Rydym yn gweithio gyda chorff atal dopio’r DU, UKAD, er mwyn sicrhau y gall pawb yng Nghymru gystadlu mewn ffordd lân. Rydym yn cydweithio ar raglenni addysg, ac mae ein holl staff yn yr Athrofa yn cael hyfforddiant atal dopio.
Mae Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS) yn cydweithio gyda phartneriaid academaidd ac yn y diwydiant. Mae eu hymchwil yn cyd-fynd â 3 thema allweddol Athrofa Chwaraeon Cymru, sef iechyd a lles athletwyr, datblygiad athletwyr ac amgylcheddau. Nod WIPS yw:
Darganfod mwy am WIPS ar eu gwefan neu anfonwch e-bost atynt, at wips@swansea.ac.uk.
Mae Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) yn cydweithio gydag academyddion, llunwyr polisi, y cyhoedd ac eraill, gan ymchwilio i iechyd a lles cenedlaethol. Eu nod yw:
Darganfod mwy am WIPAHS ar eu gwefan neu anfonwch e-bost atynt, at wipahs@swansea.ac.uk.