Gallwch chi wneud cais am y Gronfa Cymru Actif ar ein porthol grantiau a chyllid newydd. Bydd angen i chi greu cyfrif ar y porthol newydd cyn y gallwch chi wneud cais.
Pwy all wneud cais
Gall clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol nid-er-elw wneud cais.
I wneud cais, rhaid i'ch prosiect:
- helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon
- digwydd yng Nghymru a bod ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru yn bennaf
- heb fod wedi cychwyn eto
- ni ddylai gynnwys unrhyw beth yr ydych chi wedi ei brynu yn barod
Yn dibynnu ar y gamp neu'r math o gais, efallai y bydd angen i'r sefydliad sy'n gwneud cais am gyllid fod yn gysylltiedig â Chorff Llywodraethu Cenedlaethol eu camp.
Prosiectau a chyllid
Mae enghreifftiau o brosiectau yn cynnwys:
- offer er mwyn helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon
- cyrsiau hyfforddi sy’n uwchsgilio hyfforddwyr a gwirfoddolwyr
- cyrsiau hyfforddi lefel mynediad, fel cymorth cyntaf neu ddyfarnu
- llogi lleoliadau ar gyfer timau newydd
- prosiectau gwella meysydd chwarae
Rhaid i chi gyfrannu o leiaf 10% o gost cyfan gwbl y prosiect. Yn gyffredinol, ar gyfer dyfarniadau o:
- £300 i £25,000, byddwn yn ariannu hyd at 90% o gostau’r prosiect
- £25,001 i £50,000, byddwn yn ariannu hyd at 80% o gostau’r prosiect
Ni chaiff lefelau cyllido eu gwarantu. Byddwn yn asesu pob cais yn unigol.
Mae cyfyngiadau cyllido yn bodoli ar gyfer rhai eitemau penodol. Nodir y rhain yn y tabl isod.
| Eitem | Swm | Nodyn |
|---|---|---|
| Llifoleuadau | Hyd at £40,000 | Mae angen caniatâd cynllunio, a phrydles dros 7 mlynedd neu rydd-ddaliad. |
| Rhwydi criced | 50% o’r gost gyfan gwbl, hyd at £20,000 | Mae angen caniatâd cynllunio, a phrydles dros 7 mlynedd neu rydd-ddaliad. |
| Prosiectau draenio | ||
| Meysydd ymarfer ac ystafelloedd efelychu | ||
| Llwybrau troed a rhodfeydd | ||
| Arwynebau chwaraeon, gan gynnwys cyrtiau tennis | ||
| Llawr gymnasteg | ||
| Wicedi criced artiffisial | 50% o’r gost gyfan gwbl, hyd at £10,000 | Mae angen caniatâd cynllunio, a phrydles dros 7 mlynedd neu rydd-ddaliad. |
| Offer cynnal a chadw meysydd chwarae |
| Efallai y byddwn yn cynghori aelod o’ch sefydliad i ddilyn cwrs cynnal a chadw meysydd. |
| Trelars neu gynhwyswyr | Hyd at £3,000 | Dim ond os ydych chi’n gwneud cais am offer hefyd y gallwch wneud cais am hwn. Mae angen caniatâd cynllunio, a phrydles dros 7 mlynedd neu rydd-ddaliad. |
| Llogi lleoliad (dim eich lleoliad chi) |
| Dim ond ar gyfer tîm, grŵp oedran neu adran newydd yn eich sefydliad y gallwch wneud cais am hwn. |
| Cyrsiau hyfforddi (hyd at lefel 2) | Mae cyfyngiadau cyllido safonol yn berthnasol | Dim ond ar gyfer dyfarniadau hyfforddi newydd y gallwch wneud cais am hwn, nid adnewyddiadau. |
Dyddiadau
Ceir 3 ffenestr bob blwyddyn ar gyfer gwneud cais am gyllid. Dim ond 1 cais llwyddiannus y flwyddyn y gallwch ei gael.
Gallwch fynegi diddordeb (EOI) unrhyw bryd. Os byddwch yn colli’r dyddiad cau ar gyfer EOI, byddwn yn ei ddefnyddio yn ystod y ffenestr nesaf.
| Ffenestr yn agor | Dyddiad cau er mwyn mynegi diddordeb | Dyddiad cau ar gyfer y cais llawn |
|---|---|---|
| 9am, 2 Ebrill 2026 | 9am, 29 Mai 2026 | 4pm, 4 Mehefin 2026 |
| 9am, 8 Gorffennaf 2026 | 9am, 11 Medi 2026 | 4pm, 16 Medi 2026 |
| 9am, 4 Tachwedd 2026 | 9am, 8 Ionawr 2027 | 4pm, 13 Ionawr 2027 |
Proses ymgeisio
Gallwch ymgeisio yn Gymraeg neu yn Saesneg. Byddwn yn trin y ddwy iaith yn gyfartal.
- Creu cyfrif a mewngofnodi i'n porthol grantiau a chyllid
- Cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb
- Cael cadarnhad wrthym cyn pen 2 ddiwrnod gwaith
- Cael cymorth yn ôl yr angen i'ch helpu gyda'ch cais llawn
- Cyflwyno eich cais llawn, gyda’r holl fanylion a’r dogfennau y gofynnwyd amdanynt
Cymorth
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os bydd angen help arnoch, gallwch gysylltu â ni trwy:
- anfon e-bost at beactive@sport.wales
- ffonio 0300 3003102, yn ystod yr wythnos yn unig, rhwng 10am a 12:30pm a rhwng 1:15pm a 4pm
Gallwch hefyd gael cymorth gan:
- dîm datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol
- cyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
- Cymdeithas Chwaraeon Cymru (CChC)
Cwblhewch ffurflen mynegiant o ddiddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'n grantiau, creu cyfrif a chyflwyno ffurflen mynegi diddordeb. Mae'r ffurflen yn cwmpasu ein holl grantiau, felly cofiwch gynnwys popeth sydd o ddiddordeb i chi. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith gyda'r camau nesaf.