Yn Bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir (AA), Ian Bancroft (IB), Rajma Begum (RB), Dafydd Trystan Davies (DTD), Delyth Evans (DE), Nicola Mead-Batten (NMB), Hannah Murphy (HM), Judi Rhys (JR), Yr Athro Leigh Robinson (LR), Phil Tilley (PT), Alison Thorne (ATH), Martin Veale (MV)
Y Staff Yn Bresennol: Brian Davies (PW Dros Dro), Paul Randle (PR), Graham Williams (GW), Liam Hull (LH), Rhian Evans (RE), Owen Lewis (OL), Amanda Thompson (cofnodion)
Arsylwyr: Steffan Roberts (SR) a Paul Kindred (Diwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd SR yn bresennol fel Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant a Chwaraeon yn lle Dr Nicola Guy oedd ar absenoldeb mamolaeth. Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Eleri McLennan (cynrychiolydd y Llysgenhadon Ifanc).
IB ac LR ar gyfer papur SW(20)19.
Cyf 5.2: newid ‘disguising’ i ‘distinguishing’ yn y Saesneg. Wedyn derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod manwl gywir.
Mae’r camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf wedi cael sylw yn yr Adroddiad Gweithredol SW(20)14. Cafodd pedwar adroddiad a oedd i fod ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod hwn eu gohirio tan yn nes ymlaen yn y flwyddyn: Diweddariad Argyfwng Newid Hinsawdd, Diweddariad Sefyllfa Pensiwn, a’r adolygiad blynyddol o ddyhead risg y sefydliad.
Gwnaed datganiad y Cadeirydd fel ymateb i’r dull gweithredu radical mae’r tîm Gweithredol wedi’i fabwysiadu fel ymateb i argyfwng pandemig Covid19. Roedd rhai o’r penderfyniadau a gofnodwyd yn Adroddiad Gweithredol SW(20)14 yn rhai y byddem wedi disgwyl iddynt ddod ger bron y Bwrdd cyn eu gweithredu o dan amgylchiadau arferol. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn bosib o fewn y cyfyngiadau amser a orfodwyd gan yr argyfwng a’r dyddiadau cau yr oedd rhaid i’r Weithrediaeth a Llywodraeth Cymru weithio atynt. O dan yr amgylchiadau hyn, gwnaeth y PW benderfyniad yn dilyn trafodaeth gyda’r Cadeirydd.
Er mwyn sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth symud ymlaen, cynigiodd y Cadeirydd y dylid ffurfio dau is-grŵp newydd o’r Bwrdd:
Cymeradwyodd yr Aelodau argymhelliad y Cadeirydd.
Cyflwynodd y PW yr adroddiad hwn ac ychwanegwyd y canlynol:
Roedd cyswllt wedi bod â Sport New Zealand at ddibenion dysgu a rennir yn ystod yr argyfwng.
Roedd Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru yn cydweithio’n agos fel ymateb i’r argyfwng.
Roedd Chwaraeon Cymru ym mhortffolio Eluned Morgan AC yn awr, y Gweinidog ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg, ac roedd yn rhannu profiadau a dysgu gyda chyrff eraill a noddir gan Lywodraeth Cymru drwy gynhadledd fideo.
Mae staff y Canolfannau Cenedlaethol a Chwaraeon Cymru wedi bod ar gael i’r Byrddau Iechyd lleol ond nid ydynt wedi cael eu defnyddio hyd yma.
Diolchodd y PW yn ffurfiol i’r staff am sefydlu ymgyrch CymruActif mor gyflym. Gwnaed hyn yn bosib drwy gydweithredu â’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol a’r Llysgenhadon Ifanc. Mae’r tîm Cyfathrebu wedi bod yn creu diweddariadau wythnosol i bartneriaid ac maent wedi cael croeso brwd ac mae wedi siarad bob pythefnos â staff cyfathrebu’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol. Roedd adnoddau addysgol Chwaraeon Cymru ar gael am ddim ar-lein nawr. Yn fuan, byddai RE yn adrodd yn ôl ar effaith y mentrau hyn.
Gwobrau Chwaraeon Cymru: Byddai’r drafodaeth yn parhau gyda BBC Cymru fel y nodwyd, fodd bynnag menter CymruActif oedd y ffocws presennol. Cytunwyd i gadw cofnod o ymdrechion cymunedol i’w canmol er mwyn gallu eu cydnabod yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.
Arolwg Chwaraeon Ysgol: Nid oedd hwn i fod i gael ei gynnal yn 2021. Fodd bynnag, roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru i fod i gael ei gynnal yn ystod 2020 ac felly byddai argyfwng y pandemig yn effeithio arno. Roedd trafodaeth yn parhau gyda Llywodraeth Cymru.
Y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng (ERF): Yn dilyn sesiwn Holi ac Ateb ar-lein, cynhaliwyd y cyfarfod panel cyntaf ar 20 Ebrill a chymeradwywyd 116 o geisiadau gyda dosbarthiad daearyddol o 21 o’r awdurdodau lleol. Cymeradwywyd cyfanswm o £163k. Byddai cyfarfod nesaf y panel ar 28 Ebrill. Diolchodd y Cadeirydd i DTD am gadeirio’r panel ar fyr rybudd. Roedd y cyllid hwn yn rhoi sylw hefyd i’r difrod a achoswyd gan y llifogydd yn ôl ym mis Chwefror. Roedd swm uchaf y cymorth grant wedi cael ei godi o £3k i £5k. Roedd y broses ymgeisio’n gofyn am ddatganiad cyfreithiol o ffynonellau eraill o gymorth grant y gwnaed cais iddynt er mwyn helpu i leihau’r risg o gyllid dwbl. Roedd hyn yn digwydd hefyd gyda Chronfa Cadernid Chwaraeon Llywodraeth Cymru.
Y Gronfa Cadernid Chwaraeon (SRF): Roedd yr ymarfer ailystyried dibenion wedi cael ei gynnal yn gyflym iawn er mwyn creu cronfa gwerth £8.1m (tua 40% o arian y Trysorlys a 60% Loteri). Pe bai angen ymestyn y gronfa dros amser, roedd cwmpas i’w chynyddu i £16m. Roedd y cyrff eraill sy’n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru wedi cynnal yr un ymarfer a chadarnhaodd SR pe na bai angen cyllid o’r fath at ddibenion cadernid yn y pen draw, y gallai’r arian gael ei ryddhau’n ôl i’r gyllideb ar gyfer gwariant arall.
Cyllid Partneriaid: Roedd y Cyrff Rheoli Cenedlaethol wedi derbyn eu cyllid ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol ac roedd Chwaraeon Cymru yn caniatáu hyblygrwydd o ran defnydd at ddibenion cadernid, ond roedd angen cadw cofnodion o hyn. O ran partneriaid yn rhoi staff ar ffyrlo, byddai eu sefyllfa’n dibynnu ar gynnwys eu hincwm h.y. canran yr arian cyhoeddus a’r refeniw masnachol. Byddai Chwaraeon Cymru yn cofnodi manylion am bartneriaid yn rhoi staff ar ffyrlo. Byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o gyfarwyddyd ar y mater hwn hefyd.
Ailgynllunio Sefydliadol: Mae’r Weithrediaeth wedi gofyn am adborth gan y tîm Arweinyddiaeth, cynrychiolaeth o’r Bwrdd a’r staff (drwy Bwyllgor Gweithredol Cangen Undeb y PCS) cyn cadarnhau y byddai’r ailgynllunio’n parhau. Mae 65% o’r broses wedi cael ei chwblhau a bydd gweddill y weithdrefn yn cael ei chynnal yn sensitif i’r amgylchiadau. Byddai cyfweliadau mewnol yn cael eu cwblhau erbyn diwedd mis Ebrill.
Yr Athrofa/Perfformiad Elitaidd: Roedd Cymdeithas Olympaidd Prydain yn awyddus o hyd i leoli hwb dadansoddi perfformiad Tîm Prydain Fawr yn CGChC ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo (sydd wedi’u gohirio tan 2021). Byddai’r PW yn cynnig yr un cyfle i’r Gymdeithas Baralympaidd.
Roedd yr Athrofa’n gweithio’n galed gydag athletwyr a phartneriaid i gynnal lefel o raglennu pwrpasol ar gyfer yr athletwyr blaenoriaeth uchaf yng Nghymru. Roedd yr academi sgiliau ymarferwyr y dyfodol yn parhau ac roedd y tîm yn canolbwyntio ar ddatrysiadau cefnogi systematig a allai fod yn ddefnyddiol i’r system chwaraeon ehangach yn y tymor hir. Talodd y PW deyrnged i staff yr Athrofa am eu creadigrwydd a’u hymrwymiad.
CAMAU GWEITHREDU: Cofnod o bartneriaid yn rhoi staff ar ffyrlo i gael ei gadw.
Ystyriaeth i gael ei rhoi i sesiwn Holi ac Ateb byw, yn debyg i’r un a roddwyd ar waith ar gyfer yr ERF.
Cyf. Papur: SW(20)14
Cyflwynodd LH y newidiadau allweddol i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol fel ymateb i bandemig Covid19. Cadarnhaodd bod y cyfrifoldebau diogelu data wedi symud yn awr i swydd staff parhaol.
CAM GWEITHREDU: Rhannu strwythur y staff a phenodiadau gyda’r Bwrdd unwaith bydd yr
Ailgynllunio wedi’i gwblhau. Gohiriwyd yr adolygiad dyhead risg blynyddol i gyfarfod yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.
Cyf. Papur: SW(20)15
Cyflwynodd OL ac RE yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y gweithgarwch hyd at ddiwedd y flwyddyn a’r cyflawni yn erbyn y cynllun busnes. Roedd yr adroddiad yn cydnabod goblygiadau presennol argyfwng Covid19 a’r mesurau lliniaru sydd yn eu lle a chafwyd syniad cynnar o’r effaith bosib ar roi’r cynllun busnes ar gyfer 2020/21 ar waith.
CAMAU GWEITHREDU: LH i rannu’r disgrifiad swydd ar gyfer yr Arweinydd Datblygu Technoleg gydag ATH a PT.
Cyf. Papur: SW(20)16
Siaradodd PR drwy drosolwg o’r amcangyfrifon cychwynnol o effaith ariannol argyfwng Covid19 ar gyfer 2020/21, yn bennaf y colledion oherwydd cau CGChC a Chanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai.
Gan mai dim ond cyllideb interim oedd Llywodraeth Cymru wedi’i chymeradwyo ar gyfer 2020/21, a’r holl gyllid yn amodol o bosib ar ei hadolygu yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn, cafodd y Bwrdd gyngor i fod yn ofalus a bod angen ystyried opsiynau eraill i leihau costau. Byddai’r Weithrediaeth yn parhau i edrych ar opsiynau o’r fath ac yn gweithio ar gynlluniau ymadael gweithredol er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael ac i sicrhau cydymffurfiaeth â holl ganllawiau’r Llywodraeth er mwyn lleihau’r risg i gyflogeion, partneriaid a’r cyhoedd. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.
Cyf. Papur: SW(20)17
Nododd yr Aelodau sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru ar 29 Chwefror 2020. Dylai cyfrifon 2019/20 fod yn barod ar gyfer eu cymeradwyo fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn bwriadu cynnal ei harchwiliad o bell. Roedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda SAC er mwyn monitro cynnydd ac i ddatgan y byddai angen addasu’r llinell amser oherwydd blaenoriaethau SAC sy’n newid. Amcangyfrifwyd bod effaith Covid19 ar gyfrifon 2019/20 tua £90k oherwydd cau’r Canolfannau. Roedd oedi wedi bod gyda chyflwyno’r system gyllid newydd gan nad oedd profi llawn yn bosib ar hyn o bryd. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.
Cyf. Papur: SW(20)18
Rhoddodd GW yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am effaith pandemig Covid19 ar y CSAP ac argymhellodd y canlynol:
Dyma’r pwyntiau a nodwyd yn ystod trafodaeth y Bwrdd:
Cymeradwyodd yr Aelodau yr argymhellion yn yr adroddiad. Cyf. Papur: SW(20)19
Cyflwynodd PR drosolwg o waith y Grŵp Adolygu Cyfleusterau (FRG) ers y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd, ac effeithiau tebygol argyfwng Covid19. Argymhellwyd oedi gyda’r broses ar gyfer dod o hyd i fenter ar y cyd neu bartner contract allanol ar gyfer Plas Menai a’r broses adolygu ar gyfer CGChC.
Awgrymwyd bod yr FRG yn dechrau meddwl am ganlyniadau’r colli refeniw, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd yr effaith gymdeithasol, a chreu model ariannol tair blynedd. Awgrymodd y Cadeirydd na ddylid diystyru unrhyw beth ar hyn o bryd ac y dylid rhoi rhywfaint o amser i adlewyrchu ar y camau nesaf. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach, byddai’n rhaid i’r Bwrdd fod yn ymwybodol o ddull Llywodraeth Cymru o weithredu ar gyfer parhau â’r seilwaith cyhoeddus cyffredinol fel rhan o gynlluniau adfer y genedl.
Cyf. Papur: SW(20)20
Nododd yr Aelodau yr adroddiad ac roeddent yn falch o glywed bod y Llysgenhadon Ifanc wedi cyfrannu at ymgyrch CymruActif.
Nodwyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol. Roedd cyfarfod Bwrdd Prosiect CSAP ar 31 Mawrth wedi cael ei ohirio. Byddai’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cael ei gynnal ar 25 Mehefin a byddai’r Grŵp Adolygu Cyfleusterau yn cyfarfod nesaf ar 6 Mai.
Mynegwyd pryder am y rhwystrau sy’n atal gweithgarwch corfforol yn ystod yr argyfwng presennol: