Skip to main content

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau a chyrff llywodraethu ar draws Cymru er mwyn helpu chwaraeon i ffynnu. Rydym yn buddsoddi mewn:  

  • partneriaid cenedlaethol 
  • partneriaethau chwaraeon rhanbarthol 
  • sefydliadau partner eraill 
  • cyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon unigol 

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer chwaraeon, rydym yn dymuno cynyddu’r cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig pobl o ardaloedd nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol a’r rhai o gymunedau ethnig amrywiol, yn ogystal â menywod a merched a phobl sydd ag anableddau. Trwy fuddsoddi yn ein partneriaid, gallwn gydweithio ar flaenoriaethau a rennir, a chreu’r cyfleoedd hynny. 

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn: 

  • canolbwyntio buddsoddiad, amser ac ymdrech ar yr hyn a fydd yn creu’r effaith fwyaf 
  • defnyddio data, dirnadaeth a dysgu i dywys penderfyniadau 
  • deall anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu 

Yn yr adran hon, gallwch ddarganfod mwy am ein partneriaid a sut yr ydym yn buddsoddi ynddynt. Os ydych yn bartner presennol, gallwch archwilio ein cyngor a’n cymorth

Os ydych yn ddarpar bartner newydd, cysylltwch ag info@sport.wales.