- Mae’r cynnig (“Cynnig”) o gyllid grant (“Cyllid Grant”) a wnaed i chi (“Derbynnydd”) yn llythyr cynnig CChC (“y Llythyr Cynnig”) yn amodol ar y Telerau a’r Amodau hyn a bydd yn ddilys i’w dderbyn gan y Derbynnydd am gyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y Cynnig, oni bai fod CChC wedi rhoi estyniad ar yr amser yn ysgrifenedig. Bydd amser yn allweddol yn y cyswllt hwn. Daw’r Cynnig i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac, os bydd angen cyllid o hyd gan CChC, bydd rhaid i’r Derbynnydd wneud cais o’r newydd.
- Mae’n rhaid i’r Derbynnydd ddynodi ei fod yn derbyn y Cynnig drwy lofnodi a dyddio’r ffurflen dderbyn a geir ar wrthddalen y Llythyr Cynnig a thrwy ddychwelyd yr wrthddalen i CChC. Dim ond wedi i CChC dderbyn yr wrthddalen wedi’i llofnodi fydd y cynnig yn cael ei dderbyn. Ni fydd unrhyw ddull arall o dderbyn yn effeithiol nac yn cael ei dderbyn gan CChC.
- Mae’r Llythyr Cynnig (ynghyd ag unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo) a’r Telerau a’r Amodau hyn yn cynnwys y cytundeb llawn rhwng CChC a’r Derbynnydd mewn perthynas â’r Cyllid Grant (“y Contract Grant”) ac os bydd unrhyw beth yn anghyson rhwng y Llythyr Cynnig a’r Telerau a’r Amodau, cynnwys y Llythyr Cynnig fydd yn cael y llaw uchaf.
- Rhyddheir Cyllid Grant (yn llawn neu’n rhannol) i’r Derbynnydd ar sail y telerau, ar yr amseroedd, ac yn y dull a nodir yn y Llythyr Cynnig ac os bydd rhyddhau’r cyllid yn galw ar i’r Derbynnydd gyflawni neu gydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad, bydd rhaid gwneud hynny mewn modd fydd er boddhad CChC.
- Swm y Cyllid Grant y manylir yn ei gylch yn y Llythyr Cynnig yw’r uchafswm fydd CChC yn ei dalu am y Prosiect.
- Mae’r cyllid y mae CChC yn ei ddosbarthu fel grantiau’n dod gan naill ai Lywodraeth Cymru neu’r Loteri Genedlaethol. Bydd dyletswydd CChC i dalu’r Cyllid Grant i’r Derbynnydd yn amodol bob amser ar CChC yn derbyn y cyllid gan Lywodraeth Cymru neu’r Loteri Genedlaethol, fel y bo’r achos.
- Bydd y Derbynnydd yn gwneud y canlynol:-
- defnyddio’r Cyllid Grant ar gyfer y diben a nodir yn y Llythyr Cynnig (“y Prosiect”), fel y’i diwygiwyd neu yr amrywiwyd gyda chymeradwyaeth a chaniatâd ysgrifenedig CChC;
- rhoi gwybod yn ysgrifenedig i CChC os yw’r Prosiect, ar ôl ei gwblhau, wedi cael ei gwblhau am lai na’r swm y lluniwyd cyllideb ar ei gyfer yn wreiddiol. Bydd hysbysiad o’r fath yn manylu ynghylch swm y tanwariant ar y Prosiect ac, os bydd CChC yn dweud bod hynny’n ofynnol, bydd y Derbynnydd yn ad-dalu neu, fel arall, yn rhoi cyfrif i CChC am y gyfran briodol (fel y penderfynir yn rhesymol gan CChC ond, fel rheol, bydd yn gyfran o gyfanswm y costau Prosiect y cyllidwyd ar eu cyfer ac y mae’r Cyllid Grant yn eu cynrychioli) o’r tanwariant ac, mewn unrhyw achos, ni fydd yn ofynnol i CChC dalu i’r Derbynnydd unrhyw ran o’r Cyllid Grant sydd heb ei dynnu i lawr bryd hynny;
- cyflwyno i CChC adroddiadau ar gynnydd y Prosiect (gan gynnwys, heb gyfyngiad, gwybodaeth ariannol) yn unol â chais CChC o dro i dro, ynghyd ag unrhyw adroddiadau y manylir yn eu cylch yn y Llythyr Cynnig;
- monitro llwyddiant y Prosiect a darparu i CChC unrhyw wybodaeth y mae ei hangen yn rhesymol er mwyn bodloni CChC bod y Prosiect yn cael ei weithredu’n briodol ac yn unol â thelerau’r Llythyr Cynnig;
- caniatáu i CChC gynnal ymweliadau monitro neu werthuso perthnasol i’r Prosiect a bydd y Derbynnydd yn cydweithredu’n llawn â CChC yn y cyswllt hwn;
- sicrhau y cydymffurfiwyd â’r holl ofynion monitro ac adrodd yn ôl mewn perthynas â’r Prosiect cyn cyflwyno unrhyw gais yn y dyfodol am gyllid grant mewn perthynas ag unrhyw brosiect arall. Ni fydd CChC yn ystyried unrhyw gais am grant yn y dyfodol os bydd unrhyw ofynion monitro neu adrodd yn ôl heb eu bodloni;
- cadw a chynnal llyfrau a chofnodion ariannol digonol mewn perthynas â’r Prosiect (gan gynnwys, heb gyfyngiad, y defnydd o’r Cyllid Grant) ac, ar gais, sicrhau bod llyfrau a chofnodion o’r fath ar gael ar gyfer eu harchwilio gan CChC neu unrhyw asiantau a enwebir ganddo;
- ymatal rhag gwneud unrhyw newid neu amrywiad sylfaenol i’r Prosiect heb sicrhau caniatâd a chymeradwyaeth ysgrifenedig gan CChC;
- rhoi gwybod ar unwaith i CChC am unrhyw newid sylfaenol yn amgylchiadau’r Derbynnydd neu am unrhyw beth a all effeithio ar y Prosiect; ac
- arddangos, gosod neu gydnabod mewn unrhyw ffordd y Cyllid Grant sydd wedi’i ddarparu ar gyfer y Prosiect, fel y pennir gan CChC o dro i dro.
- Yn amodol ar gymalau 9 a 10 isod, bydd rhaid i’r Derbynnydd ad-dalu’r Cyllid Grant ar unwaith, a bydd unrhyw ymrwymiad ar ran CChC i wneud unrhyw daliadau pellach yn dod i ben ar unwaith, wedi i CChC roi rhybudd ysgrifenedig i’r Derbynnydd os bydd unrhyw un o’r digwyddiadau a ganlyn (“Achlysur o Dorri Cytundeb”) yn digwydd ar unrhyw adeg (boed cyn neu wedi talu’r Cyllid Grant yn llwyr i’r Derbynnydd):-
- y Derbynnydd yn rhoi’r gorau i weithredu (oni bai ei fod yn uno â chorff arall neu fod corff arall yn cymryd ei le a bod y corff hwnnw’n gallu cwblhau’r Prosiect er boddhad CChC);
- y Derbynnydd yn cael ei ddatgan yn fethdalwr, yn cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr neu’r derbynyddion, dan gytundeb gwirfoddol neu’n cael ei ddiddymu;
- y Derbynnydd yn methu defnyddio’r Cyllid Grant ar gyfer y Prosiect;
- y Derbynnydd yn methu cwblhau’r Prosiect oddi mewn i’r amser a nodir yn y Llythyr Cynnig neu oddi mewn i amser rhesymol, fel y pennir gan CChC;
- y Derbynnydd wedi llenwi ei ffurflen gais ar gyfer y Cyllid Grant yn dwyllodrus, yn anghywir neu’n gamarweiniol o ran unrhyw fanylion sylfaenol;
- os bydd y Derbynnydd, ar ôl derbyn y Llythyr Cynnig, yn ymddwyn ar unrhyw adeg yn dwyllodrus neu’n esgeulus, i’r graddau lle mae twyll neu esgeulustod o’r fath, ym marn CChC, yn cael effaith sylfaenol ar y Prosiect;
- y Derbynnydd yn torri unrhyw rai o amodau’r Contract Grant; neu
- ceir newid ym mherchnogaeth neu reolaeth y Derbynnydd.
- Os ceir Achlysur o Dorri Cytundeb mewn perthynas â Phrosiect sydd â nifer o elfennau amrywiol, bydd gan CChC hawl i gyflwyno hysbysiad o dan gymal 8 uchod mewn perthynas â’r elfen neu’r elfennau o’r Prosiect sydd wedi’u heffeithio, ond dal ati i gefnogi’r elfennau o’r Prosiect sydd heb eu heffeithio gyda Chyllid Grant.
- Os bydd CChC yn cyflwyno hysbysiad o dan gymal 8 uchod, wrth benderfynu ar swm y Cyllid Grant i’w ad-dalu, rhoddir ystyriaeth i unrhyw ran o’r Prosiect sydd, ym marn CChC, wedi’i gwblhau’n llwyddiannus cyn yr Achlysur o Dorri Cytundeb.
- Os bydd y Derbynnydd yn sicrhau (yn llwyr neu’n rhannol) neu’n adfer, yn gwarchod neu’n gwella asedau gan ddefnyddio Cyllid Grant (“Asedau”), bydd y Derbynnydd yn sicrhau nad ydynt yn cael eu gwerthu na’u gwaredu yn ystod eu hoes economaidd (fel y penderfynir gan CChC) (“Oes Economaidd”) oni bai fod (a) CChC yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig ymlaen llaw o’r gwerthu a (b) bod eu gwerth llawn ar y farchnad gyfredol yn cael ei wireddu. Ni fydd asedau’n cael eu gwerthu na’u gwaredu yn ystod eu Hoes Economaidd am bris llai na’r gwerth llawn ar y farchnad gyfredol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CChC.
- Os bydd rhaid gwerthu neu waredu Asedau yn ystod eu Hoes Economaidd, bydd CChC yn derbyn cyfran briodol o’r elw net. Yn gyffredinol, bydd cyfran o’r fath ar gyfrannedd uniongyrchol i gyfran cost berthnasol yr Ased a dalwyd gyda’r Cyllid Grant. Gall CChC, yn unol â’i fympwy ei hun yn llwyr, ildio’r hawl yma os yw’n credu y byddai’n amhriodol o ystyried yr holl amgylchiadau. Hefyd, gall CChC ildio’r hawl yma ymlaen llaw, cyn unrhyw fwriad gwirioneddol i werthu neu waredu Asedau, ar yr amod bod:-
- elw’r gwerthu neu’r gwaredu’n cael ei ddefnyddio er budd y Prosiect; a bod
- trefniadau yn eu lle sy’n foddhaol ym marn CChC ar gyfer delio ag elw’r gwerthu neu’r gwaredu os yw’n fwy neu’n llai nag a ragdybiodd CChC yn wreiddiol.
- Ni fydd unrhyw Ased (gan gynnwys unrhyw dir neu adeiladau, heb gyfyngiad) yn cael ei ddefnyddio i godi morgais neu ffi yn ystod ei Oes Economaidd heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CChC.
- Os defnyddir unrhyw elfen o’r Cyllid Grant at ddiben recriwtio staff, personél neu wirfoddolwyr mewn cysylltiad â’r Prosiect (“Recriwtiaid”), cyfrifoldeb y Derbynnydd, ac nid CChC, fydd unrhyw Recriwtiaid o’r fath. Heb ragfarn i gyffredinoledd yr uchod, bydd holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r cyflogwr mewn perthynas â’r Recriwtiaid yn gorwedd gyda’r Derbynnydd yn unig, gan gynnwys, heb gyfyngiad, y cyfrifoldeb am unrhyw ddiswyddiadau, materion disgyblu, cwynion a materion ailddosbarthu.
- Bydd y Derbynnydd yn sicrhau indemneb llawn i CChC rhag ac yn erbyn unrhyw gostau a thaliadau sy’n codi ym mha ffordd bynnag ac sy’n berthnasol i amddiffyn neu ddelio mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw hawliadau yn erbyn CChC a wneir gan neu ar ran unrhyw Recriwtiaid.
- Yn ystod cyfnod y Prosiect, bydd y Derbynnydd yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r holl ddeddfau eraill perthnasol i iechyd a diogelwch, hybu cyfleoedd cyfartal, atal gwahaniaethu o unrhyw fath a sicrhau bod plant, pobl ieuainc ac oedolion bregus yn cael eu hamddiffyn, gan gynnwys, heb gyfyngiad, wrth ddenu Recriwtiaid.
- Os bwriedir caffael nwyddau, gwasanaethau neu waith gan ddefnyddio’r Cyllid Grant, bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod gweithdrefn dendro gystadleuol yn cael ei gweithredu wrth ddyfarnu pob contract i gyflenwyr neu gontractwyr, oni bai fod CChC yn cytuno’n ysgrifenedig i ildio’r gofyniad hwn. Heb gyfyngu ar hawl CChC i ganiatáu neu wrthod unrhyw ildio, fel y gwêl yn dda, efallai y caniateir ildio dan amgylchiadau fel contractau a fydd yn syrthio o dan y lefelau de minimis a bennwyd gan CChC neu am resymau technegol neu artistig neu i amddiffyn hawliau eithriol.
- Os yw’r Derbynnydd yn gorff cyhoeddus, bydd y Derbynnydd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gartref ac Ewropeaidd berthnasol mewn perthynas â chaffael gan ddefnyddio Cyllid Grant.
- Mae’r Contract Grant yn bersonol i’r Derbynnydd ac ni all y Derbynnydd drosglwyddo nac aseinio ei ddiddordeb yn y Contract Grant heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CChC. Gall CChC aseinio neu drosglwyddo ei ddiddordeb yn y Contract Grant ar unrhyw adeg heb ganiatâd y Derbynnydd.
- Bydd gan CChC hawl i ddatgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi’i sicrhau gan y Derbynnydd yn ystod y cais am Gyllid Grant ac unrhyw wybodaeth y mae’n ei sicrhau gan y Derbynnydd yn unol â’r Contract Grant (“Gwybodaeth”) i sefydliadau atal twyll ac unrhyw sefydliadau eraill at ddibenion atal twyll. Gall sefydliadau o’r fath rannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill at ddibenion atal twyll. Gall y wybodaeth gynnwys data sy’n ddata personol dan ddarpariaethau Deddf Diogelu Data 2018.
- Bydd y Derbynnydd yn gwneud pob ymdrech resymol i gynorthwyo CChC i gydymffurfio â rhwymedigaethau o’r fath, fel y gorfodir ar CChC gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
- Bydd pob hysbysiad yn ysgrifenedig ac yn cael ei anfon gyda phost dosbarth cyntaf neu drwy ffacs, ar yr amod bod unrhyw ffacs yn cael ei gadarnhau o fewn pedair awr ar hugain (24) gan gopi cadarnhaol a anfonir gyda phost dosbarth cyntaf. Cymerir yn ganiataol bod hysbysiadau sydd wedi’u cyfeirio’n gywir ac a anfonir gyda phost dosbarth cyntaf wedi’u dosbarthu ymhen deugain ac wyth (48) o oriau wedi postio a chymerir yn ganiataol bod ffacs a anfonir i’r rhif cywir wedi’i dderbyn ar unwaith wrth ei yrru, ar yr amod ei fod yn cael ei gadarnhau fel y nodir uchod. Nid yw’n ddilys cyflwyno hysbysiadau drwy e-bost.
- Os bydd CChC yn methu gweithredu neu rannol weithredu unrhyw ddarpariaeth yn y Contract Grant, ni fydd hynny’n cael ei ystyried fel ildio unrhyw hawliau o dan y Contract Grant. Dim ond os yw’n ysgrifenedig fydd ildio unrhyw hawl dan y Contract Grant yn effeithiol a dim ond i’r amgylchiadau mae’n cael ei gyflwyno y bydd yn berthnasol.
- Bydd unrhyw gyfeiriad yn y Telerau a’r Amodau hyn at y gyfraith yn gyfeiriad at y gyfraith a weithredir o dro i dro, gan roi ystyriaeth i unrhyw ddiwygiad, estyniad, cais neu fesurau ailfabwysiadu ac mae’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth eilradd berthnasol sydd mewn grym ar y pryd.
- Rheolir y gwaith o ffurfio, creu, cyflawni a gwirio dilysrwydd pob agwedd ar y Contract Grant gan gyfraith Cymru a Lloegr ac mae pawb sy’n rhan o’r contract yn ildio i awdurdod eithriol llysoedd Cymru a Lloegr.
Diogelu Data a Hysbysiadau Preifatrwydd
- Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (sy’n masnachu fel Chwaraeon Cymru) wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd a’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau ar gyfer defnydd o’r wefan, ac unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) yn gosod y sail ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol y byddwn yn eu casglu gennych chi, neu yr ydych yn eu darparu i ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein harferion ynghylch eich data personol a sut byddwn yn eu prosesu. Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau (gan gynnwys ymweld â’r wefan hon), rydych yn derbyn ac yn rhoi eich caniatâd i’r arferion sy’n cael eu disgrifio yn y polisi hwn.
- At ddibenion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ((EU) 2016/679) (GDPR), y rheolydd data yw CYNGOR CHWARAEON CYMRU, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Rhif cofrestru ICO: Z5769715
- At ddiben y cais hwn am grant, y cynnig a’r broses, dyma’r wybodaeth rydym yn ei chasglu:
- Eich enw a’ch manylion cyswllt
- Eich dewis o iaith
- Eich sefydliad os yw’n berthnasol
Hefyd rydym yn casglu data cyfle cyfartal dienw am unrhyw hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ategol a fydd yn elwa o’r grant o bosib. Chwaraeon Cymru fydd Rheolydd Data’r wybodaeth hon.
Os ydych yn gwneud cais am grant i Athletwr Elitaidd, byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am eich perfformiad a’ch iechyd i’n cynorthwyo ni gyda phrosesu eich grant.
- O ran pob un o’ch ymweliadau â’n safleoedd, efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol yn awtomatig:
- gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys y cyfeiriad protocol (IP) Rhyngrwyd a ddefnyddiwyd i gysylltu eich cyfrifiadur â’r Rhyngrwyd, eich gwybodaeth mewngofnodi, y math o borwr a’r fersiwn, y gosodiad parth amser, y mathau a’r fersiynau plygio i mewn o borwr, y system weithredu a’r llwyfan;
- gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys clicffrwd y Lleolyddion Adnodd Unffurf (URL) i, drwy ac o’n safle (gan gynnwys dyddiad ac amser); cynhyrchion neu wasanaethau rydych chi wedi edrych arnynt neu chwilio amdanynt; amseroedd ymateb tudalennau, camgymeriadau lawrlwytho, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithio mewn tudalennau (fel sgrolio, cliciadau a chyrchu llygoden) a’r dulliau a ddefnyddiwyd i bori o’r dudalen ac unrhyw rif ffôn a ddefnyddiwyd i ffonio ein rhif gwasanaethau cwsmeriaid.
- Beth rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni:
- cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n codi o lunio contract grant rhyngoch chi a ni a rhoi i chi’r gwasanaethau a’r wybodaeth rydych yn gofyn amdanynt gennym ni;
- at bwrpas atal twyll a chyflawni dyletswyddau cyfreithiol eraill y mae’n ofynnol i Chwaraeon Cymru ymgymryd â hwy;
- eich hysbysbu am newidiadau i’r safle neu i’n gwasanaethau;
- sicrhau bod cynnwys o’n gwefan(nau) yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol ar eich cyfer chi a’ch cyfrifiadur.
- Ble rydym yn storio eich data personol:
- Mae gennym fesurau technegol a sefydliadol priodol yn eu lle i warchod rhag prosesu heb awdurdod neu anghyfreithlon ar eich gwybodaeth neu os caiff ei cholli, ei dinistrio neu ei difrodi’n ddamweiniol.
- Mae’r holl wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni’n cael ei chadw ar weinyddion diogel yn Ardal Economaidd Ewrop, a ddarperir gan ein darparwyr gwasanaeth trydydd parti.
- Os ydym wedi rhoi cyfrinair i chi (neu os ydych wedi dewis cyfrinair) sy’n galluogi i chi gael mynediad at rannau penodol o’n gwasanaethau, rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair yn gyfrinachol. Rydym yn gofyn i chi beidio â rhannu’r cyfrinair ag unrhyw un.
- Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi’r hawl i’r canlynol i chi:
- gweld gwybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi, ond gallwn wrthod neu godi ffi am geisiadau sy’n ddi-sail neu’n ormodol.
- cael gwybod pa fath o wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi.
- cywiro unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi (er enghraifft, os yw’n anghywir).
- dileu unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, yn amodol ar ein rhwymedigaethau cyfreithiol.
- cyfyngu ar sut rydym yn prosesu unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
- trosglwyddo unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi i drydydd parti.
- gwrthwynebu i ni gasglu, prosesu neu storio unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
- peidio â bod yn destun penderfyniadau awtomatig (gan gynnwys proffilio).
Os ydych chi’n dymuno ymarfer unrhyw rai o’r hawliau hyn, anfonwch e-bost i dsar@sport.wales a byddwn yn fwy na pharod i helpu.
- Bydd unrhyw newidiadau a wneir gennym ni i’n polisi preifatrwydd o dro i dro yn cael eu nodi ar wefan Chwaraeon Cymru yn: www.chwaraeon.cymru.
- At ddibenion ymholiadau Diogelu Data cyffredinol neu er mwyn cysylltu â’n Swyddog Diogelu Data penodol, anfonwch e-bost i dpo@sport.wales neu ysgrifennwch at y Swyddog Diogelu Data, Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW.