrlio | <1% | <1,000 |
| Beicio | 2% | 7,000 |
| Dawnsio | 8% | 24,000 |
| Pel Osgoi | 2% | 6,000 |
| Ffensio | <1% | 1,000 |
| Hoci Maes | 2% | 5,000 |
| Pysgota neu Enweirio | <1% | 1,000 |
| Dosbarthiadau Ffitrwydd | 3% | 11,000 |
| Pêl Droed | 19% | 61,000 |
| Pêl Gôl | <1% | <1,000 |
| Golff | 2% | 5,000 |
| Gymnasteg | 5% | 16,000 |
| Marchogaeth Ceffylau | 2% | 8,000 |
| Hoci Iâ | <1% | 1,000 |
| Jiwdo | 2% | 6,000 |
| Carate | 4% | 14,000 |
| Lacrosse | <1% | <1,000 |
| Achub Bywyd | 3% | 8,000 |
| Chwaraeon Modur | <1% | 2,000 |
| Beicio Mynydd | 1% | 4,000 |
| Pêl Rwyd | 5% | 14,000 |
| Arall | 3% | 10,000 |
| Rhwyf-fyrddio | <1% | 2,000 |
| Parkour | 1% | 5,000 |
| Pŵl neu Snwcer | 2% | 6,000 |
| Chwaraeon Rholio | <1% | 2,000 |
| Rownderi, Pêl Fas neu Bêl Feddal | 1% | 4,000 |
| Rhwyfo | <1% | 1,000 |
| Rygbi | 10% | 30,000 |
| Rhedeg neu Loncian | 7% | 22,000 |
| Hwylio | <1% | 1,000 |
| Sglefrfyrddio | <1% | 3,000 |
| Chwaraeon Eira | <1% | 1,000 |
| Sboncen | <1% | 2,000 |
| Syrffio | <1% | 3,000 |
| Nofio | 13% | 42,000 |
| Tennis Bwrdd | 1% | 5,000 |
| Saethu Targedau | <1% | 2,000 |
| Tennis neu Dennis Byr | 3% | 9,000 |
| Trampolinio | 2% | 6,000 |
| Triathlon | <1% | 2,000 |
| Pêl Foli | <1% | 2,000 |
| Polo Dŵr | <1% | 3,000 |
| Codi Pwysau | 3% | 8,000 |
| Pêl Fasged Cadair Olwyn | <1% | <1,000 |
| Rygbi Cadair Olwyn | <1% | <1,000 |
| Tennis Cadair Olwyn | <1% | <1,000 |
| Gwyntsyrffio | <1% | <1,000 |
| Reslo | 1% | 3,000 |
Atodiad C. Galw cudd a galw heb ei fodloni, fesul camp.
| Camp | Canran y disgyblion â galw cudd (%) | Nifer y disgyblion â galw cudd | Canran y disgyblion â galw heb ei fodloni (%) | Nifer y disgyblion â galw heb ei fodloni |
|---|---|---|---|---|
| Saethyddiaeth | 35% | 109,000 | 21% | 66,000 |
| Athletau | 22% | 70,000 | 10% | 30,000 |
| Badminton | 27% | 85,000 | 10% | 33,000 |
| Pêl Fasged | 46% | 144,000 | 13% | 42,000 |
| BMX | 24% | 76,000 | 11% | 36,000 |
| Boccia | 3% | 10,000 | 2% | 8,000 |
| Bowlio (nid deg) | 13% | 42,000 | 7% | 20,000 |
| Bocsio | 30% | 94,000 | 17% | 53,000 |
| Canŵio neu Gaiacio | 26% | 83,000 | 15% | 48,000 |
| Crwydro Ogofâu | 18% | 56,000 | 14% | 43,000 |
| Codi Hwyl Mewn Gemau | 14% | 43,000 | 10% | 32,000 |
| Dringo dan do neu yn yr awyr agored | 31% | 97,000 | 15% | 46,000 |
| Criced | 25% | 78,000 | 9% | 27,000 |
| Cyrlio | 7% | 21,000 | 6% | 18,000 |
| Beicio | 44% | 139,000 | 10% | 31,000 |
| Dawnsio | 25% | 78,000 | 5% | 17,000 |
| Pel Osgoi | 32% | 101,000 | 13% | 40,000 |
| Ffensio | 14% | 45,000 | 13% | 39,000 |
| Hoci Maes | 10% | 33,000 | 5% | 17,000 |
| Pysgota neu Enweirio | 19% | 58,000 | 11% | 34,000 |
| Dosbarthiadau Ffitrwydd | 18% | 56,000 | 7% | 23,000 |
| Pêl Droed | 43% | 134,000 | 4% | 14,000 |
| Pêl Gôl | 4% | 13,000 | 3% | 10,000 |
| Golff | 28% | 88,000 | 12% | 36,000 |
| Gymnasteg | 20% | 64,000 | 10% | 30,000 |
| Marchogaeth Ceffylau | 28% | 87,000 | 18% | 55,000 |
| Hoci Iâ | 11% | 33,000 | 9% | 29,000 |
| Jiwdo | 14% | 43,000 | 10% | 32,000 |
| Carate | 22% | 69,000 | 15% | 46,000 |
| Lacrosse | 5% | 16,000 | 4% | 14,000 |
| Achub Bywyd | 14% | 43,000 | 10% | 30,000 |
| Chwaraeon Modur | 32% | 101,000 | 20% | 62,000 |
| Beicio Mynydd | 25% | 78,000 | 11% | 35,000 |
| Pêl Rwyd | 20% | 62,000 | 7% | 22,000 |
| Arall | 4% | 11,000 | 2% | 5,000 |
| Rhwyf-fyrddio | 23% | 72,000 | 12% | 37,000 |
| Parkour | 30% | 93,000 | 16% | 49,000 |
| Pŵl neu Snwcer | 32% | 101,000 | 10% | 30,000 |
| Chwaraeon Rholio | 19% | 60,000 | 12% | 37,000 |
| Rownderi, Pêl Fas neu Bêl Feddal | 22% | 70,000 | 8% | 26,000 |
| Rhwyfo | 11% | 36,000 | 9% | 27,000 |
| Rygbi | 21% | 67,000 | 5% | 16,000 |
| Rhedeg neu Loncian | 37% | 116,000 | 4% | 13,000 |
| Hwylio | 12% | 37,000 | 9% | 30,000 |
| Sglefrfyrddio | 23% | 73,000 | 12% | 38,000 |
| Chwaraeon Eira | 21% | 65,000 | 16% | 51,000 |
| Sboncen | 13% | 39,000 | 8% | 25,000 |
| Syrffio | 26% | 80,000 | 18% | 56,000 |
| Nofio | 48% | 152,000 | 11% | 36,000 |
| Tennis Bwrdd | 32% | 101,000 | 14% | 42,000 |
| Saethu Targedau | 27% | 85,000 | 19% | 60,000 |
| Tennis neu Dennis Byr | 38% | 118,000 | 16% | 52,000 |
| Trampolinio | 40% | 127,000 | 17% | 54,000 |
| Triathlon | 10% | 31,000 | 7% | 23,000 |
| Pêl Foli | 16% | 51,000 | 10% | 32,000 |
| Polo Dŵr | 14% | 43,000 | 9% | 28,000 |
| Codi Pwysau | 28% | 89,000 | 13% | 39,000 |
| Pêl Fasged Cadair Olwyn | 3% | 10,000 | 3% | 9,000 |
| Rygbi Cadair Olwyn | 3% | 10,000 | 3% | 9,000 |
| Tennis Cadair Olwyn | 4% | 13,000 | 4% | 12,000 |
| Gwyntsyrffio | 11% | 35,000 | 10% | 31,000 |
| Reslo | 18% | 55,000 | 11% | 35,000 |