YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Judi Rhys, Philip Tilley, Nuria Zolle, Chris Jenkins, Rhian Gibson, Martin Veale, Dafydd Davies, Hannah Bruce, Rajma Begum
STAFF: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Emma Wilkins, Graham Williams, Owen Lewis, Rachel Davies, Wendy Yardley (cofnodion)
Arsylwyr o blith y Staff: Zaynub Akbar
Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod ac wedyn cafwyd trafodaeth dros ginio gyda Chadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Gweithgor Rhyngwladol ar ferched a chwaraeon. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Dim.
Cytunwyd bod nodiadau'r cyfarfod dyddiedig 22 Tachwedd 2024 yn gofnod cywir. Dim camau gweithredu.
Dim camau gweithredu heb eu rhoi ar waith.
Cais am grant addysg - gobeithio y clywir erbyn mis Ebrill am gynnydd y grant.
Papur penderfyniad. Ymhlith yr uchafbwyntiau nodedig roedd: Partneriaethau Chwaraeon gyda'r camau cadarnhaol tuag at sefydlu'r 5; datblygu ein rhwymedigaethau Partneriaethau Cymdeithasol; Ymgysylltu ¢'r Hwb Gwyddorau Bywyd ar gynnydd gyda chynaliadwyedd.
Ymholiad a sylw a godwyd ar yr Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru - cadarnhawyd mai arolwg "sampl ar hap" yw hwn drwy arolwg Llywodraeth Cymru o faint sampl o 12,000, ond gyda'r gobaith o gynyddu i 20,000. Bydd y sylwadau'n cael eu hadrodd yn ôl.
Mae'r penderfyniad i ymestyn y Cynllun Busnes yn cyd-fynd ¢'r ffaith ei fod yn Gynllun Busnes ailadroddus yn seiliedig ar lythyr cylch gorchwyl tymor y Llywodraeth sydd ag ychydig dros 12 mis i redeg cyn etholiadau nesaf y Senedd. Darparwyd cadarnhad bod yr asesiad effaith integredig o'r cynllun busnes yn cynnwys cydraddoldeb.
Papur gwybodaeth, sy'n giplun llawn gwybodaeth o'r holl ddysgu gan Bartneriaid s’n cael eu cyllido. Cynhaliwyd ail sesiwn dysgu carlam gyda phartneriaid. Roedd aelodau'r Bwrdd yn falch o weld rhai o'r enghreifftiau o arfer da a nodwyd. Cafwyd trafodaeth ar sicrhau rhagor o wybodaeth e.e. arolygon barn partneriaid - awgrymwyd y dylai datblygu Partneriaethau Chwaraeon a Thraciwr Gweithgarwch presennol Cymru fod yn fecanweithiau defnyddiol yn y cyswllt hwn a hefyd ar gyfer tynnu sylw at themâu pwysig.
Papur penderfyniad. £1.3m ychwanegol wedi'i nodi yng Nghyllideb LlC ers ysgrifennu'r papur. Diolchodd y Bwrdd i'r Gweinidog a’i gydweithwyr yn LlC. Trafodaeth ar y cyfle i ailgyflwyno toriad y llynedd i Bartneriaid a'r t®m Gweithredol yn ystyried pecyn cymorth Gwydnwch a fydd yn cyflymu gweledigaeth mewn chwaraeon ar gyfer Cymru. Loteri rhai gostyngiadau yn y gyllideb o'r blynyddoedd diwethaf ond mae polisi Cronfeydd Wrth Gefn yn ei le bellach. Mae’r incwm yn y dyfodol yn cael ei fonitro'n fanwl gyda'r Gweithredwr, Allwyn.
Cwestiwn ar ragolygon y loteri a'r cynnydd a ragwelir yn 27/28 mae hwn yn ffigur pragmatig o 50% o ragolygon Allwyn a ddarparwyd.
Papur penderfyniad. Bydd angen cynyddu'r manylion o ran symiau yn dilyn cyhoeddiad y gyllideb a'i ddarparu fel Atodiad dilynol ar´l y cyfarfod.
Papur penderfyniad. Mae Sportscotland a Sport NI wedi cymeradwyo'r argymhelliad ac mae Sport England yn mynd drwy’r broses. Mae'r aelodau'n frwdfrydig am y ddemograffeg mae'r gamp hon yn apelio ati.
Papur penderfyniad. Esboniad o'r gwahaniaethau rhwng y ddau gorff presennol a chadarnhad bod yr holl Gynghorau Chwaraeon eraill wedi cymeradwyo bellach.
Papur trafod. Diolchwyd i'r rhai a gymerodd ran a'i symud ymlaen yn gyflym. Yn rhannu'n strategol / tactegol. Mae angen i'r sector ddeall yr iaith a ddefnyddir mewn perthynas ag iechyd a dylai'r ddadl ataliol ganolbwyntio ar iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol.
Mae'n bwysig cydnabod bod y system Etholiadol newydd yn debygol o arwain at lywodraeth glymblaid, felly mae angen ymgysylltu ¢ nifer o bleidiau. Rydym yn mynychu pob cynhadledd gan y prif bleidiau gwleidyddol. Mae angen i unrhyw negeseuon gyd-fynd ar draws y sector ac mae'r grŵp wedi bod yn ymgynghori'n eang ¢ Phartneriaid. Parhaodd yr aelodau i fod yn gefnogol a chynnig cymorth yn l yr angen.
Papur trafod. Mae adolygiad chwarterol o’r adrannau wedi nodi rhywfaint o danwariant ond mae cynlluniau i gwrdd a therfynau cario drosodd ar waith.
Papur penderfyniad. Mae man newidiadau yn y fersiwn newydd wedi'u cymeradwyo gan ARAC.
Papur penderfyniad. Man newidiadau yn bennaf sydd wedi'u cymeradwyo'n flaenorol gan bwyllgorau ac is-grwpiau perthnasol. Cadarnhawyd y bydd angen iddi fod yn broses adolygu flynyddol.
Papur penderfyniad. Yr unig drafodaeth oedd mewn perthynas ¢ gofyniad LlC i gyflawni AISME erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Crynhodd y papur hwn drafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is-grwpiau'r Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd. Cyfeiriwyd yn gryno hefyd at natur gadarnhaol cyfarfod diweddar gyda Chyngor Dinas Caerdydd mewn perthynas â’r gwaith FRG ar Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.
TGT bydd yn dosbarthu pleidlais WhatsApp ynghylch argaeledd Aelodau ar gyfer y diwrnod cyn cyfarfod mis Mai y Bwrdd.
Gan nad oedd unrhyw fusnes pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu. Daeth y cyfarfod i ben am 12pm.
16 Mai 2025, 18 Gorffennaf 2025, 18-19 Medi 2025 (Plas Menai), 21 Tachwedd 2025
Cymeradwywyd y cofnodion gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 16 Mai 2025.