Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r wefan hon.
Mae'r telerau hyn yn egluro'r rheolau ar gyfer defnyddio ein gwefan ni www.sport.wales (ein safle).
Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni
Mae www.sport.wales yn cael ei weithredu gan Gyngor Chwaraeon Cymru (yn masnachu fel Chwaraeon Cymru).
Ein swyddfa gofrestredig yw: Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW
Gallwch gysylltu â ni drwy: E-bost: communications@sport.wales
Rhif Ffôn: 0300 3003123
Drwy ddefnyddio ein gwefan rydych chi'n derbyn y telerau hyn
Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi'n cadarnhau eich bod chi'n derbyn y telerau defnyddio hyn ac yn cytuno i gydymffurfio â hwy.
Os nad ydych chi'n cytuno â'r telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.
Rydym yn argymell eich bod chi'n argraffu neu'n cadw copi o'r telerau hyn i gyfeirio atynt yn y dyfodol.
Telerau eraill a all fod yn berthnasol
Mae'r telerau hyn yn cyfeirio at bolisïau ychwanegol sydd hefyd yn berthnasol i'ch defnydd o'n gwefan:
- Ein Polisi Preifatrwydd, sy'n esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
- Ein Polisi Cwcis, sy'n esbonio sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg yn unol â'r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig.
- Ein Polisi Defnydd Derbyniol, sy'n nodi’r defnydd sy’n cael ei ganiatáu ac sydd wedi’i wahardd o'n gwefan.
Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i'r telerau hyn
Efallai y byddwn yn diweddaru'r telerau hyn o dro i dro. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy'n berthnasol wrth ddefnyddio ein gwefan.
Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i'n gwefan
Efallai y byddwn yn diweddaru a newid ein gwefan o dro i dro i adlewyrchu newidiadau i'n gwasanaethau, anghenion defnyddwyr, neu ofynion cyfreithiol.
Efallai y byddwn yn atal ein gwefan dros dro neu’n tynnu’r defnydd ohoni yn ôl
Mae ein gwefan ni ar gael am ddim.
Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys arni, ar gael bob amser neu heb darfu. Efallai y byddwn yn atal ein gwefan dros dro neu'n tynnu'r defnydd o’r wefan gyfan neu ran ohoni yn ôl am resymau gweithredol, cynnal a chadw neu ddiogelwch.
Rhaid i chi gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel
Os rhoddir manylion mewngofnodi neu god adnabod defnyddiwr i chi, rhaid i chi drin y wybodaeth hon yn gyfrinachol.
Efallai y byddwn yn analluogi unrhyw gyfrif neu gymwysterau mewngofnodi os byddwn yn credu eich bod wedi methu â chydymffurfio â'r telerau hyn.
Sut gallwch chi ddefnyddio’r deunydd ar ein gwefan
Ni yw perchennog neu drwyddedai'r holl hawliau eiddo deallusol ar ein gwefan a'i chynnwys.
Gallwch argraffu neu lawrlwytho dyfyniadau at ddefnydd personol neu ddefnydd mewnol y sefydliad.
Ni ddylech wneud y canlynol:
- addasu copïau o ddeunyddiau
- defnyddio graffeg ar wahân i'r testun sy’n cyd-fynd
- dileu hysbysiadau hawlfraint
- defnyddio cynnwys at ddibenion masnachol heb ganiatâd
Os ydych chi eisiau ailddefnyddio cynnwys, cysylltwch â ni.
Peidiwch â dibynnu ar wybodaeth ar y wefan hon
Darperir y cynnwys ar ein gwefan ni at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig.
Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth, nid ydym yn gwarantu bod y cynnwys yn fanwl gywir, yn gyflawn, nac yn gyfredol.
Nid ydym yn gyfrifol am wefannau yr ydym wedi cynnwys dolenni iddynt
Lle mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau neu adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y rhain at ddibenion gwybodaeth yn unig.
Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau hynny.
Cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr
Os yw ein gwefan yn caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho neu gyflwyno cynnwys, rhaid i'r cynnwys hwnnw gydymffurfio â'n Polisi Defnydd Derbyniol.
Efallai y byddwn yn dileu neu'n analluogi mynediad i unrhyw gynnwys sy'n mynd yn groes i’n polisïau neu gyfreithiau perthnasol, gan gynnwys gofynion o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.
Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod
Nid oes dim yn y telerau hyn yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd lle byddai'n anghyfreithlon gwneud hynny.
I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn eithrio pob amod, gwarant neu gynrychiolaeth ymhlyg.
Nid ydym yn atebol am y canlynol:
- colli elw
- colli busnes
- ymyrraeth â busnes
- colli data
- colled anuniongyrchol neu ganlyniadol
sy'n codi o ddefnyddio ein gwefan.
Uwchlwytho feirysau neu ddeunydd maleisus
Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan drwy gyflwyno'r canlynol yn fwriadol:
- feirysau
- trojans
- mwydod
- bomiau rhesymeg
- technoleg faleisus neu niweidiol arall
Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i’r canlynol:
- ein gwefan
- ein gweinyddion
- unrhyw gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'n gwefan.
Gall y gweithredoedd hyn fod yn droseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
Mynediad a chrafu awtomatig
Ni ddylech sicrhau mynediad i'n gwefan gan ddefnyddio adnoddau awtomatig (gan gynnwys botiau, crafwyr neu gropwyr) at ddiben echdynnu data heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
Cysylltu â'n gwefan
Gallwch gysylltu â'n hafan ar yr amod:
- bod y ddolen yn deg ac yn gyfreithlon
- nad yw'n niweidio ein henw da
- nad yw'n awgrymu cymeradwyaeth ffug gennym ni
Rydym yn cadw'r hawl i dynnu caniatâd creu dolen yn ôl heb rybudd.
Cyfraith lywodraethu
Mae'r telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Bydd unrhyw anghydfodau sy'n ymwneud â'r telerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.