Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. Mae Chwaraeon Cymru eisoes wedi cyflawni llawer drwy ganolbwyntio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan osod paneli ynni solar a system pwmp gwres ffynhonnell daear arloesol yn eu lle ym Mhlas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru. Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud ac rydym wedi datblygu ein Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol cyntaf mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Garbon, gan ymgynghori â’n staff a’n rhanddeiliaid.
Fel y sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod gennym rôl arweiniol i’w chwarae. Mae ein Cynllun nid yn unig wedi'i anelu at leihau ein hôl troed carbon sefydliadol ein hunain a chyfrannu at wella bioamrywiaeth, ond hefyd cefnogi'r sector i wneud gwelliannau. Rydym yn gwybod y bydd gweithio gyda chydweithwyr o fewn chwaraeon a dysgu ganddynt yn cynyddu’r effaith amgylcheddol gadarnhaol a’r cyfraniad at sero net ymhell y tu hwnt i’n ffin sefydliadol ein hunain.
Mae ein Cynllun yn canolbwyntio ar bum thema allweddol: -
Rydym yn credu y bydd canolbwyntio ein camau gweithredu ar y pum maes hyn yn lleihau ein hôl troed carbon ein hunain ac ôl troed carbon y sector chwaraeon ehangach yn sylweddol. Yn unol â'n gwerthoedd, byddwn yn mabwysiadu dull dysgu drwy gydol cyfnod y Cynllun hwn. Mae’r Cynllun yn pennu’r cyfeiriad, ond rydym yn cydnabod yr angen am fod yn hyblyg, gan ymateb i dechnolegau, syniadau a ffyrdd newydd o weithio – rhai nad ydynt yn bodoli eto efallai. Byddwn yn adolygu ac yn adnewyddu'r Cynllun drwy gydol y cyfnod, gan herio ein hunain i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a chyflawni camau gweithredu yn gyflym.
Rydym yn gyffrous am ein rôl yn cyflawni sero net ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2030 ac yn llawn brwdfrydedd am y cyfle i gydweithio â phartneriaid ar draws chwaraeon, dosbarthwyr y Loteri a chyrff sector cyhoeddus eraill. Rydym hefyd eisiau chwarae ein rhan i wella bioamrywiaeth. Bydd ein gweithredoedd nawr yn sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd lle gall chwaraeon barhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro
Ceir consensws gwleidyddol byd-eang ein bod yn profi argyfwng hinsawdd, ac mae angen brys am ffrwyno allyriadau carbon er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf cynhesu byd-eang. Y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (‘IPCC’) yw’r corff Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd i asesu’r wyddoniaeth sy’n ymwneud â newid hinsawdd. Rhyddhaodd yr IPCC adroddiad1 ym mis Mawrth 2022, yn mynegi pryder cynyddol am “ffenestr sy’n cau’n gyflym” o amser i weithredu yngylch yr argyfwng hinsawdd.
Gallai cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol gyfyngu ar effeithiau mwyaf peryglus ac anwrthdroadwy newid yn yr hinsawdd.
Mae effaith codi uwchlaw’r targed 1.5 gradd yn ddwys a bydd i'w theimlo ar draws pob rhan o'r byd. Mae'r IPCC yn tynnu sylw at wres cynyddol, tywydd eithafol, llifogydd, prinder dŵr, tarfu ar gadwyni bwyd, mudo a difodiant rhywogaethau, tanau gwyllt, ansawdd aer is ac iechyd sy'n dirywio. Amcangyfrifir bod y taf-lwybr (ar ôl COP 26) yn cadw'r tymheredd i isafswm o 1.8 gradd o godiad, felly mae angen gweithredu ar frys.
Mae newid hinsawdd yn achosi cynhesu ar draws y DU. Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae pob un o’r deg o flynyddoedd cynhesaf erioed yn y DU wedi digwydd ers 2002. Cafwyd y diwrnod poethaf i’w gofnodi yn y DU ym mis Gorffennaf 2022, gyda 40.3°C wedi’i fesur yn Swydd Lincoln.
1 Mae crynodeb hawdd ei ddarllen o ddarganfyddiadau’r IPCC i’w weld drwy ddilyn y ddolen ganlynol .
Mae Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021 yn nodi bod tebygolrwydd uchel yng Nghymru y bydd digwyddiadau tywydd digynsail, gan gynnwys stormydd arfordirol, llifogydd, gwres mawr a sychder, yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Rhagwelir y bydd hafau yn gynhesach (1.340C yn gynhesach erbyn 2050) ac yn sychach, gaeafau yn fwynach ac yn wlypach (mwy o wlybaniaeth o 5% erbyn 2050) a rhagwelir y bydd lefel y môr yn codi ledled y wlad hyd at 24cm erbyn 2050. Ymhellach, ni fydd effaith newid yn yr hinsawdd yn cael ei theimlo'n gyfartal – bydd pobl dan anfantais economaidd a chymdeithasol yn cael eu heffeithio'n anghymesur ac mae'r anghydraddoldebau presennol yn debygol o waethygu.
Dylid nodi bod gan gamau gweithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd y potensial hefyd i gael effaith niweidiol neu eithrio pobl sydd dan anfantais yn economaidd ac yn gymdeithasol. Er enghraifft, efallai y bydd y camau gweithredu yn gofyn am neu'n arwain at gostau uwch.
Nododd Adroddiad Cyflwr Natur 2019 bod 8% o rywogaethau sy’n bodoli y mae digon o ddata ar gael ar eu cyfer wedi’u dosbarthu’n ffurfiol fel rhai sydd dan fygythiad ac mewn perygl o ddifodiant. Bu gostyngiad o 52% yn niferoedd cyfartalog rhywogaethau o löynnod byw ers 1976. Mae amgylchedd morol Cymru dan bwysau hefyd ac mae ystod o ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu sefydlu i sicrhau bod safleoedd yn cael eu rheoli’n briodol i warchod bioamrywiaeth.
Mae'n bwysig cydnabod bod chwaraeon hefyd wedi cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Mae chwaraeon ar bob lefel yn anochel yn golygu teithio i ddigwyddiadau, defnydd o ynni a defnyddio offer bywyd byr arbenigol.
Mae'r Rapid Transition Alliance yn amcangyfrif bod chwaraeon yn cyfrannu 0.8% o allyriadau byd-eang, sy'n cyfateb i wlad ganolig ei maint.
Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael effaith sylweddol ar chwaraeon ar lefel elitaidd a chymunedol. Mae arwynebau chwarae yn fwyfwy agored i newid yn yr hinsawdd. Mae llifogydd y gaeaf yn golygu nad oes modd chwarae ar gaeau, gan darfu ar gemau, sy’n peryglu cyfranogiad a diddordeb. Erbyn 2050, rhagwelir y bydd bron i chwarter tiroedd y gynghrair pêl droed dan ddŵr yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae tymheredd yr haf a chyfnodau o sychder hefyd yn bygwth caeau a chyrsiau ar draws ystod o wahanol chwaraeon.
Mae tymereddau uwch ac ansawdd aer gwael yn ystod misoedd yr haf hefyd yn bygwth digwyddiadau chwaraeon ar bob lefel. Mae athletwyr yn dioddef fwyfwy o orflinder gwres sy'n effeithio'n niweidiol ar berfformiad ac yn achosi effeithiau gwael ar iechyd a lles. Mae amserlenni chwaraeon yn cael eu haddasu i osgoi rhannau poethaf y dydd neu'r flwyddyn. Ar un adeg, paratowyd polisïau gwres eithafol ar gyfer posibiliadau annhebygol ond maent bellach yn cael eu defnyddio'n rheolaidd ar draws ystod o chwaraeon.
Mae chwaraeon y gaeaf hefyd yn agored i newid hinsawdd. Tynnodd adroddiad gan y Rapid Transition Alliance sylw at y ffaith na fyddai hanner dinasoedd blaenorol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd y Gaeaf yn gallu cynnal y Gemau erbyn 2050 oherwydd effaith cynhesu byd-eang.
Fel y nodwyd uchod, ni fydd effaith newid hinsawdd yn cael ei theimlo'n gyfartal a bydd yn gwaethygu anghydraddoldebau. Mae hyn yn fygythiad i gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru sydd eisiau sicrhau bod pawb yn cael mwynhad oes o chwaraeon.
Gallai amcanestyniadau o erydu arfordirol cynyddol a chynnydd yn lefel y môr fod yn fygythiad yn y dyfodol i weithrediadau Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru ym Mhlas Menai ar lan Culfor Menai, a gallai llifogydd amlach effeithio ar safle Plas Menai a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd, fel safle isel arall ger yr Afon Taf. Hefyd mae Culfor Menai wedi’i ddynodi yn Ardal Cadwraeth Arbennig Forol.
Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio gydag ystod o wahanol bartneriaid i wireddu’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru, gan ddarparu cyllid drwy ein modelau buddsoddi. Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y partneriaid hyn, yn enwedig y rhai sydd â chyfleusterau yn agos at afonydd neu arfordiroedd. Mae’n bosibl y bydd angen i rywfaint o’n cyllid fod yn adweithiol ei natur gan fod angen cynyddol am ymyriadau brys.
Ymhellach i ffwrdd, gallai ein sefydliad gael ei effeithio gan darfu byd-eang ar y gadwyn gyflenwi yn sgil digwyddiadau tywydd garw cynyddol, a gallai methiant cnydau dramor arwain at brinder cyflenwad bwyd.
Mae Cytundeb Paris yn gytundeb rhyngwladol cyfreithiol ar newid hinsawdd. Fe’i mabwysiadwyd gan 196 o Bleidiau yn COP 21 ym Mharis, ar 12 Rhagfyr 2015 a daeth i rym ar 4 Tachwedd 2016.
Ei nod yw cyfyngu ar gynhesu byd-eang i ymhell o dan 2, i 1.5 gradd Celsiws os yn bosib, o gymharu â lefelau cyn-ddiwydiannol.
Er mwyn cyrraedd y nod tymheredd hirdymor hwn, mae’r gwledydd yn anelu at gyrraedd uchafbwynt byd-eang o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr cyn gynted â phosibl er mwyn cyflawni byd niwtral o ran hinsawdd erbyn canol y ganrif.
Canolbwyntiodd Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 y Cenhedloedd Unedig ym Montreal ar gadwraeth ac ymdrechion i warchod bioamrywiaeth. Y canlyniad oedd ymrwymiad byd-eang i warchod traean o'r blaned ar gyfer byd natur erbyn 2030 yn ogystal â lleihau gwastraff bwyd 50%.
Yn 2019, diwygiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 i ymrwymo’r DU i gyflawni sero net erbyn 2050, gan wella ar y targed blaenorol o ostyngiad o 80% erbyn yr amser hwn. Mae cyllidebau carbon pum mlynedd wedi'u hymgorffori yn y gyfraith ac maent yn rhwymol yn gyfreithiol eu natur. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, corff annibynnol, yn adrodd ar gynnydd i’r Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu fframwaith deddfwriaethol a pholisi sy’n galluogi ac yn ysgogi camau gweithredu yngylch y newid yn yr hinsawdd, gan ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif.
Sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 saith nod llesiant yn gyfraith ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflawni datblygu cynaliadwy (a ddiffinnir fel y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru). Mae’r nodau Llesiant yn cynnwys gofyniad i weithio tuag at y canlynol:
Yn bwysig, mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus fabwysiadu pum ffordd o weithio ac mae pob un ohonynt yn berthnasol i gynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi proses statudol fodern ar waith i gynllunio a rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gydgysylltiedig a chynaliadwy. Mae’n darparu fframwaith i sicrhau bod rheoli ein hadnoddau naturiol yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau ac yn ddyletswydd bioamrywiaeth newydd.
Ym mis Ebrill 2019, y Senedd oedd y Senedd gyntaf i ddatgan Argyfwng Hinsawdd. Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Natur hefyd.
Cyflwynodd Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021 gyllidebau carbon fel gostyngiadau wedi’u targedu yn erbyn y llinell sylfaen, gan weithio tuag at Gymru sero net erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu uchelgais ymhellach i sector cyhoeddus Cymru fod yn sero net erbyn 2030. Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn anelu at y dyddiad cynharach hwn, ac rydym wedi bod yn gweithio drwy ein hymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae trosolwg strategol ar gyfer sector cyhoeddus Cymru wedi’i ddarparu hefyd drwy fap llwybr Statws Carbon Sero Net erbyn 2030 ar gyfer datgarboneiddio, sy’n tynnu sylw at y meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a’r cerrig milltir sydd eu hangen er mwyn i sector cyhoeddus Cymru gyrraedd sero net erbyn 2030 gyda’i gilydd. Rydym wedi defnyddio’r fframwaith hwn i’n cefnogi i ddatblygu’r Cynllun hwn, gan nodi siwrnai tri cham tuag at sero net.
Mae ein llythyr cylch gwaith ar gyfer y tymor llywodraethu hwn hefyd yn rhoi pwyslais ar ddatgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol fel nod a rennir ac yn ailadrodd y gefnogaeth a ddisgwylir ar gyfer uchelgais sero net (sector cyhoeddus) erbyn 2030 Llywodraeth Cymru.
Mae Chwaraeon Cymru yn berchen ar Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru Plas Menai yng Ngwynedd a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Mae'r ddau awdurdod lleol wedi datgan argyfyngau hinsawdd a natur ac wedi cynhyrchu strategaethau a chynlluniau gweithredu mewn ymateb i hynny. Mae hyn yn rhoi cyfle i Chwaraeon Cymru weithio tuag at yr uchelgeisiau lleol ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol a chydweithio i gyflawni hyn.
Mae ein Polisi Amgylcheddol wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn, gan nodi ein hymrwymiad i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd drwy ailgylchu, lleihau ynni ac ystyried effeithiau amgylcheddol penderfyniadau prynu.
Mae prosiectau penodol a gynhaliwyd i leihau allyriadau carbon o weithrediadau ac i warchod neu wella bioamrywiaeth yn cynnwys y canlynol:
Mae newidiadau eraill ers 2019-20 yn cynnwys gwelliannau i’n defnydd o ynni a ysgogir gan waith ynni gwyrdd ym Mhlas Menai.
* Yn unol â’r gofynion Adrodd Carbon, nid yw hyn yn cynnwys gwariant sy'n ymwneud â buddsoddiadau mewn partneriaid.
Cymru Gydnerth
Bwriedir i'n dull o ddatblygu ein Cynllun fod yn ailadroddus ac yn adlewyrchol, yn unol â'n gwerthoedd ac yn adlewyrchu cyflymder newid ac arloesi. Byddwn yn edrych eto ar y Cynllun bob dwy flynedd i sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol, gan gydnabod cyflymder y newid yn y maes hwn.
Wrth ddatblygu'r Cynllun hwn, rydym wedi gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon i ddeall ein llinell sylfaen er mwyn canolbwyntio ein hymdrechion.
Rydym wedi cynnwys a chydweithio â staff, cynrychiolwyr partneriaid a’r Bwrdd i ddatblygu ein Cynllun a’n hymrwymiadau i gyrraedd sero net erbyn 2030.
Y camau nesaf yw cyflawni ein hymrwymiadau a monitro cynnydd drwy ein hadroddiadau carbon blynyddol i Lywodraeth Cymru.
Ein huchelgeisiau yw
Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030
Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030
Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030
Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030
Ein hymrwymiadau sero net ar gyfer 2030
Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl, bydd angen i ni weithio gydag ystod eang o randdeiliaid.
Rydym wedi ymrwymo i’r ffyrdd canlynol o weithio gyda phob un o’n rhanddeiliaid: -
Fel y cyfeiriwyd ato yn Llythyr Cylch Gwaith Llywodraeth Cymru, a’n Cynllun Busnes, mae cynaliadwyedd amgylcheddol a datgarboneiddio yn faes ffocws hynod bwysig. O’r herwydd, Cadeirydd Chwaraeon Cymru fydd yn gyfrifol yn y pen draw am ddull y sefydliad o weithredu gyda chynaliadwyedd a datgarboneiddio.
Bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am roi swyddogaethau a chyfrifoldebau addas ar waith i sicrhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn cael ei reoli a’i ystyried ym mhob rhan o’r sefydliad. Bydd adroddiadau blynyddol i Lywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio i fonitro cynnydd.
Bydd gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes gyfrifoldeb gweithredol am adrodd ar allyriadau carbon i Lywodraeth Cymru. Bydd y Grŵp Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn rhan o’r rôl hon a bydd yn datblygu ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni camau gweithredu i leihau allyriadau carbon.
Bydd Cadeirydd y Gweithgor Cynaliadwyedd (is-grŵp o Fforwm Prif Weithredwyr Cyrff Rheoli Cenedlaethol) yn gyswllt pwysig rhwng y partneriaid a Chwaraeon Cymru. Bydd y rôl hon yn cyfleu syniadau a cheisiadau am gefnogaeth gan y CRhC i ni drwy’r Prif Weithredwr a bydd yn adrodd yn ôl ar gynnydd a gweithdrefnau newydd gyda’r nod o helpu i leihau allyriadau ar draws Chwaraeon Cymru a’n sefydliadau partner.
Bydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Cyfleusterau Chwaraeon Cenedlaethol, Seilwaith a Chyfalaf, y Rheolwyr Stadau a’r timau cynnal a chadw yn sefydlu ffyrdd addas o weithio i sicrhau bod allyriadau carbon yn cael eu hystyried fel dull cylch bywyd ym mhob agwedd ar eu gwaith yn y Canolfannau Cenedlaethol.
Rheolwyr Perthnasoedd i weithredu fel cyfryngwyr rhwng Chwaraeon Cymru a phartneriaid cenedlaethol (Cyrff Rheoli Cenedlaethol, partneriaid cenedlaethol a phartneriaethau chwaraeon) i ddeall ac ymateb i anghenion y sector.
Bydd yr holl staff yn deall uchelgais Chwaraeon Cymru i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2030 a byddant yn deall sut gallant gyflawni eu rôl gan roi ystyriaeth ddyledus i’w heffeithiau amgylcheddol.
Byddwn yn paratoi Adroddiad Carbon blynyddol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cael ei adrodd i'r Bwrdd er mwyn olrhain ein perfformiad yn erbyn uchelgais sero net ar gyfer 2030.