Yn bresennol: Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is-gadeirydd), Nicola Mead-Batten, Nuria Zolle, Rhian Gibson, Hannah Bruce, Rajma Begum, Martin Hurst, Roisin Connolly, Owain Schiavone, Alison Parken
Staff: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Emma Wilkins, Owen Lewis, Owen Hathway, Jess Williams, Sarah Walters, Joanne Nicholas, Wendy Yardley (cofnodion)
Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru) ar-lein
1. Croeso/Ymddiheuriadau am absenoldeb
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Sanjiv Vedi.
2. Datganiadau o fuddiant (os oes rhai newydd)
Ni chofnodwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd.
3. Cofnodion y cyfarfodydd diwethaf
3.1 Cofnodion, Log Gweithredu, Traciwr Penderfyniadau a Materion yn Codi
Rhoddodd aelodau'r bwrdd adborth ar eu profiadau sefydlu, er mwyn helpu i lywio'r broses sefydlu ar gyfer y 3 aelod newydd sy'n dechrau ym mis Hydref. Nid yw'r gwaith cymharol ar ofynion deddfwriaethol ar draws cyrff cyhoeddus eraill, a nodwyd yn y cofnodion blaenorol, wedi'i gwblhau eto, a gellir ei drafod gyda'r archwilwyr mewnol, RSM, yn y dyfodol. Bydd eitem TRARIIS yn cael ei chodi yn fforwm nesaf Prif Swyddogion Gweithredol y Gwledydd Cartref.
Cofnodion a gymeradwywyd gan y bwrdd.
3.2 Traciwr Penderfyniadau
Dim camau heb eu cwblhau.
4. Adroddiad y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol
4.1 Adroddiad y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol SW(26)22
Papur i’w drafod / Paper for discussion. Tynnodd BD sylw at yr eitemau penodol canlynol:
Llywodraeth Cymru – mae prosesau rhyngweithio â’r gweinidog newydd wedi bod yn niferus ac yn gadarnhaol, gyda’r posibilrwydd y cynhelir cyfarfod pellach yn Glasgow rhwng y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol. Mae NW yn aros i amserlen y Gweinidog gael ei chymeradwyo cyn cadarnhau.
Pwyllgor y Senedd – bydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon (CCCS) yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Mair Rowlands AS a Lis McLean AS. Mae'r aelodau eraill wedi'u rhestru ar wefan y Senedd (dolen yma) a byddai'n ddefnyddiol gwybod a oes gan unrhyw aelodau o'r Bwrdd unrhyw gysylltiadau neu safbwyntiau i'w rhannu.
Y Loteri Genedlaethol – nodwyd yr “alwad am dystiolaeth” a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ddiweddar, gyda chynlluniau i ymateb ar lefel sefydliadol, ac o bosibl fel grŵp o ddosbarthwyr. Caniateir ymatebion unigol a chyhoeddus hefyd. Rhannodd OH ei brofiad o gwblhau’r holiadur cyflym ond nododd y gallai gael ei ystyried yn un sy'n arwain yr ymatebydd mewn meysydd penodol i raddau, e.e. dyrannu cyllid yn seiliedig ar faint o docynnau sy'n cael eu gwerthu.
Esboniodd NW mai dim ond ychydig cyn rhanddeiliaid eraill y cafodd y Llywodraethau Datganoledig wybod am y cynnig. Mae'r tair gweinyddiaeth ddatganoledig wedi mynegi siom ynghylch y broses, ac maent wedi cael gwahoddiad i ymuno â gweithgor.
Arolwg Chwaraeon Ysgol – mae'r Arolwg Chwaraeon Ysgol wedi cael ymhell dros 100,000 o ymatebion unigol, sy'n adlewyrchu ymdrech lwyddiannus ar draws sefydliadau, gan gynnwys y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol. Roedd problem gychwynnol gyda systemau seiberddiogelwch a oedd yn effeithio ar y fersiwn Gymraeg wedi'i datrys yn gyflym ac ymgysylltwyd ag awdurdodau lleol penodol a phenaethiaid ysgolion i esbonio'r broses gywiro.
Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2026 – gyda phythefnos i fynd, mae'n ymddangos bod Tîm Cymru yn barod ac yn hyderus i gynrychioli Cymru gyda balchder, waeth beth fydd y canlyniadau. Trafododd y Bwrdd yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â hyrwyddo cynnwys am athletwyr Cymru yn y Gemau, gan nodi cyfranogiad nifer o ddarlledwyr a phwysigrwydd ymdrechion hyrwyddo Tîm Cymru.
Codwyd pwynt ychwanegol, sef bod TGT a BD wedi ymweld â Phlas y Brenin ar gyfer digwyddiad lansio gyda Chyngor Mynydda Prydain. Roedd Cadeirydd Sport England hefyd yn bresennol, ac mae cyfarwyddwr newydd yn PyB hefyd, sydd wedi ffurfio cyswllt cychwynnol â thîm Legacy Leisure ym Mhlas Menai.
Penderfyniad: Nododd y Bwrdd y papur.
5. Polisi a Strategaeth
5.1 Adroddiad diweddaru'r Cynllun Busnes SW(26)23
Papur er sicrwydd a thrafodaeth / Paper for assurance and discussion. Tynnwyd sylw at rai manylion:
- Gwnaethpwyd cynnydd da gyda'r system grantiau newydd; lansiwyd y broses grant gyntaf ym mis Mehefin, a'r garreg filltir nesaf fydd lansio Cronfa Cymru Actif.
- Ailwampio'r rhaglen ddysgu fewnol ar gynhwysiant er mwyn cyfuno a chysylltu sesiynau; fforymau hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI); a phrofiadau a rennir. Canolbwyntiodd sesiynau diweddar ar gyflog cyfartal a niwroamrywiaeth. Nododd aelod o'r Bwrdd fod diweddariadau ar ddiwylliant sefydliadol cynhwysol yn adlewyrchu trafodaethau o’r is-grŵp amrywiaeth a chynhwysiant, gan ddangos bod argymhellion blaenorol wedi'u rhoi ar waith yn effeithiol.
- Mabwysiadwyd pecyn cymorth aeddfedrwydd o ran cynaliadwyedd Sport England yn rhad ac am ddim, ac mae'n cael ei addasu drwy Cynnal Cymru ac mae gan ddau gorff llywodraethu ddiddordeb ei dreialu.
- Trafodwyd y tendr ar gyfer chwaraeon anabledd, gan gynnwys unrhyw risgiau sy'n ymwneud â threfniadau amser a chanlyniadau, ynghyd â'r angen am sicrwydd a strategaethau lliniaru.
- Trafododd aelodau'r bwrdd yr angen am ddulliau adrodd cliriach ar ganlyniadau buddsoddi, yn enwedig o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn dangos effaith yng nghyswllt nodau'r sefydliad. Fe wnaethant amlygu hefyd bwysigrwydd asesu a yw mentrau lefel micro yn cyfrannu at dueddiadau sefydliadol ehangach a chanlyniadau hirdymor.
- Nodwyd hefyd bod partneriaethau chwaraeon rhanbarthol yn dangos dulliau cydweithio cryf, gan ganolbwyntio ar wydnwch y sector – cyfle dysgu posibl i bartneriaid eraill. Awgrymodd y Bwrdd hefyd y dylid ystyried llwyth gwaith a chapasiti cyfarwyddwyr rhanbarthol wrth ofyn am fewnbwn, er mwyn sicrhau bod y gofynion yn parhau’n bosibl.
Penderfyniad: Nododd y Bwrdd y papur.
5.2 Cynnydd / Dulliau Dysgu Partneriaid – Ffocws ar Ferched a Genethod SW(26)24
Papur er sicrwydd a thrafodaeth / Paper for assurance and discussion.
Esboniodd OL fod adroddiadau diweddar gan bartneriaid wedi tynnu sylw at symud tuag at gynllunio’r cynnig chwaraeon o amgylch anghenion pobl, gan ganolbwyntio mwy ar degwch, cynhwysiant, ac ymyriadau wedi'u targedu ar gyfer merched a genethod.
Trafododd aelodau’r Bwrdd yr her o wahaniaethu rhwng buddion ailadroddol a chanlyniadau untro mewn gweithgareddau partneriaid, gan bwysleisio’r angen am ddulliau adrodd cliriach i ddangos effaith barhaus. Nododd OL fod dulliau cydweithio gwell ar draws ffiniau sefydliadol a dulliau “seiliedig ar le” yn dod i’r amlwg, gyda phartneriaid yn defnyddio safbwyntiau a phrosesau dylunio ar y cyd yn amlach er mwyn cael gwared ar y rhwystrau i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Penderfyniad: Nododd y Bwrdd y papur.
5.3 Papur Meddwl am Systemau – Cyflwyniad ar Blant a Phobl Ifanc SW(26)25
Papur i’w gyflwyno a’i drafod / Paper for presentation and discussion. Cyflwynodd JW a SW y rhaglen ar feddwl am systemau yng nghyswllt plant a phobl ifanc, gan egluro ei bod yn canolbwyntio ar yr ystod oedran 3 i 18. Roedd diffinio'r ffocws a'r cwmpas hwn yn bwysig er mwyn sicrhau eglurder o ran bwriad strategol a dyrannu adnoddau. Mae meddwl am systemau a modelau cymdeithasol-ecolegol wedi cael eu defnyddio i fapio a deall profiadau plant a phobl ifanc, o fewn y system chwaraeon bresennol a’r tu hwnt iddi.
Mae'r tîm arwain wedi cynnal gwaith cwmpasu a mapio i nodi sut i wella'r system chwaraeon ar gyfer y grŵp hwn o blant a phobl ifanc, gan ganolbwyntio ar wneud amgylcheddau'n fwy pleserus, diogel a datblygiadol, ac ar gysylltu â systemau eraill fel iechyd ac addysg. Mae'r tîm wedi dechrau integreiddio offer systemau a mapio pwyntiau trosoledd i'r cynllun busnes, er mwyn mynd i'r afael â'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar draws systemau niferus. Mae pwyntiau trosoledd yn ddull y gallwn ei ddefnyddio i benderfynu ble gallai ymyriadau gael yr effaith fwyaf ac mae'n tynnu sylw at yr angen i gryfhau atebolrwydd partneriaid a gwella prosesau adrodd straeon, data a chasglu safbwyntiau er mwyn dangos yr effaith ar blant a phobl ifanc yn well.
Mae'r sefydliad wedi mapio'r holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc, gan eu rhoi mewn categori, naill ai fel mân addasiadau i'r system; galluogi'r system; neu newid y system, er mwyn asesu effaith ac ymdrech. Amlinellodd SW a JW gynlluniau i flaenoriaethu a datblygu mentrau ar gyfer plant a phobl ifanc dros y 6 i 18 mis nesaf, gan gynnwys fframweithiau ar gyfer ysgolion a’r system chwaraeon, gan ganolbwyntio ar effaith uniongyrchol. Disgrifiwyd hefyd y bwriad i gyflymu gwaith sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc, gan ystyried dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd â phartneriaid dros y 12 i 24 mis nesaf. Cyfeiriodd SW a JW at adolygiad blynyddol o brofiadau cadarnhaol i bobl ifanc, sy'n dangos bod meddwl am systemau eisoes yn cael ei gymhwyso yn y cynllun busnes. Esboniwyd hefyd y bydd Gemau'r Gymanwlad 2026 yn cael eu defnyddio fel llwyfan i ddod ag arweinwyr ym meysydd chwaraeon, iechyd ac addysg ynghyd, gan gynnwys y Prif Swyddog Meddygol a Dirprwy Gyfarwyddwr Tegwch mewn Addysg, er mwyn hyrwyddo negeseuon strategol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cytunodd Sport Scotland i gefnogi'r fenter drwy wahodd swyddogion iechyd, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio ar draws y sector er budd plant a phobl ifanc. Disgrifiodd SW a JW yr ymagwedd fwriadol o ymgysylltu â phartneriaid y tu allan i fannau chwaraeon traddodiadol, gan ddefnyddio Gemau'r Gymanwlad fel maes profi ar gyfer ffyrdd newydd o weithio. Pwysleisiodd y ddau fod y dull systemau yn cyd-fynd â strategaeth y sefydliad, a bod plant a phobl ifanc wedi cael eu dewis fel pwynt canolog i roi systemau ar waith.
Nodwyd bod nifer o enghreifftiau o weithio gyda systemau wedi dod i'r amlwg ar draws y sefydliad yn y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â diddordeb cynyddol mewn gweithio y tu hwnt i'r system chwaraeon draddodiadol. Tynnwyd sylw hefyd at ymdrechion parhaus i werthuso effaith dulliau sy'n canolbwyntio ar systemau, gan gynnwys defnyddio dadansoddiad o rwydweithiau cymdeithasol ac offer eraill i asesu'r canlyniadau ymhlith plant a phobl ifanc.
Gwnaeth y Bwrdd y sylwadau canlynol:-
- mae modelau gweledol, megis dadansoddi rhwydweithiau a'r model cocs, yn ddefnyddiol i ddangos newidiadau i systemau a helpu'r bwrdd i ddeall y cynnydd.
- codwyd pryderon posibl ynghylch pwysau allanol a risgiau sy'n gysylltiedig â chysoni â mesur effaith llinol, gan bwysleisio'r angen am ddangosyddion deinamig a dulliau monitro parhaus.
- Holwyd sut y bydd partneriaid a chyrff rheoli yn cael eu cynnwys yn y broses, gan bwysleisio pwysigrwydd diffiniadau clir ac osgoi'r canfyddiad bod meddwl am systemau yn ddim ond tuedd dros dro.
- Awgrymwyd defnyddio'r model trosoledd i egluro ymyriadau a'u heffaith, ac argymhellwyd cyflwyno'r dull i Gomisiynwyr amrywiol.
- Tynnwyd sylw at bwysigrwydd eiriol dros feddwl am systemau ar draws y gwledydd cartref, tra awgrymwyd diweddariadau rheolaidd ac astudiaethau achos ar feddwl am systemau fel eitem sefydlog ar gyfer y bwrdd, gan gynnwys defnyddio aelodau unigol o'r bwrdd i ddyfnhau dealltwriaeth.
- Pwysleisiodd aelod o'r Bwrdd yr angen am eglurder ynghylch rolau ac arweinyddiaeth o fewn y system, gan alw am fwy o drafodaethau â sefydliadau allanol, megis addysgwyr ac asiantaethau iechyd cyhoeddus.
- Awgrymodd aelod o'r Bwrdd ail-fframio’r broses meddwl am systemau fel “newid systemig”, er mwyn gwella'r iaith a'r ymgysylltiad â phartneriaid ehangach.
5.4 Cyflwyniad ar Iechyd Ataliol
Cyflwyniad gan GW, JW ac OH. Mae'r sesiwn yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r awydd i wneud gweithgaredd dyddiol yn hwyliog ac yn normal i bob plentyn, fel yr argymhellir ym maniffesto'r Llywodraethau. Comisiynodd Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ymchwil ar y cyd i gydgrynhoi tystiolaeth bresennol ar weithgarwch corfforol (neu ddiffyg gweithgarwch corfforol), a’i effaith ar iechyd, lles ac economi Cymru. Tynnodd yr ymchwil sylw at y canlynol:
- mae anweithgarwch corfforol yn cyfrannu at 4,000 o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn yng Nghymru,
- gallai gostyngiad o 10% achub tua 1,000 o fywydau bob blwyddyn,
- gallai cynnydd o 1% mewn lefelau gweithgarwch wella iechyd meddwl a lles tua 32,000 o oedolion y flwyddyn yng Nghymru,
- dywedir bod anweithgarwch yn costio bron i £1 biliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru, a gallai gostyngiad o 10% mewn anweithgarwch arbed £39 miliwn y flwyddyn.
Am bob £1 a fuddsoddir yn gyhoeddus mewn chwaraeon, ceir enillion o £4.44 i'r pwrs cyhoeddus, ac mae chwaraeon yn cynnal tua 60,000 o swyddi sy'n cyfateb i swyddi amser llawn yng Nghymru. Mae maniffesto Plaid Cymru a ffocws rhaglen ddisgwyliedig y Llywodraeth ar atal yn cynnwys ymrwymiadau i gynigion Actif Dyddiol, Gweinidog newydd dros Iechyd Cyhoeddus, a chynnydd blynyddol mewn cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon.
Mae newid wedi bod yn naratif Chwaraeon Cymru: o fod yn gorff sy'n ariannu chwaraeon i fod yn ysgogydd allweddol i iechyd y boblogaeth, gyda'r nod o osod chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel atebion i anghydraddoldebau iechyd a heriau sy'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Mae cynlluniau ar y gweill i Chwaraeon Cymru gynnull cynhadledd polisi ar iechyd ataliol ym mis Hydref, gan ddod â sefydliadau’r sector cyhoeddus a phartneriaid ynghyd i drafod chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel atebion yn y maes hwn. Mae'n bwysig cynnal deialog barhaus â swyddogion y Llywodraeth a swyddfa'r Gweinidog er mwyn cysoni ein camau gweithredu â blaenoriaethau polisi sy'n esblygu.
5.5 Papur Cydnabod – Sglefrfyrddio GB SW(26)26
Papur ar gyfer penderfyniad.
Penderfyniad: Cytunodd y Bwrdd â'r argymhelliad.
5.6 Papur Cydnabod – Wingio SW(26)27
Papur ar gyfer penderfyniad.
Penderfyniad: Cytunodd y Bwrdd â'r argymhelliad.
6. Cyllid, Risg a Llywodraethu
6.1 Adroddiad Cyllid SW(26)28
Papur er gwybodaeth. Dywedodd EW fod swyddogion yn monitro'r sefyllfa ariannol gyda'r Loteri Genedlaethol yn agos. Dechreuodd yr archwiliad allanol 3 wythnos yn ôl ac mae’n mynd rhagddo’n dda; fodd bynnag, fel y nodwyd yn y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) – mae’n annhebygol y bydd gwaith Archwilio Cymru/SAC wedi’i gwblhau’n llawn erbyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi, yn sgil gofynion sicrwydd ychwanegol sy’n ymwneud â phensiynau’r Loteri. Efallai y bydd angen cyfarfod ARAC ychwanegol penodol.
Penderfyniad: Nododd y Bwrdd y papur.
6.2 Y Gofrestr Risgiau Corfforaethol SW(26)29
Papur er gwybodaeth a sicrwydd. Dywedodd EW wrth y Bwrdd fod y papur wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod ARAC. Trafodwyd risgiau yn ymwneud â lefelau cyllido, yn ogystal â gofynion diogelwch seiber parhaus ar gyfer achrediad IASME (er i'r safon Lefel 1 gael ei chyrraedd yn llwyddiannus ar 9 Gorffennaf 2026, a chafodd y rhai a fu'n rhan o'r broses eu llongyfarch). Bydd adnodd newydd hefyd yn cael ei gomisiynu ar gyfer adrodd ar reoli risg.
Penderfyniad: Nododd y Bwrdd y papur.
7. Adroddiadau Grwpiau'r Bwrdd a'r Pwyllgorau Sefydlog
7.1 Adroddiad Blynyddol ARAC SW(26)30
Papur er gwybodaeth a sicrwydd. Pwysleisiodd MH, Cadeirydd ARAC, bwysigrwydd risg o safbwynt unrhyw sefydliad, a bod angen rheoli gwaith mewnol a mesurau lliniaru yn dda. Roedd y dulliau rheoli hyd yma wedi creu argraff arno. Mae heriau'n parhau o ran ffactorau allanol, megis cyllid ac ati, ac roedd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor am ei ymrwymiad a'i oruchwyliaeth.
Penderfyniad: Nododd y Bwrdd y papur.
7.2 Crynodeb o adroddiadau grwpiau'r Bwrdd a'r Pwyllgorau Sefydlog SW(26)21
Papur er gwybodaeth.
Penderfyniad: Nododd y Bwrdd y papur.
8. Unrhyw Fater Arall
Dim - fodd bynnag, nodwyd y gallai hwn fod y cyfarfod Bwrdd olaf i RG, gan ei bod yn cymryd cyfnod sabothol o'r gwaith; nid ydym yn gwybod eto a fydd LlC yn caniatáu iddi ddychwelyd ar ôl y cyfnod hwnnw. Diolchodd y Cadeirydd, y Bwrdd a’r Swyddogion i RG am ei holl waith caled a’i hymroddiad mewn amrywiol rolau dros y blynyddoedd diwethaf.
9. Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf: 18 Medi, 20 Tachwedd.
Cymeradwyodd y Bwrdd y cofnodion hyn yn ei gyfarfod ar 18 Medi 2026.