Skip to main content

Rydym yn falch o gyflwyno Adroddiad blynyddol y bartneriaeth gymdeithasol rhwng Chwaraeon Cymru a PCS. Mae ein partneriaeth yn parhau i wneud cynnydd yn gadarnhaol gydag ymgysylltu, cydweithredu a chyfranogiad rheolaidd mewn meysydd allweddol.

Bydd yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai o gyflawniadau allweddol y Bartneriaeth, gan gynnwys sut rydym wedi cydweithio ar feysydd sy'n ymwneud â gwaith teg, polisïau allweddol y gweithlu yn ogystal ag adolygu Nodau Llesiant.

Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio mewn partneriaeth i gyflawni ar gyfer ein staff a'n cymunedau.

Ein dull o weithredu

Mae gan Chwaraeon Cymru a PCS berthynas hirhoedlog sydd wedi’i hadeiladu ar barch a chydweithredu. Mae'r trefniadau partneriaeth gymdeithasol wedi ein galluogi i adeiladu ar y sylfaen hon ac ehangu mewnbwn PCS i feysydd blaenoriaeth, gan gynnwys y nodau llesiant a meysydd polisi eraill. 

Mae cyfarfodydd chwarterol yn cael eu cynnal rhwng PCS a Chwaraeon Cymru i drafod materion allweddol sy'n ymwneud â staff, polisïau a phartneriaeth. Gall cyfarfodydd gael eu cynnull hefyd i drafod unrhyw faterion ad hoc yn ôl yr angen. 

Un newid allweddol a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn oedd blaengynlluniwr i gynorthwyo cydweithwyr partneriaid cymdeithasol gyda chynllunio o amgylch yr amseru disgwyliedig o ran cydweithredu a chyfraniad.

Cydymffurfio â’r ddeddf

Nodau Llesiant

Mae strategaeth Chwaraeon Cymru yn hirdymor ei natur ac mae'n amlinellu chwe bwriad strategol, sy'n gwasanaethu fel y nodau llesiant. Mae'r bwriadau strategol wedi'u cynllunio i ddylanwadu ar y ffordd rydym yn gweithio ac maent fel a ganlyn:-

1. Canolbwyntio ar y person: Mae anghenion a chymhellion yr unigolyn yn arwain y ddarpariaeth, boed newydd ddechrau arni, yn anelu at wneud cynnydd neu'n ymdrechu am ragoriaeth ar lwyfan y byd.

2. Rhoi dechrau gwych i bob person ifanc: Mae gan bob person ifanc y sgiliau, yr hyder a'r cymhelliant i'w galluogi i fwynhau a gwneud cynnydd drwy chwaraeon; gan roi sylfeini iddynt i fyw bywyd actif, iach a chyfoethog.

3. Sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon: Mae chwaraeon yn gynhwysol ac yn darparu profiad gwych i bawb.

4. Dod â phobl at ei gilydd ar gyfer y tymor hir: Mae sector chwaraeon cydweithredol, cynaliadwy a llwyddiannus, sy’n cael ei arwain gan wybodaeth a dysgu ar y cyd.

5. Arddangos manteision chwaraeon: Mae tystiolaeth o effaith chwaraeon ac mae cyrhaeddiad chwaraeon yn cael ei ddeall, ei werthfawrogi, ei arddangos a'i ddathlu'n llawn ledled Cymru.

6. Bod yn sefydliad hynod werthfawr: Mae Chwaraeon Cymru yn sefydliad uchel ei barch, sy'n ymdrechu i ragori ar gyflawni drwy ddarparu patrwm o wasanaeth drwy ein staff gwerthfawr. 

Mae’r nodau llesiant yn cael eu hadolygu'n flynyddol i asesu cynnydd ac i benderfynu a ydynt yn parhau i fod yn briodol. Cynhaliwyd yr adolygiad hwn ym misoedd Mawrth ac Ebrill 2026 ac roedd yn cynnwys sawl aelod o staff yn adolygu crynodeb o gynnydd ac wedyn cyfarfod i drafod y nodau a'u perthnasedd parhaus yn ogystal â rhoi cyfle i dynnu sylw at feysydd cynnydd eraill. Mae'r adolygiad hwn wedi cynnwys PCS drwy ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol.

Cynhaliwyd cyfarfod â thîm Gweithredol y gangen i drafod y nodau a'r cynnydd oedd wedi’i wneud, gan gyfrannu at yr adolygiad blynyddol. Mae'r adolygiad hwn wedi cadarnhau bod y nodau’n parhau i fod yn briodol. Bydd Adroddiad Blynyddol Chwaraeon Cymru ar gyfer 2025-26, unwaith eto, wedi'i strwythuro o amgylch y nodau llesiant hyn, gan ddatgan cynnydd a nodi gwersi ar gyfer y dyfodol.

Yn ddefnyddiol, mae tîm gweithredol y gangen wedi cyfrannu hefyd at yr adolygiad o gynnydd yn erbyn y nodau cydraddoldeb sydd wedi’u datgan yng nghynllun cydraddoldeb strategol Chwaraeon Cymru 2024-2028.

Penderfyniadau / prosiectau o natur strategol

Un maes allweddol o ran datblygiad yn ystod y flwyddyn oedd dull Chwaraeon Cymru o ymdrin â deallusrwydd artiffisial (‘AI’). Cydnabu Chwaraeon Cymru bwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng y cyfleoedd y mae AI yn eu cyflwyno â chadw goruchwyliaeth ddynol a gwneud penderfyniadau. Datblygwyd y polisi defnyddio AI cyntaf gyda mewnbwn arbenigol a chafodd ei adolygu a’i gymeradwyo gan PCS.

Cyflog Teg

Rydym wedi parhau i gydweithio'n agos i sicrhau bod staff Chwaraeon Cymru yn cael eu talu'n deg a bod amodau gwaith da yn eu lle. Gwnaed dyfarniad cyflog o 3.75% i'r holl staff yn unol â chylch gwaith cyflog Llywodraeth Cymru. Yn dilyn adborth gan PCS ynghylch pwysigrwydd amseriad y taliad, talwyd yr elfen ôl-ddyddio o'r dyfarniad cyflog hwn ym mis Rhagfyr, gan alluogi staff i weld y budd yn ystod cyfnod y Nadolig.

Adolygwyd amrywiaeth o bolisïau yn ymwneud â gweithlu Chwaraeon Cymru yn ystod y flwyddyn ac, ym mhob achos, gofynnwyd am fewnbwn gan PCS a’i dderbyn. Roedd PCS yn gallu dylanwadu ar y polisïau hefyd drwy gyfrannu gwybodaeth o bolisïau sydd ar waith mewn cyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys polisïau cyfryngau cymdeithasol.

Mae PCS yn parhau i chwarae rhan wrth werthuso swyddi newydd drwy broses JEGS i sgorio a graddio yn seiliedig ar fframwaith safonol. Mae hwn yn fewnbwn gwerthfawr gan sicrhau bod deiliaid swyddi’n cael eu digolledu'n deg am eu gwaith a'u cyfrifoldebau.

Edrych tua’r dyfodol

Yn ystod 2025-26, mae Chwaraeon Cymru wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o gaffael er mwyn ymgorffori uchelgeisiau cymdeithasol gyfrifol mewn polisïau a phrosesau. Hyfforddiant ar y dull newydd o weithredu, sydd hefyd yn cynnwys cydymffurfiaeth â Deddf Caffael 2023. Y ffocws yn 2026-27 fydd monitro cynnydd a phwysleisio'r cyfleoedd y gall caffael cymdeithasol gyfrifol eu cynnig.

Dyma’r blaenoriaethau eraill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:

  • nodi penderfyniadau / prosiectau strategol allweddol y dylid eu hystyried mewn partneriaeth.
  • parhau i weithio gyda'n gilydd i ddarparu cyflog teg ac amodau gwaith da i staff yn Chwaraeon Cymru.
  • adolygu cynnydd a pherthnasedd parhaus y nodau llesiant.