Skip to main content

Grantiau a Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, a’r prif gynghorydd i Lywodraeth Cymru ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Mae’n dosbarthu cyllid Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol er mwyn galluogi i chwaraeon yng Nghymru ffynnu. 

Ar lefel gyfranogi, mae Chwaraeon Cymru yn buddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad drwy gynlluniau i ddiwallu anghenion clybiau a sefydliadau lleol eraill sy’n darparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Mae hefyd yn darparu i’r athletwyr mwyaf addawol y cymorth sydd arnynt ei angen i gystadlu ar lwyfan y byd ac i wireddu eu potensial.

Mae Chwaraeon Cymru yn buddsoddi mewn amrywiaeth o bartneriaid i ddarparu gweithgareddau ar lefel gymunedol a lefel perfformiad uchel.

Felly, mae gan gyllid Chwaraeon Cymru y potensial i gael effaith arwyddocaol ar bobl ar hyd a lled Cymru.

Yr Iaith Gymraeg 

Fel corff yn y sector cyhoeddus, mae gan Chwaraeon Cymru ddyletswydd i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae 156 o Safonau yn nogfen Cynllun Iaith Gymraeg Chwaraeon Cymru, wedi’u rhannu ar draws darparu gwasanaethau, llunio polisïau, gweithrediadau, a chadw cofnodion.

Mae Chwaraeon Cymru yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl fuddsoddiadau a phenderfyniadau’n cael yr effaith fwyaf bosib ar allu Cymru fel cenedl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a llwyddo ar lefel elitaidd, a hynny yn yr iaith o’u dewis.

Wrth ddarllen y polisi hwn, dylid cyfeirio at Safon 90 yng Nghynllun Iaith Gymraeg Chwaraeon Cymru.

Polisi Chwaraeon Cymru 

Bydd yr holl grantiau a buddsoddiadau mawr a wneir gan Chwaraeon Cymru:

Yn cael eu hyrwyddo’n ddwyieithog;

Yn rhoi’r dewis i’r ymgeisydd ddilyn y broses ymgeisio lawn drwy gyfrwng y Gymraeg;

Yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar y defnydd o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon;

Yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg; ac

Ni fyddant yn cael UNRHYW EFFAITH NEGYDDOL ar y defnydd o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon.

Sut bydd hyn yn gweithio’n ymarferol?

1. Cael eu hyrwyddo’n ddwyieithog.

Wrth hyrwyddo grant, RHAID cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg Chwaraeon Cymru. Gall yr enghreifftiau gynnwys deunyddiau marchnata, cyfryngau cymdeithasol neu ddigwyddiadau cyhoeddus.

2. Rhoi’r dewis i’r ymgeisydd ddilyn y broses ymgeisio lawn drwy gyfrwng y Gymraeg.

RHAID i unrhyw broses neu system ymgeisio gydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg Chwaraeon Cymru. Rhaid i unrhyw system ar-lein neu bapur fod yn ddwyieithog, a bydd ymgeiswyr yn gallu siarad yn Gymraeg â rhywun i gael arweiniad a chymorth.

3. Ceisio cael effaith gadarnhaol ar y defnydd o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon.

Bydd gwybodaeth am ddatblygu’r Gymraeg ac am effaith y grant yn cael ei chynnwys fel mater o drefn wrth ddyfarnu holl grantiau Chwaraeon Cymru.

Bydd data’n cael eu casglu am ddarpariaeth a chyfranogiad Cymraeg drwy’r broses ymgeisio. Gall Chwaraeon Cymru a’r sector ddefnyddio’r data hyn yn rhagweithiol i gynllunio defnydd pellach o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon. 

Bydd gan bob cynllun grant broses fonitro i sicrhau cydymffurfio ag amodau’r grant. Bydd y lefel o fonitro’n dibynnu ar y grant sy’n cael ei roi.

Bydd gan bob grant elfen gydymffurfio fel mater o drefn. Er enghraifft, yn dibynnu ar lefel y grant, gallai diffyg cydymffurfio ag amodau’r grant arwain at beidio â dyfarnu grant yn y dyfodol, neu at hawlio’r arian yn ôl.

4. Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Rhaid i’r broses ymgeisio lawn gydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg Chwaraeon Cymru.

5. Peidio â chael unrhyw effaith negyddol ar y defnydd o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon.

Ni fydd grant yn cael ei gymeradwyo os oes ganddo’r potensial i effeithio’n negyddol ar y defnydd o’r Gymraeg. Er enghraifft, pe bai gan glwb bolisi sy’n gwahardd cynnig unrhyw gyfleodd drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Y Polisi Ar Waith

Bydd yn ofynnol i bob agwedd ar y busnes sy’n delio â grantiau ddilyn egwyddorion y polisi grantiau.

Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am ragor o wybodaeth neu gyfarwyddyd at Ian Blackburn, yr Arweinydd Cydymffurfiaeth Reoleiddiol, neu at Brian Davies, Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon.