Skip to main content

Mae partneriaethau chwaraeon wedi cael eu sefydlu ar gyfer 5 rhanbarth yng Nghymru. Bydd y partneriaethau hyn yn canolbwyntio ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu rhanbarthau. Byddant yn: 

  • darparu arweinyddiaeth strategol  
  • cynllunio  
  • gwneud penderfyniadau  

Nod partneriaethau chwaraeon yw ein helpu i: 

  • roi sylw i anghydraddoldebau mewn chwaraeon  
  • cynyddu amrywiaeth y partneriaid strategol a’r darparwyr gwasanaeth ym mhob rhanbarth 
  • sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl nad ydynt yn actif yn gorfforol yn rheolaidd 
  • gwaredu rhwystrau i bobl y mae angen yr help mwyaf arnynt i gymryd rhan mewn chwaraeon 
  • bodloni'r galw uchel gan bobl sy’n actif ond sy’n dymuno gwneud mwy 
  • rhannu a chyfuno gwybodaeth, adnoddau, sgiliau a dysgu ar draws pob rhanbarth 
Gwella mynediad

Ein gweledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru yw cael cenedl actif lle y gall pawb fwynhau chwaraeon trwy gydol eu hoes. Ond ceir rhwystrau o hyd sy’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, ar lefel leol a rhanbarthol. 

Profwyd bod cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o leiaf 3 gwaith yr wythnos yn helpu lles. O’n gwaith ymchwil, rydym yn gwybod nad yw nifer o grwpiau yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mor aml â hyn. Mae hyn yn cynnwys: 

  • dros 50% o’r holl ferched  
  • dros 67% o’r holl bobl ifanc o’r cymunedau sy’n cael y ddarpariaeth leiaf digonol 
  • tua 67% o’r holl bobl ifanc sy’n nodi eu bod yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol  
  • dros 50% y bobl ifanc sydd ag anabledd  
  • 67% o oedolion  

Fodd bynnag, rydym yn gwybod hefyd bod 93% o ddisgyblion ysgol a 31% o oedolion wedi dweud y byddent yn dymuno gwneud mwy o chwaraeon. Nod ein partneriaethau chwaraeon rhanbarthol yw diwallu’r galw hwn yn well. 

Datblygu’r partneriaethau

Arweinir pob partneriaeth gan arweinydd gweithredol, ynghyd â bwrdd a chadeirydd annibynnol. Maent yn bobl sy’n adnabod eu rhanbarth, ac sy’n gwybod sut i gyrraedd y grwpiau nad ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd. Maent yn helpu eu partneriaethau i ddatblygu, tyfu ac esblygu gydag amser. 

Rydym yn gweithio gyda phob partneriaeth i gynorthwyo’r prosesau hyn. Rydym yn helpu i sicrhau bod pob partneriaeth yn: 

  • defnyddio gwaith ymchwil a dirnadaeth mewn ffordd effeithiol 
  • canolbwyntio ar yr hyn a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar ein gweledigaeth ar gyfer chwaraeon 
  • cydweithio a gwneud hynny mewn ffordd greadigol  
  • rhoi'r unigolion sy’n cymryd rhan wrth wraidd eu ffordd o feddwl 
Rhanbarthau

 

Gogledd Cymru 

Ynys Môn, Gwynedd, Sir y Fflint , Sir Ddinbych, Conwy, Wrecsam 

Sefydlwyd Gogledd Cymru Actif yn 2021. Maent yn cynorthwyo prosiectau a phartneriaethau a fydd yn helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y rhanbarth. 

Gallwch gael gwybod mwy am Gogledd Cymru Actif ar eu gwefan neu trwy anfon e-bost atynt, at info@actifnorthwales.cymru

Gorllewin Cymru  

Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot 

Sefydlwyd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru (PChGC) yn 2023. Maent wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu sylfeini’r bartneriaeth, gan ddatblygu perthnasoedd a deall cyd-destun unigryw’r rhanbarth. 

Gallwch anfon e-bost atynt, at info@wwsp.wales

Canolbarth Cymru 

Ceredigion, Powys 

Sefydlwyd Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru (PChCC) yn 2024. 

Gallwch anfon e-bost atynt, at info@mwsp.wales 

Canolbarth y De  Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Bro Morgannwg 

Sefydlwyd Partneriaeth Actif Canolbarth y De (PACD) yn 2024. 

Gallwch anfon e-bost atynt, at: admin@csap.wales  

Gwent 

Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent 

Sefydlwyd Partneriaeth Chwaraeon Gwent (PChG) yn 2025 

Os hoffech gysylltu â PChG, anfonwch e-bost atom, at relationship.managers@sport.wales. Gallwn eich cysylltu â'r unigolyn cywir.