Yn bresennol: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Yr Athro Leigh Robinson, Judi Rhys, Rajma Begum, Philip Tilley, Nuria Zolle, Chris Jenkins, Rhian Gibson, Martin Veale, Dafydd Davies, Hannah Bruce
Staff: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Emma Wilkins, Graham Williams, Owen Lewis, James Owens, Rachel Davies, Wendy Yardley (cofnodion)
Arsylwyr Staff: Neil Emberton (ar-lein), Steve Williams
Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru), Abi Adio
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys Steve Williams. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Princess Onyeanusi.
Diweddarodd aelodau'r Bwrdd eu datganiadau o fuddiannau fel a ganlyn: -
Nododd Ian Bancroft – Prif Swyddog Gweithredol CBS Wrecsam - unwaith eto ei rôl sylweddol yng nghyswllt unrhyw drafodaeth ar Bartneriaethau Chwaraeon.
Nododd Nicola Mead-Batten wrthdaro buddiannau posibl yng nghyswllt Gwrth Gyffuriau drwy gysylltiadau proffesiynol ag UK Anti-Doping.
Soniodd Rhian Gibson am fuddiant newydd fel ymddiriedolwr Adferiad (elusen gofal iechyd meddwl).
Cytunwyd bod y nodiadau o'r cyfarfod dyddiedig 12 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir. Roedd un mater yn codi ynglŷn â'r wybodaeth am y Gymdeithas Nofio i Bobl Dduon (BSA) – bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn anfon crynodeb byr i'r Bwrdd (yn dilyn cyfarfod y Bwrdd). Cwblhawyd yr holl gamau eraill.
Dim gweithredoedd yn aros.
Papur trafod ar ddatblygiadau cynllun busnes ers y cyfarfod diwethaf. Mae'r papur yn adlewyrchu'r sylwadau gan y Bwrdd ym mis Gorffennaf, sy'n cynnwys mwy o fanylion am unrhyw gynnydd, ac ystyriaethau didwyll i unrhyw risgiau / heriau penodol. Tynnwyd sylw at ambell eitem benodol yn y cyfarfod - yn arbennig, y cynnydd da sy'n cael ei wneud gyda’r Partneriaethau Chwaraeon; ymgysylltu cadarnhaol â'r sector yng nghyswllt dyfodol y Fframwaith Galluo a'r dull Atebolrwydd dilynol; a'r broses gomisiynu ar gyfer yr adolygiad recriwtio o'r dechrau i'r diwedd fel rhan o'n gwaith ar gyfer sicrhau Cymru wrth-hiliol. Mae'r broses olaf hefyd yn cynnwys y gofynion a bennwyd i ni gan bartneriaeth gymdeithasol a’r Ddeddf Caffael Cyhoeddus.
Roedd rhai o'r heriau a nodwyd yn cynnwys yr oedi wrth weithredu system ariannol grantiau newydd a'r cymhlethdod a'r risg a gyflwynwyd gan ansicrwydd Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru. Bu rhai problemau hefyd gyda gwaith cynaliadwyedd cydweithredol y Gwledydd Cartref, ond y gobaith yw ein bod wedi dod drwy hyn.
Mynegodd y Bwrdd bryder am rai o'r heriau, yn enwedig Arolwg Cenedlaethol Cymru, ond roedd yn fodlon bod y tîm ystyriaethau yn edrych ar yr holl fesurau lliniaru posibl, os oes angen. Codwyd ymholiad penodol am bolisi gweithio Hybrid y sefydliad a chytunodd y Prif Swyddog Gweithredol i ddosbarthu'r polisi (a ddatblygwyd mewn partneriaeth â staff a'r undeb llafur) ynghyd â'r asesiad effaith a luniwyd ar gyfer hyn a sawl polisi gweithio cysylltiedig arall.
Cytunodd y Bwrdd fod yr adroddiad yn gynrychiolaeth fwy cytbwys o gynnydd yn erbyn y Cynllun Busnes ac anogodd y weithrediaeth i archwilio sut gellir esblygu a chyflwyno mwy o fesuriadau macro yn erbyn y strategaeth a'n hamcanion llesiant.
Fframwaith Gallu - SW(24)34
Gofynnwyd i'r Bwrdd gymeradwyo'r Fframwaith Gallu diwygiedig a chafodd wybod hefyd am y camau uniongyrchol nesaf i'w weithredu. Mae'r Fframwaith Gallu diwygiedig nid yn unig yn disodli'r fframwaith presennol ond mae hefyd yn ymgorffori Fframwaith Llywodraethu ac Arwain Cymru (GLFW).
Yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf, cytunodd y Bwrdd ar y pum maes allweddol a'r brif wybodaeth i'w chynnwys ym meysydd 'Craidd' ac 'Arfer Da’ y fframwaith gallu diwygiedig, yn amodol ar gadw cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn adran graidd y fframwaith diwygiedig i sicrhau bod y cynnydd da a wnaethpwyd yn y maes hwn hyd yma yn cael ei gynnal a'i ddatblygu.
Yn dilyn adborth ychwanegol gan y Bwrdd, partneriaid ac arbenigwyr pwnc, cafodd rhai newidiadau penodol ychwanegol eu cynnwys a'u nodi yn y Papur. Roedd yr Aelodau'n awyddus i bwysleisio pwysigrwydd y cynllun gweithredu a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Bwrdd maes o law. Mae'n debygol y bydd cyfarfod Bwrdd mis Tachwedd yn cael gwybod am ddatblygiadau yn y broses Sicrwydd.
PAPUR WEDI'I GYMERADWYO GAN Y BWRDD
Papur gwybodaeth a diweddariad ar y gwaith a'r cynnydd gyda Fframwaith Sylfeini Cymru (FFW). Mae'r Weledigaeth yn sôn am bawb yn mwynhau chwaraeon am oes. Fodd bynnag, mae gwybodaeth yn dangos bod angen gwella lefelau gweithgarwch corfforol plant a'r angen am roi'r sylfeini hanfodol i blant (sgiliau corfforol, hyder a chymhelliant). Mae ein hymrwymiad i'r maes hwn yn rhan annatod o faes blaenoriaeth Cynllun Busnes Chwaraeon Cymru, 'Sicrhau bod gan bobl ifanc brofiad cadarnhaol o chwaraeon'. Mewn ymateb i alwad i weithredu gan y sector, mae'r Fframwaith wedi'i greu gan nifer o randdeiliaid. Mae'n ganllaw arfer da i bob hwylusydd ledled Cymru sy'n ymwneud â chyflwyno, trefnu, a hyrwyddo gweithgareddau corfforol a chwaraeon i blant 3 i 11 oed; mae'n enghraifft o sut dylai darpariaeth gweithgarwch corfforol a chwaraeon sy'n canolbwyntio ar y plentyn edrych a theimlo.
Trafododd aelodau'r Bwrdd y camau nesaf a'n rôl ni - eglurwyd y bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ledaenu'r Fframwaith a byddwn yn helpu i ddatblygu adnoddau ategol a hyfforddiant cefnogol i glybiau a sefydliadau sy'n gweithio ar lefel gymunedol ac ar lawr gwlad drwy gydol Hydref 2024. Roedd cytundeb ynghylch yr angen am y fframwaith a'r gefnogaeth i'r iaith a'r dull a ddefnyddiwyd. Codwyd cwestiwn penodol am ddiffyg cyfeiriad penodol at rywedd yn yr Asesiad Effaith - byddai hyn yn cael ei archwilio.
Ymhlith y pwyntiau eraill a godwyd gan aelodau roedd yr angen am gysylltu â datblygiadau tebyg fel Chwarae Cymru a Dechrau'n Deg, ac ati. Eglurwyd bod y Fframwaith yn cyd-fynd yn agos ag amcanion Chwarae Cymru ac â'n hadnoddau ni mewn ysgolion, sydd ar gael drwy Citbag. Bydd cynllun gweithredu digidol ar gael wrth symud ymlaen a bydd yn cael ei rannu gyda'r Bwrdd.
Papur gwybodaeth i ddiweddaru'r Bwrdd. Yn y bôn, penderfynodd y timau Gweithredol ac Arweinyddiaeth ddyrannu holl swm ychwanegol y cymorth refeniw (£1m) gan Lywodraeth Cymru i'r holl Bartneriaid a oedd wedi wynebu toriad ariannol yn ystod setliad cychwynnol y gyllideb gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2024. Roedd yr amserlen frys a thynn yn atal proses fanwl ar lefel Bwrdd rhag cael ei chyflawni, ond roedd yr Aelodau'n sensitif i'r dull pragmatig a chefnogol ac yn cytuno â hi. Roedd Chwaraeon Cymru a'i Bartneriaid yn ddiolchgar am y cyllid ychwanegol - er ei fod ar wahân. Diolchodd y Prif Swyddog Gweithredol i'r holl staff a oedd yn rhan o'r newid cyflym yng nghyswllt y gwaith o ddosbarthu'r arian.
Cyflwynwyd papur penderfynu i'r Bwrdd. Mae angen i ni gael Hyrwyddwr ar y Bwrdd ar gyfer materion o'r fath, gan fod tymor Leigh Robinson yn dod i ben. Cytunwyd i ddirprwyo'r Cadeirydd i drafod a phenodi y tu allan i'r cyfarfod ac i roi gwybod yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.
Cam Gweithredu – proses a phenderfyniad y Cadeirydd.
Rhoi crynodeb i’r Bwrdd o'r pwyntiau allweddol yn archwiliad y datganiadau ariannol drafft diwedd blwyddyn ar 31 Mawrth 2024 a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Cyfrifon. Cadarnhaodd Cadeirydd (MV) y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) fod aelodau'r pwyllgor wedi cymeradwyo'r cyfrifon yng nghyfarfod ARAC ym mis Medi (yn amodol ar rai newidiadau pensiwn a nodwyd yn y papur ac a gafodd eu datrys a'u harchwilio wedi hynny). Llongyfarchodd MV y tîm ar ddarn ardderchog o waith wrth gynhyrchu cyfrifon o'r fath.
CYMERADWYODD Y BWRDD ddatganiadau ariannol drafft Ymddiriedolaeth Chwaraeon Cymru, Cyfnerthedig a’r Loteri ar gyfer 2023/24.
Cyflwynwyd papur gwybodaeth i'r Bwrdd yn nodi'r sefyllfa ariannol ar gyfer y pum mis hyd at 31 Awst 2024.Ym mis Chwefror, cymeradwyodd y Bwrdd y gyllideb gyda diffyg o £504k ac yn dilyn cyfarfodydd adolygu cyllideb yn dadansoddi gweithgareddau Ch1, dyma'r sefyllfa yn fras. Bydd diweddariad chwarter dau yn rhoi mwy o sicrwydd a dylid cadarnhau'r sefyllfa o ran statws y gronfa bensiwn.
Roedd y papur hwn yn crynhoi trafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is grwpiau’r Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd. Mae unrhyw ddiweddariadau neu faterion sylweddol y mae angen eu gwneud yn cael eu cyflwyno mewn papurau ar wahân.
Nid oedd unrhyw fater pellach. Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fod yn bresennol. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm.
22 Tachwedd 2024, 21 Chwefror 2025, 16 Mai 2025, 18 Gorffennaf 2025, 19 Medi 2025, 21 Tachwedd 2025
Disgwylir i'r cofnodion gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 22 Tachwedd 2024.