Skip to main content

Bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau  

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn mynnu ein bod yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth ac yn hyrwyddo ecosystemau cydnerth. Rhaid i ni ymwreiddio ystyriaethau bioamrywiaeth o fewn polisïau, cynlluniau, prosiectau a gweithrediadau dydd-i-ddydd. 

Tlodi plant 

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn mynnu ein bod yn cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru. Mae Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn pwysleisio y dylai cyrff cyhoeddus helpu i fynd i'r afael â thlodi plant ar draws Cymru. 

Effaith ar iechyd 

Mae Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 yn mynnu ein bod yn asesu’r effaith ar iechyd pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau strategol. O fis Ebrill 2027, ar gyfer unrhyw benderfyniad strategol, rhaid i ni: 

  • asesu'r effeithiau tebygol yn y tymor byr a’r tymor hir ar iechyd corfforol a meddyliol pobl yng Nghymru 
  • nodi grwpiau sy’n cael eu heffeithio o fewn y boblogaeth 
  • cynllunio camau i leihau risgiau neu wella manteision i iechyd 

Cydraddoldeb y sector cyhoeddus  

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn mynnu ein bod yn cyfrannu at: 

  • waredu gwahaniaethu  
  • cynnig cyfle cyfartal  
  • meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sydd â nodweddion gwarchodedig 

Yng Nghymru, cefnogir y ddyletswydd hon gan ofynion penodol ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • asesu effaith polisïau ar gydraddoldeb  
  • casglu a chyhoeddi data ynghylch cydraddoldeb 
  • gosod ac adolygu amcanion cydraddoldeb o leiaf bob 4 blynedd  

Mae’r dyletswyddau hyn yn sicrhau ein bod yn ymwreiddio cydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant yn ein holl benderfyniadau ac arferion. 

Partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus  

Cyflwynwyd y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol gan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae’n mynnu ein bod yn gweithio gydag undebau llafur a chynrychiolwyr staff eraill wrth osod amcanion lles. Mae angen i ni sicrhau consensws ynghylch amcanion a sut i'w cyflawni. 

Mae hyn yn sicrhau bod staff yn: 

  • ymwneud yn llawn â'r broses o wneud penderfyniadau 
  • cael eu hymgynghori yn gynnar a thrwy gydol y broses 
  • cael digon o wybodaeth er mwyn ystyried a chyfrannu 

Mae gofyn i ni gaffael mewn ffordd sy’n dangos cyfrifoldeb cymdeithasol hefyd. Rhaid i’n penderfyniadau prynu: 

  • hyrwyddo gwaith teg  
  • cynorthwyo lles  
  • darparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach i Gymru  

Safonau’r Gymraeg  

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn mynnu ein bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yr un fath. Mae hyn yn cynnwys pobl yn gallu defnyddio’r Gymraeg pan fyddant yn ymgysylltu â'n gwasanaethau. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys: 

  • darparu gwasanaeth  
  • llunio polisïau  
  • gweithrediadau  
  • cadw cofnodion  
  • hyrwyddo'r iaith  

Mae’r safonau hyn yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog, cyfathrebu a gwybodaeth gyhoeddus. Fe’u cynlluniwyd i hyrwyddo a hwyluso’r iaith Gymraeg ar draws pob agwedd ar ein gwaith. 

Llesiant cenedlaethau’r dyfodol  

Fel corff cyhoeddus a enwir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae gofyn i ni gyflawni datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn golygu gweithredu mewn ffordd sy’n gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni osod, cyhoeddi a chyflawni amcanion lles. Rhaid i'r amcanion hyn ddatblygu ein cyfraniad i 7 nod cenedlaethol y Ddeddf i'r eithaf. Nod y nodau hyn yw creu Cymru sy’n: 

  • iachach 
  • mwy cyfartal  
  • cydnerth  
  • cyfrifol ar lefel fyd-eang  

Rhaid i ni weithredu pum ffordd o weithio'r Ddeddf hefyd, sy’n cynnwys: 

  • mabwysiadu safbwynt hirdymor  
  • canolbwyntio ar atal  
  • integreiddio ein gwaith ar draws nodau 
  • cydweithio gyda phartneriaid  
  • cynnwys pobl mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt  

Mae’r dyletswyddau hyn yn sicrhau nad yw’r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud heddiw yn peryglu lles cenedlaethau’r dyfodol. 

Rhyddid gwybodaeth 

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i'r cyhoedd droi at unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei dal. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni: 

  • drin ceisiadau mewn ffordd dryloyw 
  • cynnig mynediad i wybodaeth gofnodedig, oni bai bod eithriad yn berthnasol 

Yn ogystal, gellir gofyn am wybodaeth amgylcheddol dan Reoliadau Amgylcheddol 2004. Mae’r rheoliadau hyn yn eistedd law yn llaw â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. 

Gallwch gael gwybod sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth, a gweld ceisiadau blaenorol.