Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar barth www.sport.wales.
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Gyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru). Rydym wedi ei chynllunio i gael ei defnyddio gan gymaint o bobl ag y bo modd. Dylai’r holl destun fod yn glir ac yn hawdd i'w ddeall. Dylech fod yn gallu:
- chwyddo'r testun hyd at 300% heb unrhyw broblemau
- troi at ran fwyaf y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- newid y tudalen i foddau cyferbyniad uchel, graddlwyd a lliw gwrthdro
- defnyddio'r lleolwr dolen i ganfod pob dolen ar dudalen
Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio.
Cynorthwyo hygyrchedd
Er mwyn sicrhau hygyrchedd y wefan hon, rydym wedi:
- cynnwys hygyrchedd yn ein proses gaffael
- rhoi hyfforddiant hygyrchedd i'n staff
- cynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynnwys
- archwiliadau hygyrchedd allanol blynyddol
Rydym hefyd yn ceisio sicrhau bod:
- yr holl ddelweddau yn cynnwys testun amgen priodol
- modd cyrraedd elfennau rhyngweithiol mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys trwy we-lywio iddynt trwy’r bysellfwrdd
- elfennau rhyngweithiol yn cynnwys newidiadau arddull pan fyddwch yn hofran drostynt neu gyda bysellfwrdd
- yr holl gyfuniadau lliw yn cynnwys digon o gyferbyniad rhyngddynt
- ein cynnwys yn glir, yn gryno, yn rhydd rhag jargon ac mewn iaith glir
- pob tudalen yn defnyddio penawdau mewn ffordd resymegol
- pob ‘galwad i weithredu’ yn hawdd dod o hyd iddynt
- symbolau (megis ‘>’) yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun a’u bod yn gwneud synnwyr
- modd defnyddio bysellfwrdd i we-lywio at bob ffurflen, eu bod yn cynnwys botymau cyflwyno a bod ganddynt ymatebion rhag ofn y bydd llwyddiant neu fethiant
Statws cydymffurfio
Bydd trydydd parti annibynnol yn cynnal archwiliad hygyrchedd o'r wefan yma rhwng mis Ebrill a mis Mai 2026. Bydd y Datganiad Hygyrchedd yn cael ei ddiweddaru yn dilyn yr archwiliad yma.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Bydd trydydd parti annibynnol yn cynnal archwiliad hygyrchedd o'r wefan yma rhwng mis Ebrill a mis Mai 2026. Bydd y Datganiad Hygyrchedd yn cael ei ddiweddaru yn dilyn yr archwiliad yma.
Gwefannau a chynhyrchion trydydd parti
Mae rhai rhannau o’n gwefan yn defnyddio meddalwedd trydydd parti. Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti allanol hefyd. Rheolaeth gyfyngedig sydd gennym dros y cynnwys a gyhoeddir ar wefannau trydydd parti, neu eu cynhyrchion. Rydym yn gwneud gwelliannau i is-barthau a gwefannau trydydd parti gymaint ag y bo modd.
Adborth
Rydym yn croesawu eich adborth am hygyrchedd y wefan hon. Rhowch wybod i ni os:
- ydych chi’n darganfod unrhyw broblemau hygyrchedd nad ydynt wedi cael eu nodi yn y datganiad hwn
- bydd angen unrhyw gynnwys arnoch mewn gwahanol ffurf
Gallwch gysylltu â ni trwy:
- anfon e-bost at communications@sport.wales
- ffonio 02920 338359
- yn y post, i Gyfathrebu a Digidol, Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW
Rydym yn ceisio ymateb i adborth cyn pen 5 diwrnod busnes. Rydym yn croesawu cyswllt yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd dewis y Gymraeg yn achosi unrhyw oedi.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd y byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb (EASS).