Skip to main content

Rydym yn dibynnu ar waith caled ysgolion, awdurdodau lleol ac eraill ar draws y sector chwaraeon ac addysg. Mae eu hymdrechion nhw yn golygu ein bod yn gallu gwrando ar ddegau ar filoedd o ddisgyblion a channoedd o athrawon. 

Mae tystiolaeth o’r arolwg yn caniatáu i ni a'n partneriaid: 

  • wneud penderfyniadau mwy gwybodus am fuddsoddiad yn y dyfodol 
  • dadansoddi tueddiadau sy’n dod i'r amlwg a nodi bylchau  
  • archwilio grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol 
  • mynd i'r afael â'r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn chwaraeon 

Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn cael dadansoddiad o ddata ei disgyblion. Gall hyn helpu ysgolion i wneud y pethau canlynol yn well: 

  • gwrando ar leisiau ei disgyblion  
  • cynllunio ei dull gweithredu o ran chwaraeon yn yr ysgol a gweithgarwch allgyrsiol 

Gallwch ddarllen adroddiadau blaenorol, y prif ganlyniadau a thablau data ar gyfer pob arolwg. 

2026 

Byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau arolwg 2026 yn ystod yr hydref 2026. 

Cymryd rhan  

Bydd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol ar agor am ymatebion rhwng 13 Ebrill ac 17 Gorffennaf 2026. Gall disgyblion ym mlynyddoedd ysgol 3 i 11 gymryd rhan yn yr arolwg trwy eich ysgol. 

Byddwn yn anfon manylion ynghylch sut i gymryd rhan i ysgolion. Os na fyddwch wedi cael manylion erbyn 13 Ebrill, anfonwch e-bost at schoolsportsurvey2026@sport.wales. Gallwch hefyd gysylltu â ni am wybodaeth bellach am yr arolwg. 

Gwelliannau ar gyfer 2026  

Rydym wedi gwrando ar safbwyntiau plant a phobl ifanc er mwyn gwella’r arolwg. Rydym hefyd wedi ei brofi’n helaeth gyda phlant o bob oed a gallu. 

Bydd arolwg 2026 yn cynnwys: 

  • dewisiadau iaith ychwanegol y tu hwnt i Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain a Makaton 
  • adroddiad sain 
  • nodweddion rhyngweithiol ac ar ffurf gemau er mwyn helpu i gynnal ffocws a chymhelliant disgyblion 
  • mae'n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru 
  • mae modd gweld y canlyniadau ar ffurf dangosfwrdd rhyngweithiol 
2022
2018
2015
2013
2011
2000 i 2011