Skip to main content

Mae Gemau Gaeaf Milano Cortina 2026 yn digwydd ym mynyddoedd eiraog gogledd yr Eidal. Ond yn ôl adref ar lethrau sych De Cymru, mae stori sy’n cynhesu’r galon i’w hadrodd. Yma, mae plant sydd ag anghenion ychwanegol yn darganfod cyffro sgïo - diolch i gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol.

Sefydlodd y gŵr a'r wraig, Chris a Julie Harvey, y clwb fwy nag ugain mlynedd yn ôl. Roedd Julie, ffisiotherapydd pediatrig, eisiau rhoi gwell mynediad i blant sydd ag anghenion ychwanegol i'r gamp. Ac roedd hi'n gwybod y gallai sgïo ddatgloi manteision corfforol a meddyliol enfawr iddyn nhw. 

Heddiw, mae gan y clwb fwy na 200 o aelodau, gan gynnwys pobl ifanc fu Julie yn gweithio gyda nhw pan oedden nhw'n fabis bach - yn dal i daro'r llethrau ddau ddegawd yn ddiweddarach. 

Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae'r clwb wedi gallu adnewyddu ei offer oedd yn heneiddio, fel bod y genhedlaeth nesaf o sgïwyr yn gallu mwynhau'r gamp.  

Creu profiad sgïo hygyrch 

Fel ffisiotherapydd, roedd Julie yn gwybod y gallai sgïo gynnig amrywiaeth o fanteision i blant ag anghenion ychwanegol, fel: 

  • Gwell hyblygrwydd  
  • Gwell balans           
  • Cydsymudiad cynyddol 
  • Craidd cryfach 
  • Mwy o hyder 

Gan gyfarfod unwaith y mis, mae’r sgïwyr yn defnyddio amrywiaeth o offer arbenigol, gan gynnwys sgis eistedd, dyfeisiau cerdded a fframiau. 

Mae'n brofiad teuluol llawn - mae croeso i frodyr a chwiorydd ymuno ac mae’r rhieni'n chwarae rhan ganolog hefyd. Mae llawer o famau a thadau'n gwirfoddoli fel hyfforddwyr, tywyswyr sgis eistedd, aelodau pwyllgor neu godwyr arian - gan ddangos y gymuned gynnes a chynhwysol y mae Chris a Julie wedi'i hadeiladu. 

A member of the team pushes a participant on a sit ski

Sut gwnaeth cyllid y Loteri Genedlaethol helpu 

Prynwyd yr offer i ddechrau pan sefydlwyd y clwb bron i ddau ddegawd yn ôl, ac roedd wir angen ei newid. 

Dyma pryd y camodd y Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru i’r adwy gyda grant o £17,560. Prynodd y clwb sgis eistedd newydd sbon, sef cadeiriau eira arbennig wedi’u gosod ar ddwy sgi, gan alluogi i blant fwynhau cyflymder a chyffro sgïo. 

Hoffem ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol oherwydd bod gallu prynu’r offer yma’n golygu ein bod ni’n gallu parhau i gynnig cyfle i deuluoedd ledled De Cymru fwynhau sgïo am ugain mlynedd arall. 

Chris Harvey, cydsylfaenydd Ice Cool Kids

Effaith Cool Kids 

Stori Jac: darganfod llawenydd nad oedd ei dad byth yn ei feddwl oedd yn bosibl 

Doedd Alex erioed wedi meddwl y byddai ei fab, Jac, yn gallu sgïo, yn union fel yr oedd e wedi'i wneud pan oedd yn fachgen ifanc ar wyliau sgïo teuluol. Mae gan Jac gyflwr eithriadol brin o'r enw Syndrom Schinzel-Giedion - dim ond pedwar o bobl yn y DU sydd wedi’u cofnodi â’r cyflwr - felly roedd y syniad ohono'n hedfan i lawr llethr yn teimlo'n gwbl amhosibl. 

Newidiodd hynny i gyd y foment y rhoddodd Jac gynnig ar sgi eistedd yn Ice Cool Kids. Gyda thywysydd yn llywio'r llwybr, cyrhaeddodd Jac waelod y llethr yn fuan. Ac roedd yn wên o glust i glust.   

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae Jac, sydd bellach yn wyth oed, wrth ei fodd ar bob ymweliad â'r llethr ym Mhen-bre. Yn well fyth, mae Alex wedi hyfforddi fel tywysydd sgïo ei hun, er mwyn gallu sgïo ochr yn ochr â'i fab. 

Mae Ice Cool Kids yn amgylchedd cadarnhaol, diogel yn llawn pobl gwbl ysbrydoledig. Mae wedi meithrin hyder i ni fel teulu – rydyn ni wedi cwrdd ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg, ac rydyn ni i gyd wedi darganfod hobi newydd gwych.

Alex Dakin, Tad Jac Dakin.

Stori Catrin: dod o hyd i hyder ar y llethrau sych 

Cafodd Catrin, sy'n un ar bymtheg oed, ddiagnosis o awtistiaeth cyn ei thrydydd pen-blwydd. Er ei bod hi wrth ei bodd gyda chwaraeon, yn enwedig athletau a bocsio, mae Catrin yn teimlo bod sefyllfaoedd cymdeithasol yn heriol iddi. 

Ond pan ddechreuodd hi sgïo, dechreuodd ei hyder dyfu. Sylwodd ei mam, Kelly, fod ei merch yn llai pryderus ac yn dod yn gyfforddus yn sgwrsio gyda'r plant eraill. 

Fe ddaeth sgïo yn gwbl naturiol i Catrin. Erbyn ei hail sesiwn, roedd hi'n sgïo o dop y llethr. Ac yn union fel y nifer o blant a phobl ifanc sy'n mwynhau sesiynau Ice Cool Kids, mae hi wrth ei bodd gyda'r cyflymder, y rhuthr o adrenalin a'r hwyl. 

Mae bywyd yn gallu bod yn anodd iawn i rai o'r teuluoedd sy'n dod i Ice Cool Kids. Mae gan ein haelodau ni amrywiaeth o anghenion ac anableddau. Mae gweld eu hwynebau nhw wrth iddyn nhw hedfan i lawr y llethrau’n llawenydd pur. Sut arall fydden nhw’n profi'r wefr honno oni bai am glwb gwych yr Ice Cool Kids?

Kelly John, Mam Catrin John

Eisiau gwneud eich clwb yn fwy hygyrch? 

Mae straeon fel rhai Jac a Catrin wrth galon holl nod Ice Cool Kids - helpu plant i feithrin hyder ac annibyniaeth, wrth greu cymuned lle mae teuluoedd yn cefnogi ei gilydd ac yn dathlu pob buddugoliaeth fach gyda'i gilydd. 

Eisiau gwneud gwahaniaeth i blant anabl yn eich clwb chwaraeon? Gall y Loteri Genedlaethol helpu eich clwb chi i ddod yn fwy hygyrch.

Wedi ei gyhoeddi
Diweddarwyd diwethaf