Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (sy’n masnachu fel Chwaraeon Cymru) wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau ar gyfer defnyddio’r wefan ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt yn y telerau hynny) yn nodi ein sail ar gyfer casglu, defnyddio a diogelu eich data personol. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein harferion mewn perthynas â’ch data personol a chael gwybod sut byddwn yn prosesu’r data.
Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau (gan gynnwys ymweld â’r wefan hon) rydych yn cydnabod y wybodaeth sydd yn y polisi hwn. Darperir y polisi hwn er tryloywder, ac nid yw’n dibynnu ar eich caniatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu oni bai y nodir hynny'n benodol. At ddibenion Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018, rheolydd y data yw CYNGOR CHWARAEON CYMRU, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Rhif cofrestru: Z5769715
Bydd Chwaraeon Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar sut byddwn yn gweithio gyda chi. Gallwch gael gwybod mwy ynghylch sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ym mhob sefyllfa drwy ddilyn y dolenni isod.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r canlynol:
Yn yr adrannau isod, wrth gyfeirio at yr unigolion a restrir uchod, rydym yn defnyddio’r termau “chi” neu “eich”.
Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri, ac eisiau i chi deimlo'n hyderus bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn ein dwylo ni.
Dim ond yn unol â chyfraith diogelu data sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr o bryd i'w gilydd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Mae Chwaraeon Cymru yn gweithredu fel y rheolydd data mewn perthynas â'r data personol a ddisgrifir yn y polisi hwn. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut rydym am ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol a pham.
Isod, rydym yn crynhoi'r prif reolau sy'n berthnasol i ni o dan gyfraith diogelu data pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:
Bydd unrhyw bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol neu sylwadau a anfonir atom (ar dudalen Facebook Chwaraeon Cymru, er enghraifft) yn cael eu rhannu o dan delerau’r platfform perthnasol (e.e. Facebook, Twitter, Instagram) y maent wedi'u hysgrifennu arno, a gellid eu gwneud yn gyhoeddus. Pobl eraill, nid ni, sy'n rheoli'r platfformau hyn. Nid ydym yn gyfrifol am y math hwn o rannu.
Cyn i chi wneud unrhyw sylwadau neu fynegi barn ar unrhyw beth, dylech edrych yn ofalus ar delerau ac amodau polisïau preifatrwydd platfformau’r cyfryngau cymdeithasol rydych chi'n eu defnyddio Byddwch wedyn yn deall sut y byddant yn defnyddio'ch gwybodaeth, pa wybodaeth sy'n ymwneud â chi y byddant yn ei rhoi yn y parth cyhoeddus, a sut gallwch chi eu hatal rhag gwneud hynny os nad ydych chi’n hapus am y peth.
Efallai y byddwn yn casglu, yn defnyddio, yn storio ac yn trosglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi, yn dibynnu ar sut rydych chi'n rhyngweithio â'n gwefan a'n gwasanaethau ac yn eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys:
Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data gennych chi ac amdanoch chi, gan gynnwys:
Mewn rhai achosion, mae'n ofynnol i chi ddarparu data personol er mwyn i ni ddarparu ein gwasanaethau neu gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol.
Os na fyddwch yn darparu'r data personol yr ydym yn gofyn amdanynt, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau, prosesu eich ceisiadau, neu ymrwymo i gontract neu gyflawni contract gyda chi.
Os yw darparu data personol yn ddewisol, byddwn yn egluro hynny pan fyddwn yn eu casglu.
Rydym yn sylweddoli y gall plant gael mynediad at ein gwefan a'i defnyddio.
Nid ydym yn fwriadol yn casglu data personol gan blant at ddibenion heblaw'r rhai a nodir yn y polisi hwn, fel galluogi'r wefan i weithio'n iawn a deall sut mae'n cael ei defnyddio (er enghraifft, drwy wasanaethau dadansoddi a chwcis).
Os yw ein gwefan yn defnyddio cwcis neu dechnolegau tebyg sy'n gofyn am ganiatâd, daw’r caniatâd hwn gan ddefnyddiwr y ddyfais. Rydym yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth am ein defnydd o gwcis a data personol yn cael ei chyflwyno mewn ffordd glir a hygyrch fel y gall pob defnyddiwr, gan gynnwys plant, ei deall.
Nid ydym yn gyffredinol yn gofyn am ganiatâd rhieni ar gyfer defnyddio cwcis neu dechnolegau tebyg ar ein gwefan. Fodd bynnag, os byddwn yn prosesu data personol plant mewn cyd-destunau eraill (er enghraifft, cyfranogiad mewn rhaglenni neu weithgareddau), byddwn yn cymryd camau priodol i sicrhau bod prosesu o'r fath yn deg ac yn gyfreithlon, a gall hynny gynnwys gofyn am ganiatâd gan riant neu warcheidwad lle bo angen.
Rydym yn ystyried canllawiau rheoleiddio ar ddata plant ac yn cynllunio ein gweithgareddau cyfathrebu a phrosesu i fod yn deg, yn glir ac yn briodol i ddefnyddwyr ifanc.
Byddwn yn cadw golwg ar y ffordd rydym yn ymdrin â data plant ac yn cymryd camau i sicrhau bod eu data personol yn cael eu diogelu'n briodol.
O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data personol. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, rydym yn ddibynnol ar un neu fwy o'r canlynol:
Caniatâd – os ydych chi wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich data personol. Os ydym yn dibynnu ar ganiatâd, mae croeso i chi dynnu’r caniatâd hwnnw’n ôl unrhyw bryd. Lle bo modd, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio'r un dull â’r un a ddefnyddiwyd i roi caniatâd. Ni fydd gwrthod caniatâd neu dynnu caniatâd yn ôl yn arwain at unrhyw anfantais i chi oni bai fod y prosesu yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth rydych chi wedi gofyn amdano. Gellir darparu rhagor o wybodaeth am y seiliau cyfreithlon hyn ar gais.
Byddwn yn defnyddio eich data personol at y dibenion isod:
| Diben | Data personol a ddefnyddir | Sail gyfreithlon |
|---|---|---|
| Gweithredu a gweinyddu ein gwefan, gan gynnwys gwella ymarferoldeb y wefan a phrofiad y defnyddiwr | Data technegol a defnydd | Tasg gyhoeddus; Buddiannau dilys wrth weithredu, cynnal a gwella'r wefan. Am fanylion ynghylch y wybodaeth a gasglwn drwy gwcis, darllenwch ein Polisi Cwcis. |
| Darparu nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys pryniannau drwy ein gwefan) | Data adnabod, cyswllt, ariannol a thrafodion | Cyflawni contract; rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyfer cofnodion ariannol/treth; buddiannau dilys ar gyfer gweinyddu, cadw cofnodion a gorfodi telerau |
| Rheoli archebion, arosiadau, cyrsiau a gweithgareddau a mynediad at gyfleusterau | Data adnabod, cyswllt, cyfranogiad a data cerbydau (lle bo angen) | Cyflawni contract |
| Rheoli aelodaeth a defnyddio ein cyfleusterau | Data adnabod, cyswllt, aelodaeth a thalu | Cyflawni contract; buddiannau dilys ar gyfer gwella a gweinyddu gwasanaethau |
| Sicrhau iechyd a diogelwch yn ein cyfleusterau a'n gweithgareddau | Data adnabod, cyswllt ac iechyd | Buddiannau hanfodol lle bo angen i ddiogelu iechyd/diogelwch rhywun;
|
| Cyfathrebu ag unigolion yn y sector chwaraeon (clybiau, cymdeithasau a sefydliadau) | Data adnabod, cyswllt a data ymgysylltu â’r sector chwaraeon | Tasg gyhoeddus / arfer awdurdod swyddogol;
|
| Cefnogi a hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon (gan gynnwys defnyddio delweddau) | Data adnabod, cyswllt, cynnwys a chyhoeddusrwydd | Tasg gyhoeddus / arfer awdurdod swyddogol. Lle rydym yn bwriadu casglu a defnyddio lluniau neu fideos ohonoch at y diben hwn, neu brosesu data categori arbennig fel arall, byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol i wneud hynny. |
| Gweinyddu grantiau a rhaglenni ariannu | Data adnabod a chyswllt, grantiau a chyllid a gwybodaeth am gydraddoldeb | Tasg gyhoeddus / arfer awdurdod swyddogol;
Lle mae angen prosesu data categori arbennig mewn cysylltiad â'r diben hwn, er enghraifft ar gyfer monitro cydraddoldeb a data, efallai y byddwn yn dibynnu ar fuddiant cyhoeddus sylweddol. Dro arall, byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol. |
| Anfon cylchlythyrau a chyfathrebu sy’n ymwneud â marchnata | Data adnabod, cyswllt a marchnata a dewisiadau cyfathrebu | Caniatâd (ar gyfer tanysgrifio i gylchlythyrau);
|
| Ymdrin ag ymholiadau, cwynion a gohebiaeth | Data adnabod, cyswllt a chyfathrebu | Buddiannau cyfreithlon mewn perthynas ag ymdrin â chwynion a datrys anghydfodau;
sefydlu/arfer/amddiffyn hawliadau dilys |
| Cynnal arolygon a gwella ein gwasanaethau | Data technegol a defnydd, data cyfathrebu a data cryno a dienw | Buddiannau cyfreithlon i werthuso a gwella gwasanaethau;
|
| Prosesau recriwtio a chyflogi | Data adnabod, cyswllt, recriwtio a chyflogaeth a (lle bo'n briodol) data troseddau | Cymryd camau cyn ymrwymo i gontract;
Lle cesglir data troseddau at y diben hwn, caiff eu prosesu yn unol ag Erthygl 10 GDPR y DU gan ddibynnu ar yr awdurdod cyflogaeth, cymdeithasol, diogelwch a diogelu cymdeithasol a ddarperir gan Atodlen 1 o Ddeddf Diogelu Data 2018. |
| Cefnogi athletwyr drwy Athrofa Chwaraeon Cymru (gan gynnwys perfformiad a chymorth meddygol) | Data adnabod, data cefnogi athletwyr a data iechyd | Byddwn yn gofyn am eich caniatâd, a lle cesglir data categori arbennig mewn cysylltiad â'r diben hwn, bydd caniatâd o'r fath yn benodol. Efallai y byddwn hefyd yn dibynnu ar dasg gyhoeddus wrth brosesu data nad yw'n ddata categori arbennig mewn perthynas â rhai trefniadau gwasanaeth. |
| Diogelwch, atal twyll a chydymffurfiaeth gyfreithiol (gan gynnwys CCTV) | Data adnabod, trafodion, CCTV a data sy'n gysylltiedig â digwyddiadau | Tasg gyhoeddus; buddiant cyhoeddus sylweddol mewn atal/canfod gweithredoedd anghyfreithlon;
|
Nid ydym yn gwneud penderfyniadau awtomatig unigol sy'n arwain at effeithiau cyfreithiol neu effeithiau arwyddocaol tebyg ar unigolion.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn defnyddio cwcis, darllenwch ein Polisi Cwcis.
Data personol categori arbennig
Mae rhai data personol a gasglwn yn cael eu trin fel data categori arbennig. Mae gwarchodaeth ychwanegol yn berthnasol i’r rhain o dan gyfraith diogelu data. Mae'r math o ddata personol categori arbennig y gallwn ei brosesu o bryd i'w gilydd yn cynnwys:
Os ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu data personol categori arbennig, byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys achosion lle rydych yn cytuno i gymryd rhan yn ein cynnwys hyrwyddo a rhannu gwybodaeth sensitif amdanoch eich hun wrth wneud hynny.
Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn dibynnu ar sail gyfreithiol wahanol i brosesu eich data personol categori arbennig. Gall y seiliau cyfreithiol hyn gynnwys:
Ym mhob achos, byddwn yn sicrhau bod gennym sail gyfreithiol briodol ar gyfer prosesu eich data personol yn unol â chyfraith diogelu data.
Byddwn yn rhannu data personol gyda thrydydd partïon lle mae hyn yn angenrheidiol at y dibenion a nodir yn yr adran uchod ‘Sut byddwn yn defnyddio eich data personol?’.
Darparwyr gwasanaethau
Byddwn yn rhannu data personol gyda darparwyr gwasanaethau trydydd parti sy’n ein helpu i ddarparu ein gwasanaethau a chyflawni ein contractau gyda chi. Gallai hyn gynnwys:
Darparwyr systemau a TG
Rydym yn defnyddio darparwyr trydydd parti i gefnogi ein systemau a'n seilwaith TG. Mae’r rhain yn cynnwys:
Darparwyr gwasanaethau diogelwch seibr
Efallai y byddwn yn rhannu data personol gyda darparwyr gwasanaethau trydydd parti sy'n darparu gwasanaethau seiberddiogelwch i helpu i ddiogelu ein systemau digidol, ein rhwydwaith a'r data sy’n cael eu cadw.
Gall darparwyr o'r fath brosesu data yn awtomatig, neu gyda chymorth deallusrwydd artiffisial, yn unol â'u polisïau eu hunain.
Darparwyr gwasanaethau marchnata a chyfathrebu
Efallai y byddwn yn rhannu data personol gyda thrydydd partïon sy'n ein cynorthwyo gyda gwaith marchnata a chyfathrebu, gan gynnwys creu a chyflwyno deunyddiau cyfathrebu ar ein rhan.
Cynghorwyr proffesiynol
Efallai y byddwn yn rhannu data personol gyda'n cynghorwyr proffesiynol, gan gynnwys cyfreithwyr, cyfrifwyr ac archwilwyr, lle bo angen ar gyfer darparu cyngor proffesiynol neu mewn cysylltiad â hawliadau cyfreithiol.
Rheoleiddwyr, awdurdodau a gorfodi’r gyfraith
Efallai y byddwn yn rhannu data personol gyda llysoedd, rheoleiddwyr, awdurdodau cyhoeddus a chyrff sy’n gorfodi’r gyfraith:
Datgeliadau eraill
Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data personol lle bo angen er mwyn:
Mesurau diogelu
Mae’n ofynnol gennym fod pob trydydd parti yn parchu diogelwch eich data personol ac yn eu trin yn unol â’r gyfraith. Os bydd trydydd parti yn prosesu data personol ar ein rhan, byddwn yn rhoi contractau a chytundebau prosesu data priodol ar waith i sicrhau bod eich data personol yn cael eu diogelu ac yn cael eu defnyddio at ddibenion penodol yn unig.
Rhagor o wybodaeth
Gall manylion adnabod darparwyr gwasanaeth newid o bryd i'w gilydd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y trydydd partïon y byddwn yn rhannu data â nhw, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion yn y polisi hwn.
Nid ydym yn gwerthu eich data personol
Nid ydym yn gwerthu eich data personol i drydydd partïon.
Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich data personol i wledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Efallai y bydd gan wledydd y tu allan i'r DU wahanol gyfreithiau diogelu data ac nad ydynt o bosibl yn darparu'r un lefel o ddiogelwch ar gyfer data personol.
Os byddwn yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r DU, byddwn yn sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith i ddiogelu eich data personol, yn unol â chyfraith diogelu data. Gallai'r mesurau hyn gynnwys:
Dim ond os yw’n gyfreithlon i ni wneud hynny y byddwn yn trosglwyddo data personol y tu allan i'r DU.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddo eich data personol y tu allan i'r DU, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion yn y polisi hwn.
Byddwn yn cadw eich data personol dim ond am y cyfnod sy’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y casglwyd y data ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddio, cyfrifyddu neu adrodd.
Wrth benderfynu am faint o amser y dylid cadw data personol, byddwn yn ystyried:
Cyfnodau cadw
Byddwn yn cadw data personol am y cyfnodau canlynol:
Pan nad oes angen eich data arnom ddim mwy
Pan nad oes angen data personol arnom ddim mwy, byddwn yn eu dileu'n ddiogel.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn cadw data personol am gyfnodau hirach lle bo angen er mwyn:
Mae gennym fesurau technegol a threfniadol priodol ar waith i ddiogelu eich data personol rhag cael eu colli’n ddamweiniol, eu defnyddio neu eu cyrchu heb awdurdod, eu newid neu eu datgelu.
Rydym yn cyfyngu mynediad at ddata personol i'r gweithwyr cyflogedig, yr asiantau, y contractwyr a’r trydydd partïon eraill hynny sydd ag angen busnes gwirioneddol i gael gwybod. Dim ond ar ein cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.
Mae gennym weithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri amodau sy'n ymwneud â data personol. Lle bo angen, byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys am achos o dorri amodau sy'n ymwneud â data personol yn unol â chyfraith diogelu data.
Rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein mesurau diogelu’n rheolaidd i sicrhau bod eich data personol yn aros yn ddiogel.
Mynediad
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o'r data personol sydd gennym amdanoch chi.
Cywiro
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
Dileu
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
Cyfyngu
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar y defnydd o'ch data personol mewn rhai amgylchiadau.
Cludadwyedd data
Mae gennych yr hawl i dderbyn y data personol rydych chi wedi'u darparu i ni mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir ei ddarllen gan beiriant, ac i’r data hynny gael eu trosglwyddo i sefydliad arall lle bo'n dechnegol ymarferol.
Gwrthwynebiad
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant dilys neu dasg gyhoeddus, ac i wrthwynebu ar unrhyw adeg i'ch data personol gael eu defnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
Tynnu caniatâd yn ôl
Os ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu eich data personol, mae gennych yr hawl i dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg.
Arfer eich hawliau
Os ydych am arfer unrhyw un o'ch hawliau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion yn y polisi hwn.
Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych i'n helpu i gadarnhau pwy ydych chi cyn ymateb i'ch cais.
Byddwn yn ymateb i'ch cais o fewn yr amserlenni sy'n ofynnol o dan gyfraith diogelu data.
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i arfer eich hawliau. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol neu'n gwrthod cydymffurfio â chais os yw'n amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu'n eithafol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi ymweld â gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn: https://ico.org.uk
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch sut rydym yn defnyddio eich data personol, rydym yn eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf gan ddefnyddio'r manylion yn y polisi hwn. Mae gennym broses fewnol ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch sut rydym yn defnyddio data personol, a byddwn yn ymchwilio i'ch pryderon ac yn ymateb o fewn amserlen resymol. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth i’n helpu i ymchwilio i'ch cwyn, a byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad.
Mae gennych hefyd yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef rheoleiddiwr y DU ar gyfer materion sy’n ymwneud â diogelu data.
Defnyddiwch y manylion isod i gysylltu â’r ICO:
Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddelio â'ch pryderon cyn i chi gysylltu â'r ICO.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn neu sut rydym yn defnyddio eich data personol, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod:
E-bost: DPO@sport.wales
Cyfeiriad: National Centre, Sophia Gardens, Cardiff, CF11 9SW
Ffôn: +44 (0)29 2033 8259
Swyddog Diogelu Data
Rydym wedi penodi Swyddog Diogelu Data, sy'n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau sy’n ymwneud â'r polisi preifatrwydd hwn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y polisi hwn neu sut rydym yn ymdrin â’ch data personol, gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Efallai y byddwn yn diweddaru'r polisi preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd. Pan fyddwn yn gwneud newidiadau sylweddol, byddwn yn cymryd camau priodol i'ch hysbysu, er enghraifft drwy gyhoeddi'r polisi cyfredol ar ein gwefan.
Rydym yn argymell eich bod yn taro golwg ar y dudalen hon o bryd i'w gilydd i gael gwybod sut rydym yn defnyddio eich data personol.
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti. Nid ydym yn gyfrifol am eu harferion preifatrwydd hwy. Edrychwch ar eu polisïau preifatrwydd cyn rhannu unrhyw ddata personol.
Os hoffech gael y polisi hwn mewn fformat arall, cysylltwch â ni (gweler 'Sut i gysylltu â ni' uchod).